Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
The European Wine Company) 122, PALL MALL, j LONDON, S.W Sole Agent for Mountai: Ai-h ABEL JAM^ Ch™ist. s>it Merchant, 69, Oxford St.. 1 » r ^fountain Ash. .Th VICTORIA SttERRY 6 8 aE^es,'r& of Excellence,) 27s. per dozen. SPLEKDID OLD PORT SJs^'per'flozaa (Eleven Years in the Wood). StiERHY. Dinner Sherrjr 18s to 24s j Manzanilla 42s to 48s Superior ditto 30s to 36s | Amontillado 54s to 72s PORT. ''Old Port ,24s to 30s I Very old ,54s to 60s Old Crusted ..42s to 48s | Very dry old 72s to 120 CLARET. Vin Ordinaire 12s to 15s St. Julien ..20s to 24s TNIadoc 14s tO 18s Sr. Estephe 30s to 36s CHAMPAGNE. Espernay 34s Chansarels (1 qual) 48s Tesspnay 36s Veuve Clicquot ..72s •Seaujolais, the finest Spanish Port .15s :Seaujolais, tbe finest Spanish Port .15s imported 20s Prussian Sherry ..15s SPIRITS. (Of the Finest Quality only.) Per Bot. Per Doz Cognac Brandy S 6 42 0 Cognac Brandy, 5 years old 4 1 49 0 Ditto 10 years old 4 6 54 0 Colonial Brandy. 2 5 27 0 Schiedam Hollands 2 0 29 0 London Gin. 2 5 24 0 Finest ditto. 2 8 29 0 Old Jamaica Rum 2 3 27 0 «OId Scotch Whisky 2 3 27 0 Old Irish Whisky 2 3 27 0 Books of Prices, containing upwards of 200de- ecriptions'of Wines and Spirits, forwarded free, on application to the Company's Agent, and by whom the Wines and Spirits are supplied from a single bottle and upwards. The European Wine Company, No. 122, Pall Mall, London, S.W. (ESTABLISHED 1858.) Agent for Aberdare :—= THOS. WH1TTY EVANS, CHEMIST, &c. Agent for Hirwain:— J. E. GEORGE, CHEMIST, &c. The Managers have much pleasure in stating that for the more convenient supply of the Com- pany's Wines and Spirits, and to save their cus- tomers all cost of carriage, they refer to their Agents, where a largo assortment of the various Wines and Spirits will he kept in stock, and all orders punctually attended to. Bowen & McKechnie, Managers. BWRDD Y GOLYGYDD. CTMAUFA y Bala a Phrif Ysgol Cymru, gan Ohebydd Neillduol, yn ein nesaf. Daeth yn rhy ddiweddar i'r rhifyn presenol. Y MAE genym amryw ysgrifau ereill ar law, y rhai a gant ymddangos yn ein nesaf, sef Y Strike a'i Heffeith- iau, Y Gwragedd a'r Clybiau, Catechism y Glowr, Ystafell y Cys- tuddiedig, Helyntion y Beirdd, &c. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'r DARIAN i'w cyfeirio Editor of TARIAN Y GWEITHIWR, Aberdare." PobarchebioTia thaliadau i'w hanfon i Mills, Lynch, a Davies, "Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.
DADGUDDIADAU MR. DALZIEL.
