Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

AMRYWIAETHAU.

News
Cite
Share

AMRYWIAETHAU. Y mae rhai dynion, neu o leiaf fodau sydd ar lun dynion, ar ol iddynt ddyfod i allu ysgrifenu pwt o lith i'r wasg na fynant ddim ond cecraeth a llysnafeiddio eu cymydog- ion; ond pell meddaf fi y byddo'r dydd y bydd i'r pen liwn drochi ei hun yn y llygr- iad o dduo gwisg neb, canys os na, chat ryw- beth mwy dyddorol na hynyna gwell genyf ei ollwng o'm Haw fel na chodir ef byth mwy. Amcan mawr a gogoneddus y wasg ydyw moesoli a dyrchafu y bobl, a thyna ddylai fod ein nod bawb o honom pan yn ymgymeryd a'r gorchwyl o ysgrifenu gair. Da gan ein calon glywed. fod y cyfaill athrylithfawr a iiyawdl Brythonfryn yncy- meryd ei ordeinio; ac os gwna talent weini- dog da, bydd y cyfaill hwn yn un o'r cyfryw. Duw fyddo yn nawdd iddo ef a'i eglwys barclius y mae ar gymeryd y gorchwyl o'i bugeilio. Clywsom fod gweinidog talentog Hen-dy- Cwrdd, Trecynon, wedi cymeryd y gorchwyl o draddodi rhes o ddarlithiau ar y bod o Dduw. Ei destyn y tro cyntaf ydoedd "Duw- inyddiaeth," ei raniad mor bell a gallwn ddeall ycloedd Duwijiiaeth goeth, a Duwin- yddiaeth rydd, a'r posiblrwydd i'r naill wneyd niwed, er o ddyben daionus, ac i'r llaIl ateb i'w dyben, sef moesoli y ddaear. Yr ail ddarlith sydd ar "Synwyr cyffredin mewn Crefydd," a thebyg y bydd hon eto yn werth ei chlywed, gan fod yr awdwr nid yn unig ddysgawdwr mawr, ond hefyd yn feddyl- •iwr gwreiddiol, er y credwn ei fod wedi cam- syniecl trwy gymeryd nos Sul, ac na fuasai yn dewis rhyw noswaith yn yr wythnos, er cy- fleustra i bawb. I'n tyb ni, nid ydym dros erlid yn fwy na'n harweinydd Crist, rhydd i bob dyn ei feddwl. Derbyniwyd y llythyr canlynol gan Mrs- Evans, Bell Street, Trecynon, oddiwrth Miss Mary J. Thomas, merch Mr. David Thomas, yr hwn oedd ddiacon parchus iawn yn eglwys y Bedyddwyr yn y lie uchod, ac er hysbys- rwydd a boddlondeb i'r lluaws cyfeillion sydd yma dymunwn arnoch ei gyhoeddi:— "Dycld Gwener, Gorphenaf 7fed, gadaw- som L'erpwl mewn steamer er cyrhaedd y llong yr oeddem i gychwyn, enw yr hon oedd Olbers. Felly, dydd Sadwrn yr 8fed, oddeutu deuddeg o'r gloch, yr oeddem i gychwyn ar ein taith, yr oedd yn ddiwrnod tywyll a chy- mylog iawn. Dydd Sul, cyrhaeddasom Bay of Biscay, heb fod fawr gyfnewidiad yn y tywydd. Dydd Llun eto, bron yr un fath, yn gadael y lie am haner nos. Dydd ulawrth, yn bwrw yn drwm, ac mor ystormus fel nas gallai neb fyned i fwrdd llong; erbyn hyn hefyd, yr oedd pawb o honom yn dechreu teimlo oddiwrth glefyd y mor. Dydd Mer- cher, yr oedd- y gwynt yn ffafriol, a'r llong yn teithio yn gynym. Dydd Ian, oddeutu dau o'r gloch, cyrhaeddasom Lisbon yn y boreu, ac aeth pob un allan yn y lie hwn er prynu yehydig o betliau oedd angenrheidiol. Y mae Lisbon yn dref hardd, y bniklings yn uchel, boneddigaidd, a tliiws yr olwg; hefyd, y mae prisoedd pob peth yn cyfateb i'w harddweh. Dydd Gwener, y prydnawn, yn gadael y lie, ac yn dywydd rhagorol. Sadwrn, dim un cyfnewidiad yn y tywydd, yn teithio yn gyflym. Y Sul a'r Llun eto yr un fath, pawb yn awr wedi llwyr wella o glefyd y mor, felly yn alluog i fwynhau ein hunain ar fwrdd y llong, a thrwy