Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Cymru yn y Senedd.—Mr. J.…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd.—Mr. J. Wynford Philips, Sir Benfro. RHANBARTH dyddorol iawn o Gymru t\ yw sir Benfro. 0 fewn ei therfynau ceir Deufath o Bobl yn preswylio. Diau fod hynny yn wir i fesur an, bobl yr oil o'r siroedd ond eu holrhain yn ddigon pell yn ol. Er cymaint a soniwn am ein gwaed Celtaidd, nid yw yn bur o lawer iawn. Ceir ynddo gymysgedd o waed Iberaidd, Rhufeinig, Sacsonaidd, a. N ormanaidd, er y dichon mai y lliw Celtaidd sydd gryfaf ynddo. Ond yn Mhenfro triga dwy genedl, un yn y rhan ogleddol a'r Hall yn y rhan ddeheuol, neu dde- orllewin, ac er eu bod yn yr un sir, ac yn gorfod gwneyd llawer a'u gilydd o angenrheidrwydd mewn masnach a materion cymdeithasol, nid yw y naill wedi ymgymysgu fawr iawn a'r llall. Siarada y naill bobl Gymraeg a'r bobl arall Saesneg, ac nid yw y Saesneg wedi gorfaelu nemawr ar y Gymraeg, na'r Gymraeg ar y Saesneg er's canrifoedd. Yr enw ar y rhan y siaredir Saesneg ydyw Lloegr fechan tu- hwnt i Gymru "—Little England beyond Wales. Nid yw o fewn cylch yr erthygl hon i holi o ba le y daeth y bobl hyn, a pha beth a'u harwein- ildd i wladychu yn y parth hwn, nac ychwaith i gelslo penderfynu yr achos fod y ddeufath bobl ll1.or annibynol ag ydynt ar eu gilydd.' Ond nis gall y ffaith lai nag effeithio ar fywyd gwleidyddol y sir, a hawdd dychmygu am amgylchiadau a Iliai ei chynrychioli i foddlonrwydd cyffredinol Y11 orchwyl digon annodd i neb ei gyflawni. Talaeth Dyfed. Vr hen enw ar y rhanbarth hwn o Gymru oedd Dyfed, ac y mae i'r dalaeth le amlwg yn anes ein cenedl. Dros y parth hwn y chwifiai aner Rhys ab Tewdwr, yma y mae Mynydd arn, lie yr ymladdwyd un o frwydrau caletaf yr ^nfed-ganrif-ar-ddeg i geisio penderfynu pwy o'r ywysogion Cymreig oedd i fod yn ben. Ond CY11 pen diwedd y ganrif honno yr oedd y orrnaniaid wedi penderfynu y pwnc hwnnw, ac Wedl codi eu cestyll cedyrn i gadw gwyr Dyfed v an dreth. Bu Nest, merch Rhysab Tewdwr, achos o gwerylon politicaidd creulon am &y nod, ac ami frwydr galed a ymladdwyd yn ei nw hi, a thrwy gymhelliad swyn ei phrydferth- Swl • c^areddol. Hanes amrywiol yw hanes ° eidyddol Dyfed gynt, weithiau yn cynorth- ar 11 Cymry yn erbyn y Normaniaid, a phryd p yn helpu y Normaniaid i ddarostwng y naHf^ y mae sir Benfro heddyw, gan Vn 11 ° SaesneS a siaredir mewn rhan ohoni, yn aWn °'r ysbry^ Cymreig, a'i hanes diweddar fv Profi y gall cenedlgarwch a gwladgarwch ^rech na hyd yn oed darddiad hil a BWahaniaeth iaith. Sir Ymneillduol. Ty Ddewi, a'r holl| draddodiadau tiedig ^a'i Eglwys Gadeiriol, ym Mhenfro, sir Ymneillduol yw y sir. Mae Saeson Penfro, er y dywedir mai Fflemingiaid ydynt, yn llawer mwy Ymneillduol na'r Cymry sydd wedi troi'n Saeson ar ororau siroedd y Mwythig a Hen- ffordd. Cyhyd ag y cadwyd y bleidlais yn rhagorfraint yr ychydig, cynrychiolid Penfro, fel y rhan fwyaf o siroedd Cymru, gan Geidwadwr ond pan estynwyd yr etholfraint i'r werin, trodd y llanw i'r cyfeiriad arall. Yn yr etholiad cyntaf ar ol pasio Mesur Diwygiad 1884 ennillodd y diweddar Mr. William Davies y sedd i'r Rhydd- frydwyr gyda mwyafrif o fwy na deuddeg cant. Bu agos iddo ei cholli y flwyddyn ddilynol MR. J. WYNFORD PHILIPS, A.S. oherwydd ei wrthwynebiad i Fesur