Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
MAE plismyn Arfon i gael helmau newydd at yr haf. Byddant yn ysgeifn, ac yn ol pob tebyg yr unlliw a'r 6d." Menyg gwynion eto i'r Barnwr pan ddaw ar ei hynt nesaf, a gallwn ddechreu canu Gwalia wen."
Advertising
Advertising
Cite
Share
DIY COOKSEY SON, Inexpensive & Modern Funerals- (Price List on Application). 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department, 97, CHAPEL STREET Telephone Nos. 30 and 601, KING'S CROSS.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
Barch. Lewis Evans, gynt o Providence House, Merthyr, yn ymholi yn y Drych am ei berth- ynasau gwasgaredig, ac y mae Cymry Llundain yn ymholi ai rhyw fath o gyhoeddiad ynte llyfr yw'r Gomer Press a olygir gan Mr. Evans. POPLAR.—Cynhaliodd yr eglwys yn y lie hwn ei chyfarfodydd pregethu blynyddol y Sul a nos Lun diweddaf. Gwasanaethwyd gan y Parch Hugh Hughes, Ystalyfera, a chaed pregethau grymus a galluog iawn gan y gwr parchedig. Da genym weled ei fod yn dal i edrych a phregethu mor rhagorol ag erioed. Cafwyd cynulliadau llawn drwy'r oil o'r cyfarfodydd. DEWI SANT, PADDINGTON.—Nos Lun y Pasg cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol ynglyn a'r eglwys uchod, a throdd allan yn hynod o Iwyddianus. Yn rhagflaenol i'r cystadleuaethau cafwyd pryd o de a danteithion sylweddol. Tua 6.30 o'r gloch dechreuwyd y cyfarfod, o dan arweinyddiaeth y Caplan, Parch. W. Richards. Cadeiriwyd yn rhagorol gan ein cydwladwr enwog, y Parch. G. Hartwell Jones, Rheithor Nutfield, gan yr hwn y cafwyd araeth ddyddorol ac adeiladol, ac yn drwythedig o'r yspryd Cymreig. A ganlyn oedd trefn y rhag- len :—Unawd ar y berdoneg, Miss Annie Davies, Eglwys St. Padarn, Holloway. Adrodd- iad i blant dan 10 oed, "0, Blentyn y Nefoedd," i. Master Llew. O. Richards, Dewi Sant; 2, Edith Williams, East End Mission. Unawd i blant dan 15 oed, "Sychu Dagrau," i, Lizzie E. Davies, Wandsworth Road; 2, WTinifred Jones, Shirland Road. Adroddiad i rai rhwng 10 a 16 oed, Myfanwy Fychan" (Ceiriog), Myfanwy Davies, Shirland Road.. Tri phenill wyth linell ar "Crist wrth Ffynon Jacob," Mr. William Williams, East End. Pedwarawd," Y Bwthyn ar y Bryn," Parti Mr. John Humphreys, Walham Green. Traethawd, Y moddion goreu i gael aelodau yr Eglwys fynychu yr Ysgol Sul," Mr. John Williams, Dewi Sant. Adroddiad i rai mewn oed, "Yr Ystorm," Mr. William Williams. Ton i barti o 12, "Bryniau Canaan," Parti yr East End, o dan arweiniad Mr. William Williams. Her unawd, Mr. John Hughes, City Road, yr hwn a ganodd Arm, Arm, ye Brave." Araeth difyfyr, Mr. Pryce, East End. Diweddwyd cyfarfod blodeuog drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Gwasanaethwyd fel beirniaid gan y Parch Crowle Ellis, Ficer St. Benet, Parch. N. Thomas (Marlais), a Mr. D. Richards, A.R.C.O. Trysorydd, Mr. John Pierce; ysgrif- enydd, Mr. D. Evans. WARDENIAID.—Etholwyd Mr. James Williams (Gwyddfryn) a Mr. D. Jenkins, Shelden Street, yn wardeniad am y flwyddyn, y cyntaf gan y Caplan, a'r ail gan y bobl. EGLWYS ST. BENET.