DADGUDDIADAU MR. DALZIEL. YN ei lyfr drudfawr, yr hwn a gyhoedd- wyd ar ol y strike dros dair blynedd yn ol, hysbysa, Mr. DALZIEL fod meistri pyllau glo cymydd Rhondda ac Aber- dar, wedi myned i gryn drafferth i ddeall y gwahaniaeth oedd wedi bod rhwng f glowyr yn yr hen weithfeydd glo a haiarn yn Merthyr, &c., a chyf- logau y lhai a'u gwasanaethent hwy. Y mae yn amlwg en bod hwy yn gwybod fod gwahaniaeth mawr, ac mai en gwaith hwy yn ceisio denu gweith- wyr atynt hwy, a chyfloguchel, a barodd y gwahaniaeth. Bu cyfarfod gan y meistri yn Nghaerdydd, Mawrth 21, Z- d 1871. Bangoswyd yn hwnw, yn ol yr hysbysrwydd a rydd Mr. DALZIEL, fod glowyr Aberdar yn cael 2s. 7 i-c. y dynell am godi glo o'r haen ddwy droedfedd naw modfedd, er nad oedd ei drwcb yn y cwm hwn ddim rhagor na dwy droed- fedd a phum' medfedd, tra yr oedd glowyr yn Plymouth a Chyfarthfa yn cael eyflogmor isela Is. I I Ae. y dynell, 4 He yr oedd trwch y glo yn dair troed- fedd a chwarter. Ond, yn ngwyneb fieithiau* eithriadol o blaid y lleoedd olaf, barnodd y meistri mai 6c. y dynell a roddid yn Rhondda yn fwy nag yn .erthyr. Yn yr haenau eraill barn- wyd fod y gyflog yn uwch o 4c. gyda golwg, ar un haen, a 2g. gyda golwg ar y Hall, yn Rhondda ac Aberdar. Barn- odd y meistri fod general labour yn costio yn Aberdar fwy nag yn Merthyr o ddeuddeg a hauer i bymtheg yn y cant; a bod Rhondda ynhyn yn bump yn y cant yn fwy nac Aberdar. Tyst- ient fod y gwaith coed a cogging yn costio deg a deugain yn y caut yn rhagor yn nghymydd Rhondda ac Aberdar nag yn ardaloedd y gweithfeydd haiarn. Er hyn ni phenderfynodd y meistri ar unrhyw gynllun i gyfartalu cyflogau yn y gwahanol leoedd, fel y dengys Mr. DALZIEL yn tudalen 28 o'i lyfr; ond cytunasant ar ostwng cyflogau yn mhob ardal, yn ol pump yn y cant yn is nag zn o'r blaen. Ond gan fod cyfartaledd cyflogau yn y gwahanol ardaloedd hebgael ei ddwyn i weithrediad, eglur yw nad oedd pump yn y cant o ostyngiad yn syliaenedig ar unrhyw ystadegau eyffredinol. Ac edrych ar y gostyngiad hwn yn ngoleuni rhifyddiaeth deg, a chymeryd ffigyrau y meistri eu hunain yn nghylch anghyf- artaledd cyflogau mewn gwahanol ar- daloedd, yn sail ymresymiad, yr oedd pump yn y cant o ostyngiad yn gadael cyflog y gweithiwr yn llai o ddeg a deugain yn y cant mewn un gwaith; o bump-ar-hugain yn y cant am godi glo -yn ol 6c. y dynell o wahaniaeth; ac oddeutu pymtheg yn y cant yn gyff- redinol, mewn un ardal, mewn cydmar iaeth i'r llall. Eglur yw fod rhifydddiaeth a rhes- ymeg y fifeithiau yn profi na phender- fynodd y meistri, o wahanol ardaloedd, ar bump yn y cant, yn ol unrhyw safon rifyddol yn ngwyneb sefyllfa y farchnad. Yr oedd pris y glo yr nn i'r boll ardal- oedd yr oedd y gwaith mewn cysyllt- iad a dwyn allan y glo o'r pyllau yr un. A chan fod anghyfartaledd mawr yn y cyflogau, ni allai pump yn y cant o ostyngiad fod yn sylfaenedig ar un- rhyw ostyngiad cyfartal yn y farchnad. Edrycher ar y mater hwn wrth ryw esiampl rifyddol. Golyger fod 20s. y dynell yn bris uchel am y glo yn y farch- nad fod y farcbnad wedi gostwng y