Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
Y MODD I DODD YN IACH. yn y Pen, &c. A Wellhant Gamdreuliad, Geri (6/0??/7es? ) A  ia d Geri (Biliousness ) Rhwymiad, Palliant Gwaed, Cyfog, Gwynt? Cur  Pafliant Gwae d Cyfog, Gwynt, Cur '5 y Pen, &c. Gellir tebygoli y stumog, yr afn, a'r coluddion i dri bwa pont fawr; os nad cadarn bob bwa, anniogel fydd y bont. Ac os bydd y stumog, neu yr afu, neu y coluddion allan o drefn, yn ddiwad fe waela, o gydymdeimlad, holl organau ereill y gyfundrefn fawr hon. Dylid, felly, ymar- fer PELENI CINIAW DOAN ar yr arwydd cyntaf o annhrefn yn yr afu, yn y stumog, neu yn y coluddion, fel ag i rwystro mewn pryd i'r drwg ledaenu. Os oes anhwylder yn eich stumog drwgefieithir ar y tafod, bydd archwaeth anhyfryd yn ygenau, a chewch gamdreuliad ynghyda'r mawr-ddrygau sydd bob amser yn ei ganlyn—balliant gwaed, llosg cylla, anhunedd, yr hunllef (nightmare), cur pen, cyfyngdra anadlu, poenau rhwng yr ysgwyddau, ac yn y fynwes. PELENI CINIAW DOAN ydyw physigwriaeth fawr y stumog. Cynorthwyant dreuliad bwyd, ac adferant y stumog. Un o BELENI CINIAW DOAN (Doan's Dinner Pills) ar ol pryd trwm a rwystra bob effaith niweidiol. Os oes anhwylder ar eich afu, a eich 1. WWIR !mw gwedd yn felyn a gwyn eish llygaid yn ddrwgliw; chwi deim- Iwch yn ddiawch ac yn bruddaidd, bydd yna gyfog, a'r geri (bile), llosg cyU&, y bendro, ae arloesygiad (tta?se?). Gwenieitha PELKNI CINIAW DOAN yr afu, a chymhellant ddylifiad y geri, gan sicrhau gweithrediad iachus y peiriant pwysig hwn. Ond os esgeuluair yr anhwylder, fe arwain i'r cryd melyn (jaun- dice) a cherrig yn y bledren. Os rhwymedig etch coluddion (bowels) cewch boen yn nghesail eich morddwyd; bydd yna dynerwch a phoen yn y stumog; collwch a.rchwaeth at fwyd, a chnawd, a thrallodir chwi gan wynt, plorod croen, a chlwyf y marchogion (piles). Gwenwynir y gwaed, a byddwch mewn perygl o gael y clwyfau adnabyddir dan yr enwau appen- dicitis a peritonitis. Effaith PELENI CINIAW DOAN ydyw meddalhau talpiau o fwyd difudd sydd yn adfeilio, a chyffroi y coluddion i weithrediad esmwyth a natur- iol. Os a ddiwrnod heibio heb weithrediad y coluddion byddwch yn sier o gymeryd dogn o BELENI CINIA W DOAN cyn myned i orwedd, ac yn y modd hyn rhoddi i'r coludd- ion y oynorthwy angenrheidiol i weith- rediad naturiol. Dylid bob amser gadw yn y ty fiychiad o BELENI CINIAW DOAN, a dylai pwy bynnag o'r teulu sydd heb deimlo yn dda gymeryd dogn o honynt ar unwaith. Pris PELENI CINIAW DOAN ydyw 1/11 y blwch, chwe' blwch, 6/- I'w cael gan holl fferyllwyr, ac yn y Stores, neu yn syth oddi- wrth y Perchenogion, FOSTER MCCLELLAN Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W., yn rhad drwy y post ar dderbyniad y pris. PELENI CINIA W- DOAN {Doan's Dinner Pills).
