Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Hide Articles List
13 articles on this Page
YR IAITH GYMRAEG, A'R BYRDDAU…
News
Cite
Share
YR IAITH GYMRAEG, A'R BYRDDAU 8IROTI. FONEDDIGION, Caniatewch i mi ddiolch yn wresog i'ch gohebydd, Gwcithiw, am ei lythyr gwiadgai- ac amserol. Dymunaf attegu ei gais rhesymol. Gyd-genedl, ymysgydwn o'n gwaseidd-dra ymryddhawn o'n gefynau. Na phleidleifiier dros yr un gwr os yn an- hyddysg yn ein hiaith. Derbynier gwasanaeth tramoriaid —ond yn unig ar y telerau ag y derbyniant hwytbau was- anaeth y Cymry sef, ar ol meistroli eu hiaith. A mi, beth amser yn ol, yn nghymdeithas amryw Gymry gwladgar, doluriwyd fy nbeiniladau wrth glywed y Cymry rhagorol hyn yn llitliro bron yn ddiarwybod iddynt i gleb- rau Saesneg. Os Cymraeg ar y llwyfan, os Cymraeg yn y wasg, os Cymry, siarader Cymraeg yn gymdeithasol hefyd. Huiubygiaetli yw fel peth hyn. Bwrier fod Cyrnro wedi areithio yn hyawdl yn Gymraeg; wedi ennill sercliiadau y gwyddfodolion; ond ar ol gorphen, yn troi i siarad Sipsueg-Saesiie,, tu allan i'r neuadd lie y cynnaliwyd y eyfarfod-yn nghlyw plant y pentref, y rhai, ar ol ei glywed ar y llwyfan, a'i hanner addolent, carwn wybod pa argraph adewir ar eu meddyliau gwledig hwy ? Hyn, dybiwyf fi—1 er fod yr areithiwr yn medru ein hiaith ni yn dda, yn gallu swyno ein teimladau, a goleuo ein meddyliau ynddi, etto i gyd, y Saesneg ydyw ei hoff iaith ef! Os nad felly, paham y defnyddia hi yn mhlith ei gym- deithion?' Ymresymiad digon teg. Credwyf, fodd bynag, mai diffyg meddwl ydyw yr achos o hyn felly, frodyr, diwygier. Siarader Saesneg yn unig & Sais; Cymraeg a Chymry yn mhob man. Gwrthun iawu ydyw humbygyddiaeth EthoIer Cymry ar y cynghorau sirol, fel y cais eich go- hebydd, Gweithiw)-, Yr eiddooh, &c., lWAN JENKYN.
PWYLLGOR SENEDDOL RHYDDFRYDOLI…
News
Cite
Share
PWYLLGOR SENEDDOL RHYDDFRYDOL I CYMREIG. FONEDDIGION, I Dymunaf yehydig o'ch gofod i gywiro rhai diffygion a chamgymmeriadau yn yr adroddiad a ymddangosodd yn y FAMSJT yr wythnos ddiweddaf o barth i'r pwyllgor uchod. Nid wyf yn priodoli unrhyw ddiofalwch i'ch gohebydd o blegid, gan na dderbynir reporters i gyfarfodydd y pwyll. gor, yr oedd yr adroddiad o augenrheidrwydd yn seiliedig ar wybodaeth ail llaw ac felly, yn rhwyin o fod yn agored i'r ffaeleddau ag sydd yn gyffrediu yngltn ft thystiolaeth ail law. Ymddengys fod eich gohebydd dan yr argraph mai gwrthwynebiad noetli a roddais i gynnygiad Mr. Dillwyn, ae nid cynnyg gwelliant aroo. Nid felly y bu. A ganlyn yw y gwelliant a gynnygiais Fod y cadeirydd a'r ysgrifenyddion yn cael eu hawdurdodi i anfon cylehlytliyr i'r aelodau Khyddfrydol Cymreig i erfyn eu presennoldeb yn y 1'.1' pan y byddai trafodaeth ar gwestiwn Cym- raeg o bwys digonol yn debyg o gymmeryd lle. Os bydd i dri aelod wneuthur cais ysgrifenedig am anfoniad y fath gylchlythyr, fod i'r cadeirydd a'r ysgrifenyddion i'w anfon yn ddioed, neu afnv yn drtiattreg gyfarfod o'r pwyllgor am yr adeg gyntaf yn bossibl, i ystyriecl priodoldeb gwneuthur hyny.' Ni ddadleuais yn erbyn ethol chwipiau i godi plaid,' o blegid ni fwriedid y tath amcan ya y cynnygiad ac nid oes yr un aelod Cymreig, hyd y gwn i, yn coleddu yr amean o godi plaid ar wahan i'r blaid Ryddfrydig sydd dan arweiniad Mr. Gladstone acynwir, gwnaethMr. Dillwyn, ar ol i mi siarad, gyfnewidiad yn ngeiriad ei benderfyniad, er mwyn cau allan y possiblrwydd o'r fath esboniad aruo. Sylwais nad oedd yr un gwahaniaetk sylweddol rhwng y cynnygiad a'r gwelliaiit, ond yn unig gwahaniaeth o barth i'r term, neu enw, a fyddai ddoethaf i'w ddefnyddio. Gwell oedd genyf yr hen enw, ysgrifenyddion.' Gwrthwynebais yr enw 'chwipiau,'gan fy mod yn ei ystyried yn enw ym- ffrostgar a chwyddedig, ac yn tueddu i gamarwain y wlad i gredu fod rhyw gyfnewidiad mawr yn cael ei wneyd yn nghyfansoddiad y pwyllgor, pan nad oedd dim o'r fath yn cael ei fwriadu na'i wneyd. Dywedais y gwyddwn ua fwriedid mewn un modd unrhyw ymffrost na chamarwein- iad, ond fy mod yn tybio fod termau yn cael eu defnyddio yn anfwriadol (inadvertently) a dueddai, yn ol fy marn i, i arwain i hyuy. Er attal y camgymmeriadau a'r diffygion sydd bob amser yn sicr o lithro i adroddiadau ail llaw, yr wyf yn meddwl mai gwell fyddai derbyn reportei-s i gyfarfodydd y pwyllgor, a gwnaf gynnygiad i'r perwyl hyny yn y pwyllgor nesaf. Yr eiddoch yn gywir, Bryn Adda, lihagfyr 23ain, 1SSS. J. BKYN KOBEKTS. I
