Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

--Y LLOFFT FACH--

News
Cite
Share

Y LLOFFT FACH I [Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD XIX. V Llofft Fach yn son am Sianw a Sidned. 'Slawer dydd, cyn co'r to nesa' at y to sy'n codi, safai ty bychan ryw ddwy filldir odd'ma yn nes i galon y wlad, ar fin yr hewl, ond a'i gefn ati yn anfoneddigaidd i'r eitha'. Fel math o iawn am hyny, yr oedd ffenest' o faintioli eich llaw yn gwynebu i'r hewl, yr hon oedd yn gwneud y ty i ymddangos o'r ochr hono fel dyn naill lygad, a'r llygad hwnw bob amser ar agor, nes gwneud i chwi feddwl am un o'r dynion y clywais y scwl yn son am danynt, oedd a dim ond un llygad ganddynt, a hwnw ar ganol eu talcen. Dyna fel yr edrychai y bwthyn yr wyf yn son am dano i'r teithiwr. a elai heibio, a chaniatau ei fod yn gwel'd y ffenest' o gwbl. Oblegid yr oedd hyny'n dric, gan mor fechan ydoedd. Yn wir, yr oedd rhai yn pasio'r ffordd hono heb wel'd y ty, heb son am y ffenest'. Chwi allwch feddwl felly nad oedd y ty ei hun fawr fwy nag ambell i ffenest' a welsoch mewn tai gwyr mawr. Ond 'doedd neb na dim yn pasio heibio heb fod deubar o lygaid miniog duon yn gwel'd oddifewn, os buasai eu perchen- ogion gartre'. Mam a merch oedd pia rheiny ond yr wyf am ymdroi o gwmpas funud neu ddwy eto cyn myn'd a chwi i mewn i'r ty. Yr ochr arall i'r hewl yr oedd tipyn o godiad tir, ac o ben hwnw chwi welech yr afon odditanoch yn rhedeg yn ddu ac yn ddofn, a choed rhyng- och a hi bob cam i'rgwaelod—coed wedi methu tyfu wrth rwystro eu gilydd i dyfu ac yr oedd swn yr afon o ben y geulan fel swn Anobaith ar ei ffordd i drag'wyddoldeb. Yr oedd cymaint o goed drachefn bob ochr i'r hewl nes gwneud y lie fel y fagddu ar noson ddileuad ac nid rhyw lawer a gaech i fyn'd y ffordd hon yn ddineges wedi iddi d'wllu. Ond yr wyf yn myn'd a chwi heddyw liw dydd gole' glan. Enw'r bwthyn oedd Twll-y-bwbach. Yr oedd y drws yr ochr arall. A'r ochr arall oedd yr haul. Ni welsoch dy siriolach yn y ffrynt, ac nid wyf yn meddwl i chwi wel'd ty mwy oiserch yn ei gefn. Yr oedd un wyneb iddo yn wen i gyd, a'r wyneb arall fel Eden, ar 01 i'r diafol dd'od i fewn a'r dyn fyn'd allan. Y coed oedd yn gwneud y gwahaniaeth i gyd. Fel yr oeddynt yn codi o'r afon yr oedd y coed yn cael mwy o dyfiant, nes d'od yn dewach ac yn dalach erbyn cyraedd yr hewl; ac yno yr oeddynt yn ddigon tew ac yn ddigon tal i guddio'r haul pan fyddai ei dro wedi d'od i d'w'nu tipyn y ffordd hono. Ac oblegid hyny, yr oedd y darn yma yn llaith ar y tywydd sycha', ac yn drymaidd ganol ha'. Ond 'doedd dim coed yr ochr arall. Darn o gae braf yn ym- estyn i droed y bryn gyferbyn, ac yn perthyn i'r tyddyn sydd y tu hwnt iddo, a'r haul yn chware' arno bron drwy'r dydd. Hyny yw, pan fyddai haul i'w gael. Chwi all'sech ddisgwyl blodau yn y ffrynt; a phe b'aswn yn paentio, mi