Y GOLOFN AMAETHYDDOL 1
Y GOLOFN AMAETHYDDOL CYMDEITHASAU TEIRW. GAN "BRYNFAB." Anawdd meddwl am unrhyw beth peb fod rhyw gymdeithas mewn cys- ylltiad ag, a dyma un bellach yn dwyn enw y creadur hwnnw a alwai dewi Hafesp yn "Llew o beth a thad llo bach." Mae y Llywodraeth wedi gweled y priodoldeb o geisio gwella rhywogaeth anifeiliaid ein gwlad, a rhoi hwb i'r ffermwyr i ymdrechu gwneud hynny. Nis oes nemawr ddosparth wedi glynu wrth yr hen arferion mor gyndyn a'r ffermwyr. Pa un ai cam neu gymwys oedd arferion ein tadau, rhaid oedd dilyn y rhai hynny yng ngwyneb pob cyfnewidiad a gymerai le yn y wlad. Bu adeg pan y caffai y 110 bach dyfu yn fuwch neu ych yn lie ei fwyta yn ychydig ddiwrnodau oed, fel ag y gwneir yn ami yn awr. Gallesid medd- wl y dylasid gofalu am fagu y rhyw- ogaeth oreu y pryd hwnnw. Ond nid felly yr oedd. Rhyw gwrcyn o darw a wnelai y tro yn ami heb ystyried mai gwastraff ar amser ac arian oedd magu lloi oddiwrtho. Yr un faint o ymborth sydd yn ofynol i gadw ani- fail o rywogaeth dda ag un o ryw- ogaeth wael, ac mae y Ho oddiwrth ,darw teilwng o'r enw yn dyfod yn fuwch neu yn ych, cyn fod hil y £ wrcyn" wedi anghofio mai nid llo ydyw. Yng nghymdogaethau y gweithfeydd, lie mae agos pob ffermwr yn gwerthu y llaeth, mae y tarw yn cael ei esgeuluso yn fwy nag erioed. Ni ofelir os bydd y llo yn edlych o beth, cael y fuwch i roi ,digon o laeth yw y pwnc mawr. Ond rhaid cael diwygiad. Rhaid yw troi i fagu anifeiliaid eto fel cynt. Profir gan ffygyrau didroi yn ol fod anifeil- iaid y gwledydd tramor yn myn'd yn rhy brin i gyfarfod a'r galw am gig yn v wlad hon, a rhaid i'r ffermwyr fod a'u llygaid yti agored i weled liynny, os ydynt am fanteisio ar y prinder tramor. Yr oedd gwerthu y llaeth yn talu yn well nag estyn einioes y lloi, pan oedd pris y cig vn isel oherwydd y cyflenwad a ddeu- ai o'r Amerig a gwledydd eraill. Er- byn heddyw mae y sawl sydd wedi parhau i fagu ei loi nes eu bod yn heffrod ac yn fustych yn chwerthin am ben y sawl sydd yn gorfod chwilio am ei ardreth mfewn llestri alcan. Nis gellir disgwyl am lawer yn ychwaneg o "gig Amerig," am fod y boblogaeth yng ngwlad Newyrth Sam yn cyn- vddu yn aruthrol, ac yn bwyta yr ani- feiliaid gweddill oedd yn cadw cig y wlad hon yn isel ei bris. Gwelais yn •ddiweddar fod yr Unol Dalaethau yn dcchreu prynu anifeiliaid yn Ar- gentina. Dyna ergyd dwbl dros i ffermwyr y wlad hon droi i fagu ani- feiliaid yn lie gwerthu y llaeth. Mae prisiau yr ychain a'r gwartheg yn awr yn ddigon i argyhoeddi pob ffermwr sydd yn gwerthu llaeth ei fod yn y pen chwith i'w fantais. Mae y ffermwyr sydd yn ymddibynu ar anfon eu llaeth ymaith ar olwynion yn golledwyr heddyw a'u cymharu a'r rhai sydd yn alluog i droi gyrr o ychain allan i'r ffair neu'r farchnad. Mae pris y llaeth yn sefyll yn ei un- fan trwy y blynyddoedd, ac yn yr un fan y bydd hyd nes i'r ffermwyr ddyfod yn f wy unol nag ydynt. Pa reswm sydd am werthu y llaeth am wyth neu naw ceiniog y galwyn, pan y telir gymaint deirgwaith yn ddirwgnach am alwyn o gwrw. Ond dyma fi wedi crwydro oddiwrth fy nhestyn i raddau, ond nid yn holl- ol chwaith. Son oeddwn, onite, am y