Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
ZBEXnT tewis. ■ SYLFAENEDIG AR FFEITHAU. DA>' TOM WEDROS EVANS, A WDWR "GOMER JONES." [Oherwydd meithder y nofelig gan Ceredig | Williams, gorfodwyd ni i adael allan gyfr^n yr wythnos hon. Yn y dyfodol caiff ym- ddangos yn gyson a rlieolaici d -COL.
',.-Y DDAU NADOLIG.
Y DDAU NADOLIG. GAN CEREDIG WILLIAMS. Pennob I. Yjt mhlith y teithwyr a ddisgynasant yn ugorsaf C — nos cyn Nadolig, 1852, o Lundaio, yr ydoedd ARTHUR lillys, yr hwn oedd wcdi bod am rai blynyddau mewn cyfraith ag hen yswain ystyfnig mewn perthynas i ddarn o dir. Dyn tal ydoedd Arthur, ei wallt yn wyn fel eira, a golwg ffermwrol iawn arno Y noswaith hon yr oedd eira fel mantell wen yn cuddio y ddaear, ac yr oedd y lloer a'r ser yn gudd- iedig gan gymylau duon. Gan ei fod yn teimlo yn oerllyd wedi taith mor bell, trodd i mewn i'r Argel Hotel. Sut i chwi heno," ebai gwr y ty, "gwelaf eich bod wedi dychwelyd yn ddy- ogel o blith own rheibus y gyfraith. Ffordd dae-thoch yn mlaen. A ydyw mater y gyfraith wedi ei benderfynu o'r diwedd ? Wel." atebai yr hen ffarmwr, a gwen swynol yn ymdaenu dros eiwyneb, "ydyw, y mae yn awr ar ben. Y mao y tir i fod yn fy meddiant yn mben tri mis, ac y mae yr hen yswain wedi goifod talu y costau bob dimai. Cefais hwynt cyn ynrndael." A chyda hyn tynai allan o'i logell bwrs Iledr mawr yn llawn o aura notes. Dyma hwy," ebe fe, "ac o hyn allan ystyrir yr lien Rhys yn respectable ac anrhydeddus. Cyn i mi fyned i fyny, galwent fi yr hen Arthur, ond o hyn allan byddaf yn Mr. neu Esquire Rhys. Nid yw aur yn ffurfiad cymeriad and dim, eto rhyw oes ryfedd ydyw hon am addoli y llo; os bydd aur genych, a dim cymeriad, yr ydych yn foneddwr; ond os bydd y cymeriad fel yr haul genych, ac beb aur, nid ydych ond fel efydd yn seinio neu symbal yn tincian." A aroswch chwi yma heno," gofynai y tafarnwr y mae genym wely spare, ac y mae i chwi groesaw iddo fel y mae, Yr oeddym yn dysgwyl nith i'r wraig yma gyda'r train diweddaf, ond gan na ddaeth y mae at eich gwasanaeth chwi." "Na, diolch i chwi, y mae arnaf chwant gweled Peggy, ac yr wyf yn hiraethu am gusan oddiwrth Elen fach. A oes genych drap allwn gael i'm gyru gartref?" Nac oes, wir; y mae allan er ddoe, ac nis gwn pa bryd y dychwela." Tra yr ydoedd yr ymddyddan hyn yn myned yn mlaen, eisteddai dau ddyn mewn dillad tlawd wrth ochr y tan yn ysmocio, ac yn ymddangos yn hollol ddiofal o'r cyfan, er ar yr un pryd yn llyncu pob brawddeg, a phasiai amryw arwyddion neillduol ibyngddynt. Gwell i ni fyn'd, Ben," meddai yr hynaf ohonynt, onide ni chyrhaeddwn gartref mewn pryd." Gadawsant y dafarn, ac yn fuan dilynodd y ffermwr hwynt. Yr oedd yr eira yn cyflym ddisgyn, a charid ef gan y gwynt i lygad y teithiwr blin nes bron a'i ddallu. Nid oedd neb i'w ganfod ar yr heol: yr oedd pawb yn nythu gerllaw y tan. Brysiai Rhys tua thref gan obeithio gweled ei blentyn cyn iddi fyned i freichiau cwsg. Draw tuhwi t i amryw gaeau gwelai oleuni mewn ffenestr. Goleuni ydoedd yn ffenestr Gellibwch. Codwyd ei galon ac ysbrydol- wyd ef a nerth; meddyliai am ei wraig dirion, ei Peggy ffyddlon, seren ei fywyd. 