Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

- - _- -'-. COLOFN Y BOBL…

News
Cite
Share

COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OLYGIAETH DYFNALLT. CYMRU YN Y BUMED GANRIF. Am 366 o flynyddoedd bu'r Rhu- feiniaid yn arglwyddiaethu ar Bryd- ain, ac nid yw eu hoi eto wedi di- flannu oddiar arwynebedd em gwlad nac o'n hiaith. Daeth Rhufain yma gyda deddf a gwareiddiad dieithr iawn i'r Brython. Sylfaenodd ddinas- oedd mawr; r hwy mod d hwynt wrth eu gilydd gyda ffyrdd dihafal; cad- wodd drefn ar y brodorion drwy gadw ei milwyr ar daith dros y ffyrdd; cododd balasau gorwych a baddonau a chwareudai yn y dinasoedd; bu yn amddiffyn difeth i fasnach a chelf a gwaith rheolaidd. Ni pheidiodd gwar- eiddiad Rhufain hyd y dydd hwn a bod yn elfen bwysig yng nghwrs hanes Cymru, ond erbyn 407 yr oedd y Human Rhufeinig olaf wedi peidio a chwifio yn awyr Prydain. Galwyd y milwyr adref o bob rhan o'r byd 1 amddiffyn yr Ymherodraeth rhag llwythau barbariaid y Goglcdd. Dylid cadw mewn cof felly mai'r amgylchiad mwyaf ei ddylanwad ar dynged y Genedl Frythonaidd ac ar Gymru oedd ymadawiad y Rhu- feiniaid. Nid oedd presennoldeb gwareiddiad, deddf a milwyr Rhufain wedi difodi'r hen genedl. Hwyrach fod y gwareiddiad yn fawr yn y trefi ac yn y dinasoedd, ond yr oedd mwy- afrif y genedl yn byw'n rhydd yn y mynyddoedd anial a'r coedwigoedd trwchus. Pan ymadawodd y Rhufein- iaid yr oedd y Brythoniaid yn genedl i fesur er ei bod yn rhanedig i lwyth- au, ac yr oedd hefyd.yn dal i gadw'r iaith yn fyw, Pobl y dinasoedd a'r prif-ffyrdd oedd yn dod o dan ddylan- wad gwareiddiad Rhufain yn bennaf. Yr oedd hen drigolion cyntefig yr ynys yn dal mor geidwadol yn eu tradd- odiadau a'u harferion ag a wnaeth- ant mewn oesoedd diweddarach. Hwyrach fod trigolion Ystrad Clwyd i fesur yn fwy gwareiddiedig a Christionogol na'r gweddill o Brydain, ond yr oedd gafael Rhufain yn y Gogledd yn llacio'n gyflym flynydd- oedd cyn iddi droi ei chefn ar yr ynys hon. Anfonodd yr Ymherawdwr Honorius lythyrrau at y dinasoedd Prydeinig yn y flwyddyn 409 yn cymell iddynt drefnu modd i am- ddiffyn eu hunain. 1 Gadawer i ni yng ngeiriau yr Athro J. E. Lloyd roi syniad am gyflwr daearyddol Cymru: "Cyn y gallwn synied yn gywir am gyflwr Cymru yn y flwyddyn 409 rhaid ys- gubo ymaith oddi ar wyneb y wlad bron yr oil sydd yn ei nodweddu yn awr, yr adeiladau gwych-yn dai, yn eglwysydd, ac yn gapeli-y ffyrdd, y caeau, y gwrychoedd, y chwareli, y g eithfeydd, y ffermydd, i lawr hyd at y dasau a'r ydlanau. Y peth cyntaf a'n tarawsai wrth dremio ar Gymru yn y burned ganrif a fyddai ei hagwedd wyllt ac anial." Arweiniodd ymadaw- iad y Rhufeiniajd i dryblith cym- deithasol mawr iawn. Cofier geiriau yr athraw dysgedig eto ar gyflwr cymdeithasol y wlad hon yn y cyfnod hwhnw "Ffaith y mae amryw wedi ei nodi ydyw fod cenhedloedd yn y cyflwr neillduol yma o wareiddiad-y cyflwr bugeiliol-yn ymroddgar iawn i ryfel; rhyfela ydyw eu hoff ddifyrrwch, prif orchwyl eu pendefigion, a phrif destun caniadau eu beirdd. Ac yn hyn nid oedd dim yn eithriadol yn y llwythrau