Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

TLYSAU A WEN, sef Cyfansoddiadau Bardd- onol JOHN WATKINS (loan Gwent), Rhymni, yn cynwys Pryddest Goffadwriaethol ar ol Islwyn, Deigryn ar ol Mathetes, yn nghyd ag amryw englynion a darnau ereill. Mae awen loan Gwent, o ran ei hansawdd, mor ddiledryw ag unrhyw awen ag y bendith- iwyd Cymru a'i chynyrchion ond fe ddichon nad yw yn gysylltiedig a'r un manteision er rhoddi iddi y dadblygiad goraf.' Y mae rhyw d6n mewn barddoniaeth iawnrywiog ag a wna i'r galon deimlo-y mae rhyw under-current o fywyd ac effaith o dan y geiriau nas gall geiriau eu cynyrchu, er mai trwy eiriau y maent yn cael eu hamlygu. Ysbrydoliaeth o eiddo y teimlad ydyw, ac hon yw y brif elfen sydd yn cyfansoddi dylanwad barddoniaeth. Cynyrchion y deall sydd yn adeiladu, ond apeliadau y teim- lad sydd yn denu y serch, yn plygu'r ewyllys, ac yu tyneru'r galon. Miwsig calon y bardd. ydyw miwsig cynhwynol ac ysprydol barddon- iaeth, o'r hwn nid yw miwsig lleisiol neu gel- fyddydol ond efelychiad i raddau mwy neu lai perffaith. Y mae llawer o'r bywyd dirgelaidd hwn yn "Nhlysau Awen" loan Gwent, ond feallai nad yw yn mhob man yn cael ymddangos yn y diwyg goraf. Teimlir y gallasai ambell ansoddair fod yn fwy cywir-ddesgrifiadol, ac ambell frawddeg fod yn fwy cryno a destlus. Pe buasai yr awdwr yn myfyrio tipyn ragor ar ei eiriau a'i frawddegau cyn eu gollwng dros ei enau, mewn ambell i fan, buasai y farddoniaeth yn fwy derbyniol gan y chwaeth a'r llygad clasurol. Nid ydym wrth hyn am i'r darllen- ydd gredu fod loan yn ryw esgeulus iawn yn y ffordd hon, na'i fod un gronyn waeth na'i fardd- gyfoedion, ond yn unig ei bod yn ddyledswydd arnom grybwyll hyn wrth fyned heibio, ac er egluro ein meddwl yn mhellach, rhoddwn yr engraff canlynol o'l bryddest ar Islwyn 1 Mewn ffrwythlendeb, Y bytholdeb A serenai yn ei drem; A'i- gynyrchion, # Llawn prydferthion, Eto erys megys gem. Dywedir fod "y bytholdeb" yn serenu mewn ffrwythlondeb." Yn awr, beth feddylir wrth "ffrwythlondeb" yn v cysylltiad yna? Buasai mewn dysgleirdeb, eglurdeb, neu draphurdeb, yn briodolach geiriau o lawer mewn cysylltiad a serenu. Nid yw dywedyd y byddai I'w gy. nyrchion" eto aros megys gem, yn ramadegol o gwbl. Onid mwy cywir a clilasurol fuasai megys gemau ? Dylai ein beirdd ieuainc fyfyrio clasuro'ldeb arddull—hyny yw, gwylio ar fod pob syniad, gair, a brawddeg yn gwisgo y cywirdeb neu y precision mwyaf. Yn hyn mae y beirdd Seisonig yn rhagori yn fawr-y mae pob meddwl, gair, a llinell ganddynt hwy wedi eu diqestio yn dda cyn rhoddi iddynt oleuni dydd; maent yn y fath fodd fel nas gellir gwella arnynt-cariant ddillynder, purdeb, a chywiredd nodedig. Y mae yn y bryddest hon ar Islwyn benargraffau yn ei ddesgrifio gyda llawer o gywi.deb o dan ei wahanol gyineriadau, fel bardd, beirniad, a phregethwr. Fel bardd Y Ileddf a fu Awyrgylch bur ei awen gu, Ac eigion maith i'w grebwyil chwim Nis gallodd gellwair gyda dim Pan godai fry i entyrch gwawr, Ymgolli oedd ei feddwl mawr Mewn maith eangdir uwch y llu. Nid gallu certh, Yn rhwygo pobpeth yn ei nerth, Ei awen gysegredig ef; I Marworyn rhoed o allor nef I'w henyn yn ysbrydol fflam Cyneuodd hyd yr olaf lam, A Duw yn unig wyr ei gwerth. Ei gysylltiad a llenyddiaeth, ei wyleidd-dra, a'i anymhongarwch :— Ar faes llenyddiaeth oedd heb ffael, Yn gwasgar ei ddelweddau hael, Yn ddiymhongar ar ei hynt— Mor ddystaw a'r goleuni gynt; Er meddu ar gyfeillion lu, 0 galon eu hedmygu bu, Ond methai dreulio mynyd bron O'i amser mewn cymdeithas Ion. Yn ei unigedd carai fyw, # I olrhain mawredd gwaith ei Dduw Ymwasgu o'r presenol wnaeth, I gysegr y dyfodol aeth Uwch aniaii—dros y terfyn draw, Y syllai ef i'r byd a ddaw Ei awen dreiddiodd yn ei bri I'w santaidd santeiddiolaf hi. Fel beirniad:— Fe ddaeth i fynu'n feirniad craffus iawn, 0 dan edmygedd yr Eisteddfodcawn Ni fu'i onestach ar ei llwyfan