Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
LLYFRGELL Y BWTIIYN.
LLYFRGELL Y BWTIIYN. PBJTQD III. CYCHWYNODD yn fuan am Rufaia, ga- gario llythyron i amryw bersonau o en- wogTwydd. Arweiniwyd ef i'r gym- deithas fwyaf anrhydeddas, ac yr oedd yn wrthrych o gryn gywreinrwydd fel Americanwr a Chrvnwr, yr hwn oedd wedi dyfod i astudio y celfyddydau breiniol. Ar ei arweiniad at y Car- dinal Albani, yr hwn, er ei fod yn hen ac yn ddall, a ystyrid yn feirniad mawr yn y celfyddydau, un o'r syhvadau cyntaf a wnaed gan y prelad oedd, gan dynu ei ddwylaw dros wyneb yr arlun- ydd ieuanc, mewn trefn i feirniadu ei wynebpryd,—" This young savage has very good features, but what is his complexion ? Is he black or white ? Atebwyd ef gan y boneddwr, yr hwn oedd yn ei arwain, ei fod, yn "hynod deg." What meddai y Cardinal, as fair as I ami Ain fod gwynebpryd ei fawrhydi o liw tywyll-ddu, cynyrchodd y gofyniad hwn ddifyrwch mawr, a daeth yr ym- adrodd as fair as the Cardinal," dros amser, yn ddiareb. Yr oedd yn falter 6 syndod," medd un o fywgraffwyr West, p'an y cafwyd allan nad oedd y dyn ieuanc yn ddu nac yn ddyn gwyllt, ond prydferth, synwyrol, ac arlunydd parod." Mewn trefn i arddangos ei dalent, paentiodd West àrlun, honeddwr; i'r hwn yr oedd yn ddyledus am lawer o gymwynasau, sef Mr. Robinson, wedi hyny Arglwydd Grantham. Derbyn- iwyd ef gyda chymeradwyaeth mawr gan feirniaid celfyddyd, a chyhoeddwyd ef uwchlaw, mewn rhai golygiadau, i gynyrchion Raphael Mengs, yr hwn oedd yr amser hyny y blaenaf yn Rhu- fain. Canmolodd Mengs ef ei hun yn ddidwyll, a rhoddodd rai byfforddiadau rhagorol iddo. "Y mae genych eis- oes," meddai, "y ran allofyddol o'ch celfyddyd. Gan hyny, yr hyn a gy- meradwywn i chwi fyddai manylu ar bob peth sydd yma o werth sylw, a gwneud ryw haner dwsih o ddarluniau oddiwrth y delwau goreu yna myned i Florence, ac asfctidid yn y galleriesy wedi hyny myned yn mlaen i Bologna, „ a myfyrie gweithiau'r Carracci; yn ganlynol ymweled a Parma, a manylu yn ofalus ar ddarluniau Coiregio ac yna ewch i Venice, ac edrychwch, ar gynyrchion Tintoretto, Titian, a Paul Veronese. Pan y.byddwch wedi cyf- lawni y gylchdaith hon, dychwelwch i Rufain, paentiwch ddarlun han esyddol, arddangoswch ef yn gyhoedduS, ac yna yr opiniwn a fynegir gan y cyhoedd am eich talentau a benoda y linell o'r gelfyddyd a ddylech ei dilyn." Rhwystrwyd West i ddilyn y cy- nghor buddiol hwn yn, uniongyrchol gan afiechyd a ddygwyd oddi amgylch, mae'n debyg, gan y eyffro parhaus i ba un yr oedd yn agored. Dychwelodd i Leghorn, er cael mwy o lonyddwch, a bu am agos flwyddyn yn analluog i ail gychwyn ei Jjfyrdodau a'i oruchwyIion fel «rlunydd. Yn ys- tod yr amser hwn, daeth y bri a enill- odd yn hysbys yn America, a phen- derfynodd ei gyfeillion haelionus, Mr. Allen a'r Llywydd Hamilton, na chawsai hynt y fath arlunydd addawol ei rwystro oherwydd diffyg ar|an. Anfonasant archebau at eu harianwyr yn Leghorn, am iddynt roddi iddo unrhyw symiau a geisiai efe ganddynt. Yr oedd yr