Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
25 articles on this Page
[No title]
Teimla arweinydd newydd Ty y Cyffredin yn lied galonog wrth edrych yn mlaen ar ragolygon yr etholiad cyffredinol nesaf. Dydd Mawrth efe a ddaeth i lawr i'w etholaeth yn Manchester, er mwyn derbyn llongyfarchiadau ei frodyr iddo ar ei ddyrch- afiad mawr. Yntau, yn ad-daliad am y sebonyddiaeth hwn, a wnaeth araetb. Nid yw yn gallu teimlo yn sicr y bydd y Toriaid yn ennill mwyafrif yn y frwydr nesaf. Sicr o un peth yn unig yw efe. Yn yr etholaeth- au mwyaf goleuedig, profiadol, a'r rhai y mae eu trefniadau yn berffeithiaf,' yn y rhai hyn oil y maent yn sicr o lwyddo. Tybier fod Dwyreinbarth Manchester yn troi ei chefn arno ef: a fyddem i olygu hyny fel prawf nad yw na 'goleuedig,' 'profiadol,' nac yn meddu I trefniadau' da ?
[No title]
Ar ol gwasanaeth ffyddlawn am flynydd- oedd meithion, y mae Mr. JOHN ROBERTS wedi ei orfodi, gan ystad egwan ei iechyd, i hysbysu ei etholwyr 'yn mwrdeisdrefi sir 'Fflint y bydd efe yn rhwym o dori ei gys- sylltiad agos a hwy ar derfyn y senedd- dymmor presennol. Bydd yn chwith gan filoedd lawer o herwydd hyn, yr ydym yn sicr; ae yn enwedig o herwydd y rheswm sydd yn peri i Mr. ROBERTS ymneilldno o fywyd cyhoeddus. Pwngc mawr yr etholwyr bellach ydyw, ystyried y cwestiwn pwysig pwy a g&nt hwy i'w ddwyn allan yn ym- geisydd yn ei le. Ac yr ydym yn dymuno dadgan yn y modd mwyaf difloesgni mai eu pwngc hwy ydyw, mewn modd arbenig, heb ymyriad gan neb pwy bynag o'r tu allan i'w cylch. Ni fynem ni, o herwydd hyn, gymmaint ag awgrymu pwy y dylent hwy ei ddewis yn ymgeisydd.
[No title]
Ofnadwy, mewn gwirionedd, oedd y dyng- ed a oddiweddodd fachgenyn bychan wyth mlwydd oed, o'r enw HENRY PALMER, yn Ryarsb, ger Maidstone, ychydig ddyddiau yn ol. Pan yn chwareu gyda nifer o gyf- oedioa iddo mewn pwll tywod, heb unrhyw rybudd, wele bentwr anferth o'r tywod yn disgyn arno, gan ei gladdu i fyny hyd ei wddf, Er nad oedd yr un o honynt dros wyth mlwydd, mwy nag yntau, dechreuodd ei gymdeithion wneyd yr oil a allent i'w waredu; er, trwy hyny, yn gosod eu hunain yn yr enbydrwydd mwyaf. Ond tra yr oeddynt hwy yn gwneuthur hyn, wele ben- twr arall o'r 'swnd yn disgyn, gan gladdu y truan yn llwyr o'r golwg. Prin y diang- odd y lleill rhag tynged gyffelyb. Yn mhen o ddeutu hanner awr ar ol y digwyddiad alaethus, cliriwyd y tywod, a chafwyd ef,. wrth gwrs, lyn hollol farw, er's meityn. Bydd hyn, yn ddiau, yn rhybudd difrifol i blantos yr ardal hono, ac ardaloedd eraill yn ogystal, rhag myned i chwareu mewn pant- leoedd a phyllau'tywodlyd rhy ddyfnion.
