Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

RHWYMAU Y MEISTR A'R GWEITHIWR.

News
Cite
Share

RHWYMAU Y MEISTR A'R GWEITHIWR. Y GYFRAITH NEWYDD. Y MAE y gyfraith newydd yn nghylch dyledswyddau meistri a gweithwyr tuag at eu gilydd yn awr o'n blaen. Ei theitl yw, Employers and Work- men [38 & 39 Viet. ch. 90] A.D. 1875." Cynwysa bymtheg o adranau. Dywedir fel y canlyn yn y rhan ar- weiniol i'r gyfraith hon "Gweithrecl i helaethu awdurdod Llysoedd Sirol (County Courts) mewn cysylltiad a dadleuon rhwng meistri gwaith a gweithwyr, ac i roddi i Lysoedd ereill awdurdodaeth derfynol wladol gyda golwg ar y dadleuon byn (Awst 13, 1875/' Dywed yr ail adran fod y weithred hon o gyfraith y wlad i ddyfod mewn grym Medi 1, 1875. Felly y mae hi mewn grym yn awr. Adran y trydydd a rydd awdurdod rrllys i orchymyn taledigaeth arian, i ddileu cytundebau rhwng meistr a gweithiwr, i orchymyn gwneud colled- ion i fyny, colledion y rhai a ganlyn- ant doriad cytundeb, ac i dderbyn meichniaeth yn sicrhau y gwneir y colledion hyny i fyny. Unrhyw feich- iau a dalo arian dros yr un a feichnia, a fedda hawl i'r arian hyny fel dyled iddo ef oddiwrth yr un a feichnia. Yn ol adran y pedwerydd, gall ynad- on cyffredin orchymyn talu cyflogau, neu orchymyn gwneud i fyny golledion os na bydd y swm a ofynir na'r feich- niaeth yn fwy na deg punt. Yn ol adran y pumed, gellir myned a dadl rhwng meistri a phrentisiaid o flaen yr ynadon. Adran y chweched a awdurdoda yr ynadon i ddelio a dadl rhwng meistri a phrentisiaid yr un fath a rhwng meistri a gweithwyr. Gallant orchy- myn i'r prentis fyned at ei waith ac os dileant weithred cytundeb y prentis, gallant orcbymyn i ran neu yr oil o'r breintobwy (premium) i gael ei dalu yn ol, Os gorchymynant i'r prentis wneud ei waith, ac os parha efe yn anufudd am fis wedi hyny, gallant ei garcharu am bedwar diwrnod ar ddeg, end nid am ragor o ddyddiau na hyny. Yn ol adran y seithfed, gall yr ynad- on wysio meichiau y prentis o'u blaen, a'i orchymyn i dalu arian i wneud i fyny y colledion a achoswyd gan y prentis trwy esgeuluso ei waith, yn ol telerau y cytundeb. Gall Ilys yr ynadon dderbyn meichiau dros y pren- tis, i rwystro y gosb neu ran o honi, trwy ymrwymo y caiff y prentis gyf- lawni ei waith. Dengys adran yr wytbfed y modd y rhoddir neu y derbynir rheichniaeth. Adran y nawfed a eglura derfynau awdurdod yr ynadon. Y mae adran y ddegfed yn nodi allan pwy yw y 11 gweithiwr yn ol y gyfraith. Nid yw yn golygu gwas neu forwyn mewn teulu, neu is-was neu forwyn, ond gweithiwr mewn flvrmwr- iaeth, dydd-weithiwr (journeyman), crefftwr, Uaw-gelfyddydwr, mwnwr, neu ryw un a fyddo yn cyflawni rhyw law- waith. Y mae y cyfryw yn rhwym wrth y gyfraith hon, bydded ef o dan neu oddiar un-ar-hugain oed, os bydd yn gweithio o dan gytundeb a meistr gwaith, bydded y cytundeb yn cael ei ddatgan neu yn cael ei ystyried mewn bod, mewn geiriau o eneuau, neu mewn ysgrifen, wedi cael ei wneud cyn neu wedi i'r gyfraith hon basio. Rhaid ei fod yn gytundeb i gyflawni gwasan- aeth neu waith personol mewn rhyw waith nen lafhr dwylaw. Yn yr adran hon desgrifir pwy yw yr ynadon:— (1.) Arglwydd Mayor Llundain, neu unrhyw Alderman, yn eis- tedd yn Mansion House nen