Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
Great Western & Metropolitan Dairies. LIMITED, With which are amalgamated the Great Western Farm Dairies Company. Ltd. And the Metropolitan and Suburban Milk Supply Association, Limited. J. P. HODDINOTT") WILLIAM PRICE > Managing Directors. J. HOPKINS ) Head Offioe- 9, Harrow Road, Paddington Branch Office- 169, WALMER ROAD, NOTTING HILL, and at G.W.R., PADDINGTON, L. & N.W.R., KILBURN and EUSTON; G.C.R., MARYLEBONE Analyst: Professor A. W. STOKES, F.I.C., F. This Company is in a position to supply Dairymen in any part of London with first-class Dairies well- cooled Milk in large or small quantities at reasonable prices. Wholesale Vans to all Parts of London and Suburbs twice daily. For a SUPPLY of GUARANTEED PURE MILK apply as above. Telephone- No. 229 Paddington and No. 199 Paddington. Telegraphio Address-" Farmership, London." THE DENTAL INSTITUTE 168, UPPER STREET, ISLINGTON, (Corner of Barnsbury Street). Principal Mr. H. OSBORN HUGHES. HIGH-CLASS ARTIFICIAL TEETH AT STEICTLY MODERATE FEES. The most modern and scientific researches in English and American methods by skilled operator (late manager of one of the laiges practices in London). CONSULTATIONS FREE. HOURS 10 TILL 8.30 And by Appointment. Dymuna Mr. HUGHES, y perchenog, roddi ar ddeal i'w gyd-genedl y bydd yn ofalus. i arolygu yn bersonol bob gwaith a ymgymerir yn y lie. MR. MADOC DAVIES, A.R C.M GIVES LESSONS IN Voice Production and Solo Singing ADDRESS— 156, PRINCE OF WALES ROAD, HAVERSTOCK HILL GRELLIER & SON Welsh Printers, 211, GRAY'S INN ROAD, W-C A Large Staff always ready for all Classes of Work. Cor Meibion Gwalia. Y mae'r Cor uchod yn adnabyddus i'r mwyafrif o'n cydwladwyr yn Llundain bellach, ac wedi lloni ami i gynulleidfa o bryd i bryd. Fel y gwyddis, Mr. Madoc Davies sydd wedi bod yn ei arwain ar hyd yr amser, ac y mae wedi llafurio yn galed iawn ynglyn ag ef; a chan ei fod yn awr yn rhoddi yr arwein- yddiaeth i fyny, y mae'r aelodau wedi penderfynu gwneyd cydnabydd- iaeth iddo, am ei wasanaeth gwerth- fawr, drwy drefnu i gynhal CYNGHERDD MAWREDDOG AB NOS FERCHER, Ionawr 21 ain, 1903 YN YR Holborn Town Hall Cadeirydd- JOHN HINDS, Ysw. Gwasanaethir gan y rhai canlynol— Soprano— MISSIGERTRUDE HUGHES R.A.M. Contralto- MISS L. TEIFY DAVIES R.A.M. Tenor— MR. GWILYM RICHARDS R.A.M. Bass- MR. MADOC DAVIES A.R.C.M. Cello- MR. R. PURCELL JONES (Welsh Celloist) A.R.C.M. Adroddes— MRS. TUDOR RHYS A CHAN GOR MEIBION GWALIA. Arweinydd-Mr. RICHARD GRIFFITHS Cyfeilydd- MR. MERLIN MORGAN Drysau yn agored 7.30, Cyngherdd yn dechreu 8. Tocynau, 5/ 3/ 2/ a 1/-
Byd y -- A ft 1 t' Gan.