[No title]
Yr ydym, yr wythnos hon etto, yn gorged. dyweyd mai ymddangos yn dra bygythiol y mae pethau rhwng China a Rwsaia. Y mae yu amlwg fod y fiaenaf wedi cael llawn ddig- on ar yr ysbryd ymwthio sydd yn nodweddu swyddogion milwraidd yr olaf. Nid yn faith iawn etto y gall hi oddef i'w thiriogaethaa gael eu goresgyn. Os bydd cymmydogaeth a mymryn o ammheuaeth yn ei ckylch, yn y fan enfyn Rwssia ei mil wyr iddi, gan eihawlio fel ei pherchenogaeth ddiammheuol hi. Yn yr un ysbryd, y gweithreda ei swyddogion ar derfyn Affghanistan yn ogystal; ac yr ydys yn ofni rhag i deimladau chwerwon gael eu cenhedlu rhyngddi a Brydain o'r herwydd. Ymddengys fel pa byddai wedi gosod ei bryd ar feddiannu pob llecyn gwyrddlas a fyddo ya ddichondawy iddi. Ond, yr ydym yn dyfalu y cymmer hi ofal rhag tynu Brydain a China yn gyfangwbl yn ei phen.
[No title]
Nid ydyw yr ysbryd milwraidd yn gryf yn Rhyl, gallem dybio. Y dydd o'r blaen, daeth prif swyddog y filwriaeth Brydeinig yn Ngogledd Cymru yno i wneyd arolygiseth blynyddol ar gatrawd y gwirfoddolwyr. Er ei ddirfawr syndod a'i siom, ni ddaeth ond deg a'r hugain o gwbl i'w gyfarfod. Un- iawn y barnai y Milwriad LIDDELL fod yr ysbryd milwraiddttyn egwan yn y dref a'r gymmydogaeth. Clod i'r Rhyl o herwydd hyny. Nac eled yn gryf yno ddyddiau y ddaear.
[No title]
Ychydig amser yn ol, bu farw boneddwr o'r enw ADERS, yn lbusseldorf, yn yr Almaen. Yn ei ewyllys, efe a adawodd filiwn o 'farciau' (darn arian cyfwerth a 13j. 4c.) i'w defnyddio er lies gweithwyr tref ei enedigaeth. Ar ol ymbwyll ystyriol, y mae yr awdurdodau wedi penderfynu pa ddefn- ydd a wnaut hwy o'r rhodd haelionus hon. Bwriedir adeiladu anneddau eysurue i weith- wyr teilwng, a'u teuluoedd, ynddynt. Codir hwy yn yr amgylcboedd, ac o fewn peUder rhesymol oddi wrth waith y dynion, Yn y cynllun, cynnwysir hefyd fod tenant yn gallu-ar delerau esmwyth, ac ar derfyn tymmor pennodol-dyfod yn berchenog ar ei fwthyn a'r ardd fydd yn gyssylltiol &g ef. Bydd gardd ynglyn a phob ty.
[No title]
Dydd Mawrth, ba y ddwy adran o'r blaid Wyddelig yn cynnal cyfarfodydd-y Gwladgarwyr yn Kilkenny, a'r Parnelliaid yn Dublin. Yn y cyfarfod blaenaf, dywed- ai Mr. W. O'BRIEN, yr hwn oedd y prif siondwr, ei-iod ef yn teimlo yn hyderug y bydd i gorph mawr y genedl Wyddelig gefn- ogi y blaid Wladgarol. Penderfynwyd gwahodd Mr. MICHAEL DAVITT i ddyfod yn ymgeisydd yn Ngogledd Kilkenny, yn lie y vdrweddar Syr JOHN POPE HENESSEY; neu, os gwrthoda, bydd Mr. PATRICK McDERMorr, o Woodford, yn cael ei ddwyn yn mlaen. Yn y oyfarfod Parnellaidd, dangosid gwrth- wynebiad cryf a phendant i ymono a'r blaid Wladgarol, ond cario y rhyfel yn mlaen fel y gwnai Mr. PARNELL.
[No title]
Nid ydyw yn anhawdd deall y rheswm pa ham y mae agos yr oil o heddgeidwaid sir Ddinbych yn elynion anghymmodlawn i Ddeddf Can y Tafarnau ar ddydd yr Argl- wydd. A hwy yn gwybod nad yw eu pen- aeth yn credu yn y ddeddf, prin y gallem yn naturiol ddisgwyl llawer o ffydd ynddynt hwy. Heddgeidwaid Gwrecsam, yn neill- duol, ydynt o'r teimlad hwn at gyfraith sydd wedi bod mor dra bendithiol i'r wlad yn gyffredinol. Ar y Haw arall, y mae genym y seiliau cryfaf dros gredu fod y bobl yn coledda syniadau tra gwahanol i eiddo y prifgwnstabl a'i is-swyddogion am dani. Credant fod gwahaniaeth dirfawr wedi ei effeithio drwyddi, a hwnw yn wahaniaeth er gwell. Yn hytracb, yr hyn y dyheant am ei weled yn cael ei wneyd ydyw, ar ilw dar- pariaethaa ei gwneyd yn fwy manwl, ar n heddgeidwaid fod yn fwy llygad agored a ffyddlon&ch i'w dyiedawyddau; ac hefyd, ar fod yrynadon yn arddangos mwy o onest- ,wydd-a-ehydwybodotnrydd yaeu gweinydd- iad hwy ami. Dylai y cospedigaethaa am ei tbroseddu fod cryn lawer yn dryjaacii nag ydynt.