BRWYDR Y CYNGHOR SIROL YNI…
News
Cite
Share
BRWYDR Y CYNGHOR SIROL YN I BETHESDA. FONEDNLGIOK, I Gwelaf fod rhywun o r enw Llechyrl yn condemnio gwaith eich gohebydd yn beirniauu digwydaiadau yr ardal hon, yn lie eu cofnodi yn syml. U'rn rhan fy hun, meddyliaf fod eich gohebydd yn gwneyd yn llygad ei le. Y mae eisieu agor llygaid y wlad ar wahanol faterion. Waeth i Llechyd beidio treio gwneyd i neb gredu mai Khyddfrydwr ydyw Dr. Hughes. Edryclier pwy sydd yn ei helpu! Tori ydyw; ond yr ydych chwi, y golygwyr, wedi setlo hyny yn y FANEK, ddydd Sadwrn. Yn ol y newyddion diweddaf, tipyn yn anffodus fu yr ymgeisydd hwn gyda'i anerchiad. Arfer argraphwyr, fel rheol, ydyw gosod eu hen wau wrth yr hyn a argrephir ganddynt; ond anglioliwyd, neu rywbeth, gwneuthur hyny gydag anerchiad Vr. Hughes Achosa y camgymmeriad hwn drafferth a thraul ddiangenrhaid i'r Dr. Y mae yn dda iddo ganfod y gwall cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar —hyny yw, os y tybia yn ddoeth wario arian ar frwydr mor dywyll iddo ef a brwydr Bethesda. Ydwyf, &c., IAGO. I
GAIR NEU DDAU -AT 'JOHN HUSS.…
News
Cite
Share
GAIR NEU DDAU AT 'JOHN HUSS. y I FONBDDIGION, I Y rnae eich gohebydd, John Huss, yn y FANER amddydd Mercher diweddaf, yn gwneyd ychydig gam Ii. mi, a dang- osat hyny yn amlwg, yr wyf yn meddwl. Ni wna ei gam- gymmeriad yr iod leiaf o eifaith arnaf, a gallaf adael iddo basio heb drarngwyddo dim ú dan amgylchiadau poethion fel byn. Yn ei lytbyr o dan y penawd, Colwyn Bay, a'r Cynghor Sirol,' dywed fcl hyn :Cry.)wyllodd Llechidon yn y FANER am ddydd Mercher diweddaf (bythefnos yn ol bell- ach), fod trigolion Llechwedd Isat' wedi penderfynu dyfod & boneddwr arall allaa fel lihyddfrydwr i wrthwynebu etholaeth y Parch. J. S. James.' Nid oes yr un gair owir- ionedd yn y pedair llinell uehod Ni ddaeth & 'boneddwr arall 'i 'wnhwynebu etho!aeth Mr. James.' Y noswaith yr etholwyd Mr. Hugh .Owens, Snott, yn y cyfarfod yn Ty'n-y-groes, lie yr oedd cynnrychiolwyr o Tal- y.bont, Hoewen, Ty'n-y-groes, a'r Hemhyd. a saith neu y-bonto, 'ch cymmydogaeth chwithau (hyny ydyw, o'r ochr wyth ddwyreiniol i afon Conwy), ni ddarfu i neb weled yn dda gynnyg Mr. James o gwbi-iieb o'i gymmydogion Wedi i amryw dynu yn oi, nid oedd yn sefyll am etholaeth ond y Mri. Hughes, Tan-y-bryn, Edwards, Tal-y-bont, ac Owens, Snott. Cafodd y ddan gyntaf 3 bob un, ur olaf 14. Felly, Mr. Owens a etholwyd. Ni chynygiodd neb Mr. James, ac ni bu son am dano fel ymgeisydd rheolaidd. Ond cry. bwyllodd rhywun ei fod yn meddwl dyfod allan yn ymgeisydd au i liol" a dyna a soniwyd am ei enw o gwbl. Yn awr, fe wel pawb, ac felly fe wel John Huss, na ddaeth:Llechwedd Isaf i'r un boneddwr arall i wrthwyn- ebu etholaeth Mr. James. Dywed John Huss fel hyn hefyd' Awgryma Llechidon mai yufydrwydd ynom ni, y ffordd yma, oedd dyfod a Mr. James i wrfchwynebu eu dyn hwy' (sef Mr. Owens wrth gwrs). Yr wyf yn rhyfeddu ato yn gaUu rhoddi nodau dy- fynol wrth y frawddeg uchod—brawddeg nad ysgrifenais yr un gair o honi erioed. Na, nid awgrymais y fath beth erioed. Os oes arnoch eisieu dyweyd rhywbeth wrthyf, neu am danaf wrth y darllenwyr, dywedwch rywbeth yn agos i'r gwir. Ni ddywedais erioed, ao ni awgrymais air erioed, mai ynfydrwydd ynoch a fuasai dyfod & Mr. James allan yn erbyn Mr. Owens. Ni bu erioed s6n am Mr. James (i un pwrpas), yr ochr yma i'r afon mewn un cyfarfod, ac