Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
COLOFN Y PLANT.
COLOFN Y PLANT. Dan olygiaeth "Moelona. Yn fy ysgrif gyntaf i'r "Darian," rhoddais ofyniad ynghylch Goronwy Owen. Ni chefais air o atebiad o un- man. Gan iddo gael ei eni, fel y dywedais, yn lonor, trueni fyddai gadael i'r mis hwnnw fyned ymhell o'r golwg cyn cael rhyw son am dano. 'Rwy'n siwr eich bod chwi-blant y safonau uchaf yn yr ysgolion—yn gwybod rhywbeth am Shakespeare a Milton, a Wordsworth a Tennyson, a 11 u ereill o feirdd Seisnig. Diau gennyf eich bod yn hen gyfarwydd a Thomas Moore a Robert Burns, v naill o'r Iwerddon, a'r Hall o'r Ysgotland. Hwyrach y gwyr rhai o honoch am fardd o'r Persia bell, ac am y bardd enwog di"'eddaraf-o'r India. A oes rhywun yn son wrthych weithiau am feirdd eich gwlad eich hunain ? A wyddoch fod beirdd wedi ac yn bod yng ghymrl1 ? Un o feirdd mwyaf Cymru oedd Goronwy Owen. Bu fyw o 1723 i 1769. Un o blant Sir Fon oedd, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ymhell o'i hoff sir—yng Nghroesoswallt, yn Walton, yn Llundain, a gorffennodd ei yrfa yn yr America bell. Xi wyr neb yn iawn ddyddiad ei farwolaeth, ac nid oes neb yn sicr pa le y mae "man fechan ei fedd." Er iddo fyw felly ymhell o Gymru, lie na chlywai air o Gymraeg, ni threiodd droi'n Sais. Yn hytrach, efe oedd Cymro pennaf ei oes. Ysgrif- ennodd lythyrau gwych a barddon- iaeth gain fu ac sydd yn help i gadw ein hiaith yn fyw. Ca ei weithiau eu darllen tra pery Cymro a Chymraeg. Nid i blant yr ysgrifennodd. Ych- ydig o'i waith fedrech yn awr ei ddeall a'i fwynhau. Ond pan dyfoch yn vsgolheigion, bydd melus gennych ddarllen Goronwy Owen. Wele i chwi ddarn bach, bach o'i "Hiraeth am Fon :— "Pell wyf o wlad fy nhadau, Och son ac o Fon gu fau, Y lie bum yn gware gynt Mae dynion na'm hadwaenynt; Cyfaill neu ddau a'm cofiant Prin ddau, lle'r oedd gynnau gant. A dyma ddarn bach arall o'i "Awdl y Gofuned "Dychwel i'r wlad lie bu fy nhadau, Bwrw enwog oes, heb ry nag eisieu, Ym Mon araul; a man oran-yw hon Llawen ei dynion, a llawn doniau." "Mae"n pert i'r llinèllau uchod." Darllenwch hwy nes eu cofio. Cystadleuaeth Rhif 2. a. Rhoddir unrhyw lyfr neu lyfrau, heb fod dros swilt o bris, i'r neb dan 16 oed a ysgrifenno oreu hanes byr o fywyd unrhyw fardd mawr Cymreig, gydag ychydig esiamplau o'i waith. (Ar gynllun yr hanes uchod am G. ■Owen). b. Rhoddir unrhyw lyfr neu lyfrau, heb fod dros chwecheiniog o bris, i'r neb dan 12 oed a ysgrifenno oreu enwau tri o feirdd mawr Cymru, gyda phedair llinell o waith un o honynt. Diau y bydd raid i'r cystadleuwyr dan 16 gael help llyfr, ond wedi ei .ddarllen ysgrifennwch yr hanes yn eich geiriau eich hun. Mae rhyddid i'r ,plant dan 12 hefyd holi'r sawl fynnant, ond rhaid iddynt wneud y gwaith eu ',hunain. Rhoddir y wobr am y o-Waith glanaf a chywirai. Ca'r goreuon ymddangos. Os bydd yr ail oreu yn weddol dda, ca'r anrhyd- edd o ymddangos, gydag enw'r vdwr. Sylwch ar y rheolau I. Rhoddweh eich enw, eich oed, a ch cyfeiriad. '??'?? gan ? cvstadleuwvr ,Clan 16 fwY nag a gerdvn rlinTftfwy nag a eilir rol ar ger dvn gedy 4. Rhodded pob un enw'r llyfr gar- 1 b ai gael yn wo b r. 5. Cyfeirier i Golofn y PHnt' Swyddfa'r Darian, Aberdar. 6. Gyrrer ar Chwefror icfed, neu cyn hynny.
