Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

- - - -EGLWYSYDD NOETHLWM…

News
Cite
Share

EGLWYSYDD NOETHLWM CYMRU. EGLWYS BRONGWYN, SIR ABERTEIFI. [ODDI WKTH EIN GOHEEYDD NEILLDUOL,] DBWG iawn geayf na buaswn wedi gwneyd sylw o'r ben wrig' fethedig uchod lawer cyn byn. fti A diffyg parch tuag ati ydyw y Theswm na buas- WI1 wedi ei rhestru yn mhlith Eglwysydd Noeth- lwm sir Aberteifi' er's wythnosau lawer. Na y mae genyf gymmaint o barch iddi ag sydd genyf i nnrhyw eglwys arall-eymmaint parch fel nas gall- af ymattal rhag ei gosod ger bron y byd fel gwrth- ddrych teilwllg o dosturi. Diffyg amser-ac nid diffyg parch, colier-ydyw y rheswm mawr na boaswn wedi gwneyd sylw neillduol o honi, a hyny ar faes y FAS BE, er dechreu mis Medi diweddaf. Gobeithio y bydd i'r anwyl gariadus frodyr faddeu i ",¡ am fod mor faith cyn dwyn yr hen grochan hufen' uchod i sylw holl genhedloedd cred. Y mae yn debyg fod rhai o ddoethion (?) merch Harri'r mwrddrwr—y gwtr mwyaf dylanwadol (?) -y bobl hyoy ag sydd wedi syrthio mewn cydym- deimlad, a chariad dwfn a'r degwm yn sir Aber- teiti, wedi penderfynu ysgrifenu yn fy erbyn. Gobeithio y caf gyflfiusdra yn fnan i'w hatteb. Gallaf eu sicrhau fy mod yn alluog i chwalu eu haeriadau i'r pedwar gwynt; ac nad wyf etto wedi dadguddio yr hyn oil a welais, ac a glywais,' pan arymweliad a'u heglwysydd noethlwm. Druain o honynt! nis gallaf lai na chydymdeimlo a hwynt o waelod fy nghalon yn eu cyfyngderau presennol. Y mae yn dda genyf allu dwyn tystiolaeth un- waith -etto, fy mod wedi gwneyd pertTaith chwareu teg i'r I anwyl gariadus frodyr' yn mhob man. Telais ymweliad a'r eglwysydd yn ystod misoedd yr haf, fel nas gallasai neb ddyweyd fy mod wedi gwneyd cam a. hwy yn y eyfeiriad hwn. Ond er pob ffafr, cefais y cynnulleidfaoedd yn warthus o fychain yn mhob man. A chan eu bod mor dru- enus o fychain yn yr haf, beth am danynt yn y gauaf ? Gadawaf i'r byd farnu hyd oni cheir ely wed etto. Y mae yn ddrwg iawn genyf, ar ryw olwg, orfod hysbysn miloedd darllenwyr fy llythyrau yn mhob Clh o'r byd, mai hwn fydd y llythyr olaf o'm heiddo-am beth amser beth by nag. Y mae fy ngwyliau wedi dirwyn i fyny er's mis yn ol, ac y mae pawb yn ymwybodol o'r ffaith nad oes gan ddyn ieuange, pan yn y coleg, hamddeu i ysgrifenu rhyw lawer i'r newyddiaduron, o herwydd fod pethau pwysig eraill yn hawlio ei holl feddwl. Er hyn, hawdd genyf gredu y bydd i'r anwyl gariadus frodyr fanteisio ar yr uchod, ac ysgrifenu (yn ol eu gallu wrth reswm) a phentyru haeriadau yn fy erbyn. Yr wyf, o ganlyniad, yn dymuno gwneyd yn hysbys na bydd i mi wneyd yr uri sylw o un- rhyw wrthwynebiad a ddichon gyfodi o'r gwersyll Eglwysig i'm herbyn. Na: y mae genyf waith annhraethol uwch, a phwysicach, na hollti blew' a r gwyr hyny, nad oes ganddynt amgenach gwaith i'w gyflawni na thynu mug ac adeilada cestyll yn yr awyr. Ond er dyweyd o honof hyn, yr wyf yn addaw gwneyd sylw neillduol o lythyr y gwr a'r wisg wen o Llandyssiliogogo, a hyny mor gynted ag y caf gyfleusdra. Pan yn dychwelyd o eglwys Llandyfriog (yr eglwys hono ag y gwnaethom sylw o honi yn ein llythyr diweddaf), cyfarfyddais yn ddamweiniol a cbyfaill i mi, yr hwn sydd yn llawn s81 a brwd- frydedd dros yr achos gwrthddegymol. Dywed- odd wrthyf y dylaswn, ar bob cyfrif, dalu ymwel- iad