pris hwn, yn ol pump yn y cant, sef i 19s.; a bod y gweithiwr yn cael gos- tyngiad cyflog cyfartal a'r gostyngiad uchod; ai fod ef yn cael 19s. am hyn a hyn o waith. Ond yn ol deg a deugain yn y cant o wahaniae h rhw:ig cyflog gweithiwr mewn un ardal a'r llall, byddai un yn derbyn 9s. am bob 19s. a dderbyniai y Hall am yr un gwaith; yn 01 pump-ar-hugain yn y cant o wahan- iaeth byddai yn derbyn 14s. am bob 19s. a dderbyniai y llall am yr un graddau o waith; ac yn ol pymtheg yn y cant o wahaniaeth byddai un yn derbyn 16s. am bob 19s. a dderbyniai y llall. Pe cymerem gan' punt yn esiampl, a body meistr a'r gweithiwr yn colli pum' cant yn mhob cant o bunau, am fod pris y glo/wedi dyfod lawr bum' punt yn mhob cant, byddai yr ymrwymiad efallai yn amlycaeh. Yn ol gwahaniaeth cyflogau gweithwyr mewn gwahanol ardaloedd byddai cyflogau pedwar gweithiwr, y rhai sydd yn gwneud yr un faint o waith mewn gwahanol ardal- oedd, ac yn yr un math o waith, yn gwahaniaethu fel y canlyn: y cyntaf 95 punt o gyflog, mewn hyn a hyn o amser; yr ail 80 punt; y trydydd 70 punt; a'r pedwerydd 45 punt. Gallai dyn, a bonion llygaid yn unig ganddo, ddirnad na byddai colled yr holl feistri o bum' punt yn y can' punt ar eu glo, yn y farchnad, sefyll mewn unrhyw gyfartaledd o gyflawnder, a fyddai yn mantoli a chyflogau gwahanol y pedwar gweithiwr uchod. Byddai yn anmhosibl peri i glorianau cyfiawn- der wneud pum' punt yn y can' punt o ostyngiad gydbwyso a'r symiau gwa- hanol o gyflogau, pan y mae un yn £ 95, n y y llall yn £80, y llall yn Y,70, a'r Hall yn £45. Os nad oes cyfartaledd yn y cyflogau, nis gall pum' punt yn y cant o ostyng- iad unffurf yn yr holl ardaloedd fod yn ol cyfiawnder tuag at y gweithiwr, nac yn ol gostyngiad pris y glo i'r meistri yn y farchnad. Ac os na all y farchnad reoleiddio gostyngiadau cyflogau anghyfartal, trwy unrhyw un swmcyffredin o ostyng- iad a benderfynir, rhaid fod y meistri yn penderfynu ar ostyngiadau yn ber- ffaith ddireol. Yn ol eu ffigyrau hwy eu hunain yn llyfr Mr. DALZIEL, nis gall fod ganddynt eu safon o'u henill- ioxi na'u colledion hwy eu hunain, nac ? berthynas cyflogau gweithwyr a'u helw neu eu colled hwy, wrth ba un y gallant farnu pa un ai pump, deg, pymtheg, neu ugain yn y cant o ostyng- iad a'u dyogelai hwy rhag cadw eu gweithfeydd yn rnlaen ar golled. Pan y mae un dosbarth o feistri, yn ol cyfar- taledd can' punt gogyter a chan' punt y gweithiwr, yn derbyn 195 ar amser gostyngiad, y mae eraill yn derbyn, o herwydd graddau is cyflogau eu gweith- wyr, £11 0, £120, 114 5. Gan hyny, y mae yn ynfydrwydd o'r mwyaf i'r meistri benderfynu ar unrhyw swm o ostyngiad neu godiad, a all fod yn gymwysiadol at holl ardaloedd y glo, ar dir cyfiawnder tuag atynteu hunain na thuag at y gweithwyr, nes y byddont wedi cytuno ar swm cyfartal o gyflog trwy yr holl ardaloedd hyn. Gan mai bwnglera y pwnc pwysig hwn y mae y meistri yn en hundeb, gan nas gallant, er eu hundeb, sefydlu unffurfiaeth a all fod o fewn can' mill- dir i derfynau cyfiawnder, yn ol y farch- nad na dim arall, nid yw ryfedd yn