O'r Wy i'r Dywi.
O'r Wy i'r Dywi. ,Gan Mr. Lewis lJayies, CYl11mcr, Rhondda. (Parhad.) Dywedais wrthych yr wythnos ddi- -v\eddaf fod gryn lawer i'w ddysgu am em gwlad yn y cyfnod pan oedd y byd yn ei fabandod, hynny yw, cyn i hanes  ar 1C111- ?sgrifenedig- ?ael cofnodiad ar fem- vn na phapur enoed. Ni iald -rth ?? ?n ??stad i idrd1I« Ie, y? -Vsjori- ? ??' heddvw, a aeban ydyben, wrthlTchau a ber- thyncnt C-Vlldri8'°lion, megis vr arf- weiVv^ ml ^nta hWynt' ? offer ?uluol weithient i u v ? ?hY"nod v 3"nt' -v hythvnnod v trieent Vv L 1>nt' >'r anifeiliaid a ^•tae t V & ade ladau amr y w a ?et?.?,d??, ? meirw-\T oil Vn traethu'n .? ?"' danynt. Ni'd vw oesau v soniw,uni danynt. — mew n un  y bY"yd pell hwn Efallai -?- g,f,lnnx* VI1 v fan h-. -p..•satwjf. • gellir olrhain camrau dyn?" Nis gellir ateb hwn yn foddhaol mewn rhif pen- dant, ond cytuna y meddylwyr pennaf y gellir ei osod yn ddegau o filoedd o Hynyddoedd o leiaf. I DOSPARTHIAD YR OESAU CYN-I HANESIOL. Er mwyn mantais i'r efrydydd dos- perthir yn y cyffredin yr amser aruth- Irol hwn i bedair rhan, yn ol defnydd yr arfau a'r offer nodweddant bob un. Gelwir yr oes gyntaf i gyd yn Gyfnod y Meini Hen, am mai rhyw fath ar feini di-drwsiad, wedi eu bras-lunio i'r pwrpas, oedd yn nwylaw preswyl- wyr yr amser hwnnw i ymladd neu i weithio. Y maen ddefnyddid i'r per- wyl oedd yr un elwir "callestr yn ein hiaith ni, a "flint" yn nhafod y Sais. Hwn oedd y cyfnod hwyaf o lawer. Yn nesaf ato daeth Cyfnod y Meini Newydd. Gelwir hwn felly am fod dyn bellach, er yn defnyddio meini o hyd, yn well crefftwr ar eu trin a'u trafod. Yn un peth yr oedd yn eu llyfnu yn dda, ac yn gwnetid arfau ac addurniadau neillduol o brydferth o honynt. Yn wir yr oedd bywyd i gyd gryn raddau yn uwch yn y cyfnod hwn na'r un blaenorol. Wedi hynny daeth dyn yn abl i gloddio a thrin meteloedd —copr ac alcan yn bennaf. Toddai a chymysgai y ddau hyn i wneud bron popeth a wnelai o faen neu asgwrn yn flaenorol. Dyma y Cyfnod Pres, a eilw y Sais "The Bronze Age." Yn dilyn drachefn daeth y Cyfnod Haiarn, ac yr oedd hwn yn ei fri pan diriodd y Rhufeiniaid yma gyntaf, fel y mae, o ran hynny, hyd y dydd hwn. Rhaid cofio unwaith eto mai araf iawn yr ymlithrodd un cyfnod i'r llall, ac nad yw y dosparthiad cyffredin o hon- ynt ond hwylusdod i waith y myfyr- iwr. Yn wir gallai ran o'n gwlad fod yn perthyn i un cyfnod ar yr un adeg yn union ag y gallai parth arall ber- thyn i gyfnod arall-gymaint oedd y dieithrwch a lleied oedd y tramwy rhwng eithafion yr ynys a'u gilydd. I POBL YR HEN GYFNODAU. I Ychydig wyddom am haniad pobi gyntaf ein talaeth, canys heblaw eu bod mor bell oddiwrthym o ran amser, bu ein tir, rhwng cyfnodau y Meini Hen a'r Newydd, yng ngafael yr la Oesol (Glacial Period), pan gafnwyd ein cymoedd allan