-Y C Y N K W Y S 1 A D. I
Y C Y N K W Y S 1 A D. Kysbysiadau 1 >2 pigwyddiadau 3 Gcnedigaefchau. &C. ••• Prif KrtkvjUau — 4 Y Gyn?es E?lwy»i? J4 A allwn ni beri iddi wlawio 4 \ewyddionCymreig — 5 Bcthcsjaa'rUyaiQMU. 5 Gohebiaethau J3ai-d(loni,,teth ° Cofnodion Cyffredinol 6 Eglwysydù '\oethlwm Cyroru. 7 Vr ystorm d'liweddar > TroseddaUj — 7 y Nufel 7 Bwrdeisdrefi Sir Fflint 8 Telegrams Arthur Llwyd ° Adotygi?dyWasg 8 Adùys 8 D?mweiniau .1' S Newyddion DiweAdaf 8 MMchuadoedd. 8
[No title]
YN Paris, y mae cymdeithas ddaionus iawn wedi i sefydlu yn ddiweddar, dan yr enw 'Cymdeithas Cyfnewidiad Llafur.' Am mai ieuangc ydyw hi, nid ydyw hi etto wedi cyrhaedd ond ychydig raddau o ymddadblyg. iad. Amcenir hi i fod yn gyfrwng eym- mundeb rhwng meistriaid a gweithwyr. Y dynion a'r merched fydd mewn angen am waith a ant i swyddfa y gymdeithas i roddi eu henwau i mewn; y meistriaid, pan mewn angen am weithwyr, a ant yno, hefyd, i ddewis rhai. Ynglyn a'r swyddfa, y mae neuadd, yr hon a fenthycir yn rhad i gynnal cyfarfbdydd undebau y crefftwyr; ac mewn adeg o gyfyngder, bydd ynddi le i liaws o weithwyr allan o waith i gael lloches. Yn ystod y deuddeng mis diweddaf, nid oes dim lki na thri chan mil o ddynion wedi cael gwaith trwy offerynoliaeth y gymdeith- as hon. Yn fuan, bydd yn symmud ei phabell i adeiladau newyddion ac eang a godir ar draul y cyhoedd yn mhen dwyr- einiol y ddinas. Y prif reswm am y gefn- ogaeth gyhoeddus hon i'r gymdeithas ydyw nerth pleidlais y gweithwyr yn yr etholiad- au dinesig. Rheoleiddir ei holl amgylch- iadau gan weithwyr er lies y gweithwyr. Dewisir cynnrychiolwyr gan eu hundebau i ffurfio y bwrdd llywodraethol. Nis gellir ammheu am foment mai da iawn a fyddai fod y fath sefydliad gwerthfawr yn cael ei efelychu lyii ein gwlad ninnau, yn enwedig yn y dinasoedd mawrion. Ei brif fendith, yn ddiau, fyddai fel 'canolbwynt hysbys- iaeth.'
