Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CYNGHERDD DEWI SANT.

News
Cite
Share

CYNGHERDD DEWI SANT. GWYL GERDDOROL YN Y QUEEN'S HALL. CYSTADLEUAETH GORAWL. Y SAESON ETO AR Y BLAEN. 'Does dim fel cystadleuaeth gorawl, wedi'r cyfan, am dynu cynulleidfa. Yr oedd y cyfeillion ynglyn ag Eglwys Dewi Sant, Paddington Green, wedi trefnu rhaglen rag- orol o ganu erbyn y cyngherdd mawr a gaed yn y Queen's Hall y nos lauolafoDachwedd ond er mor ddeniadol ydoedd, rhaid addef mai'r corau a dynasant y torfeydd. Y mae'r un cynllun eisoes wedi ei fabwys- iadu ar raddfa llai yn ein man gyngherddau, lie y ceir yr her-unawd am y cwpan neu'r bathodyn goreu; ond ni wna'i her-unawd mo'r tro i Queen's Hall-rhaid wrth gorau yno, a chystadleuaeth gampus a gaed hefyd ar y darnau a drefnwyd gan y pwyllgor. Y mae genym ein heisteddfod fawr yn gynar yn y flwyddyn newydd a'n cyngherdd mawr yn gynar ym Mawrth; ond llwyddodd pobl weithgar Paddington i gael uniad hapus o'r ddau, yr hyn a droes allan yn llwyddiant campus, a diau y cedwir am dipyn at y dull yma o gyfarfod blynyddol. Am y cyngherdd, yr oedd yn un da iawn; a phaham lai ? onid oedd yno restr gampus o'r unawdwyr goreu wedi eu sicrhau ? ac yn ychwanegol at hyny, yr oedd y cyfan o dan nawddogaeth rhes hirfaith o enwogion ein gwlad o'u Huchelder Brenhinol—y Tywysog a'r Dywysoges Gymreig-i lawr at Mr. R. O. Davies, Porchester Street (neu o Mr. Davies i lawr i'r Teulu Brenhinol, os myner). Y cerddorion oeddynt Miss Maggie Davies (y soprano enwog), a Mr. Ffrancon Davies (y baritone byd-glodus). Yn rhoddi unawdau ar y delyn yr oedd ein cydwladwr poblogaidd John Thomas (Pencerdd Gwalia), ac nid oedd ei groesawiad yn llai y tro hwn nag ar unrhyw adeg yn ei oes. Mie Cymry'r ddinas yn hoff o'r Pencerdd, a'u dymuniad yw ar iddo gael hir oes i wasanaethu ei gelf a'i genedl. Gofal- wyd am y cyfeiliant gan Mr. R. Meyrick Roberts a Mr. David Jones, a rhaid cydnabod fod detholiad y pwyllgor wedi bod yn ddoeth iawn, a phrofwyd hyny yn y rhaglen gampus a gaed yn ystod y noson. Ond y gystadleuaeth gorawl oedd yr at- dyniad fel y sylwyd o'r blaen, a chaed saith o gorau i ymgodymu am wobr o haner can' punt. Y darnau cystadleuol oeddent: a) The Long Day closes (Sullivan), (6) "The Word went forth (Mendelssohn). Ymddangosodd y corau yn y drefn a ganlyn I 1 Abertawe, Cymmrodorion (Mr. J. D. Thomas). 2 C6r Ealing (Mr. T. H. Thompson). 3 Caerdydd (Mr. Roderick Williams). 4 Rhydychen (Mr. Wilsden). 5 Pentre Rhondda (Mr. D. Jones). 6 Cor Mr. Munro Davidson. 7 Southport (Mr. Clarke). Yr oedd y gystadleuaeth ar y cyfan yn dda, ond nid i fyny a safon corau o'r fath. Yr oedd amryw wallau i'w canfod yn rhai o'r partion ac nid ydym yn canmol y beirniaid am bob peth a wnaed yno ychwaith. Er hyny, mater i'r corau yw hyn. Yn y dyfarniad a roddwyd gan Dr. W. G. McNaught a Mr. W. Davies, Sant Paul, rhoddwyd y we br flaenaf i G6r Southport, tra y deuai Caerdydd yn dyn wrth ei sawdl. Dyma'r marciau a roddwyd iddynt: Cyfan- rif 120. C6r Southport, 112; Caerdydd, 105 Oxford, 98. Cyn diwedd y cyngherdd, rhoddodd y corau ddadganiad undebol o'r damau, o dan ar- weiniad Mr. David Jones. Da genym ddeall fod y cyngherdd wedi troi allan yn llwyddiant mawr mewn ystyr arianol hefyd.

r Dyfodoi."

Advertising