-Nos Iau, igeg cyfisol, cynhaliwyd ymgomwest o dan nawdd Cym- deithas Ddiwylliadol yr eglwys uchod yn neuadd St. Andrew's, Queen Victoria Street, E.C. Dyma'r cyfarfod terfynol o'r tymor. Am 6.30 yr oedd y byrddau wedi eu gosod yn drefnus, a gosodwyd arnynt bob math o fwyd ar gyfer angenion y gwyddfodolion. Tystioliaeth un brawd oedd yn bresenol oedd na phrofodd gystal cwpaned te yn ei fywyd, ac ni wyddai 'chwaith o ble 'roedd y ddeilen wedi d'od i wneyd y te. Yn unol a'u caredigrwydd, rhodd- wyd y wledd uchod gan Mri. Lewis, Holborn a Walworth. Llywyddwyd y cyfarfod amryw- iaethol gan Mr. W. Emlyn Evans (un o warden- iaid ein heglwys). Llanwodd y gadair yn llawn, a chadwodd fywyd trwy'r holl gyfarfod. Awd trwy raglen ddyddorol mewn canu, adrodd, cystadlu, &c. Rhoddodd ein Ficer (Parch. J. Crowle Ellis) anerchiad gwir alluog ar y diwedd, pryd y diolchodd i'r swyddogion am fod mor egniol yn gweithio fel ac i ddwyn y cyfarfodydd ym mlaen yn llwyddianus a dydd- orol. Talwyd gwarogaeth i Mr. Emlyn Edwards am ei weithgarwch diflino fel ysgrifenydd. Yr oedd yr holl gyfarfodydd yn hynod adeiladol a hwyliog, ond coronwyd yr oil gan yr un terfynol, pryd y dyblwyd a threblwyd y cydganau mewn ryw hwyl anghyffredin, a phawb wedi cael bodd- had hollol. Dylaswn ddweyd mae Mr. W. Ilar Edwards a gefnogodd y diolchgarwch, a chyfeil- iwyd yn rhagorol gan Mr. Alun Edwards.—UN OEDD YNO. BORO'.—Cynhaliodd Cymdeithas Lenyddol yr eglwys uchod Eisteddfod lwyddianus i orphen cyfres cyfarfodydd y tymor. Llywyddwyd gan Mr. W. R. Evans, Brixton. Y beirniaid oeddynt Mri. R. Madog Davies, D. J. Lloyd, B.A.; D. Tyssilian Jones, W. Lloyd Owen, W. J. Ray- mond, Mrs. Jones, Lawn Villa; Mrs. Jones, Clapham Road a Mrs. W. Lloyd Owen. Y Trysorydd oedd Mr. Harri Watkins, a'r Ysgrif- enyddion oeddynt Mri. Jenkin Davies ac Arthur Davies. Cafwyd cystadleuaethau rhagorol ar y darnau, ac ennillwyd y gwobrau gan y rhai canlynol:—Miss Nellie Dodson, Mr. John Islwyn Lewis, Mr. Evan W. Davies, Miss Annie Morgan, Miss Rachel Thomas, Miss Gwladus Jenkins, Miss Blodwen Hodges, Miss Gwladus James, Mr. David Jenkins, Miss Harriet Edwards, Mr. D. Tyssilian Jones, Mr. Richard Wood, Miss M. E. Owen, Miss M. M. Wood, Mr. Harri Watkins, Mr. W. R. Watkins, Miss Maggie Parry, Mr. Campbell Jones, Miss Gwladus Wood, Miss Sarah Jenkins, Mr. Samuel Jones, Mr. Charles Davies, Miss Maud Felix, Miss Katie Jenkins, Mr. B. R. Hinds, Mrs. Annie Morgans, Mr. D. James, Mr. Alford Jones, Miss Daisy John, Mr. Arthur Davies, Miss M. John, Mr. John Lewis, Miss Gwladus Edwards, Miss Winnie Edwards, ac eraill. Gwnaeth yr Ysgrifenyddion, Mri. Jenkin Davies ac Arthur Davies, wasanaeth gwerthfawr i'r Gymdeithas drwy y tymor. PRIODAS.—Yn y Boro' dydd Mawrth, Ebrill 17eg, gan y Parch. D. C. Jones, gweinidog, unwyd yng nghwlwm priodas Mr. David Lewis, T14, Lambeth Walk, a Miss Margaret Jane Jones, 151, Vauxhall Walk. Gwas y priodfab oedd Mr. H. D. Thomas, 247, Roman Road, E., a morwyn y briodasferch oedd Miss Margaret Anne Jones, Holloway. Daeth torf o edmyg- wyr a chyfeillion y ddau i'r addoldy i ddangos eu parch a'u dymuniadau da iddynt. Cynhal- iwyd y wledd briodasol mewn gwesdy yn y ddinas lie yr eisteddodd torf i lawr i gyfranogi o'r danteithion. Yn y prydnawn ymadawodd Mr. a Mrs. Lewis i dreulio eu gwyliau priodasol ar lanau y mor yn Essex. Gwened heulwen arnynt dros oes faith megis ar ddydd eu priodas yw dymuniad eu cyfeillion a'u cydnabod oil. DVRCHAFIAD.Mae y Cymro aiddgar a'r cerddor galluog, Mr. D. James (Dewi), wedi ei godi gan Gymdeithas Yswiriol Llundain, Edin- burgh a Glasgow i fod yn Arolygwr Dosbarth Deheuol Llundain. Ei swyddfa yw 186, 'New Cross Road. Brodor o Aberdar yw Mr. James, treuliodd ran o'i dymor yn y Porth, Cwm Rhondda, bu hefyd yn Abertawe a Chaerdydd yn swyddog dan y Gymdeithas uchod. Mae wedi dringo i safle yn gyflym iawn yn y cwmni. Ennilla ei alluoedd, ei ymroddiad, ei gywirdeb, a'i ledneisrwydd, iddo ddylanwad a pharch ym mhob cylch. Dymunir iddo lwyddiant mawr yn ei faes newydd a phwysig. JEWIN NEWYDD.