Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Oddeutu'r Odinas.

News
Cite
Share

Oddeutu'r Odinas. Ar derfyn blwyddyn arall, dymunwn ddiolch yn gynes i'n llu cefnogwyr; ac wrth gychwyn penod arall yn ein hanes, gadswer i ni ddym- uno i'n dinasyddion oil, FLWYDDYN NEWYDD DDA Ceir adroddiadau am ein cyfarfodydd y Nadolig yn y rhifyn nesaf. Oherwydd trefn- iadau y gwyliau, bu raid dwyn y rhifyn hwn allan rai dyddiau yn gynarach yn yr wythnos. ot • Mae'r Parch. Llewelyn Edwards, Clapham, wedi newid ei breswylfod a'i gyfeiriad o hyn allan fydd "Ardwyn," 5, Trourille Road, Clapham Park, S.W. < I hinsoddau tymherus y Cyfandir a glanau Mor y Canoldir y mae nifer o'n Seneddwyr wedi ffoi ar adeg y Nadolig. 'Roedd eisieu seibiant ar bedwar neu bump o honynt, ond am y gweddill, byddai diwrnod o waith yn amheuthyn i'w meddyliau tawel. < Tua Ynysoedd y Canary yr aeth Mr. Her- bert Lewis, A.S., am ei seibiant ar adeg y Nadolig, a hyderwn y daw y fordaith ag ad- newyddiad i'w iechyd hefyd. Y mae'r aelod pablogaidd wedi bod yn gweithio yn ddyfal ynglyn a'r gwrthwynebiad i'r Mesur Addysg. 0 0 Talwyd compliment arbenig i Mr. Lloyd- George gan y Prifweinidog ar derfyn y Mesur Addysg yn Nhy'r Cyffredin. Wedi anghytuno 3. gwelliantau Ty'r Arglwyddi yr oedd yn rhaid gyru'r Bil yn ei ol o Dy'r Cyffredin, ac o'r pedwar a wnaed yn bwyllgor i osod eu rhesymau i'r Ty uchaf nodwyd Mr. Lloyd- George yn un. Dyna gydnabod talent mewn modd deheuig. Mab ydyw y Parch. E. Griffith-Jones, Bal- ham-awdwr" The Ascent through Christ"— i'r Parch. E. Aeron Jones, Manordeilo, gwein- idog gyda'r Anibynwyr. Mae y mab yn enill poblogrwydd fel awdwr y llyfr a nodwyd, a daw llyfr newydd o'i waith allan yn fuan.- u The Master and His Method." » Bydd amryw o gyfeillion y Parch. G. Parry Williams, M.A., yn llawen wrth glywed ei fod wedi cymeryd gofal eglwys Seisnig Ponty- pridd. Eto, ryw fodd neu gilydd, ni wnaeth yr Hen Gorff eu dyledswydd tuagat wr ieuanc talentog fel efe; ac y mae'n resyn iddynt ei adael i gymeryd gofal eglwys Seisnig, pan y mae angen gwyr galluog o Gymry yn yr eglwysi Cymreig. < Gwyr Cymry Llundain yn dda am Mr. Armon Jones, fel dadganwr, oherwydd ni chaed neb mwy ffyddlon nag ef yn ein cyfar- fodydd cenhadol yn ystod y gauaf y llynedd. Yn ddiweddar, y mae Mr. Jones wedi bod ar daith drwy ranau o'r Iwerddon, gyda Dr. Henry, yr areithydd ac maent wedi cael y fath dderbyniad, fel eu cyfrifir yn ail i Sankey a Moody eu hunain. Da genym glywed hyn am Mr. Jones, gan y gwyddom ei fod a'i holl fryd at fod o wasanaeth er dyrchafu cyflwr ei gyd-ddynion llai ffortunus yn yr hen fyd yma. < -? <t ff Mae Cymdeithas Lenyddol Capel Harecourt (He y gweinidogaetha y Parch. H. Elfet Lewis), newydd gyhoeddi rhestr o'r testynau gogyfer a'r Eisteddfod flynyddol a gynhelir yn y lie ar y I2fed o Chwefror nesaf. Cynygir gwobrau am nifer o unawdau i'r pedwar !kis, i offerynwyr, ac i ddeuawd a phedwarawd, heb son am adroddiadau a man gystadleu- aethau ereill. Mae'r cynulliadau hyn, er yn Saesneg, yn atdyniad mawr i'r cylch, a diau y ceir cystal cwrdd eleni ag yn y tymhorau blaenorol. Ynglyn a'r eglwys Fethodistaidd yn Totten- ham, y mae'r cyfeillion yno wedi trefnu i gynhal y cyngherdd a'r cwrdd te blynyddol nos Wener nesaf, yr ail ddydd o'r flwyddyn newydd. Cynhelir y cwrdd yn y Red House, High Road, Tottenham. Dechreuir gyda'r A te am 