Llywodraeth yn gweled fod angen am wella rhywogaeth anifeiliaid y wlad, ac er mwyn rhoi cychwyniad i hynny rhoddir symiau blynyddol o arian i gymdeithasau a sefydlir i'r diben o gael teirw o'r rhywogaeth oreu ym mhob man, yn lie y lledrithion a welir yn rhy ami yn sarhad ar eu henwau. Cynllun y Llywodraeth trwy gyfrwng Bwrdd Amaethyddiaeth yw cael gan y ffermwyr sefydlu cym- deithasau mewn gwahanol ardaloedd, ac i symbylu pethau ym mlaen, cynhygir pymtheg punt y flwyddyn i bob cymdeithas tuag at gadw y tarw. Rhaid i'r gymdeithas gael ei gwneud i fyny o ddeg, o leiaf, o ffermwyr. Byddai y nifer hwn yn ddigon pan ged- wri dros hanner dwsin o wartheg gan bob un o honynt. Ond pan fyddo y ffermydd yn fychan, dylai nifer yr aelodau fod yn fwy. Rhaid i bob cym- deithas a sefydlir anfon cais at Oruch- wyliwr Amaethyddol y Sir am y swm a gynhygir tuag at brynu a chadw y tarw. Ond dylid cofio fod yn rhaid i'r anifail fyn'd o dan archwiliad arolyg- ydd y Llywodraeth, cyn y ceir y pymtheg punt tuag at ei gynnal. Gall un o aelodau y Gymdeithas gadw y tarw, a chael ei wasanaeth i bymtheg buwch, yng nghyd a'r pymtheg punt am y gost a'r gwaith cysylltiedig ag ef. Efe hefyd sydd i ofalu am dal- iadau yr aelodau eraill a chadw y cyfrifon. Nid yw y tal i'r aelodau i fod dan hanner coron na thros bum swllt y fuwch. Bydd y caffaeliad hwn yn fwy o elw i'r ffermwyr bychain nag i'r rhai sydd a llawer o dir ganddynt, ac i'r rhai hynny yn fwyaf neifltuol y mae y cynllun wedi ei fwriadu. Mae y ffermwyr mawrion yn cadw teirw eu hunain, er nad yw y rhai hynny o'r rywogaeth oreu yn ami. Ond trwy y cynllun presenol gall y tyddynwr, a chanddo fuwch neu ddwy, gael cystal tarw ag eiddo y pendefig. Er hwylusu pethau gall y Gymdeithas a sefydlir ddyfod i gytundeb a rhyw ffermwr am wasanaeth ei darw ef, ond rhaid i hwnnw, fel yr un a brynir gan y Gym- deithas, fod i fyny a safon goruch- wvliwr Bwrdd Amaethyddiaeth. O dan drefniant felly fe ga y ffermwr y pymtheg punt yr un fath a'r ffermwr a gado y tarw i'r Gymdeithas, ond rhaid iddo yntau gadw o fewn terfynau y pymtheg buwch a chadw y cyfrifon. Mae y cynllun yn un digon hawdd i'w weithio ym mhob plwyf. Math o Gymdeithas Gydweithredol yw y cwbl, a dylai ffemwyr ein gwlad gym- eryd mantais ar gynnyg y Llyw- odraeth. Yng ngwyneb sefyllfa bres- ennol amaethyddiaeth, byddai y cyn- llun yn sicr o fod er lies. Mae goruchwyliwr amaethyddol pob sir yn barod i roi pob hysbysrwydd I sut i gael rhan o'r arian a ddarperir gan y Llywodraeth 4rwy gyfrwng Cymdeithasau Teirw. Nid yw y cynllun ond megys yn ei fabandod eto, a byddai ymweliad oddiwrth oruch- wyliwr amaethyddol pob sir yn gyn- orthwy i sefydlu y cymdeithasau. Gellir cael pamphledau yn egluro y cynllun oddiwrth y swyddog, ond fel pob llenyddiaeth swyddogol nid yw yn ddigon hawdd i bob ffermwr ei deall. Gall y goruchwyliwr egluro pethau yn well na llenyddiaeth swyddogol. Mae goruchwyliwr Mor- gannwg yn eithaf Cymro, a gellir fioli faint a fynnir arno, a chael pob gwybodaeth angenrheidiol sut i drefnu y cymdeithasau. Cymered rhyw fferm- wr ym mhob plwyf at y gwaith, a chofier bai "deuparth gwaith yw ei ddechreu.