0 mor falch fydd hi i'm gweled," meddai wrtho ei hun, a deall fod ein breuddwydion arianol wedi eu sylweddoli." Ar hyn, wele ddau ddyn yn neidio dros y berth i'r heol; gafaeliodd un ohonynt yn ei war, a daliai y Hall lawddryll yn ei wyneb, tra y dywedai, "Rhoddwch i ni eich arian." "Nid oes genyf aur nac arian," atebai Rhys, gan grynu fel deilen sigledig gan wynt. Celwydd i gyd," ebai y dyn a'r llaw- ddryll. Daethoch heno gyda'r train, ac yn yr Angel dangosasoch gydaid o aur. Jihoddweh ef yn dawel i ni, neu bydd i ni ar unwaith wneyd terfyn ar eich bywyd." Ymdrechodd yn eu herbyn, ond rhodd- odd un ergyd iddo nes y gorweddai fel marw ar yr eira. Chwiliasant ei logeilau, lladratasant ei arian, ei oriawr, yn nghyd tA rhyw bapyrau diwasanaeth iddynt hwy. Yn dychymygu eu bod yn gweled rhyw- un yn dyfod, rhedasant nerth eu camrau, gan adael Rhys i drugaredd yr ystorm. Pan y daeth ato ei hun, cafodd ei fod wedi colli ei oriawr yn nghyd a'i arian. Ofnai y deuai y lladron ar ei ol drachefn, ac aeth mor fuan ag y medrai tuag at ei gartref. Pan yn nesu at y glwyd a ar- weiniai i'w dy, gwelodd olygfa aruthrol druenns I Gwraig heb esgidiau am ei thraed na bonnet am ei phen yn gorwedd ar amser cyn hyny, yr oedd ei galon yn teimlo dros y creadur gwael hyn nis gallai ei gadael i drengu yn yr eira. Cydioddyn ei llaw, a rhwbiodd hi am ychydig, ond dim cyffro. 11 Nis gall fod yn farw," ebe fe wrtho ei hun; "na" na, ac mor agos i nodded a chynorthwy." Ysgydwodd hi yn drwsgl; dihunodd, agorodd ei llygaid gleision mawr mewn gwylltineb, synai, a dywedodd, Gadewch i mi farw yr wyf yn unig ac yn wrthodedig; nid oes genyf gartref i fyned iddo, na gwely i orphwys arno ond yr eira gwyn, na chronglwyd i'm llochesu ond un fawr y nef ei hun. Gadewch i mi farw "Na, ni, chewch farw," dywedai'r ffarmwr nid ydych ychwaith mor ddi- amddiffyn ag y meddyliwch. Os ydyw cyfeillion ieuenctyd wedi eich gadael, y mae ereill wedi cymeryd eu lie. Cewch ddyfod gyda mi, cewch nodded yn fy nghartref, a threulio yfory (y Nadolig) dan fy Dghronglwyd." Bydded i Dduw eich bendithio am gy- meryd trueni-ar y tlawd," ebai hi, ac ym- drechodd godi. Methodd; yr oedd ei haelodau wedi fferu gan oerfel. Gwnaeth ail ymdrech, a bu lwyddianus. Arwein- iwyd hi at y ty. Yr oedd Peggy yn gor- foleddu wrth weled ei phriod wedi dychwelyd, a neidiai Elen fach i'w gol gan ei guddio a chusanau. Pan y gwelsant