Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

GAIR 0 L'ERPWL.

News
Cite
Share

GAIR 0 L'ERPWL. GWYLIAU Y PASC. Dynodir Gwyliau y Pase yn y drcf hon gan ddylifiad pobloedd o"r wlad i weled yr amryfal ryfeddodau o amgylch o gylch glanau yr afon. Mae symudiad milwyr o'r naill fan i'r Hall yn tynu sylw edrychwyr, yn neillduol pobl wledig nad ydynt yn gyfarwydd ft gweledigaethau o'r fath, er ei fod yn beth cynhefin i'r trefwyr, fel nad yw mintai o filwyr yn cael dim cymaint o sylw a mintai o \llmaenwyr ar daith i'r Amerig. Bydd llawer un yn gwneyd camsyn- ied dybryd wrth ddyfod i'r dref o'r wlad ar adeg y gwyliau, am fod llawer yn gwneyd camsyniadau, a thrwy hyny yn syrthio i drybinu a gofid, a chael eu hunain o dan ofal swyddogion cytlogedig y Frenines. Dysgodd llawer llanc ystyfnig a gwargaled ami 1 wers werthfawr trwy wrthod gwrandaw cynghor y cyfarwydd a'r profiadoi. Dywedwch a fynoch mewn rhai cyfeiriadau, nid oes modd i ddim gael dylanwad, yr hyn a brawf wiredd y ddwy linell farddol :— Llunier i gallllaner gair Lie rhaid i annghall gael deugair. Gresyn meddwl fod llawer o'r fath yn y byd, a gormod ohonynt yn mhlith ein cenedl ni-nid am nad ydynt wedi cael mantais i wybod gwell, ond ni fynant wybod. Gresyn nad ellid llwyddo i gael gan y Cymry i fod yn fwy annibynol, a pheidio bod yn rhy barod i gymeryd eu cylch arwain gyda phob gau awelon sydd yn dyfod i Gymru dros Glawdd Offa. Feallai y cawn fyw i weled y dydd yn gwawrio na fydd yr un Cymro mor ddwl a chymeryd ei arwain gerfydd ei drwyn heb ystyried ei fod yn sangu corsydd peryglus, fel nas gall ddychymygu pa fynud y sudda o'r golwg, ag y gollir ef yn gwbl o gylch bodolaeth. Er cymaint sydd wedi cael ei siarad a'i ysgrifenu, ychydig neu ddim o ddy- lanwad adewir ar y wenn, am tod yn wen ganddynt wrando ar ffiloregau a gwag ddych- ymygion, a dilyn mympwy wrth gyfarwyddid meibion Hengist a Horsa. Byddaf braidd yn annghofio fy hun pan yn edrych ar ddallineb caddugawl meibion fy ngwlad—er fod ganddynt lygaicl ni fynant weled, clustiau ond ni fynant wrando, calonau ond ni fynant deimlo a chredu y gwirionedd. Byddwn yn mynych feio y bendefigaeth, tra mewn gwirionedd fod llawer 9 o'r bai yn gorwedd wrth y drws gartref, oblegyd fe ddywed hen arwyddair Cymreig, "Cynorthwya dy hun yna ti allu ddysgwyl cynorthwy a bendithion Rhagluniaeth, AFFRICA. Mae nifer o Gymry wedi bod yn ymholi a mi parthed y wlad hon fel maes ymfadiaeth. Wel, mewn atebiad, rhaid cael ychydig amser cyn y gallaf ddweyd dim yn benderfynol, am nad wyf yn hotfi gwneyd dim ar antur, a bod yn achos i iamp rwain y cyhoedd, na hudo neb l adael ei wlad am ryw hen lanerchau diffrwyth lie nas gellir cael cynaliaeth i ddyn nac anifail. Mynat o-ael gwybod pob manylion o fewn yr wythnos, ac addawaf y cyflawnder mor fuan ag sydd yn bosibl. GOFGOLOFN OWAIN GWYRFAI. Trwy gylchlythyr a dderbyniais oddiwrth fy nghyfaiil, Ioa i Arfon, deallwyf fod cynllun wedi ei drefnu er casglu ychydig arian er dynodi gorweddfan y bardd a'r hynafiaethydd bydglodus, Owain William, o'r Waenfawr, yn Mvnwent Bettws Garmon. Mae adgof am yr hen bererin yn anwyl genyf, er pan gefais y mwynhad a'r pleser o'i gyfeillach pan yn treulio vchvdi" ddyddiau yn y dref hon ar ei ymweliad diweddaf ac Eisteddfod y Gordofigion. Dyg- wyddodd fod ar adeg pen ei flwydd, pryd y cyrhaeddodd yr oedran tywysogaidd o wyth deg pedair. Yr oedd yr hen babell fel pe yn rladfeilio ychydig, a'r aelodau dipyn yn an- ystwyth ond y? oedd cof fel dalenau o aur, L arnvnt yn ysgrifenedighelyntioncene<llaethau lawer Cyn pen blwyddyn arall, yr oedd Owam Gwvrfai, chwedl yntau, wedi myned i orphwys at enwogion ereill o wlad Arfon i Fynwent Bettws Garmon, a'r enaid wedi ehedeg i Waenfawr i fro Net Wen. Gvraf y cylchlythyr argraffedig i'r Golygydd, a oobeithio y gwneir defnydd ohono trwy gael Sob bardd yny De i daflu rhywbeth i'r drysor- fa fel y gallo'r pwyllgor gael digon o arian l osod colofn deilwng ar ei fedd, ac anfon, os bvdd arian gweddill, ddarlun o'r hen frawd i bob tanysgrifiwr. Os nad gormod y cais gyrwch y cylchlythyr i'r Glyn, er mwyn cael f?lw y prif fardd, Islwyn. Gadawaf y mater Vn eich dwylaw, am y credwyf fod ynocli ddi^on o wladgarwch a than Cymreig i wneyd yr hyn alloch tuag at y mudiad teilwng. Fe ddylid harddu bedd yr hen dduwinydd, Yr cinvog fardd a'r trylen hynafiaethydd Un mawr ei ddawn, mewn priddell wedi tewi, Ond ei enwogrwydd ddeil hyd byth lieb drengu; Tra deil \"r hen fynyddoedd ar eu gwadnau Fe berchir coffawdwriaeth Owam Gwyrfai. -Yr eiddocb, CYMRO GAVYLLT.

[No title]

UWCH DEML GYMRETG CYMRU.

CWMBACH. ;

DOWLAIS.

Eisteddfod Gadeiriol Ferndale.

Y Gwyliau yn Nghaernarfon.

Ymosodiad ar Swyddog Llys…

Ymosodiad Anfad yn Ebbw Vale.

Trychineb Glofaol ger Castellnedd.

Ymgais at Lofruddiaeth a Hunanladdiad.

Henry Ward Beecher a Mrs.…

Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwcb…

Y FASNACH HAIARN.