[No title]
Rhydd pob banes a dderbyniwn o sir Aberteifi ar ddeall i ni fod pob peth yn myned yn mlaen yno megys cynt. Y mae yr haul yn codi ac ynmachlud yno; yr am- aeth wyr a'u llafurwyr yn myned i'r meus- ydd, a'r masnachwyr yn agoryd eu mael- feydd ar eu hadeg arferol. Ni chlywsom fod yuo haint na phla wedi tori allan, ond fod yr iechyd cyffredinol rhyw beth yn debyg i arfer. Hefyd, y mae y newyddiaduron Rhyddfrydig yn cael eu hanfon yno, a'u darllen yn awr yn gwbl fel yn y dyddiau gynt. Ni chlywsom fod yno gymmaint ag un Ym- neilldiiwr a Rbyddfrydwr yn llai. Yr oedd y capelau y Sabbath mor llawnion ag arfer, a'r eglwysydd mor weigion ag arfer. Hawyr anwyl! y mae pob peth yn myned yn mlaen yno megys cynt. Nid ydyw yn bossibl hyd yn oed a gwydr-ddrych ganfod fod yno gysgod o gyfnewidiad wedi cymmeryd lie ar ddini. Nis gwyddom am y tyrchod daear, yr ydym yn addef. Pa hawl sydd gan Geredigion i fod yn awr megys y bu 1 Oni ddaeth 'y gW1' o Firmingham' i lawr ar noswaithdromdymmhestlog i'w throi a'i chyf- newid ? Onid dym:t ydoedd unig amcan yr ymweliad? Y Cardies paham yr ydych yn aros yn yr un man? Ai am eich bod yn wyr o egwyddorion sefydlog ?
[No title]
TSHANG YAO, llywodraethwr talaeth Shan- tung, China, yr hwn a fu farw yn ddiweddar, ydoadd un o urddasolion penaf yr ymher- odraeth, Bu ei yrfa yn un dra antunaeth- us. Isel ei sefyllfa oedd efe yn ei enedig- aeth. Pan yn ddyn ieuangc, bu gorfod arno ffoi am ci hoedl o herwydd llofruddio o hono boenydiwr hen v< i\ Troes yn ysbeil- iwr, a daeth yn flaenor ar y gwylliaid a wnaent dalaeth Hunan yn anniogel i fyw ynddi. Yn nhymmhor y gwrthryfel, by- gythid prif ddinas y dalaeth gan y gwrth- ryfel wyr. Yn ei gyfyngder, anfonodd y llywodraethwr broolamasiwn allan, yn yr hwn yr addawai law ei fereh i bwy bynag a waredai y dref rhag y gelynion. Gyda phum cant o wylliaid, curodd TSHANG y gwrthryfelwyr ymaith; a dranoeth, yn wobr ei wrhydri, arweiniodd feinir brydweddol y llywodraethwr i'w gartref. O'r dydd hwnw allan, ymddyrchafodd yn gyflym. Nis gallai ddarllen nac ysgrifenu, ond yr oedd yn ddyn un &'i air, a bu farw mor dlawd ag y bu fyw. Elfen atbenig yn ei gymmeriad oedd cymmwynasgarwch. Modd bynag, dywedir nad oedd yn wastid yn gyfiawn at Ewropiaid, ac yn enwedig y cen- adon.
[No title]
Mewn telegram a dderbyniwyd yn Paris ddechreu yr wythnos hon, dywedir fod M. DE BRAZZA, llywodraethwr cyffredinol y rhanbarth Ffrengig o diriogaeth y Congo, wedi myned i'r Sangha Uchaf, gyda gos- gordd o ugain o wyr, er mwyn parhau y gwaith archwiliadol a ddechreuwyd gan M. FORNEAU, yr hwn, gyda'r fintai oedd dan ei arweiniad, a fu mewn ymladdfa waedlyd gyda'r brodorion, gan ba rai y gorfodwyd hwy i encilio yn eu hoi. Digwyddodd hyn yn mis Mai diweddaf. Amcana M. DE BRAZZA adfer trefn yn y rhanbarth, a chael gan y penaethiaid brodorol gydnabod yr awdurdod Ffrengig. Ysywaeth, nid ydyw y Ffrangcod ar y Congo yn arddangos ban- ner cymmaint o fedr i drin y brodorion ag a arddangosir gan y Belgiaid.
[No title]
Dygwyd cynnadledd gyffredinol neu gyd- genedlaethol y byd yn Washington i der- fyniad ddechreu yr wythnos hon. Un o'r pethau diweddaf a wnaed ydoedd pennodi pwyllgor arbenig i drefnu pethau gogyfer a chynnal cynnadledd gyffelyb yn mhen- deng mlynedd-yn 1901. Yn mysg y pen- derfyniadau diweddaf, hefyd, yr oedd un yn dadgan gofid o herwydd y cynnydd mawr sydd ar y Babaeth. Ynglyn a hyn, cafwyd ymdriniaeth led fywiog ar ragolygon Wes- leyaeth trwy y byd.