ni chrybwyllodd yr un o'i ffrindiau o'ch ochr chwi i'r afon ddim am dano. Fel y sylwyd, yn Ty'n-y-groes uos Feroher, Rhagfyr 5ed, pan yr oedd cynnrychiolwyr o'r ddwy ochr i'r afon, y dylasid cynnyg Mr. James fel ymgeisydd, os cynnyg o gwbl, ac yna eawsai, yn y prawf, yr un chwareu teg a r tri eraill. Ond ni chynnygiwyd mo hono gan neb. Felly, pa fodd y mae John Huss yn dyweyd mai Mr. James oedd eu dyn hwy, ao yntau heb ei ddewis na'i gynnyg i fod yn ddyn iddynt erioed ? Deuddydd cyn y 'cyfarfod dewis' yn Ty'n-y-groes, yr oeddwn yn derbyn nodyn oddi wrth Mr. James, yn yr hwn y dywed' Annogir fi (dim ond annog), gan amryw o etholwyr dyladwadol i sefyll fel ymgeisydd dros y dosbarth gwledig. Pe gwybyddwn mai dyna fyddai dymuniad cylf- ree-inol y blaid Ryddfrydig trwy y gwahanol blwyfi, ni byddai gonyf yr un gwrthwynebiad i sefyll. A fyddwch chwi cystal a gadael i mi gael gwybod eich barn a'ch teimlad chwi yn yr ardal yna i' Nis gallaswn anfon 'barn a theimlad yr ardal' by return. Fe wel eich darllenwyr ar unwaith, yn ol geiriad llythyr Mr. James ei hun, nad oedd wedi ei ddewis yn un man cyn cyfartod Ty'n-y-groes. Felly, nid oedd wedi ei ddewis pan yr oeddwn yn ysgrif- enu i'r FANER (dranoeth). Dealler, nid wyf yn meddwl dyweyd yr un gair bach mewn modd yn y byd am Mr. James, nao am John Huss chwaith, o ran hyny; oud dy- wedaf hyn am y diweddaf (yr hyn sydd yn bur amlwg), ei fod wedi ysgrifenu yn rhy gryf a rhy bell cyn deall pethau yn drwyadl. Pob parch i Mr. James, ae fe wna aelod rhagorol dros y rhanbarth yna o ddosbarth Llandudno; ond am ein dosbarth ni, ni ddarfu iddo dreio am ddyfod yn ym- geisydd, ac ni ddarfu i'r un o'i bobl ei gynnyg o gwbl yn y cyfarfod priodol i hyny, meddaf etto. Peth arall ag y mae John Huss yn ei ddyweyd yn ei nod- yn, ac heb ddim angen am ei ddyweyd o gwbl, ydyw Druan o honynt, buasem yn sier o ennill y fuddugoliaeth, a chario ein dynj{Mr. James), i'r cynghor gyda mwyafrif mawr. Yn un peth, y mae cymmhwysder Mr. James yn- ddo ei hun yn hawlio hyny.' Nid wyf am ddyweyd dim am gymmhwysder Mr. James. Nis gwn a oes gan y John Huss hwn amcan i dynu rhywun allan ai peidio i ddyweyd rhywbeth na fynem. Os oes, y mae yn sicr o fethu yn ei amcan y tro hwn. Gyda golwg ar y fuddugoliaeth, yr wyf yn meddwl y gallai John Huss ddyweyd ar ddwy waith yr hyn a ddywedodd. Pe buasai y dosbarth heb ei ranu, prin y gallaf gredu fod on dyn yn y plwyf, ond John Huss, a ddywedai y buasai Mr. James (er ei holl gymmhwysderau a'i anghymmhwysderau), yn trechu Mr. Hugh Owens, Snott, Llangystenyn. Terfynaf gyda theimladau da, a chan ddymuno yn dda i'r Rhyddfrydwyr yn mhob dosbarth drwy y sir. Yr eiddoch, &c., LLECHIDON. I
TRENGHOLWR I FE IRTLON.I
News
Cite
Share
TRENGHOLWR I FE IRTLON. I FONEDDIGION, I Da genyi weled fod Mr. W. R. Davies, twrne, Dolgellau, yn ymgeisydd am y swydd o fod yn drengholwr i Feirion- ydd; a gobeithiaf y llwydda yn ei amcan. Y mae Mr. W. R. Davies, er etholiad cyntaf Mr, David Williams, wedi bod yn gweithio yn egniol gyda'r achos Ilhyddfrydol yn Meirionydd, a gwnaeth ei holl wasanaeth yn eifeithiol, Cofgenym am dano yn taflu ei bun yn ddiymattal i'r frwydr gyntaf, pan agorodd Mr. Williams, Castell Deu. draeth, y sir ac ymladdodd yn ddewr dros Ryddfrydiaeth yn mhob etholiad dilynol. Bu yn weithiwr pybyr yn etholiad Mr. Holland, ar ol marwolaeth Mr. D. Williams, pan yr oedd wedi ei bennodi yn swyddog eyfreithiol; ae yr oedd yr un mor ffyddlawn yn etboliad Mr. Robertson, ac wedi hyny yn etholiad Mr. T. E. Ellis, yr aelod presennol, yr hyn a wnaeth yn ddi-dftl. Yn ddiau, y mae ei hir was- anaeth a'i ffyddlondeb yn haeddu oydnabyddiaeth ar law Rhyddfrydwyr ijeirionydd, a dyma i ni gylleusdra i wneyd yehydig o ad-daliad iddo, trwy ei bennodi yn drengholydd. Nid yw ffyddlondeb, ac hyd yn oed caredigrwydd, o hon- ynt eu hunain yn gwneyd neb yn ddiolchgar. Hen ddy- wediad cywir