gan y Meusydd la, ymwthient yn ddi-dor o'r ucheldir i'r mor. Yr oil a wyddom gyda sicr- wydd yw fod yma ddynion, ac mai ychydig yn uwch nag anifeiliaid y I maes oedd eu dull o fyw. Meddylir mai pobl ddaeth yn gyntaf o'r Ysbaen oedd brodorion ein hynys yn ystod Oes y Meini Newydd. Am hynny y gelwir hwynt yn lberiaM." Gwydtfech j o'r goreu, mi wn, mai enw arall ar Ysbaen a Phortugal yw Iberia. Er fod yr Iberiad, ar droion o leiaf, yn byw mewn ogofeydd fel ei ragnaenoriaid, adeiladai fythynnod hefyd. Cadwal: greaduriaid, megis geifr a chwn; gwnai ryw fath o lestri pridd, a chodai gofadeiladau i'r marw. Yn dilyn yr Iberiaid daeth i drigiannu yma ddwy don o bobl o ganolbarth Ewrop—y Goideliaid vn gyntaf, a'r Brython- iaid ar ol hynny. Unodd y bobl hyn a'u gilydd, ac adnabyddir hwynt weithiau wrth un enw fel Celtiaid. Ymdoddodd yr Iberiaid hefyd i'w plith, a dyma gyff ein cenedl ni-y tair cainc gymerasant iaith y Brythoniaid, sef y Gymraeg, yn dafod cyffredin i'r oil. Y Brython hefyd ddysgodd def- nyddio haiarn i'w gyd-Gymry, oblegid gweithiwr mewn pres oedd y Goidel yn gyntaf, fel yr oedd yr Iberiad yn gabolwr cerryg. Felly chwi welwch yn eglur nad oes y fath beth yn bod a Chymro pur mwy na Sais pur. Canys ar wahan i unrhyw ymgymysgiad di- weddar a'r Rhufeiniaid, Saxoniaidj neu Normaniaid, gwnaed ein cenedl i fyny yn y dechreuad o dri llwyth gwahanol, sef yr Iberiaid, y Goidel- iaid, a'r Brythoniaid. I I OLION DIWEDDAR OR CY F. I NOD AU HEN. Priodol gofyn yma, A oes gennym ni, yr Nwyreindir y Deheubarth, olion o'r pedwar cyfnod v soniwyd am danynt? Ychydig sydd gcnnym o'r cyntkf oil, ond, yn sicr, ddiameu y mae gennym ddigon o'r tri arall, hyd yn nod i lawr i'r fath fanion ag arfau ac offer cerryg a phres. Nodwn rai o'r I I pethau bychain y tro hwn gan adael I -y cromlechau, y rncini hirion, y meini sigl, y cylchfeini, y bcddau crynion, a'r amddifiynfcydd hyd y tro nesaf. I I. Cyfnod y Aleini Hen.—( I) Llafneu o gallestr miniog (1861) yn v Long Hole, Gwyr; (2) Eto (gylch yr un amser), Ogof Arthur, ger Mynwy. II. Cyfnod y Meini X ewydd. -( I) Niter o ilaenau saethu callestr (r898), Merthyr Mawr, Penybont; (2) Addurn callestr (Celt, 1850), ger Porthcawl, yn ymyl y Rest presennol; (3) Bwyell garreg (nis gwn y flwyddyn), Llan- madoc, Gwyr; ('?) BwycH garreg ^ac^wedd, 1910), ger Rhaiadr Gwy, Macsyfcd. (Bu darlun o'r olaf yrn y ¡" Western Mail" tua'r amser a nod- 1 wyd). HI. Cyfnod y P1'ês.(I) Cryn I | ddwsin o fwyeIU a gcing, gyda p,hadeU hardd (1911 12) yn llaid y Llyn j j 1-awr, Rhigos (o fewn pum mIUtir i Swyddfa'r "Darian"). Dowd o hyd iddynt pan yn gwaghau yr hen lyn i wneud cronfa ddwfr at reidiau y Rhondda. Y maent i'w gweled yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Pan eloch vno gofvnnwch am eu gweled.
