Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

News
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. DRYCH Y PRIF OESOEDD [Adargraffiad o dan olygiaeth S. J. Evans, M.A., i gyfres Urdd y Graddoiion.] Rai blynyddau yn ol, trefnodd Urdd y Graddolion ynglyn a Pbrifysgol Cymru, i ddwyn allan nifer o ad-argraffiadau o'r clasuron Cymreig. Yn 1899 cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf. sef Gweithiau Morgan Llwyd," o dan olygiaeth y diweddar a'r ariMyl T. E. Ellis, A.S., ac yn awr y mae genym y boddhad o groniclo jmddangosiad yr ail, er mor hir y bu ar droed. Os ydyw y cyfrolau ereill i fod mor hir ar y daith, ofnwn y bydd penwyni wedi gorddiwes llawer o'n hefryd- wyr heddyw cyn y cant y mwynhad a'r cyfle i'w hastudio. Ar yr un pryd, yr ydym yn llongyfarch y cyhoeddwyr am droi allan gyfrol ddestlus, ac mae'r argraffwyr wedi bod yn bur ofalus i sicihau ccpi rhagorol o gyfrol yr hen bar es- ydd Theophiius Evans, a dylai yr ad-argraff- iad hwn ddwyn y gwaith i sylw cyffredinol ein hefrydwyr, er cynyddu, ni a cbeithiwn eu mawrygiad o lenyddiaeth ein cenedl. Mr. S, J. Evans, M.A., o Ysgol y Sir, Llan- gefni, sydd gyfrifol am arolygiaeth y gwaith hwn, ac y mae wedi ysgrifenu rhagarweiniad manwl, er 1 hecphilus Evans a'i waith, yn yr hwn y ceir ol llawer o ymchwiliad ac astud- iaeth. Ond paham, yn enw pcb synwyr, y'i gwnacd yn Saesneg ? Dyma gyfrol afwriedir, ni goeli^n, at wasanaeth efrydwyr Cymru, ac os yw i fod o ddefnydd o g" bI bydd raid i'r efrydydd fod yn deall tipyn go lew ar yr hen iaith, a chredwn y byddai rhagdraeth Cym- raeg yn llawer mwy cydweddol ag ysbryd gwladgarol ac iaithgarol y Drych ei hunan. I ni y mae'r rhagymadroddion Seisnig yma i weithiau Cymreig fel hyn yn bethau plentyn- aidd hollo], ac yn sawru yn drwm o'r Saisadd- oliaeth yna sydd wedi bod mor niweidiol i'n Ilenyddiatth, a gobeithio na fydd i neb o olygwyr y cyfrolau dilynol syrthio i'r fath gamwedd. Meddylier am ddarllen brawddeg fel hon o flaen dcsbarth: What irony there is in the term corgi taeog' a what picture of helpless folly we have in the one v ord I gol- wyn,' &c. Mae'r fath gymysgfa yn ddigon twneyd i esgyrn yr hen Theophilus anes- mwytho yn eu gorweddfan Ar wahan i hyn, y mae Mr. Evans wedi gwneyd ei waith yn fanwl, ac wedi cael ffeith- iau newydd ynglyn a dyddiadau awdwr y Drych. Hyd yma, nid oedd yr un o'i fyw- graffwyr wedi gofalu am hyn. Tybid mai yn 1694 ei ganwyd, ond profa Mr. Evans iddo gael ei fedyddio yn Chwefror 1693 ac er fod ei wyr, Theophilus Jones—awdwr Hanes Brycheiniog -yn dyweyd i'w daid farw yn 1769, y mae'r ysgrif ar ei gareg fedd yn rhoddi'r dyddiad yn Medi 11, 1767. Yn ei feirniadaeth o'r gwaith, dengys Mr. Evans ei fod yn edmygydd mawr o arddull yr hen Theophilus, er mai prin y gallwn dderbyn y syniad fod arddull "Robinson Crusoe," yr hwn a gyhoeddwyd ychydig fisoedd o flaen y "Drych," wedi dylanwadu dim ar yr awdwr Cymreig yr hwn oedd