Cymreig; meddai pob gwr ei arfau, ac nid oedd arno ofn eu defnyddio. Yr oedd hyn yn wir i fesur am y llwythau Cymreig pan yr oedd llaw haiarn yn eu llywodraethu, a phan dynnwyd honno yn ol gollyngwyd yn rhydd yr elfennau gwyllt ac afreolus yn ei bywyd. Diboblogwyd y dinas- oedd mawr; gwaghawyd y palasau gwych; tvfodd chwvn hyd y llwybrau Ymherodrol; daeth yr hen yspryd tylwythol yn ol eto fel llanw'r mor oedd wedi treio vmhell. Cymerodd cynnen ac ymryson le deddf a threfn; collwyd yr awdurdod canol- og; ail gyneuwyd y fflam eiddigus; cafodd llawer o elfennau ffrwydrol eu cyfle i greu difrod, a chwalwyd sefyd- liadau oedd wedi bod mewn grym am oesoedd. Dyma oedd cyflwr Cymru yn gym- deithasol wedi ymadawiad y Rhu- feiniaid. Yr oedd y genedl yn y cyflwr ansicr hwnnw yn ei hanes pan oedd yn dechreu cael ei ffurfio yn genedl; pan oedd y llwythau eto yn rhydd i dilyn eu priod ffansi eu hunain, cyn fod yspryd undeb a gwladgarwch wedi eu rhwymo yn un corff. Yr oedd defnydd cenedl nodedig yn y gwedd- illion adawyd ar ol gan Rufain, ond yr oedd angen athrylith gwroniaid a seintiau i allu trafod a llunio y defnydd í amcan cenedlaethol. Y tebygolrwydd yw fod yr iaith Gymraeg yn iaith gyffredin yr oil o'r llwythau Cym- reig erbyn y burned ganrif. Yr oedd felly yn rhwym o fod yn clfen gref yn yr undeb oedd i'w sicrhau cyn hir rhwng y gwahanol lwythau. Ni allasai dim yn ddiddadl weu rhwydwaith cryf o undod a chyd- weithrediad allan o'r gwahanol lwyth- au a thywysogion ond ymsyniad o bervgl oddiallan. Cyn i'r Rhufeiniaid dorri pob cysvlltiad a'r wlad yr oedd yr eryrod ar eu hadennydd yn chwilio am y gelain. 0 du y Gogledd yr oedd y PeithWyr a'r Brithwvr wedi bod vii blino y brodorion am ganrifoedd, ac yn y De-Dwyrain yr oedd y mor- ladron Sacsonaidd wedi edrych gyda Ulvgaid blysig am etifeddiaeth y Tylwyth Teg. Ond er cynnifer oedd rhifedi'r estroniaid chwennychant ddaear Cymru llwyddwyd am dros ganrif i gadw'r anwariaid rhag halogi'r tir sanctaidd. Prin y gallesid disgwyl i lwythau gwasgaredig a rhanedig i allu gwneud hyn heb eu bod wedi ymuno o dan un faner fawr, a chymerwyd eu harwain gan arwr sydd a'i enw yn anhyspys neu ynte wcdi tyfu yn wron rhamant. Dyma gyfnod y gellid yn ddigon priodol ei ystyried yn gyfle i arwr mawr fel Arthur Bendragon. Sut bynnag, dyma'r adeg y daeth y "Gwledig" yn swyddog o urddas a safle yn y wlad. Tua'r adeg hon y gorfu i'r Gwledig I enwog Cunedda ap Edeyrn ap Padarn Beisrudd ffoi o flaen y Peithwyr allan I o'i dreftadaeth yn Ystrad Clwyd, a chwilio am loches ymhlith ei geraint yng Ngwynedd. Yno, yn ol yr hanes, yr ymlidiodd ef a'i feibion, yn wyth I o nifer, yr Ysgotiaid allan o'r parth- au hyn, gyda galanastra mawr." Diau mai yr hen drigolion oedd yn i byw yn y wlad ac yn siarad y Wydd- elaeg oedd yr Ysgotiaid hyn. Trwy ei fuddugoliaethau ar yr Ysgotiaid sicr- I haodd Cunedda a'i feibion hawl fel I Gwledig dros rannau helaeth o Gym- ru. Dyna sefyllfa pethau yn wladol tua diwedd y 6fed ganrif.

j Undeb y Cymdeithasau ! Cymraeg.

Advertising

Rhyfel- I ba beth?

I -===-=====-ICymrodorion…

Advertising