Undeb y Cymdeithasau Cymraeg.
Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. AD RAN GWENT A MORGANNWG -"UNDEB, HEDD, LLWYDD- IANT." Cyfarfu cynrychiolwyr Cymdeithas- au Cymraeg Gwent a Morgannwg yn Ysgoldy'r Tabernacl, Caerdydd, brynhawn Sadwrn, Ionawr 24. Gair cysswyn Gwent ydyw "Deffro mae'n ddydd," ac eiddo Morgannwg ydyw "Trech Gwlad nac Arglwydd." Cynniweiriai ysbryd y geiriau cysswyn hyn drwy'r holl gynhadledd. Profwyd yn ddiymwad ddarfod i Went ddeffro, ac nid yn unig y mae wedi deffro eithr v inae'n symu d y mae'n "symud." Megis ag a dywed- odd y Parch. William Davies, B.A., gweinidog y Methodistiaid yn Heol Crwys, Caerdydd, nid "deffroad cen- edlaethol sydd gennym eithr "mudiad" mawr yn gwefreiddio Cymru gyfan. Pwysleisid gwirionedd gair cysswyn Morganwg gan yr Athro Ernest Hughes, M.A., yn ei annerch groeso pan ddywedai mai mudiad "gwerinol" ydyw. Nid tywysogion a phende- figion yw'r arweinwyr, eithr gwerin" gwlad a ddisgwyliodd foreaf ac a weddiodd ddyfalaf am weled y dydd, canys onid- "Dyma fy ngwerin i, athrodus un, Dyma'i chynefin a'i dewisol fyd." Llywyddwyd yn ddeheuig dros ben gan Mr D. Lleufer Thomas, M.A. Deffry Cymru heddyw i'r etifeddiaeth odidog honno a ddaeth i'w rhan o'r gorphennol pell. Teilynga'n hiaith ragorach sylw ymysg gwreng a bon- edd ein gwlad. Y mae braidd heb ei hail fel cyfrwng mynegiad ym myd barddoniaeth, crefydd, athroniaeth, a lien yn gyffredinol. Pe cawsai am- genach sylw yn ysgolion Cymru Fu ni fuasai welwed ei gwedd heddyw fel iaith "bara beunyddiol." Y syndod yw, ac ystyried yr anfri a bentyrrwyd arni am ddwy a thair cenedlaeth, nid ei bod yn afler ar wefus ami i Gymro, eithr yn hytrach ei bod yno o gwbl. Erys ynddi o hyd y cymhwyster angen- rheidiol, y perseinedd hyfryd, a'r cyfoeth dihysbydd er datgan dyfnion ddyheadau pobl ddiwylliedig. Y mae'n iaith diwylliant cyn ddillyned a'r un. Etholwyd Lleufer, Mr Dafydd Phillips, ysgrifennydd Cymrodorion Pontypridd, a Mr William Rowlands, Tredegar Newydd, yn gynrychiolwyr yr Adran ar Bwyllgor Gweithiol yr Undeb. Digwydd Mr Rowlands berth- yn i'r Gymdeithas Gymraeg a danys- grifiodd gyntaf at yr Undeb newydd. Hyderwn mai blaenffrwyth Mynwy ydyw Cymdeithas, Gymraeg Bethel, Tredegar Newydd. Y mae tir lawer eto i'w feddiannu ar y gororau. Torrodd y wawr a mynd rhagddi y mae oleuach, oleuach. Cododd yr hwyl yn dra uchel yn y rhydd-ymddiddan. Cyfeiriodd Dewi Fychan at lwyddiant cenadaeth y y "botwm" yn Portsmouth, Abertawe, ac mewn mannau eraill. Rhydd yr arwyddnod bychan hwn gyfle godidog i ddeffro'r Cymro sy'n nghwsg mewn ami i fynwes. Pan elo'r Cymro oddi- cartref fe