Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

..Cymru yn y Senedd. Mr. Thomas…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd. Mr. Thomas Richards, Gorllewin Mynwy. DOLUR llygad i'r Saeson sydd wedi ym- sefydlu yn mrodir Gwent ydyw rhoddi sir Fynwy ynglyn a Chymru. Mynant hwy mai yn Lloegr y maent yn byw, ac mai delfrydau Seisnig a ddylai fod yn yr oruchafiaeth yn y sir. Ond hyd yma lief yn llefain yn yr anialwch ydyw eu lief wedi bod. Mae mwyafrif aruthrol o drigolion Mynwy mor Gymreig eu syniadau a'u dyheadau a thrigolion unrhyw un o'r deuddeg sir, ac yn y parth gorllewinol yn llawn mor Gymreig eu hiaith a llawer rhan o For- ganwg. Hen Gartref y Siartiaid. 0 ran eu syniadau gwleidyddol y mae pobl y rhan weithfaol o sir Fynwy, y rhan sy'n cynwys Tredegar, Sirhowy, Rhymni, Cendl, a Chwm Ebbwy, wedi arfer bod yn Rhyddfrydol a Radicalaidd i'r carn. Dyma y rhanbarth y cafodd y Siartiaid fwyaf o afael arno o unrhyw ranbarth o'r deyrnas, ac nid a yr helyntion blin yn y cymoedd hyn yn angof. Tredegar oedd y pencadlys, oddiyno y gorymdeithiodd y Siartiaid i Gasnewydd, lie y bu yr ysgarmes rhyngddynt a'r milwyr, a lie y mae ol y bwledi i'w weled eto. Ond tra y parhaodd yr etholfraint yn eiddo i'r ychydig yr oedd cynrychiolaeth Mynwy yn eiddo i'r Toriaid, a methiant fu pob ymgais i'w diorseddu. Mesur Diwygiadol 1884-mesur rhyddfreiniad y werin-a roes fod i etholaeth Gorllewinol Mynwy, ac yn yr etholaeth r-yffredihol y flwyddyn ar ol hynny dangosodd gweithwyr glo a haiarn y cymoedd mai nid yn ofer y bwriasai y Siartiaid yr had i'r tir. Ethol- wyd Mr. C. M. Warmington, yr ymgeisydd Rhyddfrydol, gyda mwyafrif o dros bum mil, yn wir, cafodd fwy na phum pleidlais am bob un a roddwyd i'w wrthwynebydd. Ni ddaeth neb allan yn ei erbyn yn 1886, ac yr oedd canlyniad etholiad 1892 bron yn hollol yr un peth a'chanlyniad etholiad 1885. Syr William Harcourt. Yn etholiad 1895 collodd Syr William Har- court, arweinydd y Rhyddfrydwyr yn Nhy y Cyffredin, ei sedd dros Derby. Ond ni bu allan yn hir, oblegid ymneillduodd Mr. War- rington er mwyn gwneyd lie iddo, a chafodd Syr William ei ethol gyda mwyafrif aruthrol. Cadwodd Syr William y sedd dros Orllewinbarth Mynwy hyd ei farwolaeth yn 1904. Cynrychiolydd Llafur. Ar farwolaeth yr hen aelod, penderfynodd gweithwyr yr etholaeth ddwyn ymgeisydd i'r maes. a gwelodd y Rhyddfrydwyr ddoethineb y pender- fyniad. Gan fod yr etholaeth bron yn hollol weithfaol, yr oedd pob rheswm yn dweyd y dylasai y cynrychiolydd fod yn un yn meddu profiad Q angenion ac mewn llawn cydymdeimlad a dyheuadau meibion y morthwyl a'r rhaw. Y gwr afabwysiadwyd yn ymgeisydd y ddwyblaid unedig oedd Ysgrifenydd Cyffredinol Cyngrhair Mwnwyr Deheudir Cymru. Er mor erwin y curfeydd a gawsant ar achlysuron blaenorol, mentrodd yr Undebwyr i'r maes "drachefn gyda diffyndollwr yn pleidio Dadgysylltiad. Ond dangosodd yr etholaeth ei bod yr un mor ymlyngar a chynt wrth hen egwyddorion y Siartiaid. Yr oedd mwyafrif yr ymgeisydd Llafur-Rhyddfrydol dros bedair mil a hanner, ac yn yr etholiad diweddaf ni fentrodd neb aflonyddu arno o gwbl. Un o Blant Mynwy ydyw Mr. Thomas Richards. Ganwyd ef yn 1859 yng Nghendl, bron ar y terfyn rhwng Mynwy aBrycheiniog. Gweithiwr oedd ei dad, ac MR. THOMAS RICHARDS, A.S. mewn bwthyn bychan y trigai y teulu, ond bwthyn a wneid