ydyw—' Y neb y gwnaethum i fwyaf iddo a gefais i gasaf.' Y mae aiwyddion eglur iawn y dyddiau hyn fod llawer a alwant eu hunain yn Rhyddfrydwyr yn Meirion heb weled y pwys o gydnabod gwasanaeth mawr Mr. W. R. Davies i'w hacnos. Cofier fod Mr. Davies wedi sefyll yn Rhyddfrydwr di- ysgog mewn tref a gylchynir yn fwy llwyr gan balasau Torïaid na nemawr, a buasai yn hawdd iddo gael arian lawer, a dyrchaiiad, pe buasai yn anffyddlawn i'w blaid. Y mae ei oed, ei fedr, ei wasanaeth, a'i brofiad yn hawlio iddo flaenoriaeth ar bawb arall yn y sir. Yr eiddoch, &c., MICHAEL D. JONES. I
DYDD CYNNYG YMGEISWYR. I
News
Cite
Share
DYDD CYNNYG YMGEISWYR. I FONEDDIGION, Y mae i'w ddymuno yn fawr y bydd i bob etholwr deimlo mai ei ddyIedswydd yr adeg hon fydd iawn ymarler y rhagorfraint a roddwyd iddo gan y llywodraeth. Fe all dynion, a llawer mwy y gall gwragedd, gael peth anhaws- der i roddi eu presennoldeb augeurheidiol yn y bwth polio ond dylai pob trethdalwr, gwryw a benyw, deimlo, mewn cwestiwn ag sydd yn cyftwrdd a budd y wladwriaeth, yn enwedig [\'r tlodion, mai ei ddyledswydd ydyw symmud ymaith bob rhwystr bychan personol. Yn sicr, nid ydyw Deddf y Llywodraeth Leol yn gyflawn. Y mae yn aros i chwanegu ati sefydliad cynghorau dosbarthiadol (district councils); ao hefyd, y mae galluoedd pwysig eraill i'w trosglwyddo at y rhai a drosglwyddwyd eisoes i'r Cynghor- au Sirol. Ond, a'i chymmeryd fel y mae, golyga drefn newydd hollol; sef, liawl wedi ei throsglwyddo i bob sir i reoleiddio ei materion ei hun. Y senedd sydd yn rhoddi y cyfleusdra; ond y mae yn gorphwys ar yr etholwr, fel person unigol, i ddefnyddio, cam-ddefnyddio, neu esgeuluse y rhodd. Ni fydd gan y rhai hyny a fyddant ar adeg etholiad y Cynghorau Sirol (yr bwn sydd i barhau fel corph cynnrych- ioliadol am dair blynedd), yn ddifater ynghylch eu cyfan- sodaiad, heb gymmeryd eu rhan na'u cyfran yn y gwaith, neb ond hwy eu hunain i ddiolch iddynt, os bydd i'w budd- iannau gael eu hystyried ganddynt fel wedi eu diystyru. Y mae beiau a ffaeleddau awdurdodau etholedig bron bob amser i'w holrhain, yn uniongyrchol, neu yn anunion- gyrehol, i daifaterweh ae esgeulusdod yr etholwyr. Os bydd i nifer liosog o bobl gymmeryd yn eu penau, neu berswadioiu hunain, y gellid ymddiried y gwaith o ethol eyeghorwyt sirol i'w cymmydogion, yna, ni bydd i'r ddeddf gael prawf teg, a bydd yn achlysur i weinidogion ei Mawr- hydi deimlo yn ddigon calonogol i ohirio y diwygiadan pellach hyny ag y maent wedi eu haddaw. Bydd i'r holl drethi sirol, o hyn allan, gael eu casglu a'u gweinyddu gan y cynghorau newydd. Hwy fydd yn arolygu gweinyddiad y Gwallgofdai, yr Ysgolion Diwygiadol a Llafurawl, ac hefyd y Ffyrdd Cyhoeddus. Y maent, yn mhellach, i gario allan ddarpariadau deddfau pwysig, megys y deddfau yngtyn a. Heintiau Anifeiliaid, Amddiffyniad Adar Gwyllt- ion, Cadwraeth Pysgod, a Phwysau a Mesurau. Bydd gan- ddynt hefyd y gorchwyl o ddewis trengbolwyr, a dyled- swyddau amrywiol eraill. I iDylid cofio fod y cynghorwyr i'w hethol am dair blynedd, ac y gall eu hawduriiod cyn i'r tymmor cyutaf derfynu gael ei fwyhau yn ddirfawr. Gan hyny, nid yw pwysigrwydd yr etholiadau presennol yn dibynu gymmaint ar eangder y ddeddf fel y mae ag ar ei dadblygiad possibl yn y dyfodol. Yn awr, dyledswydd Cymru ydyw profi ei bod yn gwerth- fawrogi y rhagorfraint; ac hefyd, dangos, mewn medd di- gamsyniol, ei bod yn deilwng o bob helaethiad ar ilurf llywodraeth gartrefol. Y mae y swyddog llywyddol wedi eyhoeddi rhybudd o'r dyddiau a bennodwyd ganddo i gynnyg ymgeiswyr yn y gwahanol ddosbarthiadau. Cymmer etholiad sir Ddinbych le ddydd Mercher, yr 16eg eyfisol; ar dydd cyntaf ar ba un y gellir cyhoeddi rhybudd swyddol o'r rhai a gynnygiwyd ydyw y lOfed. Etto, y mae dydd cynnyg ymgeiswyr yn y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau yn nwyreinbarth y Isir hon wedi ei nodi i fod ar yr eilfed (sef yfory). Gyda phob parch dyladwy i'r swyddog llywyddol, nis gallaf gydsynio ag ef yn ei drefniadau. Fy nadl i ydyw, fod Deddf y Corphoraethau Dinesig, a Deddf yliLlywodraeth Leol, yn dynodi yn eglur fod yn rhaid i gynnygiad gael ei gyflwyno, mewn dosbarthiadau gwledig, mewn chweob, lie mewn bwrdeisdreti saith niwrnod clir cyn dydd yr etholiad; ae nad ydyw yn galluogi y swyddog llywyddol i newid, nao mewn un modd gyfyngu yr amser o fewn pa un y mae gan berson hawl i gyflwyno ei gynnygiad ond bydded hyn fel ag y bo, y mae dosbarthiadau gwledig sir Ddinbych wedi eu rhanu yn bedwar rhan, gan enwi yr 2il, y 4ydd, y 7fed, a r 9fed cyfisol fel yr amrywiol ddyddiau i gynnyg ymgeis- wyr yn eu priodol ddosbarthiadau, am fanylion cyflawn o ba rai y mae yn rhaid i mi yfeirio y sawl sydd yn teimlo dyddordeb yn y mater at y rhybudd swyddol. Buaswn yn ahnog pob ymgeisydd Rhyddfrydig ar ddydd y cynnyg, yn gystal a'r dydd dilynol, yr hwn fydd y dydd ar ba un y dyfernir ar y gwrtbwynebiadaa i'r cynnygion, i foddloni eu hunain, nid yn unig fod eu cynnygiad hwy yn rheolaidd, ac mewn trefn, ond hefyd i wneyd yn sicr pa ymgeiswyr eraill fydd wedi eu cynnyg yn briodol; a thrwy hyny, ei gwneyd yn ammhossibl i unrhyw gynnygiad gael ei anfon trwy gyflwyniad yn swyddfa y swyddog llywyddol ar ol y dydd- iau a nodwyd ganddo ef; ond etto, o fewn y cyfnod a rag- nodir yn y ddeddf seneddol, yr hyn yr wyf yn maentumio fod gan unrhyw berson hawl i'w wneyd. Yn yr etholiadau dyfodol, fe bennodir y swyddog llywyddol gan y Cynghor- au Sirol, fel na fydd raid bellach iddo ef na'i ddirprwywr, fel mater o gwrs, fod yn aelodau o'r blaid Doriaidd. Yn eich argraphiad nesaf, yr wyf yn bwriadu eich tra- fferthu a sylw byr ar-' A ydyw y balot yn ddirgel ?' Wrth derfynu, caniatewch i mi alw sylw eich darllenwyr at fy llythyr yn eich rhifyn am yr 28ain o Daehwedd di- weddaf, ar y rheolau oynnwysedig yn Neddfau Llwgr- wobrwyaeth, pa rai sydd mor hynod fanwl, ao yn teilyngu sylw neillduol pob ymgeisydd. Yr eiddoch yn ffyddlawn, R. HUMPHBEYS ROBEBTS. Dinbych, Ionawr 1ai. 1889.
AT MR. W. DAVIES, LLYSFAST,…
News
Cite
Share
AT MR. W. DAVIES, LLYSFAST, GER RHUTHYN. SYR, Ai chwi ydyw y Mr. W. Davies, Llysfasi,' oedd yn galw yr amaethwyr oedd yn beiddio gofyn yehydig yn ol o'u degymau, ao yn niffyg cael hyny, yn dewis gadael i'r gyf- raith gael ei ffordd, yn rhai yn dymuno ymlusgo yn llech. wraidd allan o'u dyledion,' yn Mwrdd Gwarcheidwaid Rhuthyn ? Yr wyf yn coifo darllen yr hanes; a synais gryn lawer at anwybodaeth ac haerllugrwydd y gwr Os chwi yw y gwr, gofynaf finnau paham yr ydych mor ddisynwyr a gofyn i'r un bobl am eu cynnorthwy i'ch gosod chwi i'w cynnrychioli ar y Bwrdd Sirol? Dilys mai cyf- eirio yr oeddych y pryd hyny at amaethwyr Llannefydd, &c.; ond digon tebyg fod eich llygaid yn benaf ar eich eymmydogion yn Llanelidan a Llanfair Dyffryn Clwyd. Tybiaf, gan hyny, fod eich anerchiad Uipa at etholwyr y tri phlwyf yn ddigon i gau eich bath chwi allan ar unwaith. Gan eich bod yn cyfeirio at eioh hir wasanaeth ar Fwrdd y Gwarcheidwaid, goddefer i mi ofyn-A fedrwch chwi gyfeirio at gymmaint ag un ymraniad nad oelldych chwi wedi myned i ganlyn yr ex,.officios, ac yn erbyn cynnrych- iolwyr y bobl? Gwnewch, os gallwch. Feymfoddlonirar un, Y mae eich bod yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid yn ddigon l'oh condemnio ar unwaith o blegid mor sicr a'eh geni, pe yn y Bwrdd Sirol, yr un a fyddwch yno hefyd. Etto A wnewch chwi gyfaddef i chwi, wrth spoutio mewn eyfarfod Toriaidd-Eglwysig, ddyweyd ynnghlywedig- aeth tirfeddiannwyr yn mhlwyf Llanelidan, y gallai yr am- aethwyr wneyd yn eithaf hawdd oni bae eu diffyg trefn V Dywedasoch, yn ol fel y dywedir, eu bod yn gwerthu eu hanifeiliaid i ffordd, a phobl eraill yn cael y proftit, yn lie eu gwneyd yn barod i'r cigydd, fel yr oeddych chwi yn gwneyd. Os dywedasoch hyn, neu rywbeth i'r