ddeffryn o'i fewn ysbryd goreu Gwlad y Bryniau, ac fe chwythir y wreichionen yn fflam angherddol o dan dros Walia ei fam wlad. Ym Merthyr Tydfil, meddai Mr W. J. Davies, bwriedir astudio ysgrifau'r bardd adnabyddus, Mr T. Gwynn Jones ar Len Cymru. Ymddangosant ar dudalennau'r "Faner." Codwyd cri dros brif angen Cymry icuainc ein hysgolion canolradd gan Mr R. Williams Parry, M. A., Barrv, awdwr hyglod "Y r Haf" a gipiodd gadair Colwyn Bay. Cymeradwryai efe, fel tamaid i aros pryd, y priodol- deb o gyfieithu i'r Gymraeg rai o nofelau poblogaidd Lloegr. Y mae awydd gref mewn bechgyn a merched icuainc am lyfrau o chwedlau byrion tebyg i'r rhai a ddarparwyd gan Mr. E. Morgan Humphreys, Caernarfon, ac eraill. Y mae talentau yn segura yng Nghymru heddyw o herwydd nad allant gyhoeddi eu cynnyrchion. Pe í sicrheid trysorfa arbennig fe nvr- wyddid cyhoeddiad casgliadau cym- wys o chwedlau addas ar gyfer plant Cymru. Cyfetriwyd droion at angcn mawr Cymru yn y cyfeiriad hwn, ond braidd y mae neb yn ateb Tra'n dis- gwyl am weithiau gwreiddiol gan fyfyrwyr ac ysgolorion ein -el(-au, dichon y ceir cyfieithiadau addas a leinw'r gwagle am dro. Ni olygai I Ni oiN',o, a l Eluned ag awgrym Bardd vr Haf, canys paham y rhaid i genedl a gyn- yrchodd y INIabinogion a Chw edlau i Arthur fyw ar yr hyn a wnaed gan genedloedd na all ddangos y fath I ramant yn eu Men? Gwyr pawb a ddarilenodd lvfrau Elllne'd-" Dringo'r Andes," Gwym- on y Mor," Ar Dir a Mor"—flasused ydynt. Gresyn y llesteirir hithau 1 raddau gormodol gan y pryder a'r II flwdan o gyhoeddi ei chynyrchion. Cywilydd wyneb, meddai Eluned, sydd i r gwyr hynny a dderbyniodd freintiau mawrion ein pnf-ysgolton am na chynyrchasant ymhell cyn hyn gyfres o chwedlau tebyg o ran rham- ant a swyn i'r Mabinogion. Sylwodd y Cadeirydd ar v pi lodol- deb o noddi lien Cymru, ac fe ym- drinir y pwnc yng nghyfarfod y I Pwvllgor Gweithiol yng Nghastell Nedd, Chwefror 7. Annogai Mr Rhys Morgan, M. A., Pontypridd, y cymdeithasau i weith- garwch diflin dros Gofeb Awduron Hen Wlad fy Nhadau." Ategwn i ninnau'r apel yn y fan hon drvvy aw- grymu i bob Cymdeithas drefnu cyngerdd, drama, neu ryw gwrdd neill- duol arall er sicrhau swm helaeth o arian ac aur at y mudiad gwir deilwng hwn. Darfydded son bellach mai "canu" "Hen Wlad fy Nhadau" a wnawn a hynny'n unig; dangosed pawb ei barodrwydd i "gyfrannu" fel nad elo'r ddau Iago fyth o'n cof. Croesawyd y cynrychiolwyr gan Un- deb y Cymdeithas Cymraeg yng Nghaerdydd, ac nid ar air yn unig y gwnaethant hyn eithr drwy wledd o'r radd oreu. Dyledus odiaeth ydym i'r Undeb hwn, ac yn arbennig felly i Mr John Thomas, ei