Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Allforiadau Reiliau Dur a…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Allforiadau Reiliau Dur a Haiarn. Gwnaed cynyg yn ddiweddar i gael gwybod •drwy adnoddau swyddogol y swm o reiliau dur a allforiwyd yn fisol o'r Deyrnas Gyfunol, mewn cymhariaeth a'r reiliau haiarn. Ond ni fu y cynygiad hwn, modd bynag, yn ryw Iwyddianus iawn. Dichon i hyn gymeryd lie oherwydd nad oedd nemawr o walianiaeth yn y pris a fodola yn awr rhwng yr haiarn a'r dur. Yr enw "rail" a gymhwysir mewn modd penrhydd a chyffredinol at reiliau o bob math-dur a haiarn ac nid oedd y 13wrdd Masnach yn alluog i wahaniaethu ac i wneyd y dosraniad a ddymunid, gyda y cy- wirdeb a berthyn iddo. Mae yn ofidus meddwl nad yw masnachwyr, goruchwylwyr, ac ereill yn cynorthwyo yr awdurdodau i gasglu gwybodaeth sicr ar y pwnc, gan y bu- asai yn fuddiol i sicrhau prawf rhifyddol a yw y reiliau dur yn enill mewn lluosogedd ar y reiliau haiarn mewn gwledydd tramor, fel y maent, yn ddios, yn enill yn ein gwlad ni. Ond rhaid i ni ddweyd wrth ddarllenwyr y GWLADGARWR am y pethau hyn fel yr ydym yn eu cael. Megys y mae yr amaethwyr yn peidio cynorthwyo y Llywodraeth i gasglu bob wythnos daflen gredadwy i ddangos pris y gwenith, yr haidd, a'r ceirch, y mae y meistri haiarn yn ymddangos yn anfoddlon i gynorthwyo i gasglu adroddiadau awdurdod- ol, y thai a ddangosent a yw neu nad yw ein reiliau dur yn enill neu yn colli tir yn ein trefedigaethau, ac yn mysg eincymydogion tu draw i'r mor. Modd bynag, y mae adroddiadau cyfnesol yn well na bod heb yr un math o adrodd- iadau, ac y mae un ffaith i raddau wedi ei sefydlu yn amlwg gan y wybodaeth sydd o fewn ein cyrhaedd hyny yw, fod reiliau dur yn cael eu defnyddio fwy-fwy yn ein trefed- igaethau. Gwelir hyn drwy edrych ar y ,daflen ganlynol o allforiad reiliau i'r Trefed- igaethau Prydeinig yn ystod y mis cyntaf o'r blynyddau canlynol J J 1876 1877_ 1878 Tunelli Tunelli Tunelli America Brydeinig 299 India Brydeinig 401 1660 2899 Awstralia 771 957 2235 Cyfanswm 1172 2916 5134 Dengys hyn yn amlwg fod y prisoedd isel sydd yn cael eu gofyn am reiliau dar yn fwy fwy yn temtio cwmniau y Llywodraethau trefedigaethol i ddewis reiliau dur oherwydd eu pwysigrwydd parhaol. Ond a wna pris isel presenol reiliau dur i barhau yn hir gan- iatai mabwysiad o'r fath drefniad, ceir gweled. Ond yn y cyfamser y mae yn ddios fod y peth yn awr yn ddirgymhellol. Ar yr un pryd, nid yw reiliau haiarn mewn un modd wedi eu troi allan o'r marchnadoedd trefedigol; y mae trosglwyddiad reiliau o'r dosbarth hyn yn ystod mis Ionawr i America Brydeinig, India Brydeinig, ac Awstralia, wrth eu cym- haru fel y canlyn ag allforiadau misoedd Ion- awr, 1876, ac 1877 Tunelli Tunelli Tunelli America Brydeinig. 1515 India Brydeinig 1645 3625 Awstralia 2386 1927 3351 Cyfanswm 5546 1927 6976 Nis gellir gwneyd y gymhariaeth mewn dull cyflawn adroddiadol, gan fod y farchnad Ganadlaidd yn arfer cael ei chau yn yatod mis Ionawr bob blwyddyn. Modd bynag, nis gall fod yr amheuaeth leiaf na fydd Can- ada yn bryderus am brynu symiau mawrion o reiliau dur oddi wrthym, gan mai reiliau dur yn unig a alluoga Gwmnioedd Reilffyrdd Canadiaidd, mewn modd effeithiol, i wrth- aefyll gauaf Canadiaidd. Mae mabwysiad o reiliau dur, i raddau mawr, yn lleihau y treuliau er engraifft, noder sefyllfa y Grand Trunk Railway of Canada. Mewn amser- oedd blaenorol yr oedd yr ymrwymwaith hwn yn myned dan dreuliau dirfawr mewn cy- sylltiad ag adnewyddiad ei reiliau, yn gy- maint a bod damweiniau yn cymeryd lie yn fynych oherwydd reiliau drylliedig a fuasai taflu y peirianau a'r cerbydau oddiar y trac. Yn awr, yn gymaint a bod reiliau dur wedi cael eu gosod drwy brif linell y Grand Trunk, y mae damweiniau wedi eu lleihau, a threul- iau ei chynaliaeth wedi eu lleihau i raddau mawrion. Y canlyniad yw fod y Cwmni, gyda chynorthwy enhanced freight rates, wedi uoo, eu galluogi i gyhoeddi y mis hwn, ar ol tair blynedd heb yr un elw, y cyfranddognau yn ol tair y cant yn y flwyddyn. Gallwn ni benderfynu na wna cwmniau y reilftyrdd Canadiaidd ereill adael hyn yn ddisylw, ac y bydd y cais am ein reiliau dur i Canada i brofi yn bwysig mewn amser i ddyfod, oddi eithr i'n reiliau dur i gael eu gyru allan o -Canada, fel eu gyrwyd o'r Unol Dalaethau. Dywedwn fod ein reiliau-dur yn gystal a haiarn-wedi eu gyru allan o'r Unol Dal- aethau ac nid ydym heb brofion pan yn dweyd ei bod yn ffaith nad aeth yn Ionawr, 1878, gymaint ag un dunell o reiliau Prydein- ig i'r Weriniaeth Americanaidd. A hyny mewn rhan drwy y dyliau gwarafunol a osod- wyd gan y Congress, mewn rhan drwy gynydd -delidwaith Americanaidd, ac mewn rhan drwy wendid llogau y reilffyrdd American- aidd—mae ein reiliau wedi colli y farchnad Americanaidd, ac y mae hefyd i'w ofni eu bod wedi ei cholli am byth. CAP HAIARN.

[No title]

AT ALCANWYR OYMRU.

Y CYNGHOR BARDDOL.

Y "WELSFl representativb CMOIJ2."

BEDD OWAIN WILLIAMS, W A EN-FAWR,…

GWILYM GLANFFRWD AC EISTEDDFOD…

MABONWYSON A'I ERLIDWYR.

i FFUGENWAU GOHEBYDDOL.

AT BWYLLGOR EISTEDDFOD MYNYDDISL…

Y FASNACK HAIARN.

Y FASNACH LO.

Y FASNACH HAIARN.