Guildhall, Llundain. (2.) Ynadon y Police yn Llundain. (3.) Ynadon cyflogedig mewn un- rhyw ddinasoedd, trefydd, bwrdeisdrefydd, lie, neu ddos- peirth o'r wlad, neu lysoedd y JPolice, yn mha rai y trefnir iddynt weithredu. (4.) Mewn manau ereill, unrhyw ynadon heddwch. Ond rhaid i achwyniadau gael eu dwyn o flaen y rhai byn pan y bydd dau neu fwy o honynt yn nghyd mewn petty sessions, pryd y byddant mewn awdurdod i orchymyn carchariadtroseddwr. Yn ol adran yr unfed-ar-ddeg, nid yw plentyn a gymerir o'i waith, yn ol cyfreithiau y Factory, sef y rhai o 1833 i 1874, i golli ei gyflog am y gwaith a wnaeth cyn ei ymadawiad ag ef, ond mor belled ag yr ystyrir fod y meistr yn golledwr trwy ei ymadaw- iad a'i waith. Adran y ddeuddegfed a eglura der- fynau prentisiaeth o dan y gyfraith hon. Y mae y rhwymedigaeth a rydd ar brentis gwaith, gyda pha un na thelir dim breint-obwy (premium), neu un na byddo y freint-obrwy yn fwy na phum punt ar hugain, neu ar brentis a rwymir o dan gyfreithiau perthynol i dlodion plwyfau. Adran eithriadol, gyda golwg ar brentisiaid, yw y drydedd ar ddeg. Dywed nad yw y gyfraith honyn tyiiu oddiwrth utc yn byrhau unrhyw ddeddf neu awdurdod leol neillduol perthynol i brentisiaid ac nad yw y gyfraith hon yn gymbwysiadol at for- wyr, nac at brentisiaid i wasanaethu ar y mor. Y mae adran y pedwerydd-ar-ddeg yn cynwys newidiad ffurf ymadroddion er eymhwyso y gyfraith at Scotland. Adran y pymthegfed a wna yr un peth gyda golwg ar yr Iwerddon. Hawddgweled fod rhediad cyflred- inol, ysbrydiaeth, ac amcaniaeth y gyfraith hon yn Doriaidd. Nid oes un sillaf ynddi yn awgrymu y posibl- rwydd y bydd y meistr yn debyg o dori cytundeb, nac unrhyw drefniant i'w gosbi am dori cytundeb, nac unrhyw rwymau i gael ei osod amo i wneud colledion i fyny i'r gweithiwr yn ngwyneb fod cytundeb yn cael ei dori ganddo. Dichon fod rhwymedig- aethau y meistr i dalu cyflog, &c., yn adranau y trydydd, a'r pedwerydd fel materion cynwysedig a chasgliadol, ond y mae y gyfraith wedi cael ei geirio drwyddi, fel pe na byddai neb yn debyg o fod yn droseddwr ond y gweithiwr. Yn ol adran y ddegfed, dichon i ddau feistr gweithwyr fod yn ynadon mewn petty sessions, yn setlo y ddadl rhwng meistr a gweithiwr, yn cyfrif collodion ac yn cosbi am adael gwaith, oddiar eu self interest" eu hunain, naill ai yn bersonol neu fel dosbarth. Gwyddai cynlluniwr y gyfraith na byddai tebygolrwydd y byddai gweith- wyr byth yn ynadon, ond fod sicrwydd y byddai llawer o feistri yn ynadon. Ni buasai neb ond Toriaid yn rboddi awdurdod i feistri fel ynadon i bender- fynu dadleuon rhyngddynt eu hunain a'u gweithwyr. Yn ol cyflawnder, dylasai canolwr ynadol fod yn ddyn mewn sefyllfa berffaith anmhleidiol tuag at y gweithwyr a'r meistri. Ni bydd gweithwyr Cymru, hyderwn, yn anghofio mai y Toriaid a wnaeth y gyfraith unochrog hon pan y delo Tory i ofyn am eu pleidleisiau mewn etholiad seneddol.

i MASNACH GLO A HAIARN.

YR AWYRWYR AMERICANAIDD.

LLOFRUDDIAETH YN NEWCASTLE-UNDER-LINE.

SYRTHIAD YSTORFA YN LIVERPOOL,…

CYNGERDD CARADOG YN .NGHASNEWYDD.'

MARWOLAETH MRS. DAVIES, PRIOD…

[No title]

HELYNT MRI. VIVIAN A MAC,DONALD.

ABERDAR-YSGOL NOS.

EISTEDDFOD TROEDYRHIW,

. MOUNTAIN ASH.

[No title]