drysorydd, ac i Mr J. Isaac, ei ysgrifenydd aiddgar. Llafur- iasant hwynthwy ynghyd a Mr Ernest Hughes ac eraill er rhoddi der- byniad gwir dywysogaidd i'r dieithri- aid yng Ngwesty y Barry, Caerdydd. Llywyddid gan Mr Thomas. Cynyg- iwyd iechyd da i'r mudiad mawr Cymreig o blaid ein hiaith gan y Parch. W. Davies, B.A. Dywedodd fod Cymru ar ddihun heddyw. Yn ei chwsg y dysgodd Saesneg pan freudd- wydiai am fwynderau gwlad y Saeson," eithr yn awr gwel ei cham- synied, a hiraetha ei henaid nid am "y byd a'i olud drud," eithr am olud- ,oedd rhagorach ei hiaith hi ei hunan. "Duw a wyr mor annwyl ini Y dyw Cymru lan." Er fod Ben Bowen wedi ei golli or Rhondda, a Chochfarf dywysogaidd o Gaerdydd, a Dan Isaac Davies o'n mysg, erys eu hysbrydoedd eto yn y gwynt. Ysbrydolant Gymry eto i gadw'r faner rhag syrthio i ddwylo aflan Die Shon Dafyddion yr oes hon. Atebwyd dymuniadau da Mr Davies gan Lleufer ac Arthen ar ran yr Un- deb. Barnai Lleufer y rhaid dwyn mil- oedd y Rhondda a chymoedd eraill prysur Cymru o dan gyfaredd y byw- yd cenedlaethol Cymreig. Sefydler cyfarfodydd can a thelyn ar gyfer y bobl ieuainc a'r plant a thrwyther hwynt a'r ysbryd Cymreig. Dywedodd Cemlyn ychydig eiriau, ond disgynasant fel tan eirias oddiar bentan got. Taer ddymunai ar i bre- gethwyr Cymru a delir am bregethu 'yn iaith eu tadau groewi cryn dipyn ar ffrydiau'r iaith a ddefnyddiant, ac nid yn unig hynny y mae'n hen bryd i I lawer o honynt i ddysgu'r Gymraeg ar eu haelwydydd Gwyr Cemlyn am enghreifftiau, y mae'n ddiameu gennyf, o bregethwyr a gweinidogion yn euog o'r difaterwch gwrthun hwn. Eled yn dro buan, canys yr ydym o ddifrif yn y peth yr aethom allan o'i blegid. Bwricdir cyhoeddi yn dra buan restr o ddarlithwyr ar gyfer y gwa- hanol Gymdeithasau y tymor nesaf. Y mac'r darlithwyr fel y doeth yn caru'r encilion. Tynnwn hwynt allan i oleu dydd. Nid oes raid mynd neppell pan frithir pob Cymdeithas a siaradwyr gwir deilwng. Paratoed pob ysgrifennydd restr erbyn y delo'r alwad oddiwrthyf am dani. Wrth daflu cipdrem yn ol ar gwrdd Adran Gwent a Morgannwg, nid oes gennyf ond canu ei glodydd. Erys vng nghof y rhai a fu ynddo fel un o'r cyfarfodydd goreu a gynhaliwyd erioed. Dywedai pawb mai da oedd bod ynddo. Cynhelir y cwrdd nesaf tua mis Mehefin ar y glas ger Gastell Caer- phili. Ni raid i neb loewi arfau namyn y rhai hynny a'n cynorthwya i ladd pob peth andwyol i lwyddiant yr ysbryd cenedlgarol a ymdonna gryfed o'n hamgylch heddyw. "Pob bendith iti, Walia lan, Boed i bob Cymro tro bo byw Garoli mawl yn llawn o dan I'w wlad, ei genedyl, a'i Dduw." ARTHEN. I
Cymrodorion Abertawe aI Chynddelw.