hi, Yn dal ei chlorian fawr na'n Hislwyn ni. Enhuddwyd Awen—diymgeledd yw; Pan syrthiodd, collodd ei thlysineb byw; O swynol Awen, pan y tawodde, Fe gollwyd un o engyl-feirdd y De. Fel pregethwr :— Taenellwyd ei bregeth a neithdar barddoniaeth, Ni ddeuodd o'i enau yn sychlyd athroniaeth; Ireiddiwyd ei feddwl-irder trag wyddol, Nes ydoedd i'r dyrfa fel manwlith ysprydol. Nid corwynt ofnadwy yn gwasgar ei ddycliryn, Ond awel oedd esmwyth, a bywyd i w chanlyn, Yn chwythu yn dyner nes goglais y teiinlad, A'chodi y galon i dymher addoliad Na tharan gynhyrfus, ond goslef berseimol, Yn disgyn i'n clustiau yn fiwsig gwefreiddiol; Na nerthol ddaeargryn yn^aiglo dinasoedd, Ond angel tangnefedd ynlifrau y nef oedd Yn aros mewn adgof mae'i swynol arafwch, Ei ddystaw barabliad, a'i ddoniol dynerwch. A o-wedd ddifrifol i'r areithfa ai, Ar hyd y grisiau araf esgyn wnai, Cychwynai gydag emyn yn ddi-gel, Disgynai ar ein clustiau fel y mel; Darllenai a gweddiai gyda bias, Ac O mor nefol o flaen gorsedd gias. Ac 0 or le, Ei awdl ar y Nefoedd Ond yn ei olaf gampwaith deil yn fyw Perl i'n llenyddiaeth gysegredig yw; Ei Nefoedd gerfiodd yn bortread cun, O'i mewn mae naws y nefoedd fawr ei nun; Mwy hyfryd na mel-ffrydiau genym ni Yr awen lithrig lifa dswyddi hi, A gloewach nag oedd llynoedd Hesbon gynt, A dyfroedd Libanus ar ei hynt, Y'rhai ymdreiglant fel y grisial cain, I waered tua'r m6r a pheraidd sain; Ei bur obeithion, yn ei Nefoedd' dlos, Yn esgyn uwchlaw telaid ser y nos, Hyd orsedd santaidd yr anfeidrol lor, Fel treigliad chwim y dyfroedd tua'r mor Arllwysodd ei serchiadau gyda bias, Mewn cariacl i ddihalog foroedd gras, A braidd na theimlem y gogoniant llawn Yn llathru yn ei ddarlun swynol iawn; A brigau ffrwythlawn pren y bywyd sydd 0 ddau tu afon loew gwlad y dydd, A dardda o Orseddfainc Duw a'r Oen, Cartrefle hedd a bythol berffaith hoen A'i santaidd flodau sy'n drag'wyddol wyrdd, A'r Ceidwad hoff o dan goronau fyrdd, A dysglaer wawr ei anfarwoldeb pur Sydd yn gerfiedig ar ei pherlawg fur; A chlywed ydym drwyddi bryder sant, Mewn ariial dir, yn swn ei lleddfol dant, Yn prudd hiraethu yn y cystudd mawr— Yn dysgwyl gweled boreu toriad gwawr. A braidd na ddeuai palmant aur y nef I'r golwg hefyd yn ei Nefoedd ef, A gloew gwrel ei heolydd hi, Sy' fel y grisial yma gyda ni; A threiddio drwyddi swn y nefol gan, Nes dwyn i fyny ein serchiadaun Ian Dychm'ygem wel'd ei myrdd angylion glwys Yn chwai osgorddai drwyddi ar ein pwys, A dirif seintiau, megys boreu wlith, 0 fewn ei Nefoedd,"—ydym yn eu plith; Ni allwn lai na derbyn gwir fwynhad Yn ei bortread tlws o Dy ei Dad." Nid oes na gofod nac 'amser genym i ddyfynu rhagor ond gwelir oddiwrth yr hyn a ddyfyn- wyd fod y bryddest yn un o deilyngdod uchel. Y mae y Deigryn ar ol Mathetes yn gyffelyb, ac felly yr holl ddarnau rhyddfydrol ereill, a'r englynion hefyd gyda hwy. Rhifa y bryddest ar Islwyn oddeutu chwech cant a phedair-ar- ugain o linellau. Gormocl o'r haner, debygem ni. Nid oes fodd fod un marwnad yn gofyn cy- maint o hyd. Pe buasai yn bryddest fywgraff- iadol, yn yr hon y cofnodir holl ddygwyddiadau bywyd hirfaith, buasai rhyw reswm dr-os ei bod yr hyd ag ydyw. Y mae meithder mawr mewn cyfansoddiad, ar destyn na fyddo o lawer o gwmpas, yn arwain yr awdwr i ail-adrodd yr un syniadau. Y mae yn sicr o wneuthur hyny, oddieithr ei fod yn ymlwybro wrth gynllun dos- partlius a chryno. Pe chwynid tipyn ar y bryddest hon, a'i tbynu i lawr i oddeutu haner ei hyd presenol, gwnelai farwnad dda ragorol; ond rhaid cyfaddef ei bod hi yn y wedd ag y mae yn gyfansoddiad ag sydd yn hawlio can- moliaeth mawr. Gan fod hon cystal ynte, beth dybir am y ddwy gyd-fuddugol ?

Ystormydd a Llifogydd.

[No title]

AT Y BEIRDD.

TUCHANGERDD I DDIRADDWYR Y…

[No title]

Eisteddfod Nelson, Llanfabon.

Drill Hall, Merthyr.

Public Hall, Treherbert.

____0-'" Tabernacl, Treforris.I

Advertising