Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Y MAE y cyhoeddwyr, ar ddechreu blwyddyn newydd, yn dymuno cyflwyno eu diolchgarweh gwres- ocaf i dderbynwyr a gohebwyr y FANER am eu car- edigrwydd ar hyd y flwyddyn ddiweddaf; ac y mae yn dda ganddynt hysbysu fod ychydig o gynnydd wedi cymmeryd Ile yn nifer ei derbynwyr, er yr amgylchiadau cyfyng sydd wedi goddiweddyd y wlad yn gyftredinol. Y mae yn wir nad ydyw y cynnydd wedi bod mor fawr a rhai blynyddoedd o'r blaen, ond etto y maeyn gvnnydd boddhayl i'r cyhoeddwyr, ac yn gymmhelliad cryf iddynt wneyd eu goreu o hyn allan i'w gwelia. yn mhob modd y bydd yn ddichon- ad wy; a byddant yn ddiolcbgar hefyd an) unrhyw ym- drech a wneir i cliwanegu at nifer ei derbynwyr. Nid ydynt yn ceisio hyn yn unig er eu mwyn eu hunain, ond hefyd am eu bod yn credu tod y inesurau a dadl- euodd y FANER drostynt, ac y dadleua drostynt yn awr, yn angenrheidiol i sicrhau llwyddiant a cbysur pob d'osbartb o drigolion y Dywysogaeth yn y dyfodol. 0 hyn y maent yn gwbl argyhoeddedig. Yr wythnos nesaf, byddant yn anfon ALMANAC am y flwyddyn yn rhad gyda phob copi o'r FANER. Buasent wedi gwneyd hyny yr wythnos hon, om bae fod rhai personau heb anfon y wybodaeth a geisid am ffeiriau, sydd yn angenrheidiol er gwneyd y rhestr mor gywir ag y bydd modd. Dymunwn gyda hyn i bawb o garedigion y FANER FLWYDDYN NEWYDD DDA, A LLAWER 0 HONYNT.

î!tthMt gbmdin.I

iCEWABELAU UlUUKWHi, A..tl.1…

MARWOLAETH THOMAS LLOYD JONES,…

[No title]

Y FLWYDDYN 1888.1