wnaethwn yr ochr yma i'r bwthyn yn flodau i gyd, yn wrthwyneb i'r ochr arall, lie nad oedd dim yn tyfu ond bwyd broga. I fod ar lwybr y gwir, y mae'n rhaid i mi ddweyd nad oedd dim blodau yn y ffrynt o driniaeth dyn, mewn na phriddyn na bocsus na dim. Yr oedd yno beth blodau gwylltion yn codi eu penau rhwng y cerig, ac yn cusanu'r mwswg' oedd ar y wal. Dant y llew oedd rheiny fwya'. Pwy bynag oedd yn byw yno, yr oedd yn anodd i chwi beidio d'od i'r casgliad taw pobl ryfedd oeddynt, a barnu wrth yr allanolion. Mae ffenest' yr ochr yma hefyd, o'r un mesuriad yn union a'r Hall; ac y mae'r ddwy yn dweyd wrthych i'r bwthyn bach gael ei godi pan oedd treth ar y gole'. 'Doedd fawr o dreth ar hwn i fod, oblegid gynted yr agorech y drws, chwi welech yn union nad oedd fawr o ole' oddifewn ac ar ol i chwi gau'r drws lweth, fe gymerai bum' munud i'ch llygaid gyfarwyddo a'r t'w'llwch, a phum' munud arall i chwi wneud allan y ddwy fyddai'n clebran wrthych o'r funud yr aethoch i fewn. Ac mi dd'wedaf wrthych yn awr pwy a pheth oeddynt. Mae adgo' gwan genyf imi ddweyd yn barod taw mam a merch oeddynt. Fel Sianw a Sioned yr adwaenid hwy gan bobl yr ardal. Yr hen wraig oedd Sianw. Ni welsoch ddwy debycach i'w gilydd mewn blwyddyn: yr unig wahaniaeth oedd fod un rai blynyddau yn hyn na'r Hall. Yr oedd y ddwy deneued a rhaca, ac mor wyneblwyd a phe baent yn bwyta gwellt eu gwely. Yr oedd edrych arnynt yn eich argy- hoeddi'n union nad oedd ganddynt nerth corff i'w hebgor i neb, ond yr oedd yr ardalwyr y'mhell ac yn agos yn eitha' siwr fod ganddynt ddigon o gyfrwysdra i'w sbario i haner y plwy', a dweyd y lleia'. Cwynent i'w gilydd y'nghlyw dyeithriaid, ond cwyno iddynt eu hunain a thrin eu gilydd a wnaent gartre', pan y tybient nad oedd neb yn gwrando arnynt. Difyrwch y cryts a'r crotesi wrth fyn'd gartre' o'r cwrdd oedd gwrando wrth ffenest' fach y cefn ar y ddwy yn ffraeo, ac yn galw eu gilydd ar bob enw yn y byd. Ni fyddai rhai henach weith- iau uwchlaw ymuno a'r cryts a'r crotesi; ond pan elai un o honynt at y drws yn ddistaw bach, a churo'n sydyn, darfyddai'r ffraeo mor sydyn a hyny. Ac wedi myn'd i mewn ar ol chware' a'r glicied nes blino, ceid Sioned yn y gwely yn ymyl y tan yn wael iawn, yn rhy wael i siarad a neb; a S'anw yn eistedd ar 'stol deirtroed gyferbyn a'r tan, yn troi rhyw fwyd neu gilydd yn y sospan fach. A dyma fyddai'r 'sgwrs fynycha'. Pwy sy' 'na ? 0 diar 0 diar (Yn codi fyny i 'sbio.) O, ch'i sy' 'na, Beto Siams? 'Steddwch i lawr." (Yn eistedd i lawr ei hun.) "0 be' na I ? Mae Sioned fach ar ben Mi fydd yn gorff cyn y bore'! 