Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
COLOFN Y PLANT. I I -I
COLOFN Y PLANT. I Cefais gryn fwynhad wrth ddarllen y cynhyrchion anfonwyd i fcwn ynglyn a'r ddwy gystadleuaeth yn rhifyn lon- awr iaf o'r "Darian." Yn awr, ar y dechreu, cyn ceir cystadleuaeth eto, hoffwn adgofio'r ymgeiswyr o un peth —rhaid cadw'r rheolau. Gwelaf fod Mr Golygydd wedi nodi rhai rheolau j wrth roi'r gystadleuaeth hon, sef fod yn rhaid rhoi'r enw, y cyfeiriad, a'r oed, etc. Gwnaed hyn gan rai ond nid gan bawb. Collodd rhywun y wobr drwy beidio. Mae yma un reol arall hefyd. Fel hyn y darllenaf yn nes i lawr Cofiwch wneud y gwaith eich hunain. Ni ddaw lies i chwi os gwna rhywun arall y gwaith vn eich He. Yn awr mae rhyw aderyn bn,chan-un bychan iawn ond tra chyflym ar ei aden—wedi hedfan ataf o bell, dros fynyddoedd a moclydd, a dyffrynoedd ac afonydd, ac wedi sibrv.d rhywbeth yn fy nghlust am rai o'r rhai N?u yn cystadlu y tro hwn. Dywedodd am un bachgen fu yn disgrifio'r modd y treuliodd ei Nadolig fod ei dad neu ei fam yn sefyll gerllaw, ac, yn dweyd wrth y bachgen beth i ysgrifennu. Nid oedd yr aderyn yn hollol siwr pa un ai y tad ai'r fam oedd yno, ond lled-dybiai mai y fam. Am un o'r cystadleuwyr ereill- bachgen bach saith oed—dywedodd yr I' aderyn mai nid gwaith y bachgen bach hwnnw oedd yr ysgrifen lan, I ddifrychau oedd ar y papyr, ond mai ei frawd, llanc pedair-ar ddeg oed, ysgrifennodd y pennill i gyd yn ei le. Rhyfedd, onide? Pe bawn i chwi, mi ofalwn na chai yr aderyn bach neges tebyg eto. Gwnewch cich gwaith eich hun-mae y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr wedi gwneud felly y tro hwn—a dyna'r unig ffordd i dderbyn lies. Anfonodd deunaw i fewn am y gys- tadleuaeth i rai dan ddeuddeg oed. Edrychwch o ba le y daethant: — Saith o Aberdar, dau o Aberaman, un o Drecynon, un o Bontypridd, un o Dreforis, un o Gwmtwrch, un o Lan- samlet, un o Lanelly, un o St. Clears, un o Langennech, ac un na wn o ba le. Gan fod y gwaith mor hawdd- dim ond medr i ysgrifennu a thipyn o ofal oedd yn eisieu—nid wyf yn golygu syhvi ar y rhai hyn bob yn un. Mae rhai wedi yesgrifennu'n wael, rhai wedi sillebu rhai o'r geiriau yn anghywir, rhai wedi anghofio'r rheol- au fel y sylwais eisoes. Mae gan Caradoc bennill bach pert o waith Mynyddog, wedi ei ysgrifennu yn ddestlus. Trueni na fuasai Caradoc wedi rhoi ei enw a'i gyfeiriad. Dyma'r pennill "Os Cymry annwyl ydych, Na wadwch byth mo'ch iaith, Er myn'd i wlad yr estron, Neu groesi moroedd maith; Os holir chwi yn Saesneg, Yn Lladin neu Hebraeg, Gofalwch docd a ddelo Am ateb yn Gymraeg." Dywed un o'r cystadleuwyr ei fod yn 12 8-12 mlwydd oed. Mae hynny o leiaf 8-12 yn ormod, onid yw? Mae yma un bardd o dan ddeuddeg oed, wedi gwnejid ei bennill ei hun. Wyddis beth fedr hwn wneud vmhen deuddeng mlynedd eto! Wele ei bennill. Cywirwyd rhai geiriau oedd heb eu sillebu yn iawn "Mae bechgyn bach o Gymru Yn hwylus ac yn lion, 1'r ysgol ant i ddysgu Cymraeg yr adeg hon; Ac hefyd mae'r athrawon A'r athrawesau gyd Yn gwneud eu gore'i siarad Cymraeg-iaith dlvsa'r byd." Cymer ef olwg obeithiol