y byd fod y gweithwyr yn methu rhoddi ymddiried yn eu barn am ymresymiad- au gostyngiadau; nid yw ryfedd yn y byd fod y gweithwyr yn gofyn am broi- ion fod eisiau gostyngiad, ac nid yw ryfedd yn y byd fod gweithwyr am gael bwrdd o gyflafareddwyr—:dynion galluog mewn rhifyddiaeth a rhesymeg —i edrych i mewn i bwnc prisoedd y farchnad a phwnc cyflogau, er mwyn gweled pa fodd y try y fantol yn deg, heb ffafrio gweithiwr na meistr, ond yn ol telerau cyfiawnder at drwch y blewyn. Os nad yw y gweithiwr ymddibynol yn ofni rhoddi ei achos yn y glorian, pa raid i'r meistri ofni? Yr ydym yn adnabod rhai o'r meistri yn Iled dda. A gwyddom nad ydynt wedi arfermanylrwydd meddyliol mawr mewn na rhifyddiaeth na rhesymeg. Y mae rhai o honynt yn ddigon galluog i wneud hyny; ond y mae eu hamser yn cael ei lyncu i fyny gan fanylion eu gwaith a'u cyfrifoldeb, o lawer math ac y mae yn naturiol iddynt geisio cryn lawer o amser i fod yn hamddenol yn nghanol eu cyfoeth, yr hyn a'u gwna yn annhueddol i syfrdanu eu hymenyddiau a llawer o fyfyrdod ar fanylion rhif- yddol neuymresymiadol; ymddiriedant i ffawd, i raddau mawr, heb gymeryd poen eu hunain i gadw balance sheet i ddeall eu sefyllfa gyda manyldra, gadawant bethau felly i ofal swyddogion, y rhai a dderbyniant gyflogau mawrion am eu gwaith; edrychant hwythau at eu cyflogau yn hytrach nag at elw eu meistri, mewn llawer engraifft. Nid rhyfedd, gan hyny, fod undeb y meistri yn fwy cryno mewn enw nag mewn sylwedd a bod gweithrediadau yr undeb hwn yn fwngleraidd ac anfodd- haol iddynt hwy eu hunain, fel y dengys Mr. DALZIEL, ae i bawb eraill. Nid yw swn mawr am gyfarfodydd y meistri ddim ond yr hyn a ellid ddysgwyl, yn ngwyneb eu cyfoeth a'u dylanwad ar y gweithfeydd. Ond nid yw cyfoeth na dylanwad yn faen prawf o fenydd na gallu ymchwiliadol. Nid sefyllfa uchel nac isel a sicrha ddoethineb. Nid yw y meistr yn ddoeth am mai meistr yw, na'r gweithiwr yn ddoeth am mai gweithiwr yw. Gan fod llyfr Mr. DALZIEL mor llawn a awgrymiadau a ffeithiau, y rhai ydynt yn gymwysiadol at amgylchiadau a rhagolygon gweithwyr, yn yr amser presenol ac yn yr amser dyfodol, yr ydym yn barnu ein bod wedi syrthio ar wythien mor gyfoethog, fel na flina neb o ddarllenwyr y DARIAN ar ychydig yn rhagor o'r dadguddiadau.
ABERDAR.
ABERDAR. TYSTEB DEWI DYFAN.—Y mae hon ar droed er's ychydig amser, ac yn debyg o droi allan i raddau yn llwydd- ianus, ac ystyried amgylchiadau y lie. Os bydd rhyw gyfeillion yn caru taflu i'r drysorfa yma, cant ddiolchgarwch calon ffryndiau Dewi Dyfan. Bydd y dysteb yn cael ei chyflwyno iddo mewir cyfarfod cyhoeddus nos Lun, Mehefin 28ain. Taer wahoddir pawb i'r cyfar- fod. Pwy bynag garo gynorthwyo boed iddynt anfon at un o honom ni sydd a'n henwau isod, Daniel Rees, Ysg., neu W. T. Williams, Trysorydd, 15, Oxford-street, Aberdar. Y GYFRAITH.—Da genym gael ar ddeall fod Mr. John Thomas Howells, unig fab jein parchus gyd-drefwr, Mr. William Howells, 83, Cardiff-road, wedi pasio yn llwyddiauus ei arholiad olaf yn ddiweddar yn y brifddinas. Pob llwyddiant iddo.
IABERAMAN.
