Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

Advertising

Y CYNHWYSIAD.I

Yn Fan ac yn Ami.

Oddiar Lechweddau Caerfyrddin.

COLOFN LLAFUR. ;

News
Cite
Share

COLOFN LLAFUR. GAN PEBEDDR. I Plaid Llafur yn Glasgow. Wythnos bwysig yn hanes y Blaid Lafur oedd yr wythnos ddiweddaf ar lawer o ystyriaethau. Digwyddodd ani- ryw amgylchiadau pwysig a difrifol yn ystod y flwyddyn ddiweddaf yng ngwaith y blaid, ac yr oedd disgwyliad pryderus iawn am yr eglurhad oedd i'w • roddi gan y swyddogion ar yr amgylch- |■ iadau hyny. Gwaith Deugain o Ddynion. I Llafur y Blaid, ac ymddygiad yr ael- odau yn y Senedd, ac oddiallan, oedd y I pwngc mawr dydd Mawrth, y dydd dech- reuol. Ac fel mae arferiad cynrychiol- } wyr llafurawl bob amser yn eu cyfarfod- ydd siaradwyd yn blaen a didderbyn- j wyneb. Gwnawd amryw gyhuddiadau personol a chyffredinol yn erbyn Mr. Ramsay Macdonald fel arwreinydd ac eraill o'r aelodau am eu llacrwydd fel eisteddwyr ar wahanol bwyllgorau breiniol. Ramsay Macdonald, Arweinydd y Blaid. I Yn ei atebiad dywedodd Mr. Macdon- ald fod rheolau y Senedd yn anfanteis- iol iawn i weithrediad effeithiol mewn deddfwriaeth. Yr egwyddor hap- chwareuol oedd yn penderfynu amser a lleoliad y siaradwyr a'r pyngciau yn gyffredinol. A chondemnia y gallu a roddid i Dy'r Arglwyddi i ddal yn ol un- rhyw fesur am dair blynedd. Yr oedd yn dreth annioddefol ar amynedd y werin, ac yn brofedigaeth chwerw i Blaid Llafur yn y Ty. Y rheswm am yr holl oediad hyn oedd taw dim ond deu- gain o gynrychiohvyr llafur oedd yn y Ty, yn lie 340. Yr oedd yn beiddio dweyd y byddai yn amhosibl i ddeugain o ddynion wneyd yn well, os cystal, a'r deugain oedd yn cyfansoddi y Blaid Lafur yn awr. Undebiaeth a jpwleidyddiaeth. I Penderfynwyd gyda mwyafrif mawr fod llwyddiant parhaol y gweithwyr yn gorphwys ar eu cyduTeithrediad mewn undeb llafurawl, a chynrychiolaeth wleidyddol annijbynol yn Nhy y Cy- ffredin. Yr oedd hyn yn brawf fod mwyafrif y gweithwyr yn erbyn athraw- iaeth y Syndicalwyr sydd yn honi ym- wrthod yn gyfangwbl a chysylltiadau gwleidyddol mewn undebiaeth lafurawl. 4. I Cynllun Etholiadol a Chynrychioliadol. Dydd lau bu trafodaeth fawreddog ar y cwestiwn hwn. Bu y cewri yn ym- godymu. Macdonald, Snowden, Ander- son, a Roberts, yn siarad gyda gallu a dylanwad. Gwledd feddyliol ac areith- yddol o'r mwyaf blasus oedd clywed Snowden a Macdonald yn siarad bob Un dros ei safbwynt. Pan mae dynion o allu a saile fel y rhai hyn yn gwrth- wynebu eu gilydd ar unrhyw fater, gellir penderfynu fod llawer i'w ddweyd o'r ddwy ochr. Llwyddodd Macdonald i gario y Gynadledd gydag ef yn erbyn y cynllun o proportional representation. Deheudir Affrica. I Y mae yr amgylchiadau cysylltiedig a'r cynwrf mawr llafurawl yn Xeheudir Affrica wedi cyrhaedd ei uchafbwynt yr wythnos ddiweddaf, a hyny drwy fod gallu Llywodraethol y Dalaeth wedi gorchymyn cymeryd deg o arweinwyr y gweithwyr yn garcharorion, eu cludo yn ddirgelaidd i fwrdd llong, a'u trawsfudo o'r wlad hono tua Phrydain. Disgwylir y cyrhaeddant yma tua diwedd y mis hwn. Y mae y weithred hon o eiddo y gallu Llywodraethol yn Ne Affrica wedi taro y byd llafurawl a syndod chwerw. Xi fu y Gynadledd Lafurawl yn Glas- gow yn hir heb godi ei llais yn gryf rnewn protest yn erbyn y fath anfad- waith. Y mae yr hanes geir, hefyd, o agoriad tymorol Senedd y Dalaeth, a'r anerchiad roddwyd gan Lord Gladstone ar yr achlysur, yn dangos ei fod ef yn ymwybodol o'r drafodaeth, ac yn cyd- synio a'r hyn a wnawd. Elfen Ddrwg I iawn yn y gweithrediadau hyn ydyw taw Botha, un o hen Gad-lywyddion y Boer- iaid, sydd yn uniongyrchol gyfrifol am y gweithrediadau. Tuedda yr ymwy- byddiaeth o hyn i rwygo a chwerwi teimladau dialeddol oeddynt i raddau wedi myned i gysgu. Y rheswm mawr roddid am y rhyfel ddinystriol a chostus yn Neheudir Affrica oedd fod angen hawlio cyfiawnder a rhyddid i Brydein- wyr. A dyma'r canlyniad, sef fod Llywodraeth y wlad wedi syrthio i; ddwylaw y cyfalafwyr diegwyddor fu yn syii),bylu y rhyfel, a'r brodorion gorch- fygedig Botha a Smuts yn cael eu defn- yddio yn offerynau i wneyd Prydeinwyr yn gaethion, a'u caethgludo o wlad sydd wedi ei phrynu mor ddrud, drwy arian ih bywydau. Cyneu Tan. Bydd disgwyliad mawr am ddych- weliad y caethion llafurawl hyn i'r ■ft lad hon. Tebygol iawn taw'r cam- synied mwyaf a wnaeth Arglwydd Glad- stone erioed oedd caniatau yn oddefol. os nad yn orchymynol, i'r peth hyn i gy- meryd lie. Anffodus iawn yw ei was- anaeth wedi bod yn mhob swydd y mae wedi lenwi hyd yn hyn. Nid yw y blaid Ryddfrydol yn elwa dim i'w hanrydedd drwy ei wasanaeth ef. Cri mawr y byd llafurawl heddyw ydyw: Galwer Ar- glwydd Gladstone yn ol o Ddeheudir Affrica." Pan y glania y deg caethwas ar diriogaeth Prydain, a dechreu egluro yr amgylchiadau o'u caethiwed, pryd hyny y cyneuir tan na fydd yn hawdd ei ddiffodd.

Llwyddiant Eisteddfodol yn…

Nodion o Rymni.

0 Deifi i'r Mor. I

Advertising

ARCRAFFWAITH.