Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Cwrdd Sefydlu y Parch. T.I…

News
Cite
Share

Cwrdd Sefydlu y Parch. T. I Emrys James. Neillduwyd odfa prynhawn Llun, Mawrth 30ain, ym Methesda, Abernant, i gvdnabod y Parch. T. E. James yn weinid- og yr .eglwys. Gweddiwyd i ddechreu gan y Parch. Grawys Jones, Trecynon. Cadeiriwyd gan y Parch. D. Silyn Evans, Siloa, yn ei ffordd ddigyffelyb ei hun. Dywedai am y gwein- idog newydd feddu ohono ar arucheledd mawr fel pregethwr, a swyn Cymteig nodedig. Ar ol araeth fer a hynod bwr- pasol galwodd ar frodyr o Abernant, Ynys- meudwy, a Chastellnedd i siarad, sef Eglwvsi y bu'r gweinidog yng nghysylltied- ig a hwynt yn ddiweddar. Yna galwyd ar ,ereill, sef ffrvndiau neu gymydogion iddo. Gwnaed hynny yn y drefn ganlynol:— D. Jones, Abernant, a anogai'r eglwys i gyd-dynnu. Ithoddai gyngor i'r gweinid- ogion fwrw'r rhwyd i'r tu deheu i'r llong. Mr. James wedi dal 32 o bysgod yn barod, rhai mawr a bach yn gymysg. W. Morgan a gredai fod proffwyd wedi dyfod i Bethesda. Dymunai fendith ar yr undeb mewn barddoniaeth. David Thomas, Ynysmeudwy, a dywedai ei fod yn gwybod rhywbeth am Mr James, •e;- heb wybod Ilawer am yr eglwys. Bu ( dan weinidogaeth Mr. James am 4t mlyn- -edd. Y blynyddoedd hynny yn rhai de- heulaw y Goruchaf. Yr oeddynt wedi treulio llawer o amser yng nghymdeithas -6U gilydd. Proffwydai fod yr eglwys yn wynebu ar weinidogaeth ryfedd. Y ffordd i'w adnabod fyddai gweithio gydag ef. William Da vies. Efe yw ysgrifennydd Eglwys Ynysmeudwy. Teimlai ei hun yn fwy o ddyn oherwydd gweinidogaeth Mr. J'mes; yr eglwys hithau yn llawer gwell .am yr un rheswm. Pregethwr goie'r en- wad yw Mr James yn ei tarn ef. W. fiewis, diacon arall o Ynysmeudwy, oedd y nesaf i siarad. Yr oedd araynt hir- aeth oherwydd colli eu gweinidog. Yr oedd ambell i ddyn fel oil painting yn oorych yn dda o bell, ond yn gwaelu wrth nesu ato. Mr. James yn gwella wrth ei adnabod. Credai nad oedd yn fantais newid gweinidogion. T. L. Jones, Soar, Castellnedd, a gyn- jrychiolai'r eglwys yn Soar. Canmolai Mrs. James a Miss James, ynghyd a'r gweinid- og newydd. Yr oedd y galwadau am dano fynyched fel mai anaml y caed ei gwmni ar y Suliau. Edrychid arno fel pregethwr Duw-anfonedig; a thra yng Nghastellnedd yn gydweithiwr calonnog a'u gweinidog, Mr. Edwards. Sup. Evans o Gastellnedd. Yr oedd bob amser yn mwynhau Mr. James yn pre- gethu. Ni. chlywodd ond un pregethwr gwell nag ef, sef ei weinidog. Tystiai y gwelent Mr. James yn garedig. Dywedai am rywrai yn gweddio dros y gweinidog pan fyddai yn bresennol; ond yn ei absen- oldeb, byddai'r weddi dros y gweinidog hithau felly. Cynghorai Mr. James os nad hoffai ei le am ddod yn ol i Gastellnedd. Mr. Rogers, Maesyrhaf, a ddywedai na fyddai Mr. James yn eu siomi ond iddynt gofio mai dyn oedd efe. Cynghorai yr eglwys i roi ei gore iddo; yn hyn yr oedd yr •eglwysi yn ddiffvgiol iawn. Yr oedd gwein- idogion yn sensitive iawn, ac yr oedd am iddynt gofio hynny. Y Parch. Daniels, Maesyrhaf, a ddy- wedai adnabod ohono Mr. James er's blyn- yddoedd. Yr oedd yn ei adnabod fel dyn talentog, ac