Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Beirniadaeth I

News
Cite
Share

Beirniadaeth I EISTEDDFOD CADAIR EBEN- EZER, LLANELLI, RHAGFYR 13. GAN Y PARCH. RHYS J. HUWS, II GLANAMMAN. (Parhad.) Pryddest bur anwastad ydyw eiddo "Bugail Hafod y Cwm." Hoff xx-n lithr esmwyth rhai darnau o'r gerdd, ond disgyn darnau ereill yn drystfawr I a garw ar y glust. Ceir rhannau o'r I gwaith yn rymus a meddylgar, a cheir, hefyd, rannau eiddil heb nemor ddim ond geiriau llanw ynddvnt. Y mae'r gerdd yn brin o ddisgrifiadau naturioi a bw, a cheir ynddi lawer ymadrodd t ystrydebol ac amhersain. Gallem bigo degau o engreifftiau i brofi'n gosod- iadau, ond gofod a ballai. Diau y gallai'r awdwr hwn nyddu llawer am- genach cerdd, ond rhaid iddo wrth fwy o ofal i gynyrchu gwaith da. Pryddest felys a gawn gan Pere- dur," wedi ei mydryddu'n esmwyth ag amryw o'i darnau yn farddoniaeth calon. Ccir llawer darlun naturiol yn y gerdd, a theimlwn ambell dro fod yr awdwr fel telynor yn taro'r tant nes tynnu'r miwsig melysa o hono. Dyma fel y can pan yn disgrifio- "Ddifyrred treulir hwyrnos y gaeaf gylch y tin Y tad yn prysur drin y ffon, a'r fam ei hosan wl&n; Y plant a'u gwersi frwydrant, a byw- iog chwery'r lleill, A chan y fam ei hemyn hoff wrth ddiwyd drin y gweill." Ond er yn canu'n rhwydd a melvs, nid yw agos mor gryno a chynnif ag y dylai fod. Can Aretina'n" bur ddidram- gwydd, ond y mae arddull y caniad cyntaf yn rhy bregethwrol. Cerdd foliant yw y bryddest hon, ac er yn weddol gain ei gwisg, nid oes ynddi lawer o angerdd teimlad nag o rym awen. Wele esiampi o ansawdd gyffre- dinol y gwaith:- "Aelwyd garedigol Mangre ddedwydd yw, Lie mae'r bywyd dynol Y n ogoniant byw." Y mae'r gerdd yn brin o wefr; ae, yn sicr, nid yw pob peth a blethir ynddi "o'r un waed a'r awen wir." Bardd awengar dros ben yw'r "Prydydd Du" a chanu'n reddf iddo. Moli'r aelwyd a wna yntau, ond yn ei foliant ceir ami i gyffyrddiad yn ddar- lun cyflawn ynddo'i hun. Barddon- iaeth ff lachiog iawn a geir yn y bryddest hon, fel rheol. Dichon mai gwell fuasai lliwio'n gynilach a syml- ach. Er yn mwynhau rhuthr llifeiriol yr awenyddiaeth mewn rhai darnau, mwy dymunol gennym fuasai cael y lli'n dawelach wrth ganu i'r "bwthyn diaddurn," a'i fywyd syml, glan. Darllener un pennill fel engraifft o'r hyn yw'r g&n drwyddi- "Fe ddawnsia boddlonrwydd yma Ar ruddiau y plantos man, Pa wledd fel storiau y penwyn daid Sy'n trefnu y mawnog dan? Ni ddrachtiant o wenwyn Bacchus— Diail ydyw gwin y nant, Cyfrinach eu cryfder yw'r llefrith gwyn A'r llymru sy'n fel i'w mant." Nid yw pryddest "Calon wrth Galon yn gyfartal drwyddi. Yn gymhlith a disgrifiadau naturiol a syml, ceir darnau trystfawr heb yn- ddynt ddim namyn ymchwydd geiriau. Efallai fod llinellau fel hyn vnfardd- onol- "A gwrendy y ser o'u haruchel gysawdiau, Chwedleuon yr aelwyd drwy'r hen simdde gam." Ond ni chymer pethau fel yna eu lle'n dda mewn pryddest ar destun fel hwn. Y mae'r awdwr yn fardd gwych, ac yn enor pur dda, ond y mae Hawer nodvn ug yn ei ganu'r tro hwn. Serch at gartref dnvy waith T JLlais or Mur," ond cerdd "ddi- ddrwg ddldda" ydvw hon ar v cyfan. yma ansawdd y bryddest yn gyffre- dll1- Daw'r hen wraig a'r trysor Pan mae'r teulu'n cwrdd, Blaenor mawr yr allor Nesha at y bwrdd." Mae'r frydryddiaeth yn llyfn ddigon fel rheol; ond ambell dro daw'r garreg arw yn erbyn ei Hif. Pryddest gyffredin yw hon. Y mae yspryd rhagorol yng ngherdd Llywarch Hen," ond cyffredin yw ansawdd ei barddoniaeth. Ni ellir ei rhestru'n uchel mewn meddwl na gwisg. Er fod moliant y bryddest yn trwd ac uchel, nid oes yn y gwaith nemor i ddarlun yn ein llygad ddenu. Canu'n bell a wna'r awdwr. Tvbed fod llinellau fel hyn yn talu am eu lle- Yr aelwyd sy'n yfed awelon v bryn- lau tragwyddol, I dn" ff.. drws a' i ffenestri9n agored i'r Haul anfachludol." (?) Eto- "Datguddia ei goleu ogoniant dech- reuad doethineb, A '0 h I henw dilychwin