I ABERAMAN. GLOFA ABERAMAN.—Yr ydym ni sydd a'n henwau isod, y rhai a benod- wyd gan ein eydweithwyr i archwilio y Lofa uchod cyn cychwyn gweithio, yn dymuno ardystio ein bod wedi gwneu- thur ymehwiliad manwl ar y gweith- feydd, a 11awen genym hysbysu eu bod mewn setyllfa hollol ddiberygl. Cerdd- asom yr oil o'r hen waith, yr ochr ddwyreiniol, a'r ochr orllewinol yn ofalus, a chawsom hwynt mewn sefyllfa hynod foddhaol, ac yn hollol rydd oddiwrth nwy. Y returns mewn sefyllfa ragorol, a'r gwaith yn gyffred- inol yn hollol rydd a diberygl i gy- chwyn gweithio. Y mae clod mawr yn ddyledus i'n goruchwylwyr, L. Llewelyn, Ysw., a Mr. John Havard, am eu medrusrwydd a'u bymdrechion canmoladwy i gadw'r gwaith yn y cyfryw sefyllfa, a dymunem eu llon- gyfarch ar eu llwyddiant. Arwyddwyd, ISAAC HARRIS, WILLIAM BEDDOE, MORGAN MEREDITH, ÐAVIU LEE. Mai Slain, 1875.
CWMBACH.
CWMBACH. CAPEL EKENEZEK.—Oynalioddyreglwys fechan uchod, perthynol i'r Methodist- iaid Oalfinaidd, ei Chyfarfod Blynyddol dyddiau Sul a Llun diweddaf, y 13eg a'r 14eg o Fehefin, pryd y pregethwyd gan y Parchn. R. Roberts, Llangeitho; D. Jones, Dowlais; a Morris Morgan, Aber- dar. Yr oedd y pregethau yn rymus, a'r gwrandawiad yn astud, ac y mae yr eglwys wedi cael hyfrydwch mawrdrwy weled pump o'r newydd yn cymeryd iau Crist arnynt, a gobeithio na bydd iddynt gywilyddio byth i wisgo "lifre" eu Meistr Mawr hyd ddiwedd eu hoes. Hefyd gorfoledda yn y ffaith ei bod, er gwaethaf amgylchiadau isel y lie yn ,_y herwydd y sefyll allan diweddar, wedi llwyddo i gasglu y swm o dE50, yr hyn oedd yn mhell tu hwnt i ddysgwyliad pawb.—J.P.
CYMANFA FLYNYDDOL ANNI-BYNWYR…
CYMANFA FLYNYDDOL ANNI- BYNWYR CASTELLNEDD. SCI- WEN, A BRITON FERRY. CYNALIWYB y gymanfa hon eleni, Mehe- fin 6ed a 7fed. Y gwahoddedigion gan yr eglwysi oeddynt y Parchn. D. M. Jenkins, Treforris; W. Jenkins, Pentre Estyll; R. Evans, a D. Price, Aderdar; B. Williams, Canaan; J. Thomas, Pont- ardulais; E. A. Jones. Castellnewydd a J. Roberts (J. R.), Conwy. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol iawn, casgliadau da, cynulleidfaoedd mawrion, a'r cenad. on yn traddodi yr efengyl yn nerthol a dylanwadol. Cynaliwyd cyfeillach grefyddol am 2 dydd Llun, yn Soar, dan lywyddiaeth y Parch. J. Roberts, Maesyrhaf. Nid oedd pwnc wedi ei osod i lawr, ond dechreu- odd y Parch. R. Evans siarad ar yr angen- rheidrwydd o geisio defnyddio moddion i gael diwygiad crefyddol, a'r rhwystrau sydd ar ein ffordd i'w gael, a dilynodd yr boll weinidogion yn yr un cyfeiriad. Dywedwyd pethau gwir bwrpasol gan- ddynt oil, yn argyhoeddiadol, difrifol, a theimladwy. Yr oedd y cynulliad hwn yn Iluosocach nac y bu er cychwyniad y Gymanfa, ond eto mae lie i fwy o ffydd- londeb gwaith rhwydd fuasai i'r pedair eglwys, gydag ymdrech, lenwi y capel. Iaith ein calon oedd, mai da oedd i ni fod yno.—NEDDFAB.