y wraig ddyeithr yn sefyll ar y trothwy, ciliodd y fflam gariadlawn i raddau yn ol. 0, ie," ebai Rhys wrth ei wraig, cefais y fenyw hon a'i baban yn gorwedd yn yr eira wrth y glwyd, a meddyliais na fuasai fy anwyl wraig yn gwrthod noswaith o lety iddi ac ychydig i'w fwyta." I I E-Ithaf eywir," dywedai Peggy, "gwydd- och nad oes dim yn hoffusach genyf na chynorthwyo yr annghenus, canys yr hwn sydd yn rhoddi i'r tlawd sydd yn rhoddi i'r Arglwydd. Y fath blentyn braf ydyw, Rhys. Rhoddweh efe i mi, wraig fach, a nesewch at y tan. Yr ydych bron a sythu yn siwr. Onid ydyw hwn yn debyg i John ni, oni b'ai ei fod gymaint yn dew- ach ? "A oes genych chwi fachgen ? m'am," gofynai'r ddyeithrwraig. "Nac oes; claddasom ef flwyddyn yn ol. Beth ydyw oed yr un yma ? Deg mis, m'am." Wedi yr ymddyddan hwn rhoddwyd swper ar y bwrdd, a bwytaodd y wraig yn annghyffredin. Wedi darfod bwyta ad- roddodd ei holl helynt—lie ei genedigaeth, oedran ac hanes ei phriodas. Dywedodd iddi briodi dyn diog, hoff o yfed a thrafaelu o'r naill fan i'r llall. Fod ei thad wedi ei chynorthwyo hyd yn ddiweddar, ond ei fod yn awr wedi marw. Ei bod mewn canlyniad wedi cerdded o fan i fan er cael gafael yn ei gwr. Iddi glywed ei fod yn y pentref sydd ychydig filldiroedd o'r station yn nghwmpeini un o'r dynion gwaethaf dan haul. Tra yn llefaru wylai y dagrau yn bidl, wylai y plentyn, wylai Peggy, ac wylai yr hen Arthur Rhys. Edrychai Peggy ar ei gwr, ae yn methu canfod cad- wen ei oriawr, gofynodd, Pa le mae eich cad wen ? "Oie," ebe fe, i, yr oeddwn wedi an- nghofio fy ngofid fy hun yn ngofid y wraig fach hon. Cefais fy rolbio heno o'm horiadur, pwrs, a'm harian, gan ddau ddyn. Ymosodasant arnaf ar yr heol. Adnabydd- wyf hwynt, canys gwelais hwynt yn yr Angel; ac enw un o honynt ydyw Ben." Trodd y wraig ddyeithr yn welw fel angeu. Paham ? A oedd rhywbeth yn y frawddeg olaf i'w ehyffroi, ynte gwendid corfforol ydoedd ? Daeth yn well yn mhen ychydig; rhoddwyd hi a'i baban yn y gwely, ond boreu dranoeth cafwyd hi yn farw yn ymyl ei phlentyn! PEN. II. Aeth y swn ar led ar garlam gwyllt fod Arthur Rhys wedi ei guro gan ddau straggler nos cyn y Nadolig, a'u bod wedi eymeryd ei arian, &c., ond fod rhif y notes wedi eu gyru i'r banc. Yr ua mor gyflym yr aeth y newydd ei fod wedi enill y gyf- raith, ac wedi dyfod i feddiant o'r tir. Yn awr, yr oedd personau yn hawlio perthynas ag ef ag oeddynt ychydig fisoedd yn ol yn ei ddiystyru, ac ereill yn tynu eu hetiau iddo ag oeddynt wedi arfer ei fychanu, felly yn sylweddoli y broffwydoliaeth, "ystyrir yr hen Rhys yn respectable." Ond yr oedd efe yn gweled eu hamcanion, yn darllen eu meddyliau, ac yn ymddwyn tuag atynt yn ol eu teilyngdod. Dewiswyd ef yn church- warden, a chafodd hefyd wahoddiad i giniawa yn