Y Meth,odistiaid Calfinaidd…
Y Meth,odistiaid Calfinaidd a Dirwest. Cyfarfu Pwyllgor Gweithiol Cymdeithas Ddirwestol y Cyfundeb yn Rhyl ar y 19 cyfisol. Ym mysg amryw faterion fu ger- bron pasiwyd y penderfyniadau canlynol; (1) MESUR DIRWESTOL I GYMRU. Ein bod fel Pwyllgor Dirwestol y Gymanfa Gyffredinol yn dadgan ein mawr lawenvdd fod y SJesur i hyrwyddo Achos Sobrwydd yng Nghymru a Sir Fynwy wedi pasio ei ddarlleniad cyntaf yn Nhy'r Cyffredin gyda'r fath fwyafrif ardderchog, ein bod yn hollol argyhoeddedig fod Uais Cymru yn yr alwad am y Mesur hwn yn gryf a phenderfynol, a'n bod yn y modd mwyaf gwresog a hyderus yn pwyso ar y Llywodraeth i roddi i'r Mesur bob hwylug- dod a chymorth dichonadwy er pasio y; Mesur trwy ddau dy y Senedd yn ystod y tymor hwn." Yn y Mesur hwn sydd dan ofal ein cyd- wladwr ffyddlon Syr J. Herbert Roberts, A.S., dyma gam ymarferol ar ffordd Ym- reolaeth i Gymru-rhoi llywodraeth iad Masnach y Ddiod yn nwylaw y bobl. Prin y mae y Mesur ardderchog hwn wedi cael y sylw a deilynga eto. Gwnelai ein Hael- odau Seneddol waith tra bendithiol wrth ei gefnogi, nid yn unig yn y Senedd, ond hefyd mewn cvfarfodydd cyhoeddus led-led y wlad. Ond iddynt hwy arwain yn y gad cant deimlo fod calonnau gwerin Cymru mor gadarn a'r mynyddoedd wrth eu cefn. Ardderchog o beth fyddai cael y Mesur byehan ond gwertlafawr hwn yn ddeddf cyn diwedd y tymor hwn. (2) Y LLYSOEDD TRWYDDEDOL. Ein bod yn mawr lawenhau wrth weled fod y teimlad dros leihau nifer y Tafarna u yn cael ei ail ennyn, fel yn y dyddiau gynt, ac yn ymledu dros y wlad. Daw y teim- lad iachus hwn i'r golwg yn mysg Dirwest- wyr, Heddgeidwaid, ac Ynadoh, a rhodd- wyd prawf amlwg o hono ar ddechreu y flwyddyn hon ynglyn a'n Llysoedd Trwydd- edol. Mewn llawer lie aeth caredigion Sobrwydd ymlaen i'r Llys i wrthwynebu Trwyddedau ac i ddadleu dros leihau eu nifer. Teimlid oddiwrth eu presenoldeb. Ac mae darllen eu hanes yn yshrydiaeth fendithiol. Gwir na lwyddwyd ymhob achos i'r mesur y disgwylid ac y dylid. Er hynny gwnaed gwaith mawr a thra ben- dithiol mewn Ilawer man, yr hyn a ddengys fod teimlad y Fainc Ynadol er yn araf, eto yn sicr yn deffro ac yn cryfhau dros waredu ein gwlad oddiwrth felldith Masnach y Ddiod. Lleihawyd nifer dda o Drwydded- au, a thrwy hynny IIeihawyd tlodi trosedd a thrueni Iliaws o'n cyn-wladwyr hoff. Llawenhawn hefyd wrth weled y Fainc Ynadol yn dod yn fwy amharod nag y bu i ganiatau Trwyddedau Achlysurol, ac Es- tyniad Oriau i werthu Diodydd Meddwol. Arwvdd er daioni yw hwn-arwydd fod ein gwlad a'i holl sefydliadau yn ymryddhau oddiwrth draha a Ilygredd y Fasnach Ddiod." (3) YMLADDFEYDD A BETIO. Ein bod fel Pwyllgor yn teitnlo yn ofidus wrth ddeall fod ymladdfevdd (prize- fights)-yn nghyda'r betio' sydd yn eu dilyn—yn myn'd ar gynnydd mewn rhan- nau o'n gwlad. Diraddiad ar Gymru yw yr arferion creulon hyn, a niwed i'r pethau goreu fedd. A thaer anogwn ein pohI-ein pobl ieuainc yn arbennig i gadw'n glir oddi- wrthynt, ac i wneud pob peth a allant er eu darostwng a'u hymlid o'r tir." Dros y Pwyllgor. teimlaf yn dra diolch- gar os ca'r uchod ymddangos yn eich rhifyn nesaf. Yn gywir, JAMES JONES (Ysg.). Waenfawr, Mawrth 21, 1914. ———,
[No title]
Dywedai'r Parch. J. Meredith Hughes, Offeiriad Prestatyn, mewn cyfarfod yn ddiweddar fod plant yr Almaen yn gwybod mwy am y Mab- inogion nag a wyddai rhieni Cymru fel rheol. Gellid ychwanegu fod plant Cymru yn gwybod mwy na'u rhieni lam danynt, ac o bosibl y byddant yn fuan yn gwybod cymaint os nad mwy na phlant yr Almaen. Diddorol yw clywed mai athrawon ac athrawesau yr ysgolion yw asgwrn cefn Cymrodorion cylch Aberafon a Margam. Penderfynodd Cymrodorion y Cymer, Glyncorrwg, gael cym- deithas iddynt eu hunain. Braint i'r gymdeithas hon fydd gwasanaeth dyn fel Mr Lewis Davies, awdwr yr ys- grifau tra gwerthfawr a diddorol a geir yn y Darian yn wythnosol ar Hanes Lleol o Wy i Dywi.
