Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

POLEG Y GWEITHIWR.

News
Cite
Share

POLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Nos Wener, Hydref 29ain. Ap Corwynt.—Yr anwyl fawr fechgyn, y mae yr ychydig siarad fu rhyngom pythefnos i heno ar y gystadleuath gorawl yn Eisteddfod Alban Elfed wedi codi gwrychyn rhyw Gar- wr Tegwch" neu garwr humbug o Gapcoch, nes y mae wedi dyfod allan yn y GWLADGARWR diweddaf yn holl anterth ymadferthol ei fawr ragorol ddigyffelybiaethol bwerau adlamiadol! Ni feddyliais i, wrth daflu allan yr ychydig awgrymiadau o barthed i'r gystadleuaeth, glwyfo teimlad neb, ond yn unig dweyd yr argraff oedd ar fy meddwl wrth wrando y gwahanol gorau. Mae genyf fi lawn eymaint o barch i gantorion Cap Coch ag i gantorion unrhyw Gap, a pharch i'w harweinydd galluog Mr. Thomas James, er na fa fawr cyfeillach rhyngom yn ein hoes-dim pellach nag ys- gwyd dwylaw rhyw unwaith neu ddwy ond yr wyf yn meddwl mai nid ar Mr. James yr oedd y bai am i'r cor golli ar y prif ddarn, ond ar holl aelodau'r cor, ac efallai Mr. Carwr Tegwch yn un ohonynt. Codasant eu hys- brydoedd gymaint ar ol buddugoliaeth y boreu, nes iddynt feddwl cario'r cyfan by storm. Credyd mawr oedd iddynt enill yn y gystadleuaeth galed ar Their sound is gone aut," ac yr oedd y feirniadaeth yn adlewyrchu clod neillduol arnynt hwy a'u harweinydd galluog. Ond yn meirniadaeth Molwch yr Arglwydd," tra yr oedd tri neu bedwar, neu ragor, o'r corau yn cael eu desgrifio fel yn "ardderchog iawn," yr hyn gafodd Cor Cap- coch oedd datganiad pur dda ar y cyfan." Ar bwy yr oedd y bai am hyn ond ar Carwr Tegwch a'i gyd-aelodau corawl 1 Nis gallaf fi gredu byth i gerddor profedig a llwyddianus fel Mr. James eu dysgu i ruo mor ddiberswad mewn darn o gerddoriaeth fawliadol fel "Mol- wch yr Arglwydd." Ond y mae cor weithiau, fel byddin mewn rhyfel, yn myned tuallan i gylch llywodraethiad yr arweinydd, a chred- wyf mai felly yr oedd hi y tro hwn. Ond dyna, fechgyn Capcoch, enillwch wobrau'r wlad-ni fyddaf fi yn eiddigeddu wrthych. Ni ddeuwn yn mlaen at un gofyniad sydd gan Mr. Carwr Tegwch, sef "Ond am Ap Cor- wynt, pwy a glywodd son am dano ef erioed fel cerddor ?" Felly, dyna gyd wyr efe. Bu Ap Corwynt cyn yn awr yn cyd-feirniadu a Mr. John Thomas ar brif ddarn corawl, pan oedd y wobr yn 25p., a threuliodd y rhan oreu o dair blynedd yn ei oes bron i ddim ond astudio cerddoriaeth. Heblaw hyny, bu yn arweinydd mwy nag un cor, ac yn arwein- ydd yn y bass mewn cor a enillodd y wobr dan feitniadaeth Ieuan Gwyllt. Beth wyr Mr. Carwr Tegwch faint gwybodaeth gerddor- ol Ap Corwynt ? Yr wyf yn dweyd hyn, fechgyn, er addysg i chwi a darllenwyr y GWLADGARWR. Y mae gormod o duedd ynom i bwyso a mesur galluoedd ein gilydd, pan na wyddom yn y byd mawr helaethrwydd gwybodaeth y naill na'r Hall. Peidiais i a cherddoriaeth er's blynyddau, oddigerth fel mawl ar y Sabothau, ac adloniant ar yr ael- wyd, a hyny am y