yr oedd ymysg y gore felly a adnabu erioed. Y mae gan y gweinidog rhywbeth arall i edrych ar ei ol yn hytrach nag ar ol ei hun. Awgrymai i'r eglwys i beidio rhoddi achos iddo felly. Yr oedd y Parch. Mr. Bowen, Treorchy, yn ddyledus i Mr. James. Credai fel pob pregethwr ei fod yn dipyn bach o bregeth- wr. Wedi cyd-gychwyn gyda Mr. James, y mab; ac wedi cael yr un cynghorion a chyn- orthwy a Mr. James, Pontypridd, ganddo. Ystyria hi yn insult i ddweud wrth yr eg- lwys am fod yn garedig, am y dylai fod f OfTly Yna darllenodd Mrs. Griffiths, o Aber- rant, benhillion croesawol. Darllenodd Caleb Morris yntau benhillion iir un per- wyl. Bu y Parch. Seiriol Williams yn cyd- dristhau a Mr. James, ac yr oedd heddyw yn cydlawenhau. Wedi clywed Mr. James yn pregethu gyda nerth mawr pan yn ieu- anc iawn yn y Penmaenmawr. Colli Mr. James wedi bod yn golled fawr iddo ef. Dywedai fod A bernant yn cael dyn a phre- gethwr. Parch. J. P. Evans, Penygraig, Caer- fyrddin, a ddywedai fod yn hyfrydwch gan- ddo fod yn y cyfarfod. Bu yn gymydog i Mr. James yn y Gogledd. Yr oeddynt yn gyfeillion mawr. Syniai am dano fel dyn da a dyn Duw; a dyna'r paham yr oedd yno. Mr. James yn bregethwr da, ac yn awr yn y man gore. Yr oedd y dyledswydd ar yr eglwys i'w gadw mewn repair. Dywedai y Parch. D. Rees, Salem, ei fod Y-t adnabod Mr. James o flaen neb oedd yn bresennol. Cymhellai'r eglwys i ddyblu ei diwydrwydd. Yr anhawstr yw cael dynion i roi eu hunain. Angen y dydd yw gweithwyr personol. Yr oedd am iddynt fod mewn cydymdeimlad ag amcan ei wein- idogaeth. Y Parch. H. P. Jenkins, Aberaman, a ddahodd ar y cvfle i ddweud wrth Mr. James sut eglwys oedd Bethesda. Yr oedd yn sicrhau y gallai fod yn ddiofn yn y lie, ac y cai awyrgvlch i hedfan ynddi. Yr oedd yn llawenhau am y power newydd a ddeuai i gylch y weinidogaeth yn Aberdar ym mherson Mi-. Jfrmes. Parch. E. Evans, Pontypridd, a ddywedai yn fyr dyfod ohono i ddymuno'n dda i Mr. James. Parch. Emrys James a siaradai'n olaf. Yspryd dweud a'i llywodraethai yn gyffredin, ond yspryd tewi y tro hwn. Daeth i'r cylch i ddau amcan: (a) Achub eneidiau dynion, mewn dibyniad ar y gallu -dwyfol; (b) i geisio codi Annibyniaeth yn y cylch. Yr enwad heb fod yr hyn y dylai fod yn Abernant; ond i gyfeiriad y comin y bwriadai droi' ei wyneh i chwyddo'r en- wad. Os digwydd i ddafad ddod o gorlan arall ar ei thraed ei hunan, nid yw am roddi'r ci ar ei hoi, ond ei chroesawi. Barnai i'r siaradwyr ddweud nid beth ydyw .ond yr hyn y dylai fod. Wedi canu, diweddwyd y cyfarfod gan y Parch. Eli Evans. Yn ystod y Sul a'r Llun gwasanaethwyd gan y Parchn. E. J. Owen, Cwmaman; J. P. Evans, Penygraig; Seiriol Williams, Pontardawe; Emrys James, Pontypridd; a thraethodd y Parch. J. B. Davies, Aber- ewmboi, ar "Berthynas yr eglwys a'r gweinidog," a'r Parch. J. Edwards, Cas- tellnedd, ar "Berthynas y Gweinidog a'r Eglwys."

Llwynbrwydrau.

Cymry Cymreig Abertridwr.;…

Baban wedi ei Barlysu.I

Eisteddfod Gadeiriol yI -Cymer,…

Pant y Coblyn.i

Nodion Min y Ffordd.

IColofn y Beirdd. I

[No title]

Merch Trewennol a Bachgen…

Briwsion o Aberpennar.