Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

SARAH WILLIAMS,

News
Cite
Share

SARAH WILLIAMS, Etifeddes y Gelli. FFUG-CHWEDL AIL OREU EISTEDDFOD GADEIR- IOL DEHEUDIR CYMRU, 1879. PENOD XXVII.-( Parhad). Y FRADWRIAETH YN DYFOD I'R AMLWG-YR YSGLYFAETH YN CAEL EI ACHUB. ir- ff. ■» iz- oJ;. Unwaith eto eisteddai Sarah Williams yn yr ystafell pa un a welodd ei chyfarfyddiad olaf a Syr John Gwyn fel ei charwr, ac yn awr. fel y pryd hwnw, y mae yn dysgwyl am ymweliad o'i eiddo mewn ufudd-dod i'w chais. Syr John Gwyn," ebai y gwas ar ei waith yn agor y drws, ac yn arwain y barwnig i mewn. Neshaodd y gwr ieuanc yn mlaen ati, gan estyn ei law iddi, gyda'r hen air anwyl iddo—" Sarah," ar ei wefusau. Ond tyn- odd hi yn ol gyda chryndod oddiwrtho. "Na, Syr John, nis gallaf gyffwrdd a'ch llaw fel cyfaill hyd nes byddo y trosedd yr ydych wedi ei gyflawni wedi cael ei edifar- hau, vn nghyd a roddi iawn, am dano." Trosedd Miss Williams, yr ydych yn defnyddio gair cryf. Nid wyf fi wedi cyflawni dim-ar fy anrhydedd." "Feallai nad ydych mewn gweithred; .nd, mewn meddwl a bwriad, yr ydych yn euog, Syr John," ebai hi yn briidd. "Y mae yn boen i mi i siarad fel hyn wrth un a gerais unwaith, ond y mae yn ddyled- swydd rhwymedig arnaf. Nis gellir golchi ymaith ystaen gwaed; ond diolch i'r Nef- oedd, nid yw yn rhy ddiweddar eto, ac er mwyn y gorphenol, achubaf chwi rhag y 4rwg a'r gwarth sydd yn debyg o'ch goddiweddyd." A phwy sydd o'r wyneb i fy nghy- huddo i ?" gofynai efe gan geisio siarad yn ddiystyrllyd. Sarah, o'r braidd y credwyf eich bod chwi yn un i gredu ffolinebau ac hygoeledd geneth ddibrofiad fel yr Ar- glwyddes Gwendolen, yn nghyd a'i brawd methedig a — Ust, Syr John! er mwyn eich hun, byddwch ddystaw!" ebai Sarah. "Nid oes unrhyw chwant arnaf, o'm rhan fy hun, i atal eich priodas ddyfodol." "0, na fuasai arnoch!" ddeuai allan o'i enau fel pe yn ddiarwybod iddo. Sarah, pe na fuasech chwi wedi fy anfon oddi- wrthych mor ddiystyrllyd pryd y cawsoch eich rhyddhau ar farwolaeth eich tad, ni fyddai hyn erioed wedi dygwydd. Hyd yn nod yn awr, yr wyf yn foddlon gwrthod yr holl anrhydedd sydd yn cael ei gynyg i mi er eich mwyn chwi, pe y gallwn gredu eich bod yn fy ngharu i-os y derbyniech fi. fel yn yr amser sydd wedi myned heibio. Byddai diogelwch, heddwch, ac anrhydedd yn feddiant i mi. A gaiff fod felly, fy anwylyd ? Yr wyf yn taflu fy nhynged eto i'ch dwylaw Caiff fy mreichiau eich amddiffyn, ac ni wnaf edifarhau na chofio y gorphenol am enyd Ond gwnelwn i!" oedd ei hatebiad. Arbedwch fi a chwi eich hunan, John Nis gall fod byth bythoedd! Y mae fy serch i tuag atoch wedi marw er's hir amser, ac nis gellir ei ail-enyn. Eto, nis gallaf edrych ar eich pechodau a'ch diraddiad chwi yn ddigyffro. A ganiatewch i mi eich arbed. Y mae genyf brofion, a phrofion arswydlawn, o'ch euogrwydd I Prawf yn eich llaw-ysgrif eich hun! Prawf yn nghyffesiad y marw Peidiwch a gwneuth- ur i mi eu defnyddio! Ymostyngwch i angenrheidrwydd, rhoddwch i fyny bob hawl i'r Arglwyddes Gwendolen, tynweh eich goruchwyliwr o faes golygfa ei drosedd, a cheisiweh wneyd iawn, mewn ymostyng- iad.a hunan-ymwadiad, am y gorphenol." Ond nid ydych yn cynyg un cymhorth i mi yn y eyfeiriad hwnw, ac ni ddeuwch byth i fod yn angyles ddaionus i mi, Sarah," ebai y barwnig yn ddifrifol. Gwnaf, a hyny wrth eich achub rhag dystryw. Ond y mae eiliadau yn awr yn werthfawr, pan y mae eich penderfyniad yn cael ei ddysgwyl