Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

News
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. CYMRU RHAGFYR. Dyma rhifyn olaf y flwyddyn o'r misolyn hwn i law, a'r 23ain cyfrol wedi ei cwblhau, ac wrth daflu cipolwg dros y rhestr faith sydd ar yr astell o'm blaen pan yn ysgrifenu, nis gallaf lai na theimlo ein dyled irawr fel cenedl i'r gwr sydd wedi gofalu am roddi y fath gyfres ragorol i ni. Nis gwn a yw Mr. Owen Edwards yn cael y gefnogaeth a haedda, ond anturiaf ddweyd nad oes gormod o ddarllen ar Cymru. Byddai hyn yn beth amhosibl. Y ffaith yw nad oes digon o ddarllen arno, neu ni welid mo'r fath ysbryd gwrthgenedlaethol yn ffynu mor gyffredin yn ein plith fel preswylwyr rhan- barthau gwledig Cymru. Ai tybed fod gweinidogion Cymru yn gwneyd eu dyledswyddau tuag at Mr. Edwards ? Y mae efe byth a hefyd yn sefyll yn gadarn dros y pwlpud a thros arweinyddion crefyd101 Cymru, ond pa nifer wys, o honynt hwy sydd yn ei gefnogi ef drwy geisio lledaenu ei syniadau yn mysg eu deadelloedd? Ofnwn mai nifer lied deneu ydynt. Y mae angen am ddiwygiad yn hyn o fater. Dylai'r bobl hyny sydd yn byw drwy gymorth y Gymraeg wneyd eu goreu er dyrchafu a llesoii Cymreigaeth yn anad neb, ond y gwyn gyffredin yw mai hwynthwy yw y bobl mwyaf anheyrhgar sydd yn ein mysg heddyw. Onid yw naw o bob deg o'n pregethwyr a'n blaenoriaid Cymreig yn dwyn eu plant i fynu yn Saeson rhonc ? Ai dyna'r diolch a ddylent roddi am i'r wlad eu cadw a'u noddi hwy cyhyd ? Y mae yn hen bryd i ni gy- hoeddi rhestr o'r boblach hyn er mwyn i'r wlad weled yn eglur y fath gymeriadau cenediaethol sal sydd yn ein mysg. Nid cwestiwn o fywioliaeth yw cadw y plant mewn anwybod o'n llenyddiaeth eithr rhyw falcher disynwyr sydd yn y pen draw yn milwrio yn erbyn llwyddiant y plant. Y plant bach dwy- ieithog sydd bob amser yn dod yn ddysgedig- ion gwych, ac yn arweinwyr cadarn maes o law, a dyna'r rhai ddylid gefnogi genym hefyd. Y mae dyledswydd arnom i ledaenu cy- hoeddiad cadarn fel Oymru. Ceir erthyglau ynddo yn ymdrin a gwahanol faterion y genedl a dylid ar bob cyfrif noddi pob papyr a geisia gadw yn fyw bethau goreu ein gwlad. Yn y rhifyn olaf ceir digon o amrywiaeth i wneyd y rhifyn yn ddyddorol, yn ogystal ac yn addysgiadol, a hyderwn y caiff yn y flwyddyn newydd lu mawr o gefnogwyr o'r newydd.

Advertising

Byd y -- A ft 1 t' Gan.