Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.

News
Cite
Share

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. AMKYWION. Yn adeg y Sesiwn sydd wedi ei chynal yma y dyddiau aeth heibio, mae nifer o droseddwyr wedi gorfod sefyll eu prawf am dyngu anudon, yr hwn drosedd, yn ol fel yr awgrymai y prif farnwr yn y llyS', sydd yn un o ddrygau mwyaf gwaradwyddus y wlad, ac nad oedd dim yn amgen i wneyd a'r euogion end gadael iddynt gael y gosb fwyaf eithafol o fewn cyrhaedd cyfraith Prydain. Nifer o bersonau wedi cyng- 'rheirio a'u gilydd i dyngu anudon mewn tn o lysoedd cyfreithiol, i ddim amgenacli na caymer- yd i ffwrdd fywyd y diniwed. Mae twyll ac anwiredd yn cymeryd meddiant o galonau llawer yn ein dyddiau ui, fel na waeth ganddynt pa ddichellion a gyilawnant i gyrhaedd amcanion drwg a thwyllodrus. Nid yw dychrynfeydd cosb cyfraith. yn effeithio dim arnynt, am fod y gydwybodwediserio fel nad oes dim yn tycio arnynt yn y presenol na rhagfeddwl y dyfodol. Wedi ymwertliu i anwiredd, gan ymdroi yn mhyllaa llygredig pechod a clrygioni. Gellir yn hawdd gocheI gelyn gwyneb agored, ond am y twyllwr ffugiol, mae eie fel llwynog, yn ym- ddangos mewn gwisg gyfeillgar; ond er y cyfan, nid yw ond bradwr, a chycla gofid y cydnabyda- af fy mod wedi cael profion yn ddiweddar o gyfeillion ffugiol. EISTEDDFOD Y GORDOFIGION. Nid wyf yn meddwl fod neb wedi gweled un nodiad o dderbyniad y cyfansoddiadau, ac hwyrach y gellir priodoli eyr amryfusedd i ys- bryd annghymreigaidd yr ysgrifenydd, gwr ag aydd yn rhy fawr i'r swydd o fod yn ysgrifenydd eisteddfod Gymreig. Methasant a chael un o safle yn y byd i ymgymeryd a llywyddu yr Eisteddfod, a gellid priodoli hyn i gulni y pwyll- gor. Y byd-aunabyddue Llew Llwyfo sydd i fod yn arweinydd, os c- awn yr hyfrydwch o'i weled, a gobeithio y daw fel y caffom y fraint o weled yr hen frawd unwaith eto i adnewyddu y mclus adgof o'r amser gynt, pan oedd y Llew yn ei ogoniant yn eisteddfodau y Deheudir, pan oedd gwyliau bythgofus y Carw Coch, yn Nhre- cynon, mewn bri a mawredd Cymreig. r. dgof o'r gwyliau llenyddol pan oedd Gwilym Mai, Gwilym Hid, Cilfynydd, Cwmgwys, Alaw Gocli, yn eu hwvliau—i gyd wedi myned, fel nad oes yn aros ond Dewi Wyn a Dewi Haran, a'r liynaf- gwr Nathan Dyfed, gyda meibion yr hybarch ddigrifwr Shakespeare, Eglwys Elian—a wna i mi edrych yn oer ar Eisteddfod L'erpwl, am fod pob peth ynddi mor farw, gyda'r eitliriad o'r ,canu a geir gan y cantorion cyflogedig. Hyn yn awr am y tro hwn, cewch helynt yr eistedd- fod yn fy llith nesaf. MASNACH. Tawel ydyw pob peth, a masnachwyr yn cwyno oherwydcl yr arafwch sydd yn gordoi y dref a'r porthladd. Hwyl ac agerlongau yn myned a dyfod fel arferol, ond fod y llwythi yn amrywio i'r peth oeddynt amser yn ol, ond y gobaith ydyw fod amser gwell i dori ar ein gwlad pan ddaw yr hen adfywiadau yn ol. OANTORTON AMERIG. Bydd yn dda gan luaws o gyfeillion Cymreig e amgylch y Cwmbacb ac Aberdar gael ar ddeall fod Evan T. Davies, hen arweinydd Cor Bryn- Seion, a'i ddwy ferch-Lizzie a Maggie— wedi o-lanio heno gyda'r City of Berlin. Bwriadant roddi taith gerddorol I \vy Gymru cyn dychwel- yd yn ol i'w gwlad i bwysiedig. Mae Cor yr Aelwyd yn enwog yn yr Amerig, a thebyg yw yr ychwanegant at eu .enwogrwydd yn yr Hen Wlad, chwedi yr Anicricaniaid Cymreig. Nid fy lie i ydyw udganu o flaen y tri, am y gwn y cewch y fraint o'u gweled a'u clywed. Gan y byddweh yn myned i'r wasg yn gynar, ,eaiff hyn fod yn derfyn am yr wythnos hon, gan ddvmuno gwyliau llawen i bawb.-Yr eiddoch, Nos Lun CYMRO GWYLLT.

H Haid o Fieiddiaid Cymreig."

NODIADAU CYFFREDINOL.

Bwrdd Cymodol Deheudir Cymru.

SOAR, PENDERYN.

BWRDD YSGOL CILYBEBYLL.

Advertising

Temperance Hall, Aberdar.

Advertising

Y TWR CAM A CHOR BARGOED.