Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

PLAID ANIBYNOL GYMREIG.

News
Cite
Share

PLAID ANIBYNOL GYMREIG. A ddylai'r aelodau Seneddol Cymreig ym- ffurfio yn blaid Anibynol ? Dyna oedd y mater y bu Undeb y Cymdeithasau Diwyll- iadol yn ymdrin arno nos Fercher diweddaf. Yn neuadd Capel Clapham Junction y bu'r cwrdd, a daeth cynrychiolwyr yno o bob rhan o'r ddinas a chadeiriwyd yn fedrus gan Mr. T. W. Glyn Evans, un o is-Iywyddion yr Undeb. MR. A. RHYS ROBERTS, y cyfreithiwr, oedd yn agor yr ochr gadarnhaol, a dywedai mai mantais i Gymru fyddai hyny. Pe bai iddynt ffurfio yn blaid, cryfheid eu dylanwad yn fawr yn Nhy'r Cyffredin, oherwydd yno yr oedd nifer fechan o bobl i lywodraethu nifer luosog o bleidleisiau, a phe cydunai pobl Cymru gallent hawlio eu telerau, bron ar bob pwnc. Y mae nifer o gwestiynau Cymreig, megis Dadgysylltiad, Pwnc y Tir, &c., a gofynai yn ddifrifol a oeddem un mymryn yn uwch ein dylanwad a'n hawliau heddyw yn y Ty nag oeddem yn 1868? Pa beth oedd i gyfrif am hyn ? Am nad oeddem wedi dysgu Lloegr. Yr unig ffordd i'w dysgu oedd trwy gael 30 o'n haelodau yn un blaid gref, ac yna, ond cael plaid felly, deuai Lloegr ar unwaith i weled fod rhyw sylwedd yn ein gofynion. Caed engraifft o beth all plaid fechan wneyd ynglyna'r parti oedd o blaid diddymu treth yr yd. Er mai dim ond tri oedd wrth wraidd y mudiad, sef Cobden Bright a Villiers, eto, llwyddasant cyn bo hir; a'r hyn a wnaed gynt a allesid gyflawni eto. Er nad oedd yn cytuno a'i dulliau lawer pryd, eto yr oedd plaid yr Iwerddon wedi sicrhau Ilawer i fesur i'w gwlad, a hyny yn unig am eu bod yn anibynol hollol. Gwelwyd yn ddiweddar yn y ddadl ar y Mesur Addysg beth allodd dau neu dri o aelodau Cymreig wneyd; ond beth pe bae'r 30 yn unol ? Cawsid wedyn y fath fesur i Gymru na fuasai raid cwyno i'w erbyn. Yr unig ffordd i hyrwyddo materion Cymreig yn y Senedd oedd trwy ffurfio plaid gref a dylan- wadol fel hyn. MR. W. LLEWELYN WILLIAMS agorodd yr ochr nacaol, a dywedai er iddo ddod i'r cwrdd a meddwl agored, eto, wedi gwrando ar yr agorydd rhaid oedd iddo addef mai i'r gwrth- wyneb y teimlai ef. Yn ol fel y saif pethau heddyw, gwanhau ein nerthoedd a wnaem pe cerid y fath gynllun allan. Yr oedd yn amhosibl cael gan yr aelodau presenol i una, felly, beth oedd y feddyginiaeth ? Rhaid fyddai cael ymgeiswyr newydd ymhob ethol- aeth i ymladd a'r hen rai, a phle yr oeddem i gael yr arian at y draul. Yn ychwanegol at hyn rhaid fyddai cael cronfa i gadw'r aelodau wedyn yn y Senedd, ac o ba le y deuai yr arian at y pwrpas ? Yr oedd yn amhosibl i Gymru wneyd cais Mr. Roberts ar hyn a bryd. Yr hyn a awgrymai ef oedd Undeb perffaith a'r blaid Ryddfrydol Seisnig yr hyn a'i galluogai i sicrhau y mesurau pwysig yr ydym wedi bod yn son am danynt cyhyd, ac os am eu cael yn ein hoes ni 'doedd dim am dani ond gweithio mewn undeb a'r blaid fawr Ryddfrydol. Ar ol dwy araeth hyawdl, yn cynwys Ilawer o resymeg a donioldeb, dilynwyd yr ymdraf- odaeth gan Mri. Edward Owen, Chelsea; Taliesin Rees, Castle Street; J. Arthur Price, Lincoln's Inn; Evans, Falmouth Road James, Shirland Road; Foulkes Jones, Willesden; D. O. Evans, ac ereill; ac er fod y ddwy blaid yn dadleu yn dyn, caed yn y diwedd fod teimlad yr U ldeb yn hollol o blaid cael plaid Anibynol; a hyderwn y gwna'r aelodau eu meddyliau i fyny ar unwaith, rhag y digwydd i rai o fechgyn yr Undeb fyned i Gymru a rhuthro rhai o'r seddau presenol ar eu gwarthaf yn yr etholiad nesaf. Ar y diwedd caed cwpanaid o de melus wedi ei barotoi trwy garedigrwydd boneddigesau y lie, a rhaid dyweyd fod y trefniadau yn hynod o gartrefol a boddhaus. Nid rhyfedd pan ystyriom y fath le cymdeithosol yw capsl Glaphatn Junction.

'PREPAID WANTS. -----'-

Advertising

DR. PARKER WEDI HUNO!