SARON, PENYCAE, ABERAFAN.
SARON, PENYCAE, ABERAFAN. PBTDNAWN Sadwrn diweddaf, cafwyd cy- farfod dyddorol iawn yn y lie uchod. Cymerwyd y gadair gan- y Parch. W. Davies, Aberdar. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Gor y Plant a Chor Car- mel, Aberafan. Yr oedd y plant yn adrodd ac yn canu yn rhagorol. Amcan y cyfarfod oedd fod y plant yn cyflwyno anrheg i'r Eglwys tuag at gael y ddyled i ffwrdd, sef £20, yr hon a gyflwynwyd gan Miss Rachel A. Hendry, merch Mr. Thomas ac Elizabeth Hendry, Penycae. Siaradwyd ar yr achlysur gan Mri. John Howells a W. Williams, a chafwyd anerchiadau barddonol gan Harri Ddu a Dewi Bach. Arweiniwyd Cor y Plant gan Mr. S. Williams,. Bryn-y-gan, a Cor Carmel gan Mr. D. Ware, Aberafan. Diweddwyd trwy ganu a gweddio.—W. CYFARFOD BLYNYDDOL.—Cynaliwyd cy- farfod blynyddol Penycae yn Saron, (T.C.,) dyddiau Sul a Llun, Mehefin 6ed a'r 7fed, pryd y gweinyddwyd gan y Parchedigion canlynol: — David Mor- gan, Cefn W. Jones, Pontarddulais; Richard Morgan, (Rhydderch ab Mor- gan) a B. D. Thomas, Pontfaen. Yr oedd y Parch. Thomas Edwards, Deri, sir Fynwy, i fod yn bresenol, ond caw- som ein siomi. Yr oedd y pregethu yn ddylanwadol ac effeithiol. Ni a obeith- iwn fodyr had wedi cael dyfnder da ear, ac y bydd y ffrwyth yn santeiddrwydd, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol i laweroedd. Casglwyd yn ystod y cyfar- fodydd j641 6s. Casglwyd yn ystod y flwyddyn hon JE84 18s. 8c. Da iawn, onide ? Y maent yn bwriadu claddu y ddyled mewn bedd o ebargofiadt bythol yn ystod y tri mis nessf. Ewch rhagoch, yw dymuniad—CYFALLL.
GODRE RHOS.
GODRE RHOS. CYNALIWYD Eisteddfod yn y lie uchod dydd Sadwrn, Mai 29ain. Enillwyd ar y rhan fwyaf o'r darnau corawl gan barti o'r Dyffryn, Pontardawe, dan ar- weiniad Alaw Meudwy, ac hefyd ar y deuawdau. Llywyddwyd yn fedrus gan y Parch. W. R. Roberts, Ystradgynlais. Beirniad y canu, y farddoniaeth, &c., Asaph Glan Dyfi, yr hwn a gyflawnodd ei waith yn ddeheuig iawn. Cafwyd eisteddfod ragorol.—TEIHXWR DA.
GAIR 0 BRYNAMAN.