ag eglwys Brongwyn yr hon eglwys yn unig a gydnabyddir gan y Uywodraeth fel eglwys lesu Grist yn yr holl blwyf. Penderfynais ar unwaith gydsynio a'r cais, ar yr ammod ei fod ef yn addaw dyfod yno gyda mi-yr hyn a wnaeth, a hyny gydar parodrwydd mwyaf. Am chwarter wedi un o'r gloch cychwynasom allan o ffermdy Mynydd Llandyfriog, ac ymaith a ni i gyfeiriad y Bron- gwyn. Wedi cyrhaedd y groesffordd sydd ych- ydig uwch law Cwm.du, cyhrfyddwyd àdynes, yr hon sydd wedi yfed yn helaeth o'r ysbryd gwrth. ddegymol; a gallasem yn hawdd gasglu oddi wrth ei hymadroddion ei bod yn darllen y FANER bob wythnos gyda dyddordeb. Gofyuodd fy nghyfaill iddi, yn mhlith pethau eraill, pa mor liosog oedd- ynt yr anwyl gariadus frodyr' yn y gymmydog- aeth hono—ac yn enwedig feliy yn eglwys y Brongwyn. 0 meddai, gellwch yn hawdd eu cyfrif.' Gofynais iddi pa fodd yr oedd yn gwybod ein bod yn bwriadu eu cyfrif. I Yr wyf yn deall eich neges,meddai. 'Chwi sydd yn ysgrifenu i'r FANER-llythyrau doniol d ros ben.' Ar hyn prysurasom yn mlaen, a'n gwynebau tua chyfeiriad y sefydliad estronol; ac yn mhen pum munyd, yr oeddym wedi cyrhaedd y porth cysaegredig. Mor gynted ag y cyrhaeddasom y porth, dywedodd fy nghyfaill wrthyf, I Wclwch chwi y llwybr yma (gan gyfeirio at y llwybr sydd yn arwain o'r ffordd i ddrws yr eglwys); y mae y borfa yn cael perffaith 'chwareu teg i dyfu- chydig iawn o ol traed y I defaid' Eglwysig welir yn tramwy i mewn ac allan oddi yma.' Ydyw, y mae y llwybr glaswelltog hwn yn brawf digonol i bawb mai methiant ydyw yr achos estronol yn y Brongwyn Wedi cyrhaedd y drws, deallasoin ar unwaith fod y gwasanaeth wedi dechreu; o herwydd glywed o honom y swyddog Eglwysig yn darllen y llithoedd gyda hwyl anarferol. Aethom i fewn yn ddistaw, ac eisteddasom yn y set olaf ond un, er mai yn y set olaf oll oeddym wedi feddwl-wedi arfaethu eistedd ynddi cyn myned i fewn; ond yn wir, yr oeddwn wedi cael digon o brawf ar eistedd mewn llwch, a chalch, yn eglwys Capel Cynnon, heb feddwl ymgymmeryd a'r gorchwyl o eistedd yn nghanol yr annybendod' oedd yn set olaf eglwys y Brongwyn Y peth cyntaf dynodd fy sylw wedi i mi eistedd ydoedd chwip gerbyd y clerigwr wedi ei gosod yn y set nesaf ataf. Bu'm am beth amser lhwng dau feddwl pa un a oedd y chwip i gael ei chyfrif yn un o'r gynnulleidfa. Rh&id cyfaddef fod hou yn un o'r mynychwyr mwyaf cysson ag sydd yn perthyn i'r cyssegredig le hwn o herwydd bob amser y bydd y swyddog Eglwysig yno, yno hefyd y bydd y chwip. Beth bynag, nid wyf yn bwriadu ei rhoddi hi i fewn yn y cyfrif y waith hon ond os digwydd i'r anwyl gariadus frodyr godi gwrthwynebiad ynghylch rhif y mynychwyr, bydd yn rhaid i mi, o ganlyniad, ganiatan iddynt gael y chwip i fewn i'w cyfrif! Croes fawr oedd yn tynu fy sylw yn eglwys Llan- dyfriog yn y boreu ond chwip hir oedd yn tynu fy sylw yn eglwys y Brongwyn yn y prydnawn. Rhyfedd mor amrywiol eu barn ydynt swyddogion merch Harri o barthed addurno eu heglwysi. Y mae rhai yn credu mewn canwyllau cwyr, ac eraill mewn croesau pres ond y mae yn naturiol iawn casglu fod y parchedig dad' o'r Brongwyn o'r farn nad oes yr un ornament ar wyneb y ddaear i'w chymmharu am funyd a'i chwip gerbyd ef! Wedi gorphen a'r llithoedd, wele olynwr himedig yr a.postolion yn esgyn i'r pulpud ac edrychai fel pc wedi colli