Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PRAWF DIC SION DAFYDD.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PRAWF DIC SION DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YR ANBHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER. CLIEBC Y LLYS. COPEESTBYDD Y BAENWE. Mr. Oryno. | Mr. Digyffro. GWAS Y BABNWE. Mr. Clir-ei-lais. DADLEUWYR. DBOS YR ERLYNIAD. I DRos Y CARCHAROR. Mr. Gwladgarwr. Mr. Uchelgais. TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Masnach. Mr. Lien Cymru. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Crefydd Cymru carcharor. (gwraig Mr. Lien). Miss Balchder, merch y Miss AddysgCymru,merch carcharor. Mr. Lien. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfam. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog. l GAECHABOB. Drc SION DAFYDD. RHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr. Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr. Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar. (Parhad). Mr. Uchelgais. Mr. Codi-yn-y-byd Mr. Clir-ei-lais. Mr. Codi-yn-y-byd TYST II. Mr. U. Mab y carcharor ydych chwi ? Mr. 0. Ie, syr, ei fab hynaf. Mr. U. Ac yr ydych yn adnabod yr er- lynydd ? Mr. C. 0 ran ei wel'd, yn unig. 'Dyw e' a finau ddim yn troi yn yr un dosbarth cym- deithasol. Mr. U. A wyddoch chwi os yw eich tad ac yntau yn gyfeillgar a'u gilydd? Mr. C. Gwn nac ydynt er's blynyddau lawer. Mae fy nhad a'i deulu yn gyfeillgar iawn a Mr. Saesneg, ac nid yw Mr. Saesneg a'r erlynydd yn gallu cydfyw am foment. Mr. U. A glywsoch chwi'ch tad yn siarad &'r erlynydd yn ddiweddar ? Mr. C. Do ychydig cyn yr amgylchiad hwn. Clywais yr erlynydd yn difrio nhad am ei fod wedi fy nysgu i i beidio sylwi ar yr erlynydd, a dywedodd hefyd fod fy nhad yn ddirmyg i bob dyn meddylgar ac yn warad- wydd i'r wlad a'i magodd. Mr. U. Rhywbeth ymhellach? Mr. C. Dywedodd lawer yn rhagor, ond mae yn siarad y fath dafodiaith isel a Ilyg- redig fel nas deallwn y cyfan ddywedodd. [Mr. Uchelgais yn eistedd.] Mr. Gwladgarwr. 'Doeddech chwi ddim yn deall yr oil ddywedai'r erlynydd wrth eich tad? Mr. C. Dim yr oil. Mr. G. Ond deallech beth ddywedai'ch tad? Mr. C. Gwnawn. Mr. G. Beth ddywedodd ? Mr. C. 0, dim o bwys. Mr. G. 'Nawr, syr, atebwcb fy ngwestiwn, a gwnawn ninau benderfynu p'un a oedd o bwys ai peidio. Beth ddywedodd ? Mr. C. 0, dywedodd wrtho mai gwell fyddai iddo beidio dangos ei big yn yr Eis- teddfod nac yn un lie arall lie yr oedd gwyr b'nddigion yn cydgwrdd. Mr. G. Rhywbetb yn rhagor ? Mr. C. 'Rwy'n meddwl iddo ddyweyd hefyd y gwnae efe a'i deulu oroesi'r er- lynydd. Mr. G. 