0 Deifi i'r Mor. !
0 Deifi i'r Mor. Hwnt as Yma yng Ngheredigion. I Sylwyd mai parting shot y Glowr i'r Eglwyswr ydoedd ergyd "Canon y Te Gamil," ac addawyd ddyfod at Eglwys y Drws Cauedig yr wythnos hon, a rhaid cadw at yr addewid. Llwyddodd pob un o honom i gael golwg ar y ddalen dorcalonus, ac wrth y tan mewn gwesty dirwestol, yn ymyl cwpaned o de, ac yng nghanol cwmni synhwyrol, cafwyd hamdden i gyd-fwrw golwg ar gyn- nwys cefn y darlun. Erbyn hyn, y mae y ddalen yma, o dan y pennawd truenus, "Church Closed owing to Welsh Disestablishment," wedi cael y gwynt o dan ei hadenydd, drwy siroedd Cymru, ac wedi ei gosod yn nwylaw yr an- wybodus gyda'r bwriad o'i gamarwain; a diau ei hod yn tynu dagrau o galon ddi- ragrith llawer i glerigyn sydd mewn dych- rvn a braw tra yn rhoddi ffrwyn i'w ddychymyg mewn perthynas ag Eglwys Loegr yng Nghymru yn y dyfodol agos. Er mwyn y sawl nad ydynt wedi cael eyfle i sylwi ar y darlun, heh son am y pleser o'i roddi mewn ffram, dymunwn egluro mai darlun yw o addoldy (a gam- enwir yn eglwys) perthynol i'r enwad crefyddol a elnir yn Eglwys Loegr yng Nghymru. Mae'r drws yn gauedig, ac arno yn argraffedig y geiriau hyn :— Church Closed, owing to the Welsh Disestablishment ,t, introduced by the Radical Government." Yn sefyll gan edrych ar y geiriau ceir dynes, yn ddigon syn yr olwg arm, a geneth fechan gyda gwen siriol ar ei hwvnel)—a'r ddwy yn cario Llyfr y Weddi Gyffredin. Fe sylwa y darllenydd fod nifer yr addol- wyr siomedig o flaen y Drws Cauedig yn ddwy ddynes, ac fe gofia eto mai Saesneg yw'r gwasanaeth, o'r hyn leiaf llefaru wrth y Saeson ac nid wrth y Cymry a wna. Felly, nid y Cymry sydd yn cwyno, ac nid rhyw lawer o'r Cymry trwvadl yng Ngheredigion sydd yn mynychu addoldai enwad Eglwys Loegr yng Nghymru. Tu cefn i'r darlun fe geir rhai ymadrodd ion go ryfedd, a thu cefn y ceir hyawdledd rhyfeddaf Eglwys Loegr yng Nghymru. Heh fyned dros ymgom ddoniol y pryn- hawn hwnnw nodwn ffeithiau pennaf y dra- fodaeth flasus, ar gynnwys Eglwys y Drws I Cauedig. 1. Gwasgu Cristionogaeth Allan, neu— yn ol y Saesneg—iaith y ddalen-" Crush- ing Out Christianity,' a wna Cydraddoldeb Crefyddol. j Yn y frawddeg gyntaf dywed fod offeir- iad yn hyw ymhob plwyf yng Nghymru. (" In Wales, the Church of England and Wales provides a resident Christian minis- ter in every parish.") Dyna beth yw dechreu gyda chelwvdd, a beth fel celwydd am "grushio" Cristionog- aeth o'r wlad! A oes offeiriad yn byw ym mhlwyf Llan- wren, neu Llanwenog, neu Llangvbi, neu ynte yn Llanfairclydogau, etc., etc. ? Paham y cyhoeddir anwiredd o'r fath yma tu cefn i Eglwys y Drws Cauedig ? Paham y cyhoeddir hanner gwirionedd-yr hyn yn fynych sydd yn greulonach na chelwydd cyflawn—fod 485 o blwyfydd yng Nghymru heb weinidog yn byw yno? Onid oes Eglwysi Ymneillduol mewn mwy nag un plwyf o dan ofal yr un gwein- idog, yr un fath yn hollol ag yn hanes Eglwys Loegr yng Nghymru? Ac os oes ambell blwyf heb addoldy Ym- neillduol o'i fewn, a oes plwyfyng N ghym- ru heb Ymneillduwyr o'i fewn, a'r cyfryw yn addoli mewn addoldv Ymneillduol cyfleus— tu allan i'r plwyf? II.