yn darddell o sivyn ac anwyldeb." A wdwr Cyfar 1 dd 0 A-d-r eyfarnkydd iawn a Ilunio ? ?eg? eth?? "Adl Torreth o. "lIe" als. orreth 0 aleg-ori'au fe10nyw'r bryddest ??yddi ? ??a;ir r? hyn fod ambe!! air hyn foci ambeII bennill yn gymysgfa ryfedd. Dyma fel y can Adlais''— "Teml ei hysbrydoliaeth, ffynnon ci mwynhad, Mvnydd ei chadernid, teyrnas mam a thad. Ceir llawer o gywreinrwydd a gallu yn y gwaith, ond nid yw'r dull hwn o ganu i'w gymcradwyo. Ysbryd pyrddest "Rhwng y Brwyn yw ei phrif ragoriaeth. Nid oes ynddi bortread tlws o'r aelwyd, ac nid yw'r gerdd, fel crefftwaith, yn orffenedig a glan. Ond y mae rhy .v ysbryd cydnaws a'r testyn yn ym- svmud dan ei llinellau. Moli yn d-eimladwv ac annwyl a wna'r bardd. Dyma fel y gorffen Rhwng y Brwyn ei gan, ac y mae'r llinellau vn dangos nodwedd y bryddest ar ei hyd— Hyd nes daw v fordaith olaf Dal i'th garu wnaf o hyd, Am i'm dderbvn ar dy fronnau Faeth i goncro brwydrau'r byd. Pryddest lawn o deimlad ydyw eiddo "Brython," ac yn cynnwys darlun pur gywir o Aelwyd y Cymro. Svlwasom ar luaws o fan feflau'n an- urddo wyneb y gwazth. Nid v-r awdwr yn feistr hollol ar y gamp o gyfleu ei ddefnyddiau. Gallesid wneuthur hyn yn llawer mwy celfydd nag a wnaeth efe. Dysged osod "afalau aur mewn gwaith arian." Bu hefyd yn esgeulus wrth gopio'i waitli. Er nad yw'r farddoniaeth yn ennein- iedig iawn, ac nid oes orffeniad da ar y gwaith, ceir rhai darnau gwlithog ym mhryddest "Brython." Ni ellir canmol llawer ar gynnyrch "LIef o'r Adail o ran syniadaeth na saerniaeth. Y mae'r bryddest hon yn ,bell o fod yn cloi synwyr mewn clysineb." Prin iawn yw ei melodi, ac afrwydd yw ei mydryddiaeth. Cymer- er darn yn esiampl o'r holl waith- "Llwyfan y myrdd amgylchiadau Yw ei aelwyd hardd a thlos; Heddyw y mae dan gymylau, Eilwaith dan yr heulwen dlos." Digon hyn i brofi nad yw'r gerdd j fynu a safon cadair. Efallai mai goreu fai dyfynnu darn o bryddest "Tant y Teimlad i brofi eto nad oes iddo yntau obaith am gadair y tro hwn- "Aelwyd yn llawn llawenydd Yw aelwyd y Cymro cu, Un dan swvnion hael a byw, Er hael a thlawd yw hi." Cyffredin iawn yw natur y farddon- iaeth, a cheir man feiau mewn gram- adeg yn afrifed drwy ei holl rannau. Nid oes ynddi ychwaith yr un darlun tlws i'n denu wrth ei darllen. Canu'n bur wria "Ifor Aelfryn." Ni cheir yn y bryddest hon waith y saer cywraint, ac yn ofer y gwrendy'r glust am acenion y per ganiedydd. Gall y cyfarwydd rag- wybod tynged "Ifor Aelfryn" ond darllen unrhyw ddarn o'i gerdd. Cymerer hwn ar antur- "Mae'n wir fod ambell aelwyd Yn aflan iawn ei gwedd, Amddifad yw o gysur Ac ni cheir ynddi hedd; l Fe welir Iwch a lludw Ac anfoesoldeb mawr, A'r Cymro druan arni Heb unrhyw hawddfryd 'nawr." Ofer ychwanegu. Y mae arwyddion gallu ym mhrydd- est Meirionfab," a chawn liw'r awen ar ambell syniad yn y gwaith; ond cerdd rodresgar ydyw yr eiddo ef ar y cyfan. Er yn ymddangos ar y wyneb yn loewlan, ffug farddoniaeth yw y rhan helaethaf o'r bryddest hon. Ni ddygymydd y profiadol a pheth fel hwn— "Os wyt yn hen, ieuenged wyt a'r wawr Roes i'th breswylydd hawl yn "Ngwlad y Bryniau," A thrwydded i gartrefu vn ei glynau Cyn geni duwiau Groeg a Rhufain Fawr. Llai o rwvsg ffugiol a mwy o symledd naturiol a ddisgwyliem. Naws ryddieithol dros ben sydd ar bryddest "Hiraeth." Y mae yn dref- nus a rheolaidd, ond yn od o ddien- einiad. Nid yw "anadl y peth byw yn y gerdd, ac er fod ynddi lawer o synwyr cyffredin, y mae ei barddon- iaeth cyn oered a goleu'r lloer ar noson rewllyd o Dachwedd. Dyma nodwedd y canu drwy'r bryddest— "Aelwyd gerddgar, farddonol yw hon, Mae'r gerdd yn fyw os ciliodd y delyn, EI phlant talentog arni yn lion Droion wenasant y gan a'r englyn." Er fod graen a glendid llenyddol ar y gwaith, a'i farnu fel barddoniaeth v mae yn hynod o ddi-swyn. (I barhau.)

Advertising

Dadl.I

"SARZINE" BLOOD MIXTURE.I

IPenderyn.I

Advertising

Dosbarthwyr y 'Darian.'