perwyl, pa beth oeddych yn feddwl ennill wrth ddyweyd feliy ? A pha reswm oedd yn y fath ddywediad? Os nad oeddyuh yn gwybod amgenach pethau, profai hyny eich anwybod- aeth. O'r tu arall, os oeddych yn gwybod, profai hyny eich bod yn anffyddlawn i'r amaethwyr sydd yn dioddef cymmaint o galedi. Y mae yr uchod wedi ei ddyweyd am danoch gan dirfeddiannwr wrth ei denantiaid yn Llan- elidan, a. byddai yn dda i chwi un ai ei gyfaddef, a gofyn maddeuant, neu ei wadu-a hyny ar frys Hefyd, a fyddai yn ormod hyfdia ynof ofyn i chwi gynnal cyfarfodydd i wneyd eich golygiadau yn bysbys ? Os ydynt wedi newid, da; onid e gwell, a llawer gwell befyd, fyddai eicb gadael yn y fan lie yr ydych. Ni ddy- munwn ar un cyfrif fod yn llawdrwm arnoch. Byddai yn dda genyf i chwi allu gwada y ddau gyhuddiad uchod; ond yn uiffyg hyny, nid y chwi yw y gwr cymmhwys i gyn- nrychioli Llanfair, Llanelidan, a Llanrhydd ar y bwrdd. Ydwyf, &c., Llanelidan lidyd. ETHOLWR. I
LLANTYSILIO A'R -CYNGHOR SIROL.…
News
Cite
Share
LLANTYSILIO A'R CYNGHOR SIROL. I FONEDDIGION, I I 11 j Yn y llythyr a ysgritenwyu gan oneoyaa or ue ucnoa, yr hwn a ymddangosodd yn MANER Mercher, Rhagfyr 19eg, dywed ei fod yn egluro ychydig er mwyn i'ch darllenwyr 1 liosog gael golwg deg ar yr amgylcbiadau.' Ond ym- ddengys i mi nad ydyw yn gwybod yr amgylchiadau neu ynte, ei fod yn rhy ragfarnllyd i'w cydnabod. Dywed fy mod yn cymmeryd y naill gyfarfod am y llall.' Ond nid wyf yn camgymmeryd y cyfarfod na rhif yr etholwyr oedd yn bresennol chwaith. Ac yr wyf yn seilio fy ngosodiad ar lythyr a ysgrifenwyd gan yr ymgeisydd at ethotwr o Bryn Eglwys. Y mae yn dda genyf fod y goheb- ydd yn cydnabod mai amcan pobl Llantysilio yn dyfod i Bryn Eglwys oedd, ceisio ein perswadio i dderbyn y Parch. Ezra Jones: canys dywed, Ond er pob cymmhelliad, myn. asant enwi Mr. Thomas fel ymgeisydd.' Ai ouid oedd gan etholwyr plwyf Bryn Eglwys gystal hawl i ddewis ymgeis- ydd ag oedd gan bobl Llantysilio. Heriaf y Gohebydd i brofi fod a wnelo yr hyn y cyfeiria ato a'r achos Wesleyaidd o gwbl, neu i Mr. Thomas wneyd dim na ddylasai. Gwir fod Mr. Thomas wedi addaw tynu yn ol ar deterau teg end ni chydnabyddodd fod y cynllun a gynnygiwyd gan y cynnrychiolwyr o Lantysilio yn deg o gwbl, pan y mae cymmaint o anghyfartaledd rhwng nifer yr etholwyr yn y ddau blwyf. Y ffaithf-ydyw, fod ar etholrestr Llantysilio 183, ac ar etholrestr Bryn Eglviys 71. Felly, nis gallai Bryn Eglwys ddewis ond 3 o gynnrychiol- wyr; a chan y gallai fod pleidwyr y Parch. Ezra Jones yn y mwyafrif yn mhlwyf Llantysilio, y gallent ddewis 9 o gyn- nrychiolwyr, er y gallai fod 60 neu 70 o'r etholwyr yn ffafr Mr. Thomas; a hyny a wyddai y cynnrychiolwyr yn dda, gan i un o honynt a siaradai yr iaith fain' herio y cyfeill- ion yn Bryn Eglwys, trwy ddyweyd, Look at the register, you hav'nt the least chance.' Cydnabyddaf y gall fod y rheol hon yn deg mewn rhai lleoedd. Ond barned y darllenydd, yn 01 y ffeithiau uchod, a ydyw ielly yn y dosbarth hwn. Mewn attebiad i'r ymofyniad, pa fodd y gweithredir mewn lleoedd eraill, nid oes genyf oud ei gyfeirio at ddosbarthiadau Gwyddel- wern, Llandrillo, Petmal, &c. Ceisia y Gohebydd atteb y gofyniad, cefnogwyr pa un o'r ymgeiswyr ydyw y mwyafrif gweddill yn y plwyf,' trwy adael i mi dynu y casgliad oddi wrth yr hyn a eilw efe yn 'ffaitli sef, 'fod unig bleidiwr Mr. Thomas yn y rhan hono yn methu a chael eilydd iddo, na chadeirydd i'r cyfar- fod a fwriadai Mr. Thomas a'i gefnogwyr ei gynnal yn y gymmydogaeth.' Y casgliad naturiol a allaf ei dynu ydyw, naill ai nas gwyr y Gohebydd beth ydyw ffaith o gwbl (er ei fod yn fynych yn defnyddio y gair), neu ynte ei fod yn rhy Phariseaidd i'w chydnabod,s!pan yn myned yn ei erbyn. Erfyniaf arno gyssoni ei haeriad (os gall) yn ngwyneb y gwirionedd, mai un o'r gwyr mwyaf blaenllaw a fedd un o'r eglwysi ag sydd dan ofal bugeiliol y Parch. Ezra Jones