—Drwy Ddadgysylltiad, dywed y bydd 193 o blwyfydd yng Nghymru heb geiniog o waddol er cadw yr Eglwys ar ei thraed (" to provide for the upkeep of the Church "). Hefyd y bydd 53 o blwyfydd heb lawn pum swllt yr wythnos o waddol ganddynt. Rhaid mai un o'r 193 sydd a'r drws wedi ei gau, a rhyw gil-agored yw drws yr eglwys goron yr wythnos! Onid yw y fath gwyno truenus yn brawf o dlodi gwaradwyddus mewn cyfraniadau yn hanes addohvyr gwladol! Onid peth hollol ddieithr iddynt yw y gras o gyfran- nu? Dyna ddawn nas gwyddant am dano! Beth pe byddai Canon anfarwol y Te Gamil yn sefyll ar drothwy ei blwyfol eglwys ac yn cyfrif addold&i Ymneillduol dyffryn Teifi, gan ofyn yn ystyriol, "Faint o ddegwm a gwaddol sydd yn myned i gadw drws agored yn hanes y rhai hyn?" Sylwed a-r yr addolwyr yn pasio drwy ddrysau agored y temlau Ymneillduol, ac fe sicrheir iddo ddatguddiad mai nid rhyw lawer o gyfoethogion a landlords duwiol sydd yn y dyrfa, ond pobl ydynt yn ennill eu bara beunyddiol drwy ddiwrnod o waith, ac yn cyfrannu er cynnal "yr Achos" o wir- fodd calon. Sawl addoldy bychan yn Sir Aberteifi sydd yn derbyn pum' swllt o waddol bob wythnos h^b son am ugeiniau o "ebolion tnelyn" bob blwyddyn? Onid yw ffiloreg fel eiddo Eglwys y Drws Cauedig yn profi mai o'r ddaear y mae nerth Eglwys Loegr yng Nghymru? "Onid ydych chwi yn gnawdol?" Onid yw "y llo aur" yn cael He ofnadwy o amlwg? III.—Cwyna fod y degwm a'r gwaddol (cyn 1662) yn cael ei gymeryd ymaith gan ddefnyddio y eyfryw i amcanion. bydol. (" But the money will be taken from re- ligions and given to some secular pur- pose. ") Naturiol gofyn (1) am i Eglwys Loegr yng Nghymru i brofi—drwy egwyddorion y Testament Newydd—ei hawl i'r degwm. A all brofi ei hawl i'r degwm drwy esiampl yr Arglwydd lesu Grist, neu drwy esiampl yr Apostolion? Nid oes dim yn anheg mewn gofyn am i wir olynwyr (?) yr Apostolion i brofi eu hawl i'r degwm! (2) Atebed eto-Eiddo pwy ydoedd y gwaddoliadau cyn 1662? Onid eiddo y Pabyddion ? Nid awn i holi am ystyr y "secular pur- pose," gan nad oes dim yn grefyddol tu allan i Eglwys Loegr yng Nghymru! Nid peth crefyddol yw cynorthwyo y tlawd, rhoddi cysgod a chynhorthwy i'r claf a'r anghennus, neii gyfrannu addysg i blant Cymru Fydd; yng ngoleuni Eglwys y Drws Cauedig nid oes dim crefyddol yn aros, ymadawoddy gogoniant, a cheir "Ichabod" ar draws y ff urfafen IV.—Tystia fod y tlodion yn cael eu hys- beilio o'u hawliau. (" Robbing the poor of their rights.") Dywed (1) fed hawl y tlawd a'r cyfoeth- og yn gvfartal hollol i fynychl1 Eglwys y Plwvf, ac i wasanaeth yr offeiriad ar hyn o hryd. '2) Yr ysbeilir y tlodion drwy Ddadgysylltiad o'u hawliau, ae mai drwy oddefiad y mynychant yr Eglwys yn y dvfodol. Atel)ix-it-(Ii,ii-y ofyn—pwy fydd vn aIll- ddifadu y tlodion o'u hawl i fyned i Eglwys y PI wvf i addoli? A wna yr offeiriaid wrthod eu derbyn am mai tlodion ydynt? Pa un ai yn Eglwys y Plwyf ynte yn Addoldy yr Yinneillduwyr y ceir y mwy- afrif mawr o dlodion Cymru heddyw? Gofynwn eto—onid oes hawl (a phroesaw gwresog) gan y eyfryw i holl freintiau yr Addoldy—yr Eglwys- Ymneilld 1101 er yn analluog i gyfranu yr un geiniog at yr Achos ? v Onid oes ugeiniau o Eglwysi yr Ymnêill- duwyr yn casglu yn fisol er cynorthwyo eu tlodion, ac nid yn eu can allan am nad oes ganddynt ddim i'w gyfrannu? Onid gwir- foddol yw pob casgliad gennym? Yr unig arian crefyddol (?) a dalwn drwy orfod ac o anfodd yw'r degwm, y tal creulonaf o anghrefyddol yn hanes Protestaniaeth. A'r clerigod yn son am oddefladi Onid drwy oddetiad y caniateir i'r Ymneillduwyr i addoli ar hyd yr oesau! A dyna'r holl sydd yn son am oddef y tlodion i addoli vn Eghvys y Plwyf. Y fath haerllugrwydd f V.