[No title]
Chwith lawn ydyw meddwl fod teimladau tra dygasog yn parhau i ffynu rhwng yr Ymherawdwr WILLIAM, o'r Almaen, a'r Tywysog BISMARC. O'i du ef, nid ydym yn deall fod ei fawrhydi yn dyweyd nemawr ddim. Wrth gwrs, ni chlywsom ddarfod iddo ymffrostio wrth neb am ei fod ef wedi cael gwared o hen weinidog ei dad a'i daid. Ar y tu arall, nid ydyw y tywysog yn petruso son bennydd am yr angharedigrwydd a'r anniolchgarwch a ddangoswyd tuag ato ef yn ei hen ddyddiau. Y mae ganddo ddau neu dri o newyddiaduron yn gwbl at ei wasauaeth, a cholofnau pa rai a lenwir yn barhaus gan erthyglau condemniol ar ymddygiadau y llywodraeth bresennol, ac yn dadwrdd ynghvlch y golled o wasan- aeth yr hen ganghellydd. Ceisia, hefyd, gael gan ryw un alw sylw yn y senedd at ei ymddiswyddiad. Rhyw beth i flino yr ym. herawdwr a'i weinyddiaeth.
[No title]
Eisoes y mae yr etholiadau bwrdeisiol ar ein gwarthaf. Heddyw ydyw y diwrnod olaf i enwi yr ymgeiswyr. Mewn llawer o fwrdeisdrefi Idygir yr etholiadau hyn, fel y rhai seneddol, yn mlaen ar y llinellau poli- ticaidd. Yn Liverpool, gwleidyddiaeth ydyw eu harwyddair ar hyd y blynyddoedd. Yr ydym yn methu gweled ein hunain paham nad folly y dylai fod, er cymmaint a ddy- wedir yn erbyn hyny. Onid y dynion cym- mhwysaf i lywio amgylchiadau gwlad ydyut, hefyd, y rhai cymmhwysaf i lywio amgylch- iadau tref ? Gan Ryddfrydwyr, am eu bod felly, y mae y cymmhwysderau anhebgor i lanw y ddau gyloh, yr ydym yn llwyr gredu.
[No title]
Hyd y clywsom, nid oes etto neb wedi ei ddewis gan Ryddfrydwyr bwrdeisdrefi Llan- elli a Chaerfyrddin i'w ddwyn allan yn ym- geisydd drostynt yn yr etholiad cyffredinol nesaf, yn lie Syr ARTHUR STEPNEY, yr hwn svdd wedi gosod ei fryd ar ymddiswyddo. Yr ydym yn mawr hydera y gellir cael gwr a fydd yn anrhydedd i'r achos, ac o wasan- aeth i Gymru. Tuag at lanw disgwyliadau y wlad, efe a ddylai fod yn Gymro ac Ymneillduwr, yn ogystal a Rhyddfrydwr. Nis gwyddom ar bwy y mae llygaid y Tori- aid wedi syrthio.
[No title]
Gwna un o newyddiaduron Toriaidd Birm- ingham gymmaint o ddigrifwch doniol ag a all o lianes 'anturiaeth' ddiweddar yr Arglwydd RANDOLPH CHURCHILL gyda'r llewod yn ngwlad Maslmna, yn nghanolbarth Affrica. 'Nis gallwn ymattal,' meddai, rhag cyssyiltu RANDOLPH yr heliwr a RAN- DOLPH y gwleidydd.' Y dyn nad oedd ganddo ofn Hew ffijedig ydoedd drachyffelyb i'r dyn nad oedd ganddo of a troi ar ei gyf- eillion pan yn teimlo y gallai wneyd hyoy t yn ddiogel; a rhaid fod y dyn a'i teioilaijyn anhyfryd dros ben' i gael ei erlid gan lew ag y ceisiasai efe ei glwyfo, yn meddu llawer o'r un teimladau ag oedd yn meddiannu y dyn a geisiodd ddryllio gweinyddiaeth, acyn y diwedd a ddarganfyddodd mai efe ei hun yn nnig oedd mewn perygl o golli ei holl gymmeriad politicaidd. Yn ffodas, y mae ei arglwyddiaeth wedi llwyddo i ddyfod o hyd i Iwybr i gadw ei enw ei hun yn amlwg o flaen y cyhoedd; a dylai RANDOLPH, y lladd- wr llewod amcanedig, fod yn llawn mor enwog a RANDOLPH, caDghellydd tram- gwyddedig y Trysorlys,' Rhyfedd fel y mae newyddiaduron Toriaeth wedi troi ar y dyn y buont unwaith yn ei ddarlanio fel y g*r ag yr oedd broa holl obaith eu plaid yn grogedig wrtho. Pan ddychwel y bychan adref, bydd ganddo waith mawr i dalu y pwyth i'w gyn-addolwyr.