iawn ar bethau. Dyma bennill bach tlws i Lygad y Dydd, wedi ei ysgrifennu yn ofalus gan fachgen bach deg oed. Trueni iddo anghofio un o'r rheolau. Ni ddywedodd o ba le y cafodd y penill. Wele ef — "Flodeuyn bychan tlws, Mewn gwisg o aur ac arian, Ai ti agorodd ddrws I'r Gwanwyn ddyfod allan? Mi wn fod blodau lu O'th ol yn dirgel lechu Rhag ofn yr oerwynt cry' Sydd dros y maes yn chwythu." Daw digon o Lygaid y Dydd i'r golwg yn y man. Dysgwch y pennill bach yn barod. Ond nid am y pennill tlysaf y rhoi'r y wobr y tro hwn, ond i'r un a ys- grifenno oreu gan gadw'r rheolau wrth gwrs. Y goreu yn ol hyn yw geneth fach naw oed o Lanelly, sef Eluned Morris, I 32 Gilbert Place, Llanelly. Anfonir "Teulu Bach antoer" felly i Eluned fach, gan obeithio y ca bleser ryw ddydd o'i ddarllen. Dyma'r pennill ysgrifennodd hi — Yr Awr XX-eddio. Y r awr weddio gara f- Arferaf drwy fy oes, Er mwyn y ddau gwrdd gxx-eddi- Yr ardd a bryn y groes; Y Gwr weddiodd yno Sy'n awr yn g\\rando'n cri, A digon yn ei wrando I'n llwyr fendithio ni." Nid oes ond pedwar wedi ymgeisio ar y gystadleuaeth arall. Hoffwn j weled mwy yn treio gan fod gwaith gwreiddiol fel ag a ofynnir yma yn ddiddorol iawn. Gobeithiw n gael mwy y tro nesaf. Y sgrifenna uri eneth I fach o'r Ysbytty. Drwg iawn gennym am ei hafiechyd, a gobeithiwn ei bod erbyn hyn yn holliach. Ni ellid dis- gwyl iddi ysgrifennu yn dda dan am- gylchiadau felly. Nid oes un o'r ped- war wedi ysgrifennu'r hollol gywir, | ond na hidiweh am hynny—wrth ym-I arfer y deuir yn berffaith. Gwell. lawer gweled gwallau, a deall fod y bachgen neu yr eneth wedi gwneud ymdrech deg a gonest. Y mae yma un yn dwyn yr enw Cymro Ieuanc wedi ysgrifennu hanes diddorol iawn, ond anghofiodd roi ei enw na'i gyfeiriad na'i oed. A beth os yw yn ddeg-ar- hugain oed? Y goreu y tro hwn yw— Samuel Williams (neg oed), 23 Harriet Street, Trecynon. Anfonir "Ar Dir a Mor" iddo un o'r dyddiau nesaf yma, a bydd yn siwr o'i fwynhau. Wele yr hyn ysgrifennodd, heb newid dim arno. Mae ynddo rai gwall- au fel y gwelwch, ond I leg oed yw Samuel Y Modd Treuliais Dydd Nadolig. "Treuliais Dydd Nadolig yn Llan- samlet, gerllaw Abertawe, yn ty fy nhadcu. Cefais lawer o fwynhad yno, sef mwynhau o'r twrci a photen Nad- olig. Yn y prydnawn treuliais yr am- ser wrth ddarllen y llyfr Swiss Family Robinson." Yn y nos mi eis i'r cynghanedd yn Salem. Yr oedd canu ag adrodd yno, ac yr oedd y cor yn canu, ac mi eis adre'n llawen iawn. Er y tywydd garw a'r gwlaw, ym- hyfrydais fy hun yn dda." Cofiwch ddarllen y Darian am yr wythnos nesaf. Bydd cystadleuaeth arall ynddi. Treied pawb dreiodd y tro hwn a mwy. O'R \VY I'R DYWI. I Gan Mr. Lewis Davies. I Tua diwedd y 12fed ganrif daeth yr ysgolor mawr Giraldus Cambrensis i faes hanes. Fel pob ysgolor yn y cyf- nod hwnnw ysgrifennai yn Lladin, ond siaradai Gymraeg hefyd. Mor wa- hanol hynny i'r crach-ysgolorion gred- ant heddyw fod anwybodaeth o iaith eu mamau braidd yn anhebgorol i wir fawredd. Rhoddodd Giraldus,. neu Gerallt Gymro fel y gelwir ef fynychaf gan ei gyd-genedl, ddesgrifiad o Gym- ru a'i thrigolion