6.30, ac eir at y gan arol 7.30 o'r gloch. < < Cynhaliwyd cyngherdd nodedig o dda yng nghapel yr Anibynwyr, Sibley Grove, East Ham, nos lau, Rhagfyr IIeg, pryd y cymer- wyd y gadair gan Mr. J. Owen Jones, banc, Manor Park. Cymerwyd rhan gan y per- sonau canlynol :-Mr. a Mrs. D. Egryn Owen, Mr. Jones a Miss Nellie Jones, Barrett's Grove; Mri. Harris, Watkin, Edwards a Jones, Boro Mr. Hulett (crythor) a Mr. David Evans. Cafwyd cyngherdd a cynull- iad tuhwnt i bob disgwyliad, a chanmoliaeth gyffredinol i'r gweithrediadau. Yr oedd y llwyfan wedi ei addurno yn hardd a gwahanol flodau a choed, a phobpeth yn myned ymlaen yn hwylus yn Haw y cadeirydd medrus. Yr oedd gweled cyfeillion o'r gwahanol eglwysi yn y ddinas, wedi dod i roddi eu presenoldeb, yn galondid mawr i'r cyfeillion yn East Ham, sydd mor weithgar gyda'r achos da. < Ar gynygiad y Parch. L1. Bowyer, yn cael ei eilio gln Mr. Jenkins, pasiwyd diolchgar- wch gwresog i'r cadeirydd am lywyddu, ac i'r cyfeillion am eu parodrwydd yn rhoddi eu gwasanaeth i gynorthwyo yr achos yn y lie. Canodd u 1 ar ffurf englyn i'r cadeirydd gweithgar, fel hyn: Gwr hynaws, yma geir heno-ellir Mo'i well i gadeirio Treiddier y byd 'ma trwyddo, Ni cheir ei ffyddlonach o. < Sicr y bydd yn syndod, ac yn chwith gan lawer o'r dinasyddion glywed am farwolaeth sydyn ein hen gyfaill Mr. Williams (gynt o Church Street, Remington, ond yn awr o Goginan, ger Aberystwyth). B1 Mr. Williams yn un o Gymry Llundain am flynyddau meith- ion, ac yr oedd bob amser yn ui twymgalon a pharod yn 01 ei allu i gynorthwyo yr anghen- us a phob achos da. Bu yn aelod ffyddlon a gweithgar gyda'r Hen Gorph yn Crosby Row, ac wedi hyny yn Falmouth Roa i; ac, er wedi ein gadael er's rhai blynyddau bsll- ach, am dawelwch y wlad, eto, cymerai ddyddordeb mawr yn mhob mudiad o'n heiddo fel Cymry. Talodd ymweliadau yn ystod yr haf diweddaf a ni, a chwith ydyw meddwl mai dyna'r tro olaf. Cafodd gyrhaedd oedran teg o bymtheng mlwydd a thrigain; er hyny i gyd, anhawdd iawn ydyw gollwng ein gafael a thori cysylltiadau agos. Claddwyd ef yn mynwent Capel y M.C. Dyffryn Goginan, a daeth llu mawr o gyfeillion a pherthynasau ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'w wedd- illion. Cwsg weithian, Dafydd anwyl, yn dawal yn y pridd Hyd ddydd yr adgyfodiad, pan ddaw y meirw'n rhydd Hen elyn ma.wr dynoliaeth a gadd dy ben i lawr- Er hyn cei godi'n ddiogel, ar doriad boreu'r wawr. <t Dydd Saboth, Rhagfyr 7, bu cyfrifwyr ar ran y Daily News yn rhifo nifer addolwyr ardal Paddington. Dyma'r ffigyrau Cymreig yn y cylch :— EGLWYS DEWI SANT, PADDINGTON. Boreu: Gwyr 15, gwragedd 18, plant 2. Cyfanrif 35. Hwyr: Gwyr 52, gwragedd 64, plant 6. Cyfanrif 122. Cyfanrif am y dydd 157. CAPEL SHIRLAND ROAD. Boreu: Gwyr 28, gwragedd 34, plant S. Cyfanrif 70. Hwyr: Gwyr 79, gwragedd 104, plant 15. Cyfanrif 198. Cyfanrif am y dydd, 268. W <t <tt Mae cymdeithas fywiog gan wyr Manaw yn Llundain; a'r wythnos hon penderfynasant i sicrhau gwasanaeth Hall Caine i roddi an- erchiad arbenig iddynt un o'r dyddiau cynar yn y flwyddyn newydd. Credir yn gyffredin mai rhwng y Parchn. R. J. Cambell o Brighton a Jowett o Bir- mingham, y bydd yr ymdrech am lenwi pwlpud y City Temple, fel olynydd i'r enwog Ddr Parker. Hwynthwy ydynt ddau wr blaenaf yr Anibynwyr Seisnig, ac i le o'r fath rhaid cael y goreu.

Y "GENINEN" AM Y FLWYDDYN…

[No title]