[No title]
Yn ol un adroddiad sydd wedi ein cyr- haedd o Cork, yn yr Iwerddon, y mae Mr. WILLIAM REDMOND yn bwriadu dyfod allan yn ymgeisydd am y sedd dros y ddinas hono a aeth yn wag trwy farwolaeth Mr. PARNELL. Os gwir hyn, ceir ynddo oleuni pur hynod ar ddull gweithrediadau y Parnelliaid. Ar hyn o bryd, Mr. REDMOND ydyw yr aelod dros Ogledd Fermanagh, ac nis gall ddyfod yn ymgeisydd am unrhyw etholaeth arall heb ymddiswyddo; gwna hyny hi yn angenrheid- iol, wrth gwrs, i etholiad newydd gymmeryd lie yn Ngogledd Fermanagh, mor gynted ag y cydgynnulla y senedd. Ond suddodd mwyafrif'y blaid wladgarol yno o 433 yn 1885 i 266 yn 1886. Amlwg yw, gan hyny, y byddai unrhyw ymrwygiad yn rhengoedd y Gwladgarwyr yn rhwym o beryglu diogel- wch y sedd yn ddirfawr. GaUai y Parnell- iaid ddadleu, yn gymmaint ag mai yehydig o obaith am lwyddiant yn Cork sydd gan Mr, REDMOND, ac yn gymmaint ag nas gellir llanw y sedd a wneid yn wag trwy ei ym- ddiswyddiad hyd nes y daw y senedd ynghyd, y gallai Mr. REDMOND gael ei ail enwi am ei hen gynnrychiolaeth, a gellid edliw i'r gwlad- garwyr eu bod yn gweithio i ddwylaw y Toriaid wrth ei wrthwynebu ef. Ond, y mae chwareu fel hyn a'i amcan yn rhy eglur o lawer ifod yn Ilwyddiannus. Yr ydym ni yn aminheu yn gryf, modd bynag, a fydd i'r Parnellydd hwn, pa mor banboeth bynag y gall fod, barhau yn ei benderfyniad i ation- yddu ar heddwch yr etholwyr yn Dinas Cork.
[No title]
Amlwg yw ei bod yn rhaid i'r genedl Wyddelig droi o ddifrif or yr ychydig ddynion anystywallt ac anesmwyth sydd yn parhau i alw eu hunain yn ganlynwyr Mr. PARNELL. Am fod teimladau y miloedd yn nghymmydogaeth Dublin wedi rhedeg yn nodedig o uchel ddiwrnod claddu y cyn- flaenor, tybia y dynion hyn fod yr holl wlad o'u plaid hwy, ac wedi penderfynu gadael y blaid wladgarol a arweinir gan Mr. JUSTIN MC'CARTHY. Ymddengys nad oes dim .'g hargyhoedda ond cyfres o etholiadau llwyr" orthrechol iddynt. Gellir cael un o'rcyfryw pan eir i ddewis aelod yn lie y diweddar Mr. PARNELL yn Cork; ond, rhaid aros hyd yr etholiad cyffredinol am y cyfleusdra i wneyd hyny ar raddfa Sang ac effeithiol.