—Dydd Llun y Pasc, am ddeg o'r gloch yn y boreu, unwyd mewn glan briodas yn y capel uchod, Mr. A. W. Owen, Albion Street, King's Cross, a Miss Lizzie Bebb Rees, ail ferch Mr. a Mrs. David Rees, Red Lion Street, Holborn. Rhoddwyd y briodas- ferch ymaith gan ei thad, a gweinyddwyd arni gan ei chwaer, Miss M. G. Rees. Cynhaliwyd breichiau y priodfab gan ei frawd, Mr. Goronwy Owen. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. E. Davies, M.A. Oddifewn a thu allan i'r capel, lie y mae y ddau yn aelodau ffyddlawn, yr oedd nifer luosog o gyfeillion y ddeuddyn hapus wedi ymgasglu i ddymuno yn dda iddynt, ac i'w llongyfarch ar eu huniad. Cynhaliwyd y wledd briodasol yn y Press Restaurant, Fleet Street. Dymuna eu cylch eang o gyfeillion bob hapusrwydd a llwyddiant i'r par ieuanc yn eu bywyd priodasol. GALWAD.—Derbyniodd y Parch. S. B. James yr alwad i fugeilio eglwys Annibynol Waltham- stow. Cymro ydyw, mab i weinidog Cymreig, ac fe gadd yrfa ryfedd. Fe'i dygwyd i fyny ar gyfer y weinidogaeth, ond fe adawodd y coleg duwinyddol gan ymfudo i Canada, lie y bu yn yrwr eidion (cowboy) am chwe' blynedd. Wed'yn bu'n newyddiadura yn Toronto am ysbaid. Pan dorodd rhyfel allan rhwng Spaen a'r America, ymunodd a byddin y Taleithiau, ac yr oedd yn mrwydrau Tampa a Porto Rico. Yna dychwel- odd i Brydain a dechreuodd bregethu. Ar farwolaeth ei dad dewiswyd ef yn weinidog yn ei le yn Wimbledon. Bu ar ol hyny yn Teign- mouth, ac o'r lie hwnw mae'n symud yn awr i Walthamstow. FULHAM.-Boreu Mercher, Ebrill I8fed, bu farw, ar ol byr gystudd, Mary Gwynedd, yn 15 oed, anwyl ferch y diweddar Mr. Owen Lewis Edwards, Town Clerk, Pwllheli, ac wyres i Mr. Robert Jones, Y.H., Aberkin, Wandsworth Bridge Road. Drwg iawn gan eglwys WTalham Green golli un o'i phlant mwyaf hawddgar a siriol, ac yn meddu ar gymeriad mor bur a phrydferth. Boreu Sul diweddaf cynhaliwyd cyfarfod coffadwriaethol i'r plant gan y Parch. Llewellyn Edwards, M.A. Dydd Llun cymerodd y claddedigaeth le yn mynwent Fulham. Gwas- anaethwyd gan y Parchn. F. Knoyle, B.A., a Thomas Jones, Cenhadwr, yn deimladwy iawn. Y galarwyr yn y cerbyd cyntaf oeddynt :—Mr. Robert Jones, Misses Elsie a Winnie Jones, a Nurse Jackson. Ail gerbyd :—Nurse Jones, Mr. Gwilym Jones, Parch. F. Knoyle, B.A. Trydydd cerbyd :—Swyddogion yr eglwys, Mri. Timothy Davies, A.S., John Thomas, Warwick Road; John Jenkins, John Thomas, North End Road: ag Isaac T. Lloyd. Daeth tyrfa luosog ynghyd i ddangos eu parch i un oedd mor hoff gan yr eglwys. Cydymdeimlir yn fawr a Mr. Jones a'i ddwy ferch yn eu colled a'u hiraeth ar ol Gwynedd fach. Buont hwy yn ofalus iawn i'w magu ar ol colli ei rhieni. PROMISING WELSH SINGER.—Welsh vocalists are very prominent in London these days. The Rev. Ceitho Davies, writing from (Pantycelyn), London, where he has been taking part in the Easter Cymanfa of the Calvinistic Metho- dists, says Yet another London Welsh vocalist is in a fair way to earn distinction and bring credit to the Principality. Miss Enid Edwards made her debut the other day in the Metropolis and created an impression which will long linger in the memory of those who heard her. Miss Edwards, who is still in her teens, is the daughter of the late Mrs. David Edwards, better known as Miss Annie Williams, who was for many years one of the most popular of London Welsh vocalists. This gifted singer died at the zenith of her popularity. She was the daughter of Mr. Thomas Williams, of Cardiff, and a sister of Miss Morfydd Williams, conductor of the Morganwg Ladies' Choir. Western Mail.