'Dywedasoch fod Mr. Saesneg a'r erlynydd yn methu cydfyw. A wyddoch chwi eu bod wedi cydfyw mewn llawer man am flynyddau ? Mr. C. Na wyddwn. Mr. G. A glywsoch chwi'r erlynydd erioed yn dyweyd gair yn erbyn Mr. Saesneg ? Mi. C. Naddo, ddim fy hunan. [Mr. G. yn eistedd .J Mr. Uchelgais. Ond nid ydych chwi'n gyf- arwydd iawn a'r erlynydd ? Mr. C. 0, nac ydwyf. Mr. U. Gyda golwg ar beth ddigwyddcdd rhwng eich tad a'r erlynydd,—yr oeddent bob amser yn ffraeo a'u gilydd ? Mr. C. Oeddent, bob tro y cwrddent yr o'ent mcr grots a fhi a hwth (chwerthin). [Mr. Codi-yn-y-byd yn ymneillduo.] Mr. Uchelgais. Miss Balchder Mr. Clir-ei-lais. Miss Balchder! Miss Balchder I TYST III. Mr. Uchelgais. Merch y carcharor ych chwi, Miss Balchder ? Miss Balchder. Fi mo'yn rhoi evidence yn Sasneg, if you please. Y Barnwr. Gwnewch eich goreu yn Gym- raeg, Miss Balchder, ac cs methvuch, bid siwr cewch droi at y Saesneg. Mr. Gwladgarwr. 'Rwy'n ymgymeryd na wnaf fi ofyn llawer o gwesti)nau i'r ferch ieu- anc. Mr. Uchelgais. Yr ych yn adnabod yr erlynynydd ? Miss Balchder. Fi'n nabod fe ? Oh, Mo The idea Mr. U. 0 ran ei we!'d ? Miss B. Fi wedi gwel'd e' ar y street sometimes Mr. U. Glywsoch chi e'n siarad a'ch tad ? Miss B. Do fi wedi clywed yr hen blackguard now and then yn siarad a papa. Oh, he is a most dreadful man! Mr. U. Ar ba delerau oeddynt ? Miss B. Fe'n blagardo papa everytime they met, and he had the impudence to say the other day that I was worse than my dear papa. [Mr. Uchelgais yn eistedd i lawr mewn anobaithj Mr. Gwladgarwr. A beth atebodd eieh tad? Miss B. Oh, my papa gave him a bit of his mind, and so did I I The idea that an old frump like that should dare talk to me Mr. G. 'Rwy'n gwel'd, Miss Balchder, nag ych chwi ddim yn hoff o'r erlynydd ? Miss B. Fi ? How ridiculous I despise him 1 Mr. G. Ond yr ych yn tosturio wrtho oherwydd iddo gyfarfod a damwain ? Miss B. Not I, indeed Serve the old frump right ? What business has he to run down papa and me to everybody ? The sooner he dies or gets locked up for life in a library the better for him and the country, too I [Mr. Gwladgarwr yn eistedd.] Mr. Uchelgais. Mr. Rhith-gwareiddiad Mr. Clir-ei-lais. Mr. Rhith-gwareiddiad I TYST IV. Mr. Uchelgais. Mr. Rhith-gwareiddiad, clywsom eich bod yn haner-brawd i Mr. Gwareiddiad. Mr. R. Ydwyf: ond dymunwn ddyweyd, er ei fod ef yn ychydig yn henach na myfi, mai fi sydd wedi etifeddu mwyaf o dir. Mr. U. Yr ych yn adnabod y carcharor ? Mr. R. Ydwyf: efe yw fy nghyfaill agosaf yn y parth hwn o'r byd. Yn wir, gallaf ym- ddiried fy holl fuddianau iddo yn eithaf diogel. Mr, U. A beth am yr erlynydd ? Mr. R. Adwaenaf yntau hefyd, er nad ydym yn rhyw lawer o gyfeillion. Mr. U. A pha fath ddyn yw ef o ran ei dymher ? Mr. R. Gwr poeth, sarug, cul-feddw], rhagfarnllyd, a dialgar y gwelais i ef erioed. Mae yn llawn nwydau drwg, bob amser yn barod i feddwl yn isel am ei well, ac i ffraeo a phawb na welant lygad yn llygad ag efe. Mr. U. A glywsoch chwi ef yn siarad