yn un o'i lvfrau, ac fe roddodd mewn un arall hanes man- wl o'r gylchdaith gymerodd gyda Baldwin o Gaergaint yn 1188 i bre- gethu Rhyfeloedd y Groes trwy Gymru. Mewn canlyniad i'r adfywiad llen- yddol yn y i2fed ganrif, cawsom ni yn Siluria rai cynhyrchion neillduol o bwysig. Dyna Lyfr LlandAf -h'r I Annales de Margan—heb fyned ym mhellach-y ddau o werth uchel. Galfrith o Landaf gasglodd y blaenaf yn nechreu y ganrif a nodwyd, ac y niaegennyrn heddyw lawer cyfle i brofi dilysrwydd yr hyn a ddywed. Beth pe baem yn gwneud un prawf bach arno Faint o honoch breswylia yn ardaloedd Glynnedd, Rhigos, Pen- deryn, Hirwaun, a Chefncoedycym- mer ? Gwrandewch beth ddywed cyfieithiad Saesneg Llyfr Llandaf am ffin ogleddol yr csgobaeth wyth canrif yn ol Along the Purddin until it falls into the Nedd; along the Nedd up- wards as far as the influx of the Mellte; along the Mellte as far as Sychryd; along the Sychryd to the Gamnant and to Gavanog; from Gavanog to Deri Emrys; from Deri Emrys to the source of Ffrwd y Wyddon and Cecin Clisty, along Ffrwd y Wydden to Tav Vawr; along Tav Vawr downwards to Cymmer. Gwn yn dda am amryw o'r enwau nodir, a diau y gwyddoch chwithau hefyd. Heblaw yr Annales de Margan gasglwyd gan fynachod yr hen abatty ger tywod Aberafon-y mae eto ar gael rai cannoedd o weithredoedd ym meddiant y Talbotiaid a daflant lawer o oleuni ar hanes Morgannwg a'r cyffiniau. Gofelir yn fawr am y memrynau hyn, ac y mae haneswyr o safle Clarke a De Graig Birch wedi trafferthu llawer i wneud dosparthiad trefnus ar eu cynnwys. Er mor ddyddorol yw y Trioedd a Bucheddau'r Saint, ychydig o werth hanesyddol roddir arnynt yn awr. Nid oes sicrwydd ychwaith am awduraeth y Brut gafwyd yn Aberpergwm yn 1764. Tadoga rhai ef i Garadog o Lancarfan ei hun, ond boed hynny a fo, y mae o ddyddordeb neilltuol i ni I yn Siluria. Rhaid peidio anghofio y beirdd hefyd. Rhifant rai cannoedd, a dywedant lawer o hanes (heb yn wvbod iddynt, fynychaf) yn eu can- cuon. Yn y 15ed ganrif daeth y gelfyddyd o argraffu i fod, yr hyn a ychwaneg- odd at ein gwybodaeth yn fawr. Yn 1540 cawn Leland yn ein plith yn croniclo ei deithiau, tra yn y flwvddyn 1578 wele Hanes Mc-rgannwg gan Rhys Merrick o'r Cotrel, gwaith, er yn brin, sydd eto ar gael. Bydd gyda ni lawer i'w ddweud am y gwahanol ysgrifennwyr hyn, ond* gan mai cyflwyno dieithriaid i'w gil- ydd yw dyledswydd gyntaf moesgar- wch, dyna hynny o orchwyl wedi ei wneud. (I barhau.)
Byr Hanes.
Byr Hanes. AM MRS. MARY RICHAKDS, EBENEZER, ABERDAR. (Parhad.) Yn blentyn llafur y'i magwyd hi. Daeth yn gynhefin a chaledwalth yn gynar. Ychwanegu cufydd at ei j maint, ei nerth, a'i harddwch oedd ei nod gyda'i gorchwyl. Wedi ymostwng mor ufudd i ddeddfau mor fuddiol, gallesid disgwyl na ddaethai i wybod nemawr oddiwrth ddyfod ocrni na gwrcs nes i henaint a llesgedd ei gorddiwes. Ond gresyn meddwl cyn :amled y gorfu iddi orwedd ar wely cystudd. Gallasai hithau fynegu am ei blinderau helaethach," a'i "gwialen- nodau dros fesur"; "mewn caethiwed yn amlach "mewn marwolaethau yn lynych mewn llafur a lludded; poen a helbul yn