'Dydi hi wedi cymeryd dim drwy'r dydd, a ma' hi wedi myn'd yn rhy wan i siarad na sylwi- 'Rydw I'n treio gneud tamed o fara dw'r iddi, ond 'does dim yn aros ar 'i 'stumog hi, druan fach Fydda I fawr amsar ar 'i hoi hi, a ma'n well gen I bod hi'n ca'l myn'd y'nghynta'- (Yn codi'r sospan fach, ac yn ei gosod ar y pentan. Yna'n myn'd at y gwely.) Sioned! Sioned! dyma wraig yr Efel Isha yn edrych am danat ti, merch-i. 0 'dydi hi'n clwad mono I." (Yn ol at y tan.) "A ma'r doctor mor bell." B'le ma' hi'n achwyn fwya' ? gofyna gwraig yr Efel Isha. "Yn 'i brest. Stitch ga'th hi bore' heddy' cyn codi—stitch yn 'i hochor, a mi s'mudodd i'w brest hi "Nage, mam, i 'nghefen I a'th o," daw llais o'r gwely, heb fod yn wan iawn. Nage, i dy frest ti'r a'th o," mor siarp a nodwydd. Y fi sy'n gw'bod ore' Nage, fi"- I 'nghefen I'r a'th o I dy frest ti'r a'th o —— Glywsoch chi'r fath beth erioed, Beto Siams ?" Ond yr oedd Beto Siams wedi myn'd, ar ol gwel'd nad oedd clefyd Sioned i farwolaeth, a bod tafod y ddwy cystal ag erioed. Byw ar y plwy' a begera wnaeth Sianw a Sioned hyd eu bedd, gydag ambell i ffrae fel math o newid. Yr oedd y ddwy yn aelodau yma, mewn enw ond yr unig ddeudro y gwelid hwy yn y cwrdd y'nghwrs blwyddyn oedd ar Sul y Nadolig ac yn y Cwrdd Diolchgarwch. Deuent ar y naill er mwyn y blancedi, ac elent i'r Hall gan feddwl twyllo'r diafol. Anaml y gwelech hwy gyda'u gilydd yn cerdded ar hyd y wlad, ond elai Sianzv un ffordd; a Sianed ffordd arall. Os cwrddech a Sianzv tua brig y nos, yr oedd brys mawr arni i fyn'd yn ol achos 'roedd Sioned mor wael ag y gallse hi byth fod, a byw--a fase hi'n synu dim 'i cha'l hi ar yr astell pan gyrhaeddse hi'r ty Os cwrddech a Sioned yn y diwedydd, yr oedd llawn cymaint o frys arni hithau i fyn'd gartre', os nad mwy achos "'roedd mam y'methu symud o'r fan gan y gwynegon, a hithe a'i phen yn y gwynt drwy'r dydd Ond gofalai Sioned gael y blaen ar ei mam; a phan ddeuai'r hen wraig i'r ty, yn siwr ddigon yr oedd y ferch yn y gwely yn llawn stitches i gyd, a dim ond yr astell yn eisieu i wneud y pictiwr yn berffaith, Y mae newydd dd'od i'm cof i'r ddwy dd'od i rai o gyrddau'r Diwygiad y bum yn son am dano. Nid wyf am wneud cam a hwy. Do, buont mewn dau neu dri o gyrddau'r Diwygiad. Yr wyf yn cofio am danynt yn eistedd ar y ffwrwm acw sydd a'i phen at y drws, ac i dro go drwstan ddigwydd iddynt ar un o'r nosweithiau. b Yr oeddynt wedi bod yn eistedd ar ffwrwm arall y nosweithiau cyntaf; ond yr oedd y Saer rywbryd wedi cael ffit o baentio'r ffyrmau yn wyrdd, ac ar ol dwbio pedair o honynt felly, aeth y ffit heibio, a gadawodd iddynt. Ni byddai ffitiau'r Saer yn para'n hir, ond yr oedd- ynt yn angerddol iawn cy'd ag y dalient. Mae'n debyg i Sianw a Sioned osod eu pwys i lawr ar un o'r ffyrmau gwyrddion y ddwy noson gynta', ac iddynt symud wed'yn i'r ffwrwm yn ymyl y drws. Cyn symud, yr oedd Sianw wedi sibrwd y gyfrinach wrth wraig Clawdd-bach, yr hon oedd yn eistedd nesaf ati nad oedd gwyrdd byth yn cytuno a Sioned, ei fod yn codi'r beil t' arni nes ei gwneud yn "sâl swp." Yr oedd yn ddigon hawdd gan