ei hun ydoedd cadeirydd y cyfarfod crybwylledig. Ac hefyd, fod amryw eraill o'r un gymmydogaeth yn cynnyg gwneyd unrhyw beth a allent er hyrwyddo ymgeisiaeth Mr. Thomas, er i bwyllgor Mr. Jones, yn ystrywgar, geisio attal yr ethol. wyr rhag dyfod i'r cyfarfod, a hyny, y mae'n debyg, rhag iddynt gael eu hargyhoeddi o ragoriaethau Mr. Thomas fel cynnrychiolydd ar eu heiddo hwy; er fod rhai o honynt hwy eu hunain yn methu ymfoddloni heb ddyfod i wrandaw o'r tu allan, ac edrych trwy y ffenestri. Gwir fod cyfarfod wedi ei gynnal yn Trecoedrwg, ae y mae cofnodiad o'r cyf- ryw yn y newyddiadur lleol yn profi nad ydyw ei obebydd yn leicio dywedyd y gwir am dano; neu ynte, nad ydyw yn ddigon o ysgolhaig i gyfrif llai na deg ar hugain. Dywed y Gohebydd ei fod yn ymddangos iddo ef, nad ydwyf yn gwybod y gwahamaeth rhwng tirfeddiannydd a r hyn a gynnwysir yn rhaglen Mr. T. E. Ellis, A. S., er y dylai bachgen bychan wybod y gwahaniaeth rhwng fod dyn yn feddiannol ar ei gartref, a bod dyn yn feddiannol ar am- ryw o ffermydd, ac yn derbyn elw iddo ei bun oddi wrth- ynt.' Gallaf ei sicrhau fy mod yn gwybod hyny gystal ag yntau ond pa aDgbymmhwysder ydyw y naill na'r llall ynddo ei hun, mewn cynnrychiolydd ar y Cynghor Sirol, mwy nag ydyw yn y Gwir Anrhydeddus W. E. Gladstone, A. S., fel prif wron y blaid Ryddfrydig yn senedd ein gwlad. Gallaf yn hawdd esgusodi Mr. P. Morris, pan yn dyweyd mai peth ardderchog fyddai cael ein Uywodraethu gan 60 o ddynion duwiol, a bod eisieu cadw pob tirfeddiannydd, bach a mawr, allan. Os ydwyf i ddeall mai yn ei anwybod- aeth am wir gymmeriad Mr. Thomas, ac fe allai, cael ei gamarwain gan rywuo, neu rywrai tipyn mwy rhagfarnllyd nag ef ei hun a wnaeth. gan ei fod, ar ol cael cytleusdra i glywed golygiadau Mr. Thomas drosto ei hun yn y cyfarfod a cynnaliwyd yn Llantysilio, a chael attebion boddhaol i'r cwestiynau a ofynwyd gauddo, wedi tystio mai efe ydyw yr iawn ddyn i'n cynnrychioli ar y Cynghor. Ond yn ol syn- iadau y Gohebydd ci hun am dirfeddiannydd, rhaid mai at Mr. Thomas yn bersonol y cyfeiriai, gan nad oes ond ef yn unig o'r tri ymgeisydd yn dyfod i fyny â'r cyrameriad o dir. feddiannydd. Pe buasai y Gohebydd yn ddigon rhydd- frydig ei ysbryd i ddyfod i'r cyfarfod a gynnaliwyd yn Pentredwr, cawsai glywed gan Mr. Thomas ei hun pa faint a drodd yn ol i'w denantiaid, ynghyd a'r teimladau cyunhes sydd yn ffynu cydrhyngddynt, yr hyn aalurodd yn Ilawer mwy boddhaol i'r etholwyr, yr wyf yn credu, nag y carai y Gohebydd iddo allu gwneyd. Dywed befyd, nad ydyw yn gyfrifol am syniad y parch. us gadeirydd.' Ond nid ydyw y ffaith mai yehydig ddydd- iau ar ol dewis Mr. Thomas yn Bryn Eglwys y daeth yr ym. geisydd Toriaidd i'r maes, yn profi.dim ar ei haeriad disail. Nid wyf yn deall i bleidwyr Mr. Thomas fod yn casglu addewidion, ond yn unig cael Ilais yr etholwyr yn mhlwyf Llantysilio cyn symmud yn mhellach gyda'r mater, ond nid oedd a wnelo Mr. Thomas a hyny o gwbl. Seilia Mr. Thomas ei anerchiad ar y cyfarfod a gynnal. iwyd yn Ysgoldy Cenedlaethol Bryn Eglwys, pryd yr oedd o ddeutu 60 o etholwyr yn bresennol, o ba rai yr oedd, o leiaf, 15 o blwyf Llantysilio. Edliwia yn ei lythyr tod cyfeillion Bryn Eglwys wedi diystyru cynghor gwr dyeithr i ddyfod i gyd-ddealltwriaeth. Dicbon y bydd i'r Goheb. ydd fod mor garedig a fy hysbysu pa sawl cynghor y mae Mr. Jones wedi ei ddiystyru er's llai na mis yn ol; ac hefyd, pa ddylanwad y mae yr esamplau da a rydd ei frodyr gweinidogaethol sydd o'i amgylcb, yn ei adael arno, pa rai sydd yn dewis ymroddi i waith yr efengyl, yn hytrach na cheisio cael myned i' wasanaethu byrddau.' Nid wyf byth yn holfi y gwaith o ymgecru, ond gan fod y Gohebydd wedi ceisio camarwain meddyliau eich darllen- wyr lliosog, trwy yr hyn a eilw efe yn ffeithiau ynglJn i'r anghydfod hwn, yr oeddwn yn teimlo mai fy nyled- swydd oedd ymostwng i'w atteb. Ydwyf, &c., I ETHOLWli.