hyny yn gallu gweled rhyfeddodau natur, un o'r cyfryw oedd craig fawreddog, nid tebyg i gveigiau Cymru, ond yn ofnadvvy fwy rhamantus ac annirnadwy ei maintioli; ei henw ydoedd Conoly, ac arni ddau oleudy mawr er ei gcleuo. Dydd Mawrth, pawb yn hapus, y tywydd yn ffafr- iol, a llh o bysg hedegog i'w gweled. Dydd Merclier, yn ngolwg St. Vincent Island, craig fawr eto, tebyg i'r hon ydym newydd adael yn ymddangos yn bresenolluaws mawr o for foch. Dydd lau, y gwynt yr un fath, yn cyfarfod ag agerlong ar ei tliaith i Lun- dain, a mawr yr adloniant a gawsom wrth wneyd arwyddion o'r naill long i'r Hall. Dydd Sadwrn, y gwynt yn uchel, ond yn dechreu bwrw yehydig wlaw heddyw, eto yn cyfarfod a llu o longau yn croesi i Awstralia. Sul, y tywydd yn rhagorol, pawb yn mwyn- hau iechyd da, ac felly yn lied hapus. Dydd LInn, am bump o'r gloch, yn croesi y gyhyd- edd, ond heb weled un cyfnewidiad yn y tywydd, am fod y gwynt mor uchel, yn teithio heddyw yn lied gyflym. Dyddiau Mawrbh a Mercher yn dywydd da, a chanddi wynt oer ac iachus. Dydd Iau, yn dwym iawn, ac yn parhau felly hyd ddydd Sadwrn, pryd yr oedd yehydig yn fwy gwyntog, a hwnw o'n tu, felly, yn teithio ychydig yn gyflymach, ac yn parhau hyd ddydd Llun, pryd y daethom i Rio de Janeiro. Aethom i fewn yma oddeutu dau o'r gloch. Y mae hwn eto yn Ie, hardd iawn, ond mai dyn- ion duon sydd yma y rhan fwyaf, a'r rhai hyny yn gaethion. Ni cliredais erioed y cawswn weled dynion yn cael gweithio a byw mor galed ac y darllenais am danynt; yma yr oedd y plant wedi eu cylymu ar gefn eu mamau, ac yna fel yr oedd y menywod druain yn gorfod gweithio ary caeau neuyr heolydd. Dydd Mawrth, am wyth y prydnawn, yn cychwyn allan, ac yn clywydd tlafriol. Dydd Mercher, y gwynt yn uchel, teithio yn lied araf. Dydd Ian, lied ystormus, yn gorfod cadw lawr heddyw trwy'v dydd. Dydd Gwener yn dywydd hyfrydol eto. Sadwrn, yn aros am Monte Video, a'r tir yn ein golwg. Dydd Sul, yn cyrhaedd y lie; y mae hwn eto yn breswylfa tra gwych, y maent yn gweithio yma ddydd Sul fel diwrnod arall. Dydd Llun, yn cymeryd yr afon am oddeutu deuddeg milldir mewn agerlong am Buenos Ayres, pryd y daeth rhai i'n eyfarfod gyda dau gert or cludo ein nwyddau, &c. ac felly, dygasant ni i'r Immigrants' Hotel, yr hwn le yr ydym yn mwynhau ein hunain yn bresenol. Dyna i chwi, yn fyr, yehydig o, hanes ein ] taith i Batagonia, ac er yn awr yn mhell o I dir Gwalia, y mae ei hen lechweddau yn gysegredig yn ein calon. Dymunwn hefyd gofio at bawb o'n hen gydnabod, a phan cawn amser, cewch glywed gair eto ynfanylach." Gwel pawb bellach mai anwiredd oedd yr hen ystori fratiog am y llong, ei bod wedi ei chwythu yn fratiau, a'r teithwyr wedi eu colli yn yr hen eigion trochiog, a diamheu y bydd yn dda gan lawer fel fy hun gael gwybod gwell, ac fod pawb wedi croesi yn iach. Mawr lwydd fyddo iddynt hyd derfyn oes. GOHEBYDD. [Methasom gael lie i'r llythyr uchod yn ein rhifyn di weddaf. -GOL.]

Y NHW.

BRYNDU.

IPENUEL, YSTRADFELLTE. -

[No title]

-rONGWYNLAIS A'R AM }YLCHOEDD.

BRITON FERRY.

CROSS INN, LLANDYBIE.

YSTRADGYNLAIS.

CWMAFON.

DIN AS.

Peiriant i Ehedeg. -

Llofrudd wadi ei Ddedfrydu…

Nodion am y Beirdd, &c.