Ymreolaeth. Syrthiodd y mwyafrif i lawr i gant-ac-un-ar- bymtheg. Ond byth er hyny y mae neith y Rhyddfrydwyr wedi ychwanegu o etholiad i etholiad. Dilynwyd Mr. William Davies fel cynrychiolydd gan ei fab, Mr. W. R. Davies, a phan roes yntau y sedd i fyny yn 1898, oblegid ei bennodi i swydd dan y Llywodraeth yn un o'r Trefedigaethau, etholwyd yr aelod presenol, Mr. J. Wynford Philips. Cafodd fuddugoliaeth fawr y tro cyntaf hwnnw. Yr oedd ei fwyafrif dros 1,600. Dychwelwyd ef yn ddiwrthwynebiad yn 1900 ac yn yr etholiad dri mis yn ol rhoed iddo 5,886 o bleidleisiau ar gyfer 2,606 a roed i'w wrthwynebydd-mwy o dros dair-mil-a-dau-gant-a-hanner. Y mae Mr. Wynford Philips yn hannu o un o hen deuluoedd anrhydeddus Penfro.. Mab hynaf y Parchedig Canon Syr James Erasmus Philips a'r Arglwyddes Philips ydyw. Mae ei dad y 12fed barwnig o'r llinach. Ganwyd ef yn 1860, a derbyniodd. ei addysg yn Felstio a Rhydychen. Trodd ei sylw at wleidyddiaeth yn gynnar yn ei fywyd, a phan yn wyth-ar- hugain oed, yn y flwyddyn 1888, etholwyd ef i Dy y Cyffredin dros Ganolbarth Swydd Lanark, yn Ysgotland. Bu yn dal y sedd honno am bum mlynedd, a phrofodd ei hun yn Rhydd- frydwr trwyadl, ac yn ymladdwr pybyr. Yr oedd yn un o'r tri neu bedwar aelod a ymunasant gyda Mr. Lloyd-George i wrthwynebu Mesur y Degwm yn 1891, a daliasant ati hyd yr eithaf, er i Mr. Gladstone arfer ei holl ddylan- wadi geisio ganddynt ildio. Yn 1893 rhoddodd Mr. Wynford Philips y sedd dros Lanark i fyny oherwydd nad oedd ei iechyd yn gryf, a bod galwadau lliosog eraill arno. Bu allan o Dy y Cyffredin hyd nes yr etholwyd ef dros sir Benfro yn 1898, fel y crybwyllwyd yn barod. Nid oes odid yr un aelod yn y Ty sydd yn fwy poblogaidd gyda'i gyd-aelodau na Mr. Wynford Philips, ac nid oes nemawr un yn fwy ffyddlon i'w ddyledswyddau seneddol nag yw ef. Er cymaint y galwadau sydd arno, y mae bob amser yn ffyddlon yn y Senedd, fel y dengys y division list, ac yn ffyddlon i'r ymddir-, iedaeth y mae ei etholaeth wedi ei gosod ynddo. Ei Fywyd Gartref. Mae gan Mr. Philips ddwy breswylfod ynnr Mhenfro, Lydstep Haven a Rock Castle, a threulia yno gymaint o amser ag a all heb esgeuluso ei ddyledswyddau yn y Senedd a'i ofalon masnachol fel Cadeirydd Cwmni y Buenos Ayres and Pacific Railway. Drwy y blynyddoedd cymer ddyddordeb mawr mewn pobpeth a berthyn i'r sir. Mae yn Gadben Anrhydeddus Meirch-filwyr Ymherodrol Penfro. Ond ei brif hyfrydwch yw amaethyddiaeth, a dyry hynny iddo gymhwysder arbenig i fod yn Aelod Seneddol dros wlad mor amaethyddol a Dyfed, gwlad nad oes ynddi neb bron oddigerth ffermwyr yn trigo. Mae ganddo stud farm yn Penally, a gwyr pawb sim ragoriaethau y metrch a droir allan oddiyno. Ac er ei fod yn hannu o hen deulu pendefigaidd, a'i gyfoeth yn fawr, ni fedd y werin gyfaill mwy trwyadl nag ef, nag Ymneillduaeth Cymru un cynrychiolydd sydd yn fwy selog dros symud ymaith y cwynion y gruddfana o'u plegid. Yr un flwyddyn ag yr etholwyd ef i'r Senedd gyntaf priododd Mr. Wynford Philips gyda Nora, merch ieuangaf y diweddar I. Gerstenberg, Ysw., ac y mae iddynt ddau o feibion. Cymer-. odd Mrs. Wynford Philips ran pur amlwg ym' mywyd gwleidyddol ein gwlad am flynyddau, pan oedd yn Llywydd Cyngrhair Rhyddfrydol Merched Cymru, a chofir gair lawer eto am yr, areithiau hyawdl a draddododd ar lawer llwyfan.