ICYNGHOR SIROL LLANGRANOG,…
News
Cite
Share
I CYNGHOR SIROL LLANGRANOG, CEREDIGION. I 'TOBIT' YN YMGEISYDD. I FONEDDIGION, Ydyw, y mae Tobit yn ymgeisydd yma Y mae ei an- erchiad allan; ac fel yr 'would be aristocrats i gyd, y mae yn erbyn dyfod a phleidiaeth' i mewn i'r cynghor byny yw, Dim politics l' Doeth iawn, Tobit; canvs tybir yn gyffredinol fod llwydrew tew ar eich politics chwi or's cryn amser bellach. Gan hyny, gwell gadael lionydd iddynt. Ond a wna yr etholwyr hyny 1 Na: choelia i fawr Yr ydym ni yma yn rhy hen a thrwyaill Ryddfrydwyr i gael ein hud-ddenu gan feathers goreu Tobit. Gallwn, lui gredaf, ddywedyd am dano ef hefyd, fel ag y dywedir ar fater arall—'Ac nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.' Adran pur awgrymiadol yn ei anerchiad, ae un hefyd sydd yn arwyddo ei deimlad o'i wendid ei hun, yw yr un a ganlyn' Hwyrach y goddefwch i mi hyshysu taw Rhydd- frydwr ydwyf.' We], yn wir, y mae goddef iddo, fel yr awgryma, i ddyweyd hyr., yn gryn waith i oddefgarweh un- rhyw un a'i hadwaen. Ond gormodjob ydyw iddo ein cael i gredu hyn. Gwyddom ei hanes yn rhy dda o lawer i gym- meryd ein cylchdroi ganddo. Gwnawn gredu ei fod yn Rhyddfrydwr pan y try y lleuad i fod yn ddiwerth. Yna il yn mlaen i ddyweyd rhywbeth am ei brofiad end os na ddysg profiad rinwedd a doethineb i'w berchen, nid yw o fawr fantais i'w feddianydd, ac ni ymdrecha Tobit, druan ddyweyd fod ei brofiad wedi esgor ar hyn, er mor ddymunol fnasai gallu hyny yn y sefyllfa gyfyng y mae efe ynddi yn bresennol fel ymgeisydd. Addawa, hefyd, os dychwelir ef, wneyd pob ymdrech i ddadblygu adnoddau yr ardal. Ond ni ddywed pa fodd. A osoda efe felin wynt ar ben Iochtyn, a bone manufactory ar lan ein hafon fechan? Nid wyf yn tybied; canys addawa ar yr un pryd i fod yn 'gynnil.' Y mae hefyd yn addaw, os dychwelir ef yn aelod o'r bwrdd, 'ddyrchafu rhiawedd a moesoldeb yr ardal.' Aw. gryma hyn, yn ddiau, ein bod yn ddiffygiol iawn yn y rhinweddau hyn yn bresennol. Ond, gyd-etholwyr, ai dyna y gwirionedd am danom ? Na, choelia i fawr I Ac y mae amryw o honora wedi gwneuthur ein goreu o blaid y rhin- weddan hyn cyn son am Gynghor Sirol; a meiddiaf ddy. weyd, er awgrymiad brwnt Tobit, ein bod yn sefyll mor uchel yn y cyfeiriad hwu ag unrhyw ddosran yn y sir. Diweddaf fy adolygiad y tro hwn ar ei anerchiad, yn ngeiriau y doethaf o ddynion—' Gwagedd, o wagedd gwagedd yw'r cwbl!' Yr eiddoch, &c., RHYDDFRYDWR TRWYADL.
Y TRETHI.
News
Cite
Share
Y TRETHI. FONEDDIGION, A fyddwch mor garedig a hysbysu drwy V I AM-K -1. A oes gan gasglwr treth yr incwm a'r dreth fawr' (land tax) hawl i wrthod derbyn un o'r ùdwy, heb gael y liall ? 2. A oes ganddo hawl i godi treth yr incwm cyn dechreu y flwyddyn ne%v.ydd? :i. Yn mhellach, hyd pa bryd y mae genym bawl i beidio ei thalu ? Ydwyf, UN YN CARU LLES Y PLWYF. ATTEB.-I. Oes. 2. Oes. 3. Y mae yn rhwym i dalu cyn diwetld Mawrth.
LORD SALISBURY AND THE WESLEYAN…
News
Cite
Share
LORD SALISBURY AND THE WESLEYAN S, To the Editors of the BANER. GEKTLEMEtf, .L or -_3 c4_1:h. A report has been published, stating tnai lor(t bad refused to grant the Wesleyans a convenient build a chapel at Hatfield, I drew Lord Salisbury's attention to the report, and received from him t?he fo?Uow- ing letter, which I know you will willingly publish. I am, Gentlemen, your's obediently, GEORGE UWEX, General Secretary Carnarvonshire Constitutional Association. Carnarvon, 27th Dec, 1888.
[No title]
News
Cite
Share
FOREIGN OFFICE, 22nd Dec., 1888. DEAR SIR, „ hA I am desired by Lord SalisDury to 'uu receipt of your letter of the 17th inst., enclosing an extract from the Wain newspaper, in reference to the Wesleyans at Hatfield.   I have to say that there is no foundation for the statement that Lord Salisbury has refused to let or sell a site tor a chapel, I am. your's faithfuliy, SCHOMBEliG li. MCLfunflftw George Owen, Esq.. George Owen, ],,Sq.
LLANFIHANGEL. - - » 1 7_»…
News
Cite
Share
LLANFIHANGEL. » 1 7_» Pg'10''P Sir Feirionydd heb Urenglioiyaa. Dinbych, yn dadrys y dyryswch.-Ar yr 1709 0'r mis diweddaf, cynnaliodd Dr. Pierce drengholiad yn $:? Methodiatiaid yn y Gro, Llanfihangel, ar gorph David Edwards, Pen-y-brymau. yF h^ a ft farw y dydd Iau blaenorol, oddi wrth effeithiauergya o ddryll. Cyfarfvddodd y trangcedig t'i farwolaeth yiasirfeirionydd,ond roeddtrengbolyddysirliono newydd farw, ac nis ?'" ei ''?"x"K.!H lard, Dolgellau), wasanaethu. llet y rose yn hYsbYst bu y sefyllfa yr oedd sir Feirionydd yiiddo yn destyn