Byd y A ft 1 t' Gan. Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] MR. GREGORY KEAN. Daethum, yn ddi- weddar, o hyd i ysgrif o waith y cyfaill hwn ar Dafydd Jenkin Morgan," sydd yn werth ei dodi yn y CELT, gan mor ddyddorol ydyw. Y mae hanes ein hen gerddorion yn werth ei drysori; a dylem barchu enw y rhai fuant yn ceisio dysgu A B 0 cerddoriaeth i'n cyn- dadau. Cyn dyfynu, darllenasom am Mr. Kean, ei fod wedi arwain cor plant Castelinewydd Emlyn i fuddugoliaeth lawer tro a da genym ei fod yn awr yn Llundain ac mor ffyddon fel aelod o bwyllgor yr Wyl Gerddorol Gymreig. DAFYDD JENKIN MORGAN (Awdwr y don Teyrnasa Iesu Miwr &c). Dyma enw a fu yn enwog trwy Gymru ac a barablid ar aelwydydd ein gwlad ddiwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu y ganrif hon. Nid wyf yn gwybod ond ychydig o'i hanes, ond rhoddaf ychydig hyny i'n darHenwyr. Cafodd ei eni yn Llangranog, a Mrs. Thomas, Emlyn Castle, Castelinewydd, yn awr biau y man lie gwelodd oleuni dydd gyntaf. Yr oedd yn ddyn cadarn, o gorph iach, ac yn meddu ar lais cryf fel canwr. Cyfansoddodd luaws o donau ac anthemau, ond mai yr un benaf o'i eiddo ydyw Teyrnasa, Iesu mawr," a geir yn y Caniedydd." Cysegrodd ei oes i ddysgu pobl i ganu, a geiwld am ei wasanaeth trwy bob rhan o Gymru. Arferai gadw y Sol," fel ei gelwid gynt, yn y capel, y tai, a'r ys- guboriau a meddyliaf mai cerdded a wnai i bob man. Clywais dadcu Mr. Emlyn Evans, Cemaes, Mont yn adrodd am dano un tro yn sir Fon. Nid oedd y pedwar llais yn arferedig yr adeg hono. Yroedd yn dysgu bass rhyw d6n i fab fferm ym mhen isaf y ty, a phan oedd Dafydd Jenkin Morgan a'r mab yn rhedeg y nodau ac yn chwyrnu ar lawr, daeth y gwas i fewn, a safodd yn syn i wrando, gan ofyn i'w feistr beth oedd yn bod. Atebwyd ef mai Dafydd Jenkin Morgan oedd yn dysgu bass i John. Dyma hi ebai y gwas, a chan- odd y penill hwn— Mae Dafydd Jenkin Morgan Yn canu tiwn ei hunan, A'r ysbryd drwg yn nghil ei foch Yn gwneyd i'r moch i drotian." Anhawdd dyweyd faint o ddaioni wnaeth y gwr hwn i Gymru o dan lawer o anfanteision. Clywais yr anfarwol Tanymarian, mewn cym- anfa ganu yn Llechryd, rhyw bedair mlynedd ar ddeg yn ol, yn dyweyd y rhoddai efe ddarlith yn rhad er mwyn cael elw i roddi maen ar ei fedd i ddangos y fan lie gorwedda y gwr enwog, yn hen fynwent Llangoedmor; a digon tebyg, pe b'ai yr anwyl Tanymarian wedi cael byw hyd heddyw, y buasai maen ar Dafydd Jenkin Morgan. Rhoddodg ei enw yn destyn araeth ddifyfyr un tro yn Eistedd- fod Aberportb, gan feddwl cael ychydig o'i hanes ei bun, ond ni wyddai yr un o'r cystad- leuwyr ddim o'i hanes: gwyr glo Morganwg oeddent. Yn sicr, y mae hwn yn haeddu cof- golofn genedlaethol. Y mae Cymru ymhell ar ol pob cenedl yn y mater o anrhydeddu ei chymwynaswyr. Gwelais ar barwydydd y Palas Gwydr enwau Handel, Mozart, Bach a Beethoven, a fuont yn ser dysglaer yn ffurfafen eu hoes gwelais enwau beirdd a cherddorion wedi eu gosod i fyny ar babellau Eisteddfodau Cymru, ond, hyd yma, ni welais enw Dafydd Jenkin Morgan ar yr un o honynt, tonau ac anthemau yr hwn a genir gyda hwyl, ac a genir gan gynulleidfaoedd y saint tra siaredir y Gymraeg yn ein gwlad, er fod corph yr awdwr wedi malurio yn y bedd.