Cymrodorion Abertawe a I Chynddelw. Cynddelw" oedd y gwrthrych gafodd sylw Cymrodorion Abertawe nos Fawrth, Ionawr 2ofed, yn y Llyfrgell Gyhoeddus. Dadlenydd y cvmeriad mawr ac athrylithgar hwn ydoedd y Parch. Idwal Jones, Tony- pandy, ac anmhosibl oedd cael un mwy cymmwys at y gwaith. Daeth nifer luosog yn nghyd, a chadeiriwyd gan ein Llywydd, y Bonwr John Meredith, gwr yn llawn arabcdd a synwyr cyffredin, cyfuniad hapus mewn cadeirydd. Rhoddodd y darlith- ydd frasIun o hanes bywyd y gwrth- rych dan sylw. Mynegodd yr an- hawsterau lluosog y gorfu iddo frwydro drwyddynt er esgyn o ddi- nodedd i binacl bri ac enwoggrwydd. Dangosodd ei fod yn feddianol ar ysbryd dewr a. phenderfynol, ac wedi ei gynysgaeddu a chyneddfau tuhwnt i'r cyffredin o ddynion. Hefyd fel y manteisiodd ar y cvfleusterau prin gaf- odd i wrteithio ei feddwl. Adroddodd mewn modd digri nifer o ffraeth ddyw- ediadau ein gwron, a phrofodd wrth hyn ei fod ef ei hun yn feddianol ar ] alluoedd dvnwaredol tuhwnt i'r cyffredivi o honom. Ac erys ei ffraeth- ebion yntau yn ein cof yn hir. Pwys- leisiodd ein dyled i Cynddehv fel llenor, geiriadurwr, a bardd. Trueni dybryd oedd ei fod yn gorfod cwtogi ei ddarlith er dal y tren. Gadawodd argraph ddwfn ar y cynulliad ei fod yn feddianol ar bersonoliaeth urddas- ol ac yn wr o athrylith uwchraddol. Gwr mawr oedd genym yn son am wr mawr arall. Ni fydd Cymru yn amddifad o feistri yr areithfa tra y megir ganddi feibion tebyg i'r Parch. Idwal Jones. Talwyd diolchgarwch iddo gan y cadeirydd, ac eiliwyd gan y Parch. David Price (B.). TALNANT.
Advertising
GWAED! GWAED! GWAED I MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUR CRYF. IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughes's Blood Pills" yn hyno. effelthiol at Creu Uwaed Newydd, Pur a Chryf, felly yn dylanwadu ar holl I Organau y Corff, drwy hyny yn laohaii Dolur Pen, Diffyg Traul, Biliousness, 0 A fu Ddrwa, Tarddiantau 1 Uij/nllHl IU I /I/ f /f/ l /J/l ar y Cnawd, Cornwydon, F Scurvy, Pile's A M// Fits, Nerv- ousnesi, ^In/ II Cwynt, Cwynegon (nau Cymal- wst), POln Cefn, Lum- bago, Corn- rwymedd, Neuralgia. Anhwylder- au yr Aren- au, I 4eider Y s p r y d, S VylTa! Cylia. BENYWOD! At Anhwylderau tueddol i bob Gwraig, Mam a Merch o bob oedraa mae Hughes's Blood Pills 11 yn nodedig o effeithiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pills hyn gofaler rhftf gael eich twyllo. Mynwch weled y Trade Mark, sef llun Calon fel hyn- ar bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemist a Store- am m, 219, tJ8. Neu danfonwoh ei Gwerth mewn Stamp. neu P.O. at y Perchenog- JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L D.S Perianth, Cardiff. Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYMRU). Prifathraio-T. F. ROBERTS; M.A., LL.D. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaethau (rhai o honynt yn gyfyngeldig i Gymry) y flwyddyn hon. Am fanylion pellach, ymofyner a— J. H. DAVIES, M.A., Oofreatrydd. Do you want £ ) M 0 N E Y f for extending your business, entering into a new business, or for any good purpose what- soever ? Apply THE SOUTH WALES EQUITABLE MONEY SOCIETY Registered under Friendly Sooieties Act) ALBERT CHAMBERS, HIGH STREET, CARDIFF Branches < SWANSEA—10 High Street Arcade. NEWPORT-J. R. Rowlands, 11, Skinner St. PENTRE-E. T. Davies, Victoria Chambers. FERNDALE—W. J. Jones, Tudor Chambers. TREDEGA-Temperance Hall. PONTYPOOL-J. R. Rowlands, 20 Crone St. MERTHYR-A. T. Smith, 4, Castle St AGENTS WANTED where unrepresented. £ 6 10s for Is 2d per week, 913 for 2s 3d per week, and so on up to £ 32 10s for 5s M per week. Assets nearly 950,000. Ask for Balance Sheet and prospectus. I LAb:FS BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities, &c.. they speedily afford relief and never fail