[No title]
Y newyddion diweddaraf o Creta a rodd- ant olwg fwy ffafriol ar bethau yn yr ynys na dim a gafwyd er's llawer o amser. Y mae amryw o Gristionogion wedi eu pennodi i swyddau cyhoeddus, ac hyd yn oed lliaws wedi eu derbyn i'r heddlu. Y mae y llyw- odraeth Dyrcaidd wedi cyhoeddi I maddou- ant' i niferoedd lliosog am godi yn erbyn eu hawdurdod hefyd, yr hyn, ynddo ei bun, sydd yn dangos ei bod hi am weithredu mewn ysbryd mwy cymmodol o hynaUan. Ychydig ddyddiau yn ol, yr oedd pum cant. o bersonau, agyhuddido wrthryfel, yn anfon; deiseb am faddeuant at y llywodraethwr eyffredinol. Nid yw efe wedi atteb y ddei- seb etto; ond dywedir ei fed yn tueddu yn gryf i faddeu, nid yn unig i'r rhai euog o; derfysg eyffredin, ond, hefyd, i'r rhai a gyf- lawnasant lofruddiaethau ae ysbeiliadau politicaidd; a'r unig rai ag y dylid eu cospi, yn ei farn ef, ydyw y rhai a gyflawnasant lofruddiaethau mewn nwyd o ddialeddgar- wch. Os parha y Twrc yn yr ysbryd hwn, diau na chlywir am chwaneg o helyntion yn cymmeryd lie yn Creta.
[No title]
I Nid ydyw gweriniaeth Ffraingc yn ar- ddangos mwy o annoethineb gyda dim nag a wna yn ei chyttundebau masnachol a gwled- ydd eram. Er enghraifit, y mae yr holl fas- nach rhyngddi ag Yspaen mewn perygl o gael eu llwyr andwyo trwy ei rhaib a'i haer- llugrwydd. Codir tollau sydd yn mron yn gyfystyr a gwaharddiant hollol ar amryw o'r prif nwyddau a anfonir yno, nes y mae y llywodraeth Yspaenig yn cael ei themtio yw, gryf i dalu yr echwyn adref trwy dolli nwyddau Ffrengig byd at cwaharddiant.
[No title]
Nid oes gyfrwysach pobl na'r Chineaid ar wyneb daear. Ant o'u gwlad eu bunain -iy wledydd eraill i gasglu arian: yna, dychwel- ant er mwyn treulio gweddill eu dyddiau yn en hen gartrefi. Yn yr Unol DaiaeUan gwaherddir iddynt ymBefydia. Ynglyn &'r gwaharddiad hwn, daw eu cyirwysder i'r golwg. Deuant drosodd o'r gwledydd cyaa- mydogaethol: mewn canlyniad, cymmerir hwy i'r ddalfa, a dygir hwy i San Francisoo, i'w hanfon i China ar draul y llywodraeth. Byddant yn flaenorol wedi anfon eu hennill- ion adref o'u blaenan, a chant, trwy yr ystryw hon, gludiad rhad hefyd.
[No title]
Da genym fod y cwestiwn ynghylch bod- olaeth Ty yr Arglwyddi yn dyfod fwy-fwy i sylw. Gwaith Ardalydd SALISBURY yn hanner bygwth y bydd i'r Ty uchaf daflu y mesur newydd ar Ymreolaeth allan, er iddo gael ei basio gan Dý y Cyffredin. Awgrym- wyd peth i'r perwyl gan Mr. GOSCHKN, ac eraill o'r ochr Doriaidd. Wrth gwrs, ni chymmer y wlad ei sathan i'r graddau hyn., gan ei phendefigion. Siaradodd Mr. GLAÐ- STONE yn gryf ar hyny yn Newcastle. Syr CHARLEB RUSSELL, hefyd, nos Fawrth, yn Glossop, a ddywedodd yn ddifloesgni y bydd, yn rhaid i'r arglwyddi ymostwng i farn y wlad, gan nad beth a fydd, neu fyaed ymaith oddi ar y ffordd.
[No title]
Pa beth a ddywed yr Arglwydd RANDOLPH CHURCHILL pan y clyw efe, yn nghanolbarth Affrica, mai Mr. BALFOUR sydd wedi ei ddewis yn arweinydd Ty y Cyffredin, y swydd y bu efe yn ymddisgleirio' ynddi, hyd nes yr aeth ysbryd ystrangcio yn rhy gryf arno < A gymmer efe ei I arwaiul' ganddo Yr ydym yn cofio adeg pan oedd yr Arglwydd RANDOLPH yn arweinydd 'plaid o'i eiddo ei hnn. Gwir nad oedd cyfanrif y blaid ond pedwar, erbyn rhifo yr oil! Ond, yr oedd Mr. BALFOUR yn un o'r pedwar. Cwestiwn a ofynir gyda mesur helaeth o ammheoaeth ydyw—a fydd y Randi Bach' yn Dori o gwbl pan ddaw Qfe yn ei ol.