Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. MEISTRI A GWEITHWYR. MESURAU Y LLYWODRAETH I WELLA DEDDFAU GWAITH. Nos Iau, y iofed cyfisol, dygodd Mr. Cross, Gweinidog Cartrefol y Llywodr- aeth, fesurau newydd i mewn i Dy y Cyffredin i reoleiddio perthynas meis- tri a gweithwyr a'u gilydd. Dywedodd Mr. Cross ei fod yn gy- huddiad yn erbyn cyfraith Loegr, nad oedd yn caniatau rhyddid cytundeb rhwng meistr a gweithiwr. Cydnab- yddodd fod y cyhuddiad yn wir gyda golwg ar hen gyfreithiau. Dywedodd fod y rhai hyn yn orthrymus. Yn amser Edward III., pryd y gofynai gweithwyr am ragor o gyflog, gwnawd cyfreitbiau gorthryrnus i'w rhwystro i gael rhagor o gyflog. Yn ol y gyfraith hono, yr oedd pob dyn o dan driugain oed, yn rhwym i weithio os meddai iechyd a gallu, pan y ceisid ganddo, neu orfod myned i'r carchar; ac os elai gweithiwr oddiwrth ei waith cyn yr amser a osodwyd iddo, rhoddid ef yn y carchar. Byddai yn rhaid iddo wneud ei waith am yr hen gyflog, ac nid oedd rhagor i gael ei roddi iddo. Gwnawd cyfraith ormesol ar y gweith- iwr yn amser Elizabeth. Gorfodid meistr i dalu 40s. o ddirwy am anfon ei was ymaith, ond rhoddid y gwas yn y carchar os ciliai efe o'i wasanaeth. Bu eyfreithiau gorthrymns mewn grym hyd 1824. Cyn 1867, ni chospid meistr, ond cospid gwas fel criminal am dori cytundeb yn nghylch ei waith. Gellid rhoddi y gwas yn y carchar cyn profi y cyhuddiad yn ei erbyn; a phan deuai prawf, ni allai amddiffyn ei hun. Ond gallai y meistr amddiffyn ei hun. Ni allai y gwas apelio. Cafwyd pwyll- gor seneddol i ystyried y gyfraith fel yr oedd, a barn odd y pwyllgor hwnw ei bod yn anghyfiawn a gorthrymus. Gwnawd cyfraith yn diwygo y cyf- reithiau blaenorol. Ond y mae gwall- au yn hon, yr hon a basiwyd yn 1867. Wedi gosod allan y materion uchod yn helaeth o flaen,y Ty, eglurodd ei gynllun ef ei hun. Dywedodd mai ei gy nllun eedd, fod dau fesur i fod, un yn perthyn i droseddau y dylid eu cospi a dirwyon, un arall yn perthyn i droseddau criminal. Tybiai efe os esgeulusai gwas ei waith yn y fath fodd ag i niweidio cymdeithas y dylid -edrych ar ei drosedd fel crime. Ys- tyriai efe fod unrhyw weithiwr yn ngwasanaeth cwmni dwfr neu nwy (gas) fel enghraifft, yr hwn, trwy esgeuluso ei waith a niweidiai drigolion tref, yn euog fel drwgweithredwr. Gyda gelwg ar droseddau'civil,' yn ngwyneb an- nghytundeb rhwng meistr a gweithiwr neu was, cynygiai efe fodyr anghytun- deb yn cael ei setlo yn y County Court,' a bod y llys hwnw i setlo yn nghyldh hawliau, a diddymu cytnn- tdebau.'os byddai hyny yn iawn. Nid yw llys y 'Chancery' byth yn rhoddi cytundebau o wasanajeth mewn grym, trwy orfodaeth. Yn y I County Court' gall un o'r pleidiau ofyn am iawn- daliad, ac i'r taliad hwnw gael ei ys- ystyried gany llys fel dyled i'w thalu trwy orfodaeth. Wedi hyny, sylwodd Mr. Cross ar ymddygiad gweithwyr tuag at eu gil- ydd, yn ceisio rhwystro eu gilydd i weithio, trwy eu dilyn o le i Ie, niweid- io eu hoffer, ymosod arnynt yn eu tai, neu yn eu gwaith, er mwyn eu gorfodi i beidio gweithio. Canmolai Mr. Cross y gyfraith sydd yn awr am gospi dyn a wnai beth fel hyn. Gyda golwg ar yr hyn a elwir con- spiracy, dywedodd fod y Llywodraeth yn cynyg rhoddi adran yn ymesur, na byddai cytundeb rhwng dau neu ragor oddjnion d gario allan eu hameamoa mewn dadl yn nghylch gwaith ddim yn cael ei gospi fel conspiracy os na bydd yn gospadwy fel crime. Dywedodd efe ei fod am: y rhyddid ewyllys mwyaf llwyr ag yw yn bosibl rhwng meistr a gweithiwr a rhwng gweithiwr a gweith- iwr, a gwas a gwas, ac mai i ddrwg- weithredwyr yn unig y bwriadwyd y carchar. Gellid sylwi ar y golygiadau uchod o eiddo Mr. Cross ei fod yn arferiad yn y Ty, wrth ddwyn mesurau o'r fath i mewn, i'w gosod allan yn y Iliwiau mwyaf deniadol. Wedi hyny, cafwyd allan lawer gwaith nad oedd y mesurau eu hunaiii mor ddengar ag y meddyl- iwyd. Dywedodd Arglwyddau R. Montagu nad oedd yr hen gyfreithiau a wnawd gan y breninoedd Pabyddol yn Lloegr mor ormesol ag y gosododd Mr. Cross hwy allan. Ond un o'r mawrion sydd wedi- troi yn Babydd amser yn ol yw ei arglwyddiaeth. Hyn hefyd a esbonia ei gydymdeimlad ef a'r, Trade Unions. Pe gallai efe wneud yr unions hyn yn offerynau i ddadymchwel Brotestan- iaeth yr oesoedd, diau y gwnai hyny fel mater o ffyddlondeb i'r Pab, oblegyd yr un peth yw Pabyddiaeth yn y wlad hon ag yn Prwsia. Diau y cawn achlysur eto i alw sylw at fesurau Mr. Cross. »

SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.

[No title]

PLENTYN WEDI EI GAEL MEWN…

.—4. DAEARGRYN YN NEHEUBARTH…

KHEW-DALPIAU YN MOR Y WERYDD.

CYNRYCHIOLAETII MERTHYR AC…

ARCHWILIAD GWEITHFEYDD TANDDAEAROL…

LLONGDDRYLLIAD A CHOLL-IAD…

* COLLIAD YR AGERLONG VICKSBURG…

ABERDAR—DAMWAIN ANGEUOL.

DAMWAIN YN NGWEITHFA PRIDDFEINI…

Y GWEITHFEYDD.

DEAN FOREST.

ABERAFON - IIUNANLADDIAD.

MARWOLAETH CAWRES.

[No title]

EISTEDDFOD LLANBEDR.

[No title]