y bobl gredu felly am danynt; oblegid yr oedd Sioned newydd fod yn d'weyd mewn ty ffarm cyfagos, pan oedd -ar un o'i phererindodau, ei bod yn wastad yn cael anwyd os yfai de heb laeth Bid fyno, pan eisteddasant ar y ffwrwm yn ymyl y drws, aeth yn hylabalvv arnynt. Yr oedd y cwrdd wedi cychwyn, ond nid oedd y Llofft Fach yn llawn o gryn dipyn ar y pryd. Yr wyf yn meddwl taw gwas Cefn-crwca oedd yn darllen pan ddaeth Sianzv a Sioned i fewn, ac i Sianzv eistedd yn gynta' ar ben y ffwrwm—y pen nesa' i'r drws. 'Nawr, un o'r ffyrmau lleia' ac ysgafna' ydoedd, a 'doedd neb arall yn eistedd arm ac er nad oedd fawr o bwysau yn yr hen wraig, pan ddododd hyny ar ben y ffwrwm, fe gododd y pen arall i fyny—-collodd Sianw ei chydbwysedd, ac aeth i lawr yn gysurus. Ond i geisio achub ei hun, gafaelodd yn Sioned, a thynodd hono gyda hi; a rywsut neu gilydd, drwy fod y drws yn agored, aeth y ddwy dros y grisiau o'r golwg. Oni bai fod Bili'r go' bach yn d'od i fyny ar y pryd, buasent wedi myn'd i'r gwaelod heb ei bod fawr o ras rhyngddynt. Daethant yn ol yn ddianaf; ond wrth wel'd yr ienctid yn chwerthin allan, a'r rhai hyna' yn treio peidio, pwdasant, ac ni ddaeth yr un o honynt yn agos i'r Llofft Fach wecl'yn ar noson waith. Mae'n ddowt gen I a gafodd neb ryw lawer o fendith yn y cwrdd hwnw. Ar ddydd Calan y cawsech hwy yn eu gogoniant. 0 chwech o'r gloch y bore' hyd ddeg o'r gloch y nos, cerddent ddegau o filldir- oedd ar draws y wlad, o ffermdy i ffermdy, a'u cydau ar eu cefnau, a'r rhai hyny'n myn'd yn drymach bob tro oblegid deubeth am fod rhyw- beth yn cael ei roi ynddynt y'mhob ffarm, ac am fod eu nerth hwythau y'myn'd yn llai ar gyfer y pwysau. Pics oedd y rhoddion gan mwya'. Nid pics cyffredin mo honynt, ond pics o wneuthuriad y ffermwraig ei hun. Dyma "fara gosod" y tymor, a bara dangos" y wlad. Mae cymeriad y wraig dda yn hongian i fesur mwy nag a feddyliech ar gymeriad y pics. Mae'r pics, fel arian y Llywodraeth, y'myn'd i gyrau pella'r plwy'. Rhenir miloedd o honynt ar ddydd Calan; ac yn yr ymgipris yr oedd Sianw a Sioned yn cael cymaint arall ddwy- waith a'r nesaf attynt. Os caent haner peint o dablen neu lon'd pen o "chwys y ci," yr oe'nt mor ddiolchgar ag y gallent fod. Ond yr oedd yr amI ddognau a lyncent ar gylla gwag yn trechu eu natur luddedig ambell dro, ac yn eu glanio yn ffos y clawdd. A byddai'n fore" dranoeth arnynt yn cyrhaedd pen eu taith y prydiau hyny. Rhyw ddiwrnod. daeth "hiwancrei i'r pentre fod Sianw a Sioned ar goll. Yr oedd hyn ganol gaua'. Aed i chwilio am danynt a lanterni, ac aed i lawr i'r coed o dan y ty uwchben yr afon. Ond yn sydyn torodd ysgrech oer ar dawelwch y nos. Cafwyd y ddwy yn crogi wrth yr un gangen yn ymyl y geulan ac aeth gwr Efel Isha yn eu herbyn yn y t'w'llwch. Efe roddodd y 'sgrech. Mae Twll-y-Bwbach wedi myn'd a'i ben iddo er's blynyddau,