nhy yr offeiriad. Er fod Ffawd yn gwenu arno nid ydoedd yn ymfalchio, ond parhaai yn gartrefol yn ei ffordd ac haelionus ei gymeriad. Nid ydoedd yr un amddifad na gweddw yn ym- adael a'i ddrws heb dderbyn elusen. Yr oedd Arthur Rhys a haelioni yn enwau cyfystyr yn ngolwg y wlad. Cadwyd y baban dyeithr yn y ty, tyfodd, a daeth yn mlaen yn ardderchog dan ofal Peggy. Yr oedd ei lygaid gleision heirdd, ei wallt du cyrliog, ei dalcen uchel, ei edrychiad talentog, yn nghyd a'i dymher dawel, yn ei wneyd yn favourite yn mhob man. Cadwyd pwnc ei rieni yn ddirgelweh oddiwrtho am flynyddau. Un noson pan yr oeddynt yn eistedd o amgylch y tan, galwodd yr hen wr Llewelyn ato, ac wedi ei roddi rhwng ei liniau dywedodd, "Flynyddau yn ol, cafwyd bachgen bychan yn mreichiau ei fam yn ymyl y glwyd sydd yn arwain i'r ty ar noson oer ac ystormus iawn. Yr oedd y bachgen yr un bictiwr a chwi; eymerasom hwy i mewn, ond cyn y toreu bu farw y fam a gadawyd yr un bach yn amddifad." Pa beth a wraethoch ag ef, fy ewythr," gofynai Llywelyn, "yr wyf yn sier na ddarfu i chwi ei droi allan; y mae eich calon yn rhy dyner i hyny." "Eithaf right," oedd yr atebiad; "nis gallaswn ei yru i'r union, yr oedd ar Elen eisieu eyfaill i chwareu gyda hi, ac felly magasom ef ein hunain," Yr oedd calon Llywelyn yn euro o deimlad dros y plentyn estronol, yr hwn oedd wedi ei adael mewn lie dyeithr, heb ddychymygu am foment mai efe ydoedd yr un hwnw. Wedi dystawrwydd byr, gofynodd, "Beth ydoedd ei enw ? Llywelyn," ebai yr hen wr. Pa bryd y dygwyddodd hyn ? gofynai y bachgen, a'i lygaid yn pelydru fel pe byddai wedi cael allwedd i'r dirgelwch. "Oddeutu deuddeg mlynedd yn ol," atebai Rhys. Yr wyf yn awr yn deall y cyfan; myfi ydoedd y plentyn, ac y mae fy mam ynte yn y bedd," a chyda hyn yr oedd eymylau yn amgylcbu ei aeliau, a phwysau mawr yn gorphwys ar ei galon. "Ie, tydi y lyw y bachgen, ond ni raid i ti wylo na gwangaloni; y caredigrwydd sydd wedi'th gadw yn y mynedol a'th geidw etc yn y dyfodol, ac os byddi yn fachgen da, efallai y cei hyd yn nod fwy nag a gefaist erioed." Ac ni bydd i chwi fy nhaflu ar drugar- edd y byd ynte yn awr ?" gofynai Llywelyn, a'i lygaid yn llenwi gan ddagrau. "Na, na, cei fwynhau ein cyfoeth gyda ni tra byddaf fi a'm gwraig byw, a chei di ag Elen ei fwynhau wedi i ni farw." Symudwyd y pwysau oddiar ei galon, gwasgarwyd y cymylau, sychwyd y dagrau, ac ymddangosodd y dyfodol yn llawn goleuni. "0, pa fodd y gallaf eich ad-dalu am eich cymwynasau yn gofafu am danaf ac yn fy magu mor dirion ? Dywedwch sut y gallaf." ,U Nid wyf am ad-daliad," oedd yr ateb iad, yr wyf yn ddedwydd yn y weithred. Bydd di yn ufudd i mi, fel yr ydwyt wedi arfer a bod, a bydd pob peth yn dda. Cymer di ag Elen eich swper, ac ewch yn awr i