rheswm fod pethau ereill yn hawlio fy sylw a'm hamser ond pe buaswn wedi dilyn yn mlaen, a llwyr ymgysegru i'r gerdd, ni fuasai ynwyf y petrusder lleiaf na churwn fwy nag un o'r corau yn Eisteddfod Alban Elfed, 1880. Yr wyf yn ofni, fechgyn, y rhaid i mi bron gymeryd eich holl amser heno, gan fod hyn yn rhoddi eyfle i mi ddar- llen gwers bwysig iawn i ryw ymerawdwyr o ddynion sydd yn neidio i fyny i farnu, pwyso, a mesur ymenyddiau eu cydgreaduriaid. Pe gwyddai Carwr Tegwch, y mae Ap Corwynt wedi bod yn efrydu ac yn ymarfer pethau lawn mor anhawdd, os nad anhawddach, na cherddoriaeth, sef Alsoddeg, Mesuroniaeih, Logarithms, &c., &c., ac y mae yn barod i gyfarfod Mr. Carwr Tegwch yn un neu yr oil o'r cangenau uchod, neu yn y gamut, os myn efe. Wel, bydded heddwch a chymydogaeth dda i deyrnasu o Gapcoch hyd Hirwaun, ac enilled Mr. Thomas James a'i gor, a Hywel Cynon, a Gwilym Cynon, wobrau lawer eto, meddaf fi. Maddeuwch am i mi gadw eich amser cyhyd. Agrippa.—Yr oedd yn eithaf priodol dwyn y peth dan sylw. Darfu i minau graffu ar y pwt ysgrif y eyfeiriaist ati, ac yn neillduol y frawddeg hon Y gwir yw hyn-y mae Gwilym Cynon wedi gweled ei ddydd, ac y mae Hywel heb ddechreu—hyny yw, i'w gymharu a Mr. James." Ynfydrwydd ffilor- egol oedd i neb ysgrifenu y fath impudence am ddau arweinydd sydd wedi bod ar y maes er's tua phymtheg mlynedd neu ragor, ac yn enill y prif wobrau o Gasnewydd i Abertawe, pan yn ol addefiad Mr. Carwr Tegwch ei hun, rhyw dair blynedd sydd er pan y mae Mr. James wedi cychwyn fel arweinydd Wel, y mae yn rhaid i ryw apologies o ddynion gael mwynhau eu myfyrdodau, ac felly, gadawer llonydd iddynt yn eu Elysiumhunan-greuedig. Beth am y byd a'i helyntion, fechgyn 1 Lewis Cetewayo,-O, mae'n sobr disprad yr ochr hwnt i'r Irish Channel yna. Mae Pat yn saethu trwy y perthi fel y venjans, ac yn tori ymaith glustiau a llosgi ydlanau a ffermydd, nes y mae hi wedi dod yn ddifrifol yn ngwlad Erin. Beth yn enw'r ddaear a Patagonia sydd ar y creaduriaid direidus na adawent eu bywydau i ddynion ? Oni b'ai fod y Cymry wedi sefydlu gwladfa yno, braidd na feddyliwn mai iddynt hwy y crewyd Pata- gonia, a phe byddent wedi myned yno bob copa, yna, gellid dweyd Pat a gone ie. Ond fel y mae, wrth bob tebyg, mai yn ddr&n yn ystlys Llywodraeth Prydain y pery y Gwyddel am ryw dymor eto. Er yr holl ddeddfu fu ac y sydd er eu lleshad, parhau yn anstywallt y maent o hyd o hyd, ac wn i ddim beth raid wneyd i adferu trefn a hedd- wch yno. Mae yn rhaid i hirben Gladstone fod ar waith eto. Fechgyn, mae wedi myned yn hwyr. Dewch yn llu i'r eyfarfod nesaf, gan fod materion pwysig ar y bwrdd.

Y PWNC DWYREINIOL.

[No title]

GOFYNIAD.

GAIR AT MB. LEWIS, GWMBAGH.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1881.

YSBBYDEGAETE A J. B, LEWIS.

DIOGELWCH Y GLOWYB.

AT YSGRIFENYDD EISTEDDFOD…

:AT BWYLLGOR EISTEDDFOD NELSON,…

LLITH "CARWR TEGWCH

"MANTEISION ARIAN PAROD."

LLITH Y BABCTJD.