wedi bod flyn- yddau wrth y gwaith Yn wir. gwell genym gredu fod yr hen Theophiius yn liawer gormod o Gymro i gael ei hudo gan ddylanwadau o'r fath ac nid ydym chwaith yn hcffi awgrym Mr. Evans ei fod yn hoff o roddi' Hen Law- ysgrifau' fel ei awdurdod pan am ddyweyd rhywbeth yn eithafol. Pe bae Mr. Evans wedi cymharu y cyfeiriadau hyn a'r Brut Cymreig, cawsai fod yr hen Theophilus yn lied ages i'w Je ar bcb amgylchiad. Wrth gwrs, nid oedd yn hanesydd, eto, Uwyddodd i ysgrifenu yr hen awdurdodau Cymreig mewn dull hynod o boblogaidd a hynod 0 glir hefyd a phell y bo'r dydd pan nas gwelir yn ein mysg efryd- wyr ac edmygwyr o'r hen wron a anwyd yn Mhengwenallt, Aberteifi. Mae amryw fan wallau wedi syrtbio i'r gwaith ac ar wahan i ail-adrodd ei hun, y mae'r golygydd wedi gadael i nifer o gyfeir- iadfcu anghywir lithro i fewn. Gobeithio fod y ihai hyn wedi eu cywiro yn yr argreffiad at wasanaeth ein colegau. [" Drych y Prif Oesoedd," o dan olygiaeth S. T. Evans, M.A.: Jarvis and Foster, Bangor. Pris, lliain, 4s 6c haner-rhwym argraffiad mawr, 10s 6c.] HEN GANIADAU SERCH [Cyhoeddedig gan Gymdeithas Llên Cymru, Caerdydd.] Dyma'r drydedd gyfrol o gyhoeddiad y Gymdeithas newydd hon, a Hyfryn tra hynod yw ar amryw ystyriaethau. Yn un peth, ni chyhoeddwyd ond dau cant o honynt a pheth arall, dyma'r waith gyntaf iddynt weled goleu dydd, er eu bed wedi eu cyfansoddi ymhell yn ol yn y canol-oesoedd. Hyd yma, mewn hen lawys- grifau yn unig oeddent, a mae meddwl fod y fath bethau wedi bod o olwg y cyhoedd mor hir yn siarad yn groyw fod angen am ryw gynllun cenedlaethol i ddwyn ein trysorau yn agosach at wasanaeth cyffredinol y werin. Casgliad yw, medd y wynebddalen, o gan- euon a briodolir yn gyffredin i Rhos Goch ab Rhiccert ab Einion ab Collwyn ond pwy oedd y gwr hwnw sydd bwnc arall. Yn yr Iolo MSS dywedir ei fcd yn byw o gylch 1140, a chan fod Einion ap Collwyn yn byw tua Icgo hwyrach nad yw'r dyddiad yna ymhell o'i le. Ond ai efe gyfarsoddcdd y caneuon hyn sydd bwnc arall, a phwnc y mae y golygydd yn ei ragymadrodd dysgedig i'r gyfrol fechan hon yn ei drin mewn modd den- iadol ac hanesyddol dros ben. Hyd y daeth y beirniad newydd hwn i'r maes cyfrifid y gweithiau fel cynyrchion un o feirdd goreu Morganwg yn yr hen amser, ond yn awr wele yr awduraeth yn cael ei rhoddi i un o feirdd mawr Mon ac yn lie eu bod wedi cael eu cynyrchu yn y ddeuddegfed ganrif mae'r critic yma yn eu gosod yn gynyrchion llawer diweddarach. 0 hyn allan 'does yr un hen fardd yn ddiogel; ac y mae cael y fath feirn- iadaeth manwl a theg a hon yn gaffaeliad dirfawr i'n llenyddiaeth ac i hanes hefyd. Bydd yn ddyddorol i wybod beth all beirdd y Deheubarth ddyweyd bellach am hawlio y caneuon fel eu gwaith hwy, a pha fodd i glirio eu hunain o ysbail gwr y Gogledd sydd bwnc anhawdd ei benderfynu. Mae'r gyfrol yn ddyddorol, a sicr y ceir clywed rhagor am dani ac am yr hyn sydd ynddi.

"y BRYTHONWYR."

[No title]