orphwys." Pasiodd diwrnod ar ol diwrnod, ac yr oedd mwyneidd-dra Llywelyn yn ei wneuthur yn barchusach. Nid ydoedd ei ymddygiad at Elen yn myned heibio yn ddisylw. Yr oedd y ddau yn derbyn eu haddysg yn ysgol y pentref, rhyw filldir neu ddwy o'r ty. Law yn llaw eu gwelid yn myned trwy'r meusydd weithiau yn siarad, weithiau yn canu, ac weithiau yn chwerthin nes ydoedd y creigiau yn ad- seinio gan eu lief. Nid ydyw amser plentyndod a bachgen- dod heb ei ofid; nid ydyw y cwpan bob amser yn felus, na'r awyrgylch yn glir. Y mae cymylau yn cuddio'r ffurfafen, ac y mae wermod yn y cwpan. Un boreu yn mis Rhagfyr, pan yr oedd- ynt yn carlamu tua'r ysgol ac yn croesi afon N ar blank cul, syrthiodd Elen i mewn, a chariwyd hi ymaith gan y llifeir- iant ag oedd wedi ei achosi gan y gwlaw y noswaith flaenorol. Trodd Llywelyn, a gwelai ferch ei noddwr yn myned gyda'r llif! Clywodd ei llais yn gwaeddi am gynorthwy, a gwelai ei braich wen, ganaid, i'r lan uwchlaw'r dwfr! Rhedodd i oehr yr afon, ac ar darawiad llygad yr ydoedd i i mewn. Er mor ieuanc, yr ydoedd yn nofiwr da Yr oedd ei chri yn druenus! O'r diwedd, gafaelodd yn ei gwisg, rhodd- odd ei fraich am dani, a daeth a hi yn agos i'r lan; ond rhywfodd collodd ei afael, a gwelodd hi drachefn yn myned yn yr un cyfeiriad, a'i gwallt hirllais a melynaidd yn nofio ar wyneb y dyfroedd! Cynygiodd drachefn, ond yr ydoedd yn rhy wan. Pan yr ydoedd pob gobaith ar ddarfod, gwelai ddyn ag ydoedd wedi bod yn llygad-dyst o'r ymdrechfa yn neidio i mewn, a llwydd- odd trwy rym ei fraich i gael y ddau yn ddyogel i dir. Gwellaodd Llywelyn yn fuan, ond bu Elen yn gorwedd am ddiwrn- odau wrth borth angeu, yn dysgwyl gwys- iad i mewn awr ar ol awr. Cafodd pob chwareu teg, ac nid oedd neb yn fwy parod i'w gwasanaethu na'i brawd mabwysiedig. Eisteddai yn ymyl ei gwely, gan ddarllen iddi fywgraffiadau dynion ieuainc y Beibl, yn nghyd a llyfrau barddonol Cymraeg a Saesonaeg. Llawer gwaith y meddyliodd Arthur Rhys a'i wraig fod eu seren arweiniol i gael ei diffaddi—fod eu lili i gael ei gwywo gan anadl angeu a phob tro yr awgryment hyny mewn geiriau, fe'u cysurid gan Llyw- elyn trwy ddywedyd, Na, na, ni chaiff farw yn awr." Os ydoodd efe yn uchel o'r blaen yn eu golwg, yr oedd yn anrhaethol uwch yn awr; a llawer tro y dywedodd Rhys wrth Peggy ei wraig,—" Carwn weled y ddau yma wedi priodi cyn fy marw. Buom ni ein dan yn.ffol; gadawsom hi yn ddiweddar, Oedran dwl i briodi yw pump a deugain. Carwn weled fy wyrion cyn fy myned o amgylch fy nhraed. Y mae mab hynaf yr offeiriad fel pe byddai yn meddwl am Elen, a dyna Dafydd, mab manager Pwll-y- crwys ond nid oes neb ohonynt yn debyg i Llywelyn, ac yr wyf yn credu fod Elen yn ei garu yntau. Pan gei di fantais, Peggy, gofyn ei barn hi am dano, ar ol iddi