pob meddiant arno ei hunan. Nis gwn pa. beth oedd yn gwasgu arno. Tebyg iawn fod presennoldeb y tidan ddyeithrddyn oeddynt o fewn muriau cyssegredig y sefydliad yn peri mwy o ond nag o lawenydd iddo. Gobeithiaf, yn wir, nad oeddym mewn nnrhyw ystyr yn faen tram- gwydd ar ei ffordd i gario y gwasanaeth yn mlaen yn hwylus. Beth bynag am hyny, darllenodd fel testyn y geiriau sydd i'w gweled yn Efengyl Matthew ix. 37, yna y dywedodd efe wrth ei ddy sgvblion, y cynhauaf yn ddiau sydd fawr, &c.' Cy J Iddo ddarllen ei destyn, sylwais arno yn tynu ei bregeth allan o'i logell mor ddirgel ag ydoedd yn bogsibl. Cadwai hi yn ei Haw, a'r Haw hono o'r tu ol. Dechreuodd, hebgolli amser, fyned i mewn i ddirgelion (?) ei destyn. Pesychai yn ami—yn hynod felly. Nis gwn a ydyw y rhinweddhwn yn naturiol ynddo, ai peidio. Yn mhen ychydig fun- ydau, deallais ei fod wedi myned oddi ar y llwybr, a deallodd ei barchedigaeth hyny hefyd. Dacw'r bregeth yn dyfod i'r golwg-ac yn cael ei gosod ar y Beibl. Bu am ennyd yn pesychu, ac yn chwilio am y paragraph iawn; ac yn fuan daeth o hyd iddo, a bu yn hynod ofalus o hyny hyd y di. wedd rhag dyrchafu o hono ei lygaid oddi ar y pspur (y bregeth), rhag iddo etto fyned ar gyfeil. iorn. Paham na buasai yn rhoddi ei bregeth ar y Beibl ar y dechreu, ac nid ceisio ei chuddio ? sydd gwestiwn nas gallaf ei atteb. Gresyn na buasai wedi cael gwybod tua chanol yr wythnos y buas. wn yn ei eglwys y Sabbath, er mwyn iddo ddysgu ei bregeth yn y fath fodd fel y gallasai fyned drwyddi heb ei darllen, gan ei fod mor awyddus am hyny. Bydded iddo gymmeryd cysur yn ngwyneb yr oil, a dyweyd fel yr hen wraig hono gynt, pan wedi colli ei phummed gwr, Fel yna y digwyddoddhhi y tro hwn etto.' Nifer y gynnulleidfa ydoedd dau o ddynion mewn oed, pedair o foneddigesau, ac un bachgenyn bychan—yr oil yn gwneyd i fyny gynnulleidfa lewyrchus (?), hapus, a chysurus o 'saith Ac o'r saith yr oedd tri o honynt yn blant i'r clerigwr ac un arall, os nad wyf yn camgymmeryd, yn per- thyn i enwad parchus y Bedyddwyr. Credaf fy mod drwy fy llythyrau wedi profi uwelt law pob ammheuaeth fod merch Harri yn fethiant truenus, a gwarthus, yn neheubarth sir Aberteifi. Nid ydyw eglwysi Brongwyn, Troed- yr aur, Capel Cynnon, Bettws Ifan, Llandyssil- iogogo, Penbryn, a Llandyfriog, ond enghreifftiau o luoedd eraill ag y gaUaswn eu henwi pe buasai amser yn caniatau i mi ymweled ft hwy. Yn awr yr wyf, wrth roddi ffarwel i'm caredigion, gan addaw ysgrifenu cyfres o lythyrau etto tua gwyliau y Nadolig ar yr hyn a welais ac a glywais yn Eglwysydd Noethlwm sir Aberteifi. O.Y,-Bu'm yn cyd-deithio ag amryw o swydd- ogion yr Estrones' a'r hyd ffordd haiarn Gogledd Cymru, pan oeddynt ar eu taith i Gynghres y Rhyl yr wythnos ddiweddaf i osod y prop olaf dan freichiau gwywedig yr hen wraig; ac yr wyf yn addaw gwneyd sylw neillduol o'u hymadroddion hwythau. Ychydig ddarfu iddynt freuddwydio fod Gohebydd y FANER yn gwrandaw arnynt.

LIVERPOOL. !

I MON A -CHAERNARFON.-I

- - - - - - - - - MARWOLAETH…

SARHAU BONEDDIGES DEITLOG.…

ANFADWAITH AR Y FFORDDI HAIARN…

CYHUDDIAD DIFRIFOL YN ERBYN…

CYNNADLEDD EFENGYLAIDD._I

ACHOS Y TRWYDDEDAU.I

HUNAN-LADDIAD DYFEISYDDJ

TORI TY YN YNYSYBWL.

[No title]

Y MYNYDDWR: NEU, Y PENAETH…

NEWYDDIADUR WYTHNOSOL NEWYDD…

GAERWEN, MON.