gan fam dyner a duwiol yn gartref yn ngwir ystyr y gair. Cafodd addysg gyffredin plentyn gweithiwr yn yr Ysgol Frytanaidd yng Nghendl, a gwnaeth ddefnydd da ohoni. Ond addysg yr aelwyd a adawodd yr argraff ddyfnaf arno, ac a fu y gallu cryfaf yn ffurfiad. ei gymeriad. Pan yn naw mlwydd oed galwyd ef i roddi tystiolaeth mewn llys cyfreithioi, a'r noson cyn iddo fynd i'r llys bu ei fam yn ei rybuddio i ddweyd yr holl wir, ac yn argraffu ar ei feddwl y pwysigrwydd o fod yn ffyddlon i'r gwirionedd hyd yn nod pe syrthiai'r nefoedd. Wedi iddo roddi ei dystiolaeth dywedodd y barnwr ei fod yn credu ei stori yn hollol, ac na phetrusai ddatgan ei fod yn fachgen a arferai ddweyd y gwir. Gadawodd y digwyddiad argraff annileadwy ar feddwl y bachgen, a chydnebydd mai ei ym- gais i ddod i fynu a'r safon a osodasid o'i flaen sy'n cyfrif am ei holl lwyddiant. Yn y Pwll Glo. Pan yn ddeuddeg oed dechreuodd weithio ym Mhwll-y-Gam, am gyflog o hanner coron yn yr wythnos. Symudodd cyn hir i un o byllau Glyn Ebbwy. Ymunodd yn gynnar a'r Eglwys Annibynol Seisnig yng Nghapel Barham, Cendl, a dechreuodd gymeryd rhan yng nghyfarfodydd y Band of Hope a chyfarfodydd dirwestol. Priododd yn un-ar-hugain oed, a pharhaodd i dorri glo am flynyddoedd wedyn. Ond yn 1888 daeth hynny i derfyn mewn ffordd arbenig iawn. Yr oedd yn dychwelyd o'r lofa un prydnawn Sadwrn, ac ar ochr y ffordd gwelai hen gymydog o lowr wedi eistedd i lawr i wylo. Gofynodd iddo beth oedd yn bod, a'r ateb a gafodd ydoedd fod ei gyflog pythefnos ef a'i fab wedi ei atal i dalu dirwyon am droseddu rhyw reolau yn y gwaith. Cyffrodd Thomas Richards drwyddo wrth glywed y stori, a thyngodd yng ngwydd nifer o weithwyr oedd wedi ymgynull i'r lie erbyn hynny, y mynnai wneud i ffwrdd a chyfundrefn greulon y dirwyon oedd yn ysbeilio y gweithwyr yn barhaus o ran fawr o'u hennillion. Ffurfiodd undeb ymhlith y gweithwyr, a phennodwyd ef yn ysgrifenydd iddo. Yn y cymeriad hwnnw daeth i wrthdarawiad a'r meistri, a throwyd ef allan o'r lofa. Yn Oruchwyliwr y Mwnwyr. Ni chaniatai y gweithwyr iddo fynd i geisio gwaith mewn lie arall, ond cadwasant ef yn ysgrifenydd. Pan wrthododd y meistri weled dirprwyaeth y pennodasid ef yn un o honi i drafod rhyw bynciau mewn dadl, safodd y gweithwyr allan, a dywedasant nad aent yn ol i'w gwaith hyd nes y cydnabyddai y meistri eu hysgrifenydd. Allan y buont am saith wythnos, pryd y cyflwynwyd yr ymrafael i ystyriaeth cyflafareddwyr. Dyfarnodd y cyflafaredd- wyr ymhlaid y dynion, ac o blaid i'w hys- grifenydd gael ei le yn ol yn y gwaith. Ond dewiswyd ef yn oruchwyliwr mwnwyr y dosbarth y pryd hwnnw, a chydsyniodd y meistri i'w gydnabod. Felly y terfynodd hanes Thomas Richards yn torri glo. Yn 1891 etholwyd ef gan Adran Mynwy ar Bwyllgor y Lithr-Raddfa, y pwyllgor a reol- eiddiai gyflogau y glowyr drwy yr oil o Ddeheu- dir Cymru. A phan ffurfiwyd Cyngrhair Mwn- wyr Deheudir Cymru yn 1898 etholwyd ef yn ysgrifenydd cyffredinol. Erbyn 1901 yr oedd ei orchwylion wedi chwyddo cymaint fel y bu raid iddo ymneillduo o fod yn oruchwyliwr ym Mynwy, ac ymgyflwyno i'r ysgrifenyddiaeth yn unig. Mae ei fedr a'i ddoethineb yn y swydd bwysig honno wedi bod o wasanaeth amhrisiadwy i lowyr Cymru. Ac y mae eisoes wedi dangosyn Nhy y Cyffredin ei fod yn deilwng o'r anrhydedd uchel a roddwyd arno drwy ei anfon yno.