wella, a gobeithio y ca fy mreuddwyd ei sylweddoli cyn y disgynaf i'r pridd." Gad y pwne i Ragluniaeth," meddai Peggy, terfyna pethau yn all rigM." PEN. III. Ehedai amser ar adenydd ysgafn yn mlaen-llifai fel afon risialaidd, yn es- mwyth a digynwrf, yn nghartref Arthur Rhys. Y mae y plentyn estronol, Llywelyn, yn awr wedi dyfod yn ddyn cryf a gwisgi, ac yn llanw swydd bwysig yn ngwaith glo y Crwys. Y mae Elen wedi llwyr wella, ac wedi ymddadblygu yn rhyfeddol mewn corff a meddwl—y mae yn edrych fel tywysoges. Ar foreu Nadolig, 1872, y mae cloeh eglwys y plwyf yn rhoddi allan y seiniau melusaf. Y mae yr holl bentref yn fyw o ben bwy gilydd, ac ar hyd y ffordd at breswylfa A. Rhys, y mae degau o bobl i'w canfod. Hongianai fflags allan o'r Ängel," -teflid allan raffau o'r naill ochr i'r llall, arnynt yr ydoedd darnau o wahanol fateriah, ac arnynt hwythau yn ysgrifenedig longyfarchiadau neillduol. Yn Gellibwch, preswylfa Elen a Llywelyn, yr oedd cyffro mawr, tafodau lluosog yn siarad, dwylaw lluosog yn gweithio, a thraed Iluosog yn cerdded. Yn eu plith edrychai Rhys fel brenin, a gwen ar ei wefusau a gair cariadus i bawb. Yn ei logell yr oedd oriawr aur newydd, a chadwen o'r un defnydd drud ar ei fron. Yr oedd ei wallt wedi ei drwsio heddyw fel na bu am flynyddau o'r blaen. Wrth ei wraig dywedai, Wel, Peggy, myfi ydyw y dyn hapusaf yn Nghymru heddyw, y mae fy mreuddwyd ar gael ei sylweddoli, a Llywelyn ac Elen ar gael eu gwneyd yn wr a gwraig." Am haner awr wedi deg, daeth tri o gerbydau at y drws, ac aeth y parti priodasol iddynt, a ffwrdd a hwy dros y ceryg fel y gwynt hyd borth yr eglwys. Yno yr oedd torf fawr wedi ym- gasglu, ond yn mlaen yr aethant trwyddynt i'r eglwys, Elen yn pwyso ar fraich ei thad. Merch bert ofnadwy yw hi," meddai un bachgen a llygad i weled natur. Dyna bar o lygaid a gwallt fine," dy- wedai un arall. "Mari," ebe rhyw ferch, "dyna shwd fonet fyna inau pan aiff Wil a fi i'r eglwys." Mae yr hen ddyn yn werth arian ar- swydus," dywedai un arall, "ac y mae yn debyg mai 'nhw eu dau a gaiff y cyfan ar ei ol." Tra yr oedd y siarad hyn, a llawer rhagor, yn myned yn mlaen y tu allan i'r eglwys, yr oedd yr offeiriad yn clymu yn nghyd Llywelyn ac Elen hyd angeu. Wedi i'r cwbl fyned drosodd, dychwelwyd i Gelli- bweh i fwynhau y dydd. Yfwyd llwnc- destynnu amrywiol, canwyd caniadau swyn- ol, ac areithiwyd yn ddoniol, nes yr oeddynt oil wedi eu gwetreiddio. Tra yr oedd y wledd yn ei man goreu, wele guro wrth y drws yn ddisymwth, ac aeth dystawrwydd i'r orsedd. Agorwyd y drws gan y forwyn, ac yn ei gwyddfod y safai dyn tal, a'barf ddu, ac edrychiad estronol a gofynodd, A ydyw Arthur Rhys i mewn ? "Ydyw," ebe'r forwyn, "ond nis gall eich gweled chwi yn awr, y mae ewmpeini gydag ef." Y mae yn