Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

UNDEB Y DDRAIG GOCH.

News
Cite
Share

UNDEB Y DDRAIG GOCH. Gwlad y Cymdeithasau a'r Undebau yw Cymru, ac wele "Undeb" arall wedi ei hychwanegu at y nifer. 0 ba le y tarddodd, nis gwyddom yn sicr, ac y mae ei chenhad- aeth hyd yn hyn yn beth nas gellir ei iawn ddeffinio cs dygir unrhyw fath o gysondeb i ymdrin a'r raanylion. Dywedir gan yr hyr- wyddwyr mai Cymdeithas Gymreig yw, ond y mae'n resyn mai Saeson sydd fwyaf blaenllaw gyda'r gwaith yn y cyfarfodydd cyhoeddus, ac hyd yma mae mwy o Saesneg wedi ei siarad ynglyn a hi na'r cyffredin o Gym- deithasau nas honant fod o les arbenig i iaith ein gwlad. Hysbysir ni fod i Undeb y Ddraig Goch y tri amcan arbenig a ganlyn (I) Cefnogi siarad Cymraeg yng nghartreti ein gwlad. (2) Adfywio efrydiaeth o ganu'r delyn. (3) Meithrin chwaeth at wisgo dillad Cym- reig. Felly gwelir fod yr amcanion yn ddigon da mor bell ag y maent yn myned, ond yn sicr y mae yna rywbeth pw)sicach mewn bywyd na gwisgo, clos penlin a chwareu telyn fel ag a awgrymir yn y ddwy reol olaf, a chredwn y bydd raid wrth rywbeth mwy sylweddol na hyn cyn y gorfoda'r Gymdeithas i Gymry ieuainc ein gwlad eu derbyn gyda chalon agored a chyda'r brwdfrydedd a haedda. Ychydig ddiwrnodau yn ol, caed cynhadledd o'r aelodau yn Aberystwyth, o dan lywydd- iaeth y Prif-athraw Roberts, ac ar y Uwyfan wedi eu dilladu mewn gwisgoedd Cymreig oedd yr Anrhydeddus William Glosson o'r Ynys Werdd, ynglyn a'r ysgrifenyddes, Miss Mailt Williams a'i brawd. Yr oedd yno hefyd amryw wyr blaenaf ein gwlad yn bresenol. Wrth agor y gweithrediadau, dywedodd y Prif-athraw Roberts fod amcanion y Gym- deithas yn syml iawn. Y prif amcan oedd cefnogi siarad Cymraeg yn y eartrefi. Yr oedd gwaith y gymdeithas yn wahanol i Gym- deithas yr Iaith Gymraeg, yn gymaint ag mai amcan yr olaf oedd sicrhau i astudiaeth o'r Gymraeg y lie priodol yn ysgolion y wlad, Nid oedd yn un ddadl yn erbyn ffurfiad y gymdeithas i ddweyd nad oedd yn gorchuddio yr holl dir, oblegyd cyhyd ag y byddai ei gwaeth yn sylfaenedig ar egwyddor uniawn byddai ei hymdrechion o werth. Darllenodd lythyr oddiwrth yr Anrhyd. Mrs. Bulkeley Owen, yr hon a ofidiai fod y boneddigion Cymreig wedi anghofio eu hiaith eu hunain. Dywedai hi fod yn mryd y gymdeithas gynyg gwobrwyon am gylch-ddarllen cartrefol, ac am ganu telyn, a chrybwyllai nad oedd lie yr hen delynor mewn gwesty adnabyddus yn Llangollen wedi ei lanw. Buasai hi yn caru clywed ychwaneg o alawon cenedlaethol, ar lafar a thant, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a therfynai drwy ddatgan ei hargyhoeddiad gyda golwg ar brydferthwch a pharhad b! ethyn a chynesrwydd y wlanen Gymreig. Traddodwyd anerchiadau gan Archddiacon Meirionydd, yr Anrh. William Gibson, a Father Jones. Dywedodd Mr. Gibson fod y Gaelic yn cael ei dysgu yn awr gan Wyddelod yn Llundain a'r trefi Seisnig, a thalai y Llywodraeth am ei dysgu yn Manchester. Ar gynygiad y Parch. W. Morris, ac eiliad y Proff. Edwards, cytunwyd i sefydlu cangnen yn Aberystwyth, a phenodwyd pwyllgor i'r pwrpas.

MARWOLAETH " Y GYMRAES 0 GANAAN."

- GohebSaethaua

[No title]

Barddoniaeth.