erioed am y carcharor ? Mr. R. Do: lawer gwaith, a phob amser yn yr ysbryd gwaethaf. Dirmygai ef oher- wydd ei fod yn codi yn y byd, a mell- dithiai ef am iddo fy nwyn i i Gymru. Dy- wededd, nid urwaith na chanwaith, mei fi a'r carcharor cedd gyfrifol am y gau ddybenicn, y chwareuon isel, y diffyg chwaeth, yr iaith sathredig, yr arferion penchwiban, ie, ac hyd yn oed y troseddau anfad sydd yn ncdweddu trigolion rhai parthau o Gymru. Mr. U. A ydych yn cofio un adeg yn neillduol ? Mr. R. Cofus genyf i'r carcharor a minauc ei gyfarfcd ar ddiwedd yr haf eleni ychydig ar ol i'r Barnwn Gwilym Williams draethu ei feddwl ar ddylanwad Cymdeithasau'r Cym- mrodorion ar fcesau gwerin Morganwg. Bygythicdd y carcharor a finau mewn modd arswydus, a diweddodd drwy ddywedyd pe's gellid ein difetha ni ein dau, y byddai Cymru yn Hen wlad y IT enyg gwynion." Mr. U. A oedd ef mewn difrif ar y pryd, neu yn cellwair ? Mr. R. Yn ceUwair ? WeJ, os gwelais i murder yn llygad neb yr oedd yn llygad yr erlynydd y pryd hwnw. Mr. U. Pa bryd yn yr haf y digwyddodd hyn ? Mr. R. Tua diwedd mis Awst. r. U. Felly, ychydig cyn yr helynt hwn ? Mr. R. le'n siwr. [Mr. Uchelgais yn eistedd.] Mr. Gwladgarwr. 'Dych chwi a'r erlynydd ddim yn gyfeillion ? Mr. R. Nac ydym, diolch i'r nef I Mr. G. Ac nid ydych chwaith yn ffryndiatt a'ch brawd, Mr. Gwareiddiad? Mr. R. 0, 'rwyf fi'n ffond iawn 0 hono efy ond mae ef wedi cenfigenu wrthyf am fy mod yn fwy poblogaidd nag ef. Mr. G. Ac ai nid yw'n wir eich bod yn ceisio dirgymhell pobl mai Mr. Gwareiddiad ydych chwi ? Mr. R. 'Does dim eisieu i fi eu dirgym- hell. Mr. G. (yn sarug). 'Nawr syr, atebwch y cwestiwn, a chewch areithio wedyn. Mr. R. Na, ni wnes erioed. Mr. G. 'Nawr, syr, cofiwch eich bod ar eich llw. Ai ni fuoch yn cymeryd arnoch mai, Gwareiddiad oedd eich enw ? Mr. R. Do: ond— Mr. G. Ac ai ni wnaeth eich brawd eich gorfodi i alw eich hunan wrth eich iawn. enw ? Mr. R. Do. Mr. G. Wel, syr, ffordd y dywedwch n& cheisioch ddirgymhell pobl mai chwi oedd Mr. Gwareiddiad ? [Mr. R. yn methu ateb.] Mr. G. Dim ateb? Wel, awn ymlaen, Yr ydych yn cashau Mr. Cymraeg ? Mr. R. Ydwyf: efe yw'r dyhiryn gwaelaf yn y wlad. Mr. G. Ac yr ydych wedi bygwth ei Jadd, pe caech gyfle ? Mr. R. Gwnawn un peth a allwn- Mr. G. Da chwi, syr, treiwch gadw eich: meddwl ar fy ngwestiwn. A wnaethoch fyg- wth ei ladd pe gallech ? Mr. R. Do a byddai'n fendith i'r wlad a'r genedl pe'i symudid ef allan o'r ffordd. Mr. G. (dan wenu ar y rheithwyr). Fe wet y rheithwyr 'nawr faint o ymddiriedaeth i, osod ar eich tystiolaeth chwi yn y mater hwn. [Mr. Gwladgarwr yn eistedd.J Mr. Uchelgais. Mr. Rhith-gwareiddiad. Er eich bod yn cashau'r erlynydd, a ydycb wedi dyweyd un gair o anwiredd ar eich llw heddyw ? Mr. R. Dim gair. [Mr R. yn ymneillduo.] (I'w barhau.)

[No title]