rhaid i mi gael ei weled cyn ymadael," meddai y dyeithr. "Beth ydyw eich enw ynte?" gofynai y forwyn, yn hytrach yn anfoddlawn i wneyd dim ag ef. "Benjamin Harris, o Awstralia." Aeth y ferch a'r genadwri at ei meistr; gofynodd yntau i'r cwmpeini ei esgusodi, ac aeth at y drws Nid wyf yn eich adnabod," ebai Rhys wrth y dyn dyeithr; "nid wyf wedi eich gweled o'r blaen, am wn i. Dewch i mewn; ac aethant i ystafell fechan o'r neilldu. Wel," gofynai Rhys, beth ydyw eich neges; byddwch yn fyr, canys y mae genyf gyfeillion yn fy aros. Y mae fy merch wedi priodi heddyw." "Nis gallaf fod yn fyr-iawn," ebai y dyeithr, "ond gwnaf fy ngoreu at hyny. Dywedwch nad ydych wedi fy ngweled o'r blaen; camsynied ydyw hyny. Tuag ugain mlynedd yn ol bum yn y lie hwn ddiweddaf, nos cyn y Nadolig. Yr oedd eira yn drwch ar y llawr, a rhyw bum' can' Ilath o'r fan hon, darfu i mi a rhyw, ddihuryn arall daro arnoch chwi a Uadrata eich arian, notes, ac oriawr. Hwnw ydoedd y tro cyntaf i mi fod a Haw yn y fath anfadwaith Dylanwad- odd ar fy meddwl yn drwm, a phenderfyaaas* na wnaethwn y fath weithred drachefn. Yr oedd genyf wraig a baban deng mis oed y pryd hwnw; ond gadewais hwynt i dru- garedd y byd. Wedi gwneyd y fath gam- wri a chwi, rhuodd fy nghydwybob fel arthes wedi colli ei chenawon. Penderfyn- ais ymadael ar unwaith a'r wlad, os gallwn. Ffarweliais a'r adyn a'm rhwydodd y tro- hwnw cymerais long i Awstralia, a phen- derfynais fyw yn deilyngach o'r dyn. Gweithiais yn galed; enillais arian, ond collais hwynt mewn speculation; treiais drachefn, a phenderfynais ddychwelyd i Gymru, ac os oeddych chwi byw, i.dalu yn ol y lladrad ar ei bedwerydd. Dyna ydyw fy helynt, yn fyr, a thvna eich arian i chwithau. Yn awr, good byeP "Hold onf na, na," meddai Rhys, a'r dagrau yn treiglo drcs ei ruddiau wrth feddwl am onestrwydd yr hwn fu gynt yn lleidr, "rhaid i chwi aros yma heno. Beth yw eich enw, ddywedasoch ? Benjamin Harris." Gadewch i minau ddweyd gair yn awr. Y noson hono cefais eich gwraig yn rhynu wrth ein clwyd. Yr oedd wedi eich dilyn o fan i fan hyd yma." Y mae yn fyw ynte ? ebai Ben, a'i lygaid yn pelydru drwy y gemau gwlybion. Nac ydyw; bu farw y noson hono jw ein ty Di, a chladdasom hi yn mynwent yr eglwys." A. ddywedodd hi rywbeth am y bach- gen wrthych?" "Nid llawer, ond y mae efe yn fyw, a a gellweh ei weled ond aros ychydig." Efallai ei fod wedi eanlyn llwybrau ei dad, a'i fod yn warth i ddynoliaeth ac os o'r tu arall, ei fod wedi byw yn dda, bydd. arno gywilydd arddel y fath rieni." Na, bachgen noble ydyw. Mari," ebe fe wrth ddrws yr ystafell, "galw Llywelyn yma am foment, a dywed wrth Elen am beidio ofni, y caiff e' ddod yn ol yn fuan." Daeth y priodfab, ac edrychodd Ben a Llywelyn i wynebau eu gilydd am rai mynudau. Pwy