—Ond o'r holl berlau (?) dyma'r dis- glaeriaf-Fod Eglwys Loegr a Chymru wedi hod yn unol am Dros r gain C'anrif! (" For more than 20 centuries the Church of England and Wales has been united. ") Beth ? A oes rhyw herthynas rhwng Eglwys Loegr yng Nghynn u a'r Arglwvdu lesu Grist? Gwyddoni mai Sior V" yw ei phen, a gwyddom mai yn Sennedd Prydain Fawr y gorffwys ei hawdurdod, a gwyddom fod Protestaniaid yn cyfrif eu blynyddoedd o gyfeiriad genedigaeth yr Arglwydd lesu Grist, ac y mae 1914 yn uno YmneilIduwyr a'r Preseb, ond svnnetl y nefoedd y mae Eglwys Loegr yng Nghymru yn myned am dros Ugain Canrif i'r gorffennol, a'i hoffeir- iaid yn unig sy'n gwybod pa mor bell tu ol i'r Fgain Canrif! Cyn i'r hugeiliaid ar fryniau Bethlehem glywed anthem yr angylion, a chyn i'r doethion ddilyn "y Seren" i gyfeiriad "y Mab Bychan," yr oedd Eglwys Loegr yng Nghymru mewn awdurdod yn mwynhau y degwm a'r gwaddoliadau, ac yn llwyddiant mawr! Bobl anwyl-o ba le y daeth hon Gwyddom bellach i ba le y mae yn myned- drwy Ddadgysvlltiad-sef i gyfeiriad Eglwys y Drws Cauedig VI—D yma y finishing stroke ar gefn Eglwys y Drws Cauedig— Do you approve of this Robbery, Sacrilege and Tyranny?" Sylwed y darllenydd fod Mesur Dad- gysylltiad a Dadwaddoliad yn gadael yr Eglwysi Plwyfol a Chadeiriol yn eiddo i Eglwys Loegr yng Nghymru. Gadewir Tai yr Offeiriaid a Phalasdai yr Esgobion yn eiddo iddynt. Gadewir i bob offeiriad plwyfol pol) esgob a deon a chanon ac arch- ddiacon eu bara chaws hyd ou bodd-bob tamed o hono yn gyflawn fel heddyw. Er yn cymeryd y degwm i ffwrdd a'r gwaddoliadau cyn 1662—bydd y swm an- rhydeddus o tlb2,699 ar ol yn waddol ganddi drachefn, tra na chvmerir oddi arni ond £ 157,338. o Beth pe teimlai yr Esgob John Owen, Tyddewi, ar ei galon i hebgor ambell i goron o'r £ 4,o00 a dderbynia bob blwyddyn (a thy go lew i fyw ynddo) er helpu ambell i offeiriadyn sy'n gorfod byw ar lai nag un fil-ni byddai ganddo le i gwyno! Dyna drem frysiog dros ddalen dor- calonnus Eglwys y Drws Cauedig. Safed y darllenydd uwch ben y ffeithiau hyn, ac nid hawdd ei gael i arwyddo deiseb dwyll- odrus y dyddiau hyn. Awn am dro at y Ddeiseb ao i Fynwent v Plwyf vn v man. LLENORYN.
Trefforest a'r Cylch.
Trefforest a'r Cylch. Marwolaeth.—Bu farw y chwaer Mrs Annie Thomas, priod y brawd Edward Thomas, 6 Morgan Street, Trehafod, yn 43 oed, yn sydyn iawn dydd Gwener, yr 2ofed, a chymerodd yr abgladd le dydd Mercher, y 25am, yng Nghladdfa Glyntaf. Yr oedd yn aelod ffyddlon ym Methesda, Tre- hafod, lie mae ei phriod yn ddiacon gweithgar er's blynyddau. Bedyddi- wyd hi pan yn ieuanc, a glynodd yn ei phroffes yn ddifwlch hyd y diwedd. Yr oedd yn briod hawddgar a gofalus, yn fam dyner ac yn un o'r cymdogion tawelaf a charedicaf a allasid gwrdd yn unman. Er trymed y disgynai y gwlaw, daeth torf fawr ynghyd i hebrwng gweddillion ein chwaer i'r bedd. Gwasanaethodd ei gweinidog, y Parch. J. Frimston, a chymerwyd rhan gan y Parchn. H. Williams, Gilfach Goch, a T. Davies, Trefforest. Duw noddo ein brawd a'r plant a'r per- thynasau oil yn eu galar. Rhodder i Fethesda eto rai o gyffelyb nod- weddion. CYFAILL JOHN.