to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple, &a. blanchard's are the Best of all Pills for Women." Sold in boxes, by BOOTS' Branches, and I all Chemists, or post free, same price, from BSLIB MARTYN Ltd., Chemists, 3 DALSTON LANE, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. stamp EVERY WOMANI Should send two stamps for our 32 paw I :i>i rarec j Book, containing Valuable Information ilow all Irregularities and Obstructions may 1, eu neij avoided or removed by simple ineans. Recom- mended by eminent Physicians, as !he only Safe, Sure and Genuine liemeilv. fhoueands of Testimonials. Mrt. PAUL BLANCHARO, Cl»r«mont House. Dalst,oli Lane. L.cnrih„. PRELIMINARY PROGRAMME of the FFORESTFACH WHIT-TUESDAY EISTEDDFOD Will be sent on receipt of Stamped Addressed Envelope. General Secretary7 David Jenkins, Gendros, Fforestfach. CWMAMAN JUVENILE EISTEDDFOD. The Seventh Annual Juvenile EISTEDDFOD Will be held at the I PUBLIC HALL, CWMAMAN, I SATURDAY, MARCH 14th, 1914. Chief Items: Juvenile Choir, "Chain of Welsh Airs," v5 and a Marble Clock, value £ 3 kindly given by Roath Furnishing Co., Pontypridd. -Action Song, Own Choice: liU L-Chamf ion Solo for Girls, Hark, ye herald angels sing" (Gabriel), 10/6.-Champ- ion Solo for Boys, Y Ddwy Delyn (Pughe Evans), 10/6.—Duett (soprano and alto), d Hen Gymru DIos" (T. J. Morgan) .—Drill Competition: 1st, 21; 2nd, 10/ Prizes offered for Solos, Recitations, Drawing, Essay and Letter Writting. Further particulars in Programmes, post free lid. To be had from the Hon. Secretary-W. 0. Lloyd. Isfryn, Cwm- aman, Aberdare. Dywedwch wrth bawb: "Y ma. DAVIES S COUGH MIXTURE yn rhyddau Peswch." AN-WYD, PESWCH, INFLUENZA. —Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddio- ddef oddi wrth Beswch. Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae yr hen Feddyginiaeth Davies's Cough Mixture It etto ar y Jblaen, ac vn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felus, yn cynnhesu y frest. ac yn rhydd- hau y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. 111 a 2/9 (postage, 3c.)- HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. THE Aberaman & Mountain Ash Billposting and Advertising Co. Proprietors of the most prominent statioaa n Aberamao, Cwmaman. C vmbach, Abercwmbol, Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. All communications and parcels should be addressed to the MANAGER, Public Hall & Institute, Aberaman Aberdare Tel. P.O 12, Aberaman. Send your • • Orders for PRINTING TO THE Leader ATarian Office Cardiff Street, Aberdare. PoBters, Handbills, Circulars, Tickets, Programrnes, Balance Sheets, Church Reports, and all kinds of Printing done in up-to-date Style, combined with first-class Workmanship- SATISFACTION PROMPT GUARANTEED. DESPATCH. ax PAGE Book about Horbe and how lo w Ihem Pout Proe. Send for one,- Trfmnell. The HerbaJ 144, Kichmond-road CardH7 KstabU.hl' 1879. PLEASE NOTE THE ADDBBBB fA TO prevent frand eee that yop get NattbHtht 1879 on every label and wrapper of By preparp lions, without which none are genuine. Trimneil. Tb Herbalist. 144, Richmond-road, Carain. TRIMNELI/S PILLS AND POWDERS hare tun Thoaeanda Why not yoo? See that you gal II Established) d79" on every labeL—Trimnell, Tbl Herbalist, 144, Ridomood road. Cardiff, Agent wanted. pecialities, 113diarubber Appliances Br,8..a &a Best and beap-Bt, Lid 00 T-irnoall. BOON TO THE LAME. ——— J. J. STUBBS, Maker of ARTIFICIAL LIMBS, with RUBBER FEET. Are the most Natural, most Efficient, most Comfortable. Absolutely noiseless. Fitted with Ball Bearing Joints. All bolts, springs, catguts abolished. Over 2000 Jimbs in use. Hundreds of Testimonials. Every limb guaranteed. Trusses, Belts, and all kinds of Surgical Goods kept in stock. RUBBER SPECIALITIES. Write for Catalogue. 51 CITY ROAD, CARDIFF. do