ydyw y dyeithr hwn ? gofynai Llywelyn. "Dy DAD," ebai Rhys, "y mae wedi do'd o Awstralia mewn pryd i'th wledd briodasol." Syrthiodd y tad ar wddf y mab, ac al cusaaodd. Wedi egluro yr helynt i Llyw- elyn, aethpwyd i ystafell y gwledda, ac yno y buwyd hyd oriau bychain dranoeth yn siarad ac ymgomio am holl amgylchiadau bywyd. Ni chafodd Benjamin Harris ymadael a'r ty rhoddodd ei holl gyfoeth i Llywelyn ac Elen. Bu hhys a Pheggy byw lawer Nadolig wedi hwn, ac y mae plant y ddau ddyn ieuanc yn models i blant y byd. Y tro di weddaf y gwelais hwynt, gofynai Beni bach i'w dad, "Pryd daw Nodolig data ?"
"1. Yr Arch-dderwydd a Guilelimus.
"1. Yr Arch-dderwydd a Guilelimus. Y mae llythyr diweddaf yr Arch-dderwydd yn peri i mi sefyll, a gofyn A yw yn bosibl fod y sawl a ysgrifenodd y llinellau hyn mewn llawn feddiant o'i synwyrau ? Onid oes digon o arwyddion fod gwanychiad yn nghyneddfau yr ysgrifenydd—ei fod wedi llithro yn ol eto 1 gyflwr o fabandod 1" Yr ydym wedi derbyn llawer o lythyrau oddiwrth wahanol ddynion, o safle uchel yn Nghymru a Lloegr, yn diolch i Guilelimus am ei lythyrau" ac ar yr un pryd yn dweyd fod ein tasg wedi ei orphen yn deg ac urddasol, a bod y teimlad atgas a amlygir yn llythyrau Myfyr yn brawf ei fod yntau ei hun wedi teimlo fod pob tir wedi ei dori ym- aith o dan ei draed, a phob ffordd o amddiff- yniad wedi ei dwyn oddiarno oddieithr ffordd y vmich dafodrydd—cecru, tafocli, a drwg- liwio ei wrthwynebydd. Hefyd, fod y bost chwyddfawr a'r ebychiadau hunanol a gwag- ogoneddu's a amlygir yn ei lythyrau yn brawf ei fod wedi syrthio i'r tir hwnw y byddai yn well dweyd uwch ei ben, "Let him alone, to die." Ond gyda pharch a gwylder y dymun- em ddweyd wrth Myfyr ei fod yn camsynied, neu ynte ei fod yn euog o ddwyn camdystiol- aeth yn fy erbyn, trwy ddweyd fy mod yn "codi crechwen o sarhad arno ef, Ap Ithel, ac I. ap K." Nac wyf fi; nid oes achos i mi ei sarhau, ac ni cheisiais ei sarhau cyffyrdd- ais a'u henwau mewn cysylltiad a Myfyriaeth ac ni theflais anfri personol ar un o honynt. Dywed Myfyr eu bod yn dri awdurdod uohaf yr oes hon ar Dderwyddiaeth—dichon hyny,—ond beth bynag yw eu hawdurdod nid ydynt uwchlaw eu galw i gyfrif os bydd amheuaeth yn nghyloh eu gosodiadau; pa un a wnaethum hyny yn deg a boneddigaidd yr ydym yn gadael i'r cyhoedd farnu, ac nid Myfyr. Yn olaf, fy mod yn grid, ac fy mod yn gwneyd peth a Myfyr na feiddiwn wneyd a'm Harchesgob. Wel, pe buasai yr Archesgob yn cyhoeddi Anffyddiaetli, fel Myfyr, ni fuaswn yn petruso haner mynud wneyd mor eofn arno ef ag ar Myfyr ond nid oes parallel yn y case. Mae yr Archesgob wedi ei neillduo i'w swydd urddasol; y mae nerth Eglwys, Canonau, Gorsedd, a Beibl y tu cefn iddo ond nid yw Myfyr ond intruder hunanol, yn chwythu ei