am dano gan y rhai sydd ag awdurdod i wneuthur eich gweith- redoedd yn hysbys i'r byd! 0! John, byddwch yn well dyn o hyn allan. Bydd- wch ddewr, ac yn fuddugoliaetbus dros feddyliau drwg, a chydag amser, gwna leddwch ddychwelyd i'ch calon." "Y chwi! Beth am danoch chwi?" gofynai efe yn dyner. Byddai yn dda genyf eich gweled yn ymdrechu byw yn hapusrwydd ereill. Bydd fy mywyd i yn unig. Y mae fy mhrawf i yn galetach .na'ch eiddo chwi, ac y mae fy ymdrech yn fwy) ond yr wyf wedi eu gorchfygu, ac yn fuan iawn byddaf yn gorphwys." Sarah, yr ydych yn angel. Ni fuais erioed yn deilwng ohonoch. Yr wyf yn teimlo hyny yn awr, pan yn rhy ddiweddar. Ond nis gallaf adenill yr hyn ydwyf wedi ei golli-ni chaf byth brofi y cwpan a fu unwaith mor agos i fy ngwefusau." Yna claddodd ei wyneb yn ei ddwylaw, a chwyddai ocheneidiau trymion allan o'i fynwes. Ust, John! byddwchryn ddyn. Gal fod blynyddoedd o ddedwyddweh ac an- rhydedd i chwi eto yn ystôr, ac os byth y meddyliwch am Sarah Williams, cofiwch y bydd hi yn teimlo yn falch i glywed am lwyddiant yr hwn a fu yn ei garu unwaith, ac eto yn parhau i'w barchu fel brawd anwyl ond cyfeiliornus." Cododd ei ben a gofynodd, "Beth a hoffech i mi i'w wneuthur? Beth fyddai yn oreu i mi wneyd mewn ffordd o iawn ? Yr wyf fel plentyn yn eich llaw." Rhoddwch i fyny bob hawl i law yr Arglwyddes Gwendolen, ac ysgrifenwch at ei thad i'w hysbysu o'ch penderfyniad," ebai hi yn dawel. Cymerodd y barwnig ysgrifell yn ei law, ac ar ol myfyrdod byr, ysgrifenodd ychydig linellau i'r perwyl a awgrymwyd gan Sarah. Yna, gan estyn y papyr iddi, gofynodd, A ydyw hyna yn ddigon ? Beth arall a hoffech i mi i'w wneyd ?" "Y mae hyn yn eithaf digon," meddai Sarah ar ol darllen y papyr yn ofalus. "Ac yn awr nid oes genyf un peth arall i'ch trafferthu chwi yn ei gylch, ond hoffwn yn fawr eich gweled unwaith eto wedi eich adferu i anrhydedd a dedwyddwch, a chredwyf y daw hyny gydag amser. Yr ydym vn ymadael yn gyfeillon, onid ydym, John ?" Cydiodd yn ei llaw estynedig, a chusan- odd hi. "Maddeuwch i mi," meddai efe yn alarus. Y tro diweddaf ydyw Sarah. Yr ydych wedi selio fy nhynged. Pa un ai mewn hawddfyd neu wae y byddaf, nis gallaf garu yr un fenyw arall byth." Un olwg yn yehwaneg- un gwasgiad i'w llaw, ac yna yr oedd wedi myned-wedi myned na welai hi ef byth mwy! Suddodd yn ol ar ei chadair mewn my- fyrdod am y gorpbenol, ac eisteddodd yn y cyflwr hwnw am gryn amser. O'r diwedd, dihunwyd hi o'i myfyrdod gan un o'r gweision, yr hwn a ddaeth i'w hysbysu fod Iarll Conwy yn ymofyn ei gweled ar fusnes pwysig. Dygwch ei arglwyddiaeth yma ar un- waith," gorchymynai Sarah. Gwnaeth yr iarll ei. ymddangosiad yn union. Yr oedd wedi derbyn llythyr oddi- wrth yr Arglwyddes Emily Mostyn, yn datgan ei hedifeirwch am ei hymddygiad tuag at Mary Powell, ac yn dymuno arno ei dwyn drosodd gydag ef, am fod Elen, ei merch, ar farw, ac am ei gweled. A wnewch chwi ddyfod ?" gofynai efe. I Itali?" 0, na, y maent wedi dychwelyd i'r Brif-ddinas er's pythefnos." I I Wel, gan fod eich modryb yn dymuno hyny, ac yn cydnabod ei throsedd, mi ddeuaf." "A ellwch wneuthur eich hun yn barod i ymadael yfory ?" Gallaf, a goreu i gyd pa gyntaf genyf i ffarwelio a thy nad yw mwyach yn eiddo i mi." (DIWEDD Y SEITHFED BENOD AR UGAIN.)

Nodiadau Ystadegawl.

Amrywiaeth.

Lloffion Difyrus.

[No title]

"MANTEISION ARIAN PAROD."

Diangfa Wyrthiol oddiwrth…

Marwolaeth y Parch. Jas. Griffiths,…

[No title]