GAIR 0 BRYNAMAN. AR yr adeg bresenol, marwaidd iawn yw hi yn nghylchoedd y Glo Careg pyllau Gwaencaegurwen ar sefyll er's wythnos- au, ac mewn canlyniad lluaws o ddynion segur i'w canfod yn crwydro. Mae y cyfan yma, oddigerth y puddling, yn sy- mud yn araf y glowyr yn gweithio ar amodau Caerdydd o'r dechreu, a thrwy hyny wedi osgoi y strike yna sydd wedi eich haner newynu yn Aberdar a'r cylch- oedd. Teg yw nodi fod Mr. Abrahams, goruchwyliwr, wedi blwyddyn o arosiad yn.ein plith fel glowyr, wedi ymadael am ei hen fro gynefin (Rymni). Rhodd- odd Mrs. Abrahams, ar ei hymadawiad de a. theisen i blant yr ysgol ddyddiol. Ymadawsant gan adael ar eu hoi ami i weithred dda i gadw eu henwau yn fyw yn ein plith. Dyma fel y dywed un o'r beirdd ar yr achlysur Mae gormod o seboni 0 lawer yn y byd Rhaid dweyd y gwir, mae colli Yn enill lawer pryd Nid codi fYllY heuo A sebon wyf yn wneud, 'Rwy'n credu ac yn teimlo Pob brawddeg a wuaf ddweyd. 'Rwy'n credd fod yr ardnl Yn colli Agent call, Nad hawdd fydd cael ei gystal, Er had yw yn ddiwall; Nid bawdd cael dpg-, a buchedd, A thalent, wedi cwrdd Mewn un, a mwy u rinwedd, Na'n Agent sy'n myn'd tfwrdd. 'Rwy'n teimlo, gwn y teimla Pob glowr 'run fath a mi, Fod colli'r pethau yna Yn golled i ni: Mae bywyd Goruchwyliwr Yn my wyd torwyr glo, A cbludant i'r dyfodol Ei fywyd fel y b'o. Hir oes i Abra'nis siriol, A'i anwyl briod gu Boed wybren eich dyfodol Heb unrbyw gwmwl du "Wrth lwybro i aiarhydedd- Wrth ddringo yn y byd, Addurned blodau rbinwedd Eich Uwybrau chwi i gyd. —SYLWK.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. Priod Mr. Daniel Meyrick, Penycae, ar fab, a gelwir ei enw loan. Rhagorol blentyn, O mor hardd, Dy ruddiau sydd yn iach Ymddengys 'nawr o flaen y bardd Yn deg a thlws fel rbosyn gardd. E. Mehefin 11, priod Mr. Oliver McNeil, Aberafan, ar ferch, a gelwir hi Jennet Morgan. O'i rbiniau rhoed Crewr aniaR -eilaw I'r lwys Jennet, Morgan, A'i bywyd i gyd fo'n gan I ollwng Ei glod aHan.—HARRI DDrr, PRlODASAU. Trwy drwydded, yn Nghaerdydd, Mr. David Howells, grocer, Gadlys Road, Aberdar, a Miss Jenkins, (merch Mr. Jenkins, timber merchant, Treherbert.) Boed llwyddiant Hawn, a heddweh Hon, I'w dilym drwy y fuchodd hon Ac wedi gorphen yma'u gwaith, Boed iddynt nef ar ben eu taith. Mehefin 8, yn ngbapel y Wesleyaid, Mr. W. Harpur (mab Mr. Harpur, sur- veyor plwyf Merthyr,) a Mary Ann Lewis, nith Mr. R. Lewis, perchenog Y Fellten. Mary Ann Lewis- un eirian loywedd, A William.Harper, dyner ei duedd lor Hedd, O! rhana i'r ddau wiw rinwedd, Heb loesion rhedont i bias anrhydedd, Bywjd o haf,-byd o bedd,-fo iddynt, Gywir eu helynt a gwawr o haeledd. Paradwys fo'n priodi, Boed iddynt bob daioni, A rheR o feibion lion eu Hun, A dwsin o lodesi. ABRAM VARDD. BU FARW. Mehefin 10, wedi tair blynedd o gys- tudd blin a phoenus, yn 66 mlwydd oed, Eunice Rees, gweddw y diweddar James Rees, o'r dref hon, a mam Nathan Wyn a Dyfedfab. Bu yn aelod gyda'r Trefn- yddion Oalfinaidd o'i chryd i'w bedd, ac- er fod Olion dyrus flinderau yn argraffedig ar ei gwedd, cadwodd ei chymeriad moesol yn lan a, difrycheulyd, hyd y diwedd. Gadawodd gylch helaeth o gyfeillion a pherthynasau i alaru ar ei hoi, ac yn eu mysg bump o blant anwyl, i deimlo beth ydyw Cael eylweddoli'n ddinam, Y boen o fyw heb un fam! I m banwyl fam rho'es Duw yn ddiamod,, t ythol eangder Net a'i theityngdod Yr un Duw da 0 dryllia'm blin drallod; i-fi y mae monwes fy mam hynod, A'i bedd yn fwy rhyfeddod—na rhodau'r Ser ddirwyn oesau'r ddaearen isod N.