Advertising
REFUGE ASSUR ANCE CO., LTD. CHIEF OFFICE: OXFORD STREET, MANCHESTER. EXTRACT FROM THE ANNUAL REPORT, For the Year Ending 31st December, 1913. Ordinary Branch.—The number of Policies issued during the year was 56 151 assuring the sum of £ 3,353,006 Os. Od., and producing a yearly renewal Premium Income of 7s. Od. The single Premiums amounted to £ 79,073 10s Id The Premium Income for the year was tl,210,051 Os. lid., being an increase of £ 160,033 15s. lOd. as compared with the previous year. The amount paid in respect of Claims was E505,362 13s. 8d. industrial Branch. The Premium Income for the year amounted to £ 2 170 567 4s. lItd., being an increase of C101,444 10s. 4id. over the previous year. The amount paid in respect of Claims was E965,09,1 15s. 71d. The aggregate Premium Income of both Branches for the year was £ 3 '380 618 5s. 101d., showing an increase of t2,61,478 6s. 21d. over the previous year. The total amount of Claims paid in both Branches since the establishment of the Company is PIS,676,596 19s. 9d. The total funds of the Company amount to R10,062,852 13s. 7d., representing an increase during the year of £ 879,347 14s. 7d. Ceneral Balance Sheet of the Refuge Assurance Company, Limited, for the Year ending 31st December, 1913. LIABILITIES. £ s. d. Shareholders' Capital, paid up 300,000 0 0 Ordinary Branch Assur- ance Fund 7,0(55,149 17 5 Ordinary Branch Invest- ments Reserve Fund 175,000 0 0 Industrial Branch As- surance Fund 2,497,702 16 2 Industrial Branch In- vestments Reserve Fund 25,000 0 0 £ 10,062,852 13 7 1 I r ASSETS. £ s. d. ,Mr ortgages on Property within the United Kiag- dom .1,613,158 2 ] Loans on: Parochial and other Pub- lic Rates 663,037 0 1 Life Interests 8,000 0 0 Reversions 11,027 0 2 Stocks and Shares 29,364 5 2 Company's Policies within their Surrender Values 504,133 0 0 Investments: Deposit with the High Court (E25,,000 3 per cent. India Stock) 20,766 12 6 British Government Se- curities 19,300 0 0 Municipal and County Se- curities, United King- dom  322,197 7 3 Indian and Colonial— Government Securities 269,108 1 11 Provincial Securities. 119,089 9 2 Municipal Securities. 270,858 17 3 Foreign Government Se- curities 395,244 18 0 Do. Provincial Securities 9,266 2 6 Do. Municipal Securities 108,756 15 4 Railway and other Deben- tures and Debenture Stocks Home and Foreign .3,481,117 3 6 Railway and other Prefer- ence and Guaranteed Stocks 331,848 9 7 Do. and other Ordinary Stocks 23,336 2 6 Rent Charges 68,248 18 0 Freehold Ground Rents 9,812 12 3 House and Office Property 855,753 5 6 Agents' Balances 38,848 1 5f Outstanding Premiums 145,833 14 0 £ Do. Interests, Dividends, and Rents (less In- come Tax) 15,538 5 9 Interest accrued but not pavable (less Income Tax) 98,162 10 3 Cash:— On Deposit 331,450 0 0 In hand and on Current Account 232,300 14 0 £ Furniture and Fixtures 67,295 5 3t £ 10,062,852 13 7 Note.—The Stock Exchange Securities are valued at or under their cost prices. PHILIP SMITH, R. WM. GREEN, Chairman. JAMES S. PROCTOR, HENRY THORNTON, Joint General Managers. *JNO. T. SHUTT, ROBERT MOSS, Secretary. Directors. W. H. ALDCROFT, F.I.A., Actuary. We report that we have audited the f oregoing Balance Sheets and have obtained all the information and explanations we have required. In our opinion the said Balance Sheets are properly rdawn up so a s to exhibit a true and correct view of the state of the Company's affairs according to the best of our information and the explanations given to us and as shewn by the Books of the Company. We further report that the foregoing Revenue Accou nts are true extracts from the Books of the Company. We have examined the Cash transactions (Receipts and Payments) affecting the Accounts of the Company's Assets and Investments for the year ending 31st De- oember, 1913, and we nnd the same in perfect order and properly vouched. We have also examined the Deeds and other securities representing the Assets and Investments stated in the foregoing Balance Sheets and we certify that they re- mained in the Company's possession and safe custody on the 31st of December, 1913. 11m3. T. WALTON. F.C.A. H. B. WALTON, F.C.A., Manchester, 14th February, 1914. Auditors. (Walton, Watts & Co., Chartered Accountants.) Further information may be obtained from the following local Superintendents: —Al>erdare: Mr. Daniel Jones, 2 Cardiff Road; Mr David Jones, 1 Canon Street. Mountain Ash; Mr. A. Lewis, Chalford Villa; Mr. T. J. Evans, Penuel House, Penrhiwceiber.