haelionusrwydd mawr ac annysgwyliedighwn o'r pwysigrwydd mwyaf i Mr. West, oherwydd yr oedd ei ystorfeydd wedi eu dihysbyddu yn Dwyr bron. Priodol iawn y sylwa Mr, Galt nad oes enghraifft odidocach o haelionus- rwydd i'w cbael hyd yn nod yn nghroniclau Flerence. Haelioai y Mediciaid a ragorwyd arnb gan eiddo swyddogaeth PhilágéIpllia: e p I-α Yn awr dechr«nodd ei gylchdaith o dan nawdd ffafriol. iawn, ac ymwelodd, gyda mantais fawr, a galleries y gwa- hanol ysgolion yn Itali. Catodd ei dderbyn yn mhob lie gyda charedig- rwydd, ac etholwyd ef yn aelod o'r atlujpfeydd yn Parma, Bologna, a Florence. Anrhegwyd ef a bri cyffelyb wedi hyny yn Rhufain., Tra yn Itali y paentiodd ei Cimon ac Iphigenia," ac "Angelica a Me- dora," y rhai a sefydlodd ei enwog- rwydd fel historical painter, Gwnaeth hefyd gopi ardderchog iawn o'r St. Jerome o Corregio. Y mae'r darlun hwn yn awr, yr ydym yn tybio, yn meddiant tylwyth Mr. Allen, yn America. Yn awr wedi gorphen ei amcanion IDeWI ymweled ag Itali, dechreuodd feddwl am ddychwelyd gartref, ond mew* cydsyniad a chyngor ei dad,; peaderfynodd dalu ymwelTad a Lloegr (y fkm-wlad), i'r hon eto yr edrychai trigolion America gydag anwylder mawr. Gwnaed ei drefniadau yn luan, a tbeithiodd trwy Ffrainc, gan ym- weled a phob peth teilwng o sylw, ac ar yr ngeinfed o Fehefin, 1763, cyr- liaeddodd Llandain. Gan nad oedd yn bwriadu aros yn Lloegr, ymwelodd yn unioHgyrchol a'r cydasgliad o baent- iadau yn Llundain, ac yn Hampton Court, Windsor, a Blenheim hefyd treuliodd rhyw amser gyda chyfeillion ei dad, y rhai oedd yn trigianu yn Keading. Yn y cyfamser, daeth i gydnabyddiaeth a'r rhai mwyaf neill- duol o'r arlunwyr Brytanaidd, yn mhlith; y rhai yr oedd Syr Joshua Reynolds a Mr. Burke, gwybodaeth gelfyddydol yr hwn oedd mor gywrain a dwfn ac yr oedd ei wybodaeth o lywodraethiad. yTrw barhau) 4
MiN.ION Y DARIAN.
MiN.ION Y DARIAN. Y MAE gan yr Iuddewon ffordd hynod i esbonio yr adnod brotfwydoliaethol hoco o eiddo y Patriarch Jacob- Nid ymedy y deyrnwialen o Judah hyd oni ddel y Seilo." Yn awr medd ai'r Iuddew, bwriwch fod holl genhedl- oedd y ddaear yn cael eu cynrychioli mewn arddangosfa gan. un o bob cenedl o ddynion tan y nef; oni fyddai yn ddigon hawdd i chwi wahaniaethu y cynrychiolydd luddewig oddiwrth y lleill heb unrhyw drafferth nac oediad ? Wel, addefir ar uowaith fod y gosodiad yn wirionedd. Yna, meddai'r luddew, nid ymedy y tebygolrwydd cenedlaethol o wyneb-weddau yr Iuddewon hyd oni ddel y Seilo. Dywed y Talmud fod arbenigrwydd corpherol yr Iuddew yr un fath yn awr ag yr oedd pan y pr@- ffwydodd lacob am ddyfodiad Ha- mashiach," a bod y neillduolrwydd hwn i aros hyd ddyfodiad y Gwaredwr, ac yngymaint nadoes un- cyfnewidiad wedi cymeryd lie yn ngwynebpryd yr Iuddew, er cyflawni'r broffwydoliaeth, fod yr Iuddew yn aros i wrthbrofi dal- iadau y Cristionogion am ddyfodiad y Crist. Y mae gan y Mahometaniaid demlau gorwych a drudfawr yn y talaethau. | hyny a sangwyd ac a gysegrwyd (?) gan draed y gau-broffwyd: md oes lluniau o un math yn en; temlau, ond nodweddir hwy a'r geiriau canlynol Nid oes ond un Duw, a Mahomet yn broffwyd iddo." Pan y deuaht Fw gweddiau golchant eu dwylaw a'u traed, a thywalltant ddwfr ar eu penau deirgwaith gan ddolefain yn gynhyrfus Gogoniant i'n Duw! Y maent yn ymprydio bump wythnos yn y flwyddyn, yn mha amser ni fwytant ddim nes gweled o honynt y ser, ac yna bwytant bob bwydydd ond yr hyn a dagwyd, a chig moch. Enwaedant eu plant pan o saith i wyth mlwydd oed, os byddant yn alluog i wneud cyffes fbddhaol i'r arhalwyr Mahometanaidd. Pan y pabtllant, neu' pan godant euV pebyil, ac wrth fyned i gysgu'r nos, gwaedd- ant a lief uchel, Alan, Alah, Alahu; h.y., Duw deirgwaith. Pan y mte y Rabbi Iuddewig yn dyrchu y gyfraith i'w darllen, safa'r gwyddfodolion ar eu traed, a cHawant o Salmau David* hamekeh," gyda r angerddolrwydd mwyaf. Pan yr addol- ant ni thynant eu penwisgoedd, ond bwriant orchudd teneu drostynt, yr hwn a ddaw i lawr dros gyfran o'u gwynebau. Traddodiad a'u darbwyll- odd i wneud hyn, mewn coffadwriaeth am Moses yn gorchuddio ei wyneb ar 01 bod o hono ar y mynydd gyda Duw yn derbyn y gyfraith. Y maent yn talu sylw i freuddwydion yn" awr fel pan yr oeddynt yn Nghanaan ac nid ystyriant fod un genedl o dan yn y nef yn gyfrifol i Dduw ond hwy yn unig! Mawr y parch a ddangosodd y Groeg- iaid i'r bardd Pindar neu Pindarus. Ganwyd ef yn Thebes, yn y flwyddyn 64 o'r cyfrif Olympaidd, neu 522 cyn Crist. Myrtis oedd ei athraw pwysic- af, ond efe a dderbyniodd symbyliad i luaws o ragoriaethau drwy esamplau a chyfarwyddiadau barddones o'r enw Corrina, yr hon hefyd oedd yn ddysg- ybles i Myrtis. Bardd i'r werin oedd Pindar, a thrwy hyny lledodd y son am dano ef a'i farddas fel diluw trwy holl wlad Groeg a'r cyffiniau talai ymherawdwyr barch a gwarogaeth gy- hoeddus iddo ac yr oedd ei emynau a'i erddyganau melusber yn hyrddio ei gyd-gystadleuwyr o'r golwg fel gwegi. Cenid ei garolau yn holl deml- au Groeg gyda'r fath gymeradwyaeth a'r fath dderbyniad, aes y tyngodd offeiriade8 Delphi mai gorchymyn Apollo ydeedd fed haner y rhoddion elusengar a ddygid idd ei allorau ef i gael eu trosglwyddo i Pindar. Ym- ddengys mai ei brif noddydd ydoedd Hiero, brenin Syracuse, yn mhalas yr hwn deyrnach y treuliodd y rhan olaf o'i einioes. Bu farw yn 87 oed, 436 C.C. Codwyd iddo gerfddelw ar- dderchog yn Thebes, yn un o'r lleoedd mwyaf cyhoeddus yn y deyrnas, a phan daeth y Lacedaemoniaid i warchae ar Thebes, gan gymaint eu hedmygedd i gofladwriaeth Pindar, hwy a arbed- asant ei dy a'i ddelw! Pan warchae- odd Alexander Fawr ar y ddinas ar ol hyny, efe a wnaeth yr un gymwynas a thy ac a delw yr hen ladmerydd Groegaidd. Hen enw cysefin Llynlleifiad (Liver- pool), Lle'rpwll, Le'rpwl, ydyw Lyre- poll-pwll isel, yn ol awdurdodau uehel, ond y mae rhai yn ysgrifenu y gair, neu'r geiriau, heb feddu'r ddir- nadaeth leiaf am wir ystyr y gair. Gresynus meddwl fod cynifer o ys- grifenwyr dynwaredol (artificial) yn y byd Dywed traddodiad i St. Patrick hwylio oddiwrth ororau'r Mercey yn 432 o O.C., i fyned i bregethu i'r Gwyddelod, ac iddo ddyoddef llong- ddrylliad ar arfordir Ynys Manaw. Yn y flwyddyn 1561, nid oedd ond saith heol yn Llynlleifiad, y rhai a enwid Bancko-street, yn awr Water-street, Moor-street, yn awr Tithebarn-street; Castle- street, Dale-street, High-street; neu Juggler-street; Mylne-street, cyn hyny Pappard-street, ond yn awr Old- hall-street, a Chapel-street. Nid oedd yma ar yr adeg uchod ond 138 o an- edd-dai, yn cynwys 690 o fodau dynol! Yn y flwyddyn 1532 yr oedd lor- werth, larll Derby, yn cadw 250 o drigolion brodorol Lle'rpwll yn gwol ar ei draul ei hun bwydai driugain o wyr tlodion ac oedranus y dref ddwy- waith y dydd; darparai luniaeth hefyd i bob ymwelydd a'r dref dair gwaith yr wythnos, heblaw darparu ar gyfer 2,700 ag arian, diodydd, a phob math o fwydydd ar ddydd Gwener y Grog- lith.
HEDDWCH.
HEDDWCH. Dan nodded awen heddwch—y gwreiddia Gwir ryddid mewn harddwch; A gwna ymlid Hid i'r llwcb, A. llawn noddir llonyddwch. Iaitb rbyfeloedd a thwrf alaetb-beidiant A bwydo difrodaeth; A chwelir goruchwyliaetb, Ac urdd coeg yr Iuddew caeth. C&n byawdl gerub eenedlgarwch-fawl, Wrth fodd cynghor heddwch; A rhydd fflam hapuerwydd fflwch, Wên heulwen i'r anialweh. Henafol lw nefawl awen—a ddaw Yn ddeddf drwy'r ddaearen A'r byd yma wisga wen Aelwydydd dwyfol Eden. Ac wele fodd i gelfyddyd-i ddweyd Breuddwydion y eynfyd; A rhoi gwawl bythawi i'r byd Ei hyawdledd cweg rhydljd. ATHAN FARDD.
ELFENAU LLWYDDIANT A > DYRCHAFIAD.
ELFENAU LLWYDDIANT A > DYRCHAFIAD. Y MAE ymdrechu cyrhaedd sefyllfa o ymddiried, dylamwad, a defnyddioldeb yn ddyledswydd ar bob dyn. Nid oes dim ,yn amlycach na bod y dyn sydd yn llanw swydd o ymddiried mawr yn meddu dyknwad mawr, er da neu er drwg, a bod y dyn sydd yn meddu ar ddylanwad mawr mewn mantais i fod o ddefnyddioldeb mawr i ereill. Hyn oil sydd berffaith eglur. Ond pa fodd y cyrhaeddir swydd o ymddiried a dy- lanwad? Ychydig sylw a ddengys fod dynion yn cyrhaedd sefyllfaoedd o ym- ddiried mewn tair ffordd. 1. Rhai a enir ynddynt. 2. Ereill a ddyrchefir iddynt yn ddamweiniol, neu drwy ddy- lanwad cyfeillion. 3. Ereill a'u henill- ant drwy eu medrusrwydd. Nid oes a fynom yn hyn o ysgrif a'r dynion hyny sydd yn dyfod i'r byd "gyda llwyau arian yn eu geneuau," megys y ddati" ddosbarth blaenaf a nodwyd, ond ein hymwneud sydd a'r dosbarth olaf-dosbartb y dynion sydd yn gorfod emll y sefyllfa neu fod heb- ddi—dosbarth y dynion anrhydeddus hyny sydd yn rhoddi mwy o urddas ar y sefyllfa* nag a rydd y sefyllfa arnynt hwy. CynygiWn dri cyfarwyddyd. 1. Dylai pob dyn fynu gwybod yn mha le y mae cuddiad ei gryfder. Tuag at esgyn grisiau dyrchafiad y mae yn ofynol i bob dyn.fynu gwybod beth yw ei gryfder, yn mha beth y gall rhagori. Ofer ydyw i neb efelychu yn wasaidd un dyn, am ei fod ef wedi bod yn llwyddianus mewn tylch neillduol, os na bydd yn sier ei fod yn meddu yr un cymhwysderau naturiol ag ef. Sonir yn fynych am athrylith a thalent fel dau beth gwahanol. Y mae hyn yn gywir. Athrylith sydd fath o gyneddf arbenig yn y dyn at bwnc penodol, tra y mae talent yn enw ar allu cyffredin y meddwl i ymwneud a phethau yn gyff- i redinol. Felly y mae dyn yn fardd wrth natur, un arall yn areithiwr wrth natur, a'r Hall ya gerddor neu yn ar- lunydd wrth natur. Yr ydym yn cyf- arfod weithiau ag ambell i fasnachwr neu oruchwyliwr mor graff a galluog, ac yn, deall ei orchwyl mor drwyadi, fel y mae yn gallu crynhoi i'w feddwl ar unwaith gymaint o reolaeth masnach a gwaitb ag a ofynai haner dwsin o ddynion cyffredin i'w cadw yn drefnus; felly yr ydym yn sier o fod yr iawn ddyn yn yr iawn Ie. Y mae yr hen gyfarwyddyd, gan hyny, yn werth ei gofio, "Adnebydd dy hun." Y mae o'r pwys mwyaf i bob dyn iauanc ar ddechreu ei yrfa ddeall yn mha le y gorwedd cuddiad ei gryfder. Yr ydys wedi gweled dynion yn eu hamryfusedd yn gwnenthur camsyn- iadau pwysig mewn bywyd, drwy ym- gais at wneud yr hyn nad allent. Y mae y cyfarwyddyd, gan hyny, yn dal yn dda, "Adnebydd dy hun." Wedi i ddyn gyrhaedd hunanadnabyddiaeth, a chael fod ynddo gyneddf a ragora fwy mewn cylch arall nag yn yr un y mae ynddo yn bresenol, ei ddyledswydd ydyw gwneud ei oreu i roddi cyfle iddi ddadblygu ei hunan. Hefyd y mae calon bur ac uniawn yn elfen han- fodol i lwyddiant a dyrchafiad. Calon uniawn yw yr elfen foesol anhebgorol i lwyddiant. Y mae yn rhaid fr dyn sydd am ddyrchafu ei hun fod yn feistr perffaith arno ei hun mewn ystyr foesol, ac y mae yn rhaid i'w fywyd amlygu y rhinweddau hyny ag y mae hanks y dynion mwyaf Uwyddianus yn dangos eu bod yn feddianol arnynt er cyrhaedd dyrchafiad cymdeithasol. Hefyd y mae deall da neu addysg yn elfen hanfodol i lwyddiant. Dyma yr elfen ddeallol anhebgorol i ddyrchafiad. Afreidiol fyddai i ni ddweyd dimamyr angenrheidrwydd am hyn, oblegyd credwn fod degau o ddynion ieuainc meddylgar yn cael gwersi fil mwy effeithiol bob dydd yn hyn nag a ellir roddi ar bapyr. Dyfalbarhad sydd elfen anhebgorol arall i lwyddiant a dyrchafiad. Llawer o rwystrau a gyf- arfyddant a'r dyn sydd am ddyrchafu ei hun; ond er y cwbl,y mae efe yn dal ati, fel y dywedir. Yn fynych bydd y llwybr o'i flaen yn dywyllwch caddug- awl, a'i galon ar ballu yn yr ymgyrch, ond llais o'i fewn a sibrwd yn mlaen. Hawdd iawn fyddai i ni lanw colofn o'r DARIAN a banes y rhai a ddyrchaf- wyd i sefyllfaoedd uchel mewn bywyd drwy eu dyfalbarhad. Dyfalbarhad a ddyrchafodd Rothschild, tywysog y geludogion, unwaith yn prynu prints yn Manchester. Syr Robert Peel y cyntaf, yr hwn a fu farw yn aelod sen- eddol, ac yn feistr ar 15,000 o ddynion, unwaith yn weithiwr eihun. Budgett o fod yn was yn siop ei frawd yn bercken ar y fasnach fwyaf yn y West of England. Ac onid oes lluaws o esiamplau o hyn yn ein gwlad ein hun- ain? Gwaith, a gwaith dyfal hefyd, fel y sylwa un awdwr galluog, yw y llwybr i ddyrchafiad. Bob yn gam y cyrhaeddir y nod. Y mae yn wir y bydd rhai yn rhinwedd eu hathrylith yn llwyddo yn gyflymach nag ereill, ond athrylith heb yr elfenau a nodwyd a fetha yn y diwedd.
♦ YR AFIECHYD MARWOL YN YNYSOEDD…
♦ YR AFIECHYD MARWOL YN YNYSOEDD FIJI. NID oes ond ychydig fisoedd er pan y cysylltwyd ynysoedd Fiji a'r wlad hon, trwy yr hyn y daethom yn gyd- ddeiliaid. Y mae y newydd wedi ein cyrhaedd yn awr fod haner can mil o frodorion wedi meirw o fath o frech goch, yr hwn a gariwyd yno gan long ryfel Brydeinig. Cyfrifir mai rhyw 140,000 ydyw boblogaeth yr ynysoedd hyn, y rhai a drigiahant ar dros gant o fan ynysoedd ac os ydyw yr hanes hwn yn wir, y mae dros un ran o dair o holl boblogaeth anwaraidd yr ynys- oedd hyn wedi meirw. Nid oes am- heuaeth na laniodd y Hong Dido gleifion o'r frech goch ar yr ynysoedd, ac y mae yn ymddangos fod yr afiechyd wedi gwreiddio ac ymledu yn y sefydl- iad, a hyny mewn ffurf newydd a marwol. Y mae yn ymddangos fod lluaws o'r bobl anffodus hyn yn credu fod yr afiechyd wedi cael ei ddwyn i'w plith yn fwriadol; ac ni wrandawantar gyngor yr Europeaid, ond a, oeraat on gwres clefydol trwy ymdaflu i ddwfr, yr hyn yn ddieithriad a ddyg yn mlaea glefyd y gwaed. Y mae tywysogion a phobl cyffredin yn ymddangos i fod meirw fel eu gilydd drwyddo—ni wnelai ymborth na thrigfa yr un gwa- haniaeth. Pwy a all feio y creaduriaid haner-wareiddiedig hyn am dybio a dywedyd mai amcan y bobl wynion ydyw clirio yr yuysoedd o'u cynfro- dorion, a bod eu gwaith yn ymgysylltu a Phrydain yr un petb a'u llwyr ddi- fodiad oddiar wyneb y ddaear. Y mae gweled y dynion gwynion yn gallu diane rhag yr afiechyd a'i ganlyniadau, er mae yn eu Hong hwy y daeth i'r wlad, tra y lleddir hwy wrth y miloedd, yn effeithio er darbwyllo y creaduriaid truenus fod eu duw yn ddigllawn wrth- ynt am roddi ymaith eu tir, a'i fod wedi anion clefyd a marwolaeth yn gosp arnynt. Dywed newyddiadur o Milbourne fod y trigolion wedi cael eu parlysio, a'u bod yn gomedd cynorthwyo y naill y llall; fod yr hollbrif dywysogion wedi meirw. Fod canoedd lawer o frodorion ynys Ovalan wedi meirw, a nifer dir- fawr yn yr ynysoedd ereill; fod llawer o drefi brodorol wedi eu llwyr anmhob- logi. Trwy nad yw y brodorion yn claddu eu meirw ond ychydig fodfeddi islaw arwynebedd y tir, ac i'r gwlaw trwm a ddisgynodd olchi yr ychydig briddhwnw ymaith, daeth y cyrlf yn ddiorchudd mewn rhai manau am ddyddiau. Yr oedd y sawyr a gyfodai oddiwrth y cyrff hyn yn ofnadwy o afiach, a phob masnach wedi sefyll. Y mae yn sicr nad ellir yn briodol roddi dim o'r bai yn erbyn y llywodraeth Brydeinig a'r gorchwyl o ymgysylltu a Lloegr; a thra yr ydym yn Hawn gofid am yr hyn sydd wedi cymeryd lie, gallwn fod yn sicr y bydd i'r Llyw- odraeth ymegnio er dangos cydym- ymdeimlad a gofal o'r Fijiaid. «
Y GALON DOREDIG.
Y GALON DOREDIG. LLITH II. DYWEDAIS am foneddiges ieuane o galon yr hon y deuai ffrwd ddylifol o ocheneidiau pruddaidd. Gloesion a dirdyniadauyr anwylferch hon oedd yn aruthrol tuhwnt i fy amgyfFredion eiddilaidd a fy iaith fratiog i fedru des- grifio. Yn nyddiau maboed, pan oedd awyrgylch bywyd Emmet yn glir, a phan oedd haul trylen a thanbeidiol ffawd yn pelydru arno, yr enillodd efe serchiadau a chariad trylwyr y wylaidd ac anrhydeddus ferch y dadleuydd enwog J oIm. Philpot Curran, a charai ef gyda didwylledd a gwresogrwydd cariad cyntaf benyw, pan ydoedd ys- torm erchyll digasedd yn ymgasglu oddeutu, a chorwyntoedd cynddeiriog dialedd yn dyruo ac yn ymosod arno, pan ydoedd llwydrew deifiol wedi gwywo a phylu gobeithion goreu ffawd, ie, a phan ydoedd gwaradwydd a pherygl yn pardduo ei enw da; er hyny, hi a'i carai yn fwy fwy gwresog er pob ymosodiad llid a gwawd. 0 na fu- asai ei dynged y pryd ymayn galln di- huno cydymdeimlad a thosturi ei gas- euon, fel y gallasent weled loesion ac ingoedd yr hon oedd a'i holl enaid wedi ymsuddo yn acyn ymddibynuar ei lwyddiant ef. O na adlewyrchid ar- nynt deimlad y rhai hyny y cauwyd porth y bedd, megys yn ddiarwybod, rhyngddynt a'r sawl oeddent yn ei garu fwyaf ar wyneb yr holl ddaear, ie, y rhai hyny sydd yn gwybod beth yw eistedd megys ar drothwy y bedd. wedi eu cau allan yn y gauaf rhynllyd ac oer, yn nghanol unigedd dwfn a marwol y byd, oddiwrth y rhai yma y mae pobpeth hardd neu dlws, a llawen- ydd eu henaid, sef yr hwn oedd fwyaf anwyl ganddynt, wedi ymadael, a'u calonau eu hunain megys wedi eu lladr- ata oddiwrthynt. Ond, eto, er mor ddychrynedig, brawychus, ac arswydol eu truenusrwydd—-er moi aruthrol y poenau, nid oes yma ddim eill ysgafh- hau a lleddfu loesion cariad, y rhai syddyn trywanu fel picellau tanllyd trwy yr enaid, wedi colli gwrthddrych y serch. Nid oes yn y gwych, y tyner, y pruddglwyfus, a'r sobr ddim amgylch- iadau i lenwi'r meddwl, fel ag i'w dynu oddiar y gwrthddrych diamgyffred gariadus: na, nid oes dim eill doddi, lleddfu, nac esmwythau yr hiraeth fel y cymwynasgar a'r gwynfydedig dda- grau, y rhai sydd yn esmwyth ddisgyn dros y rudd fel gwlith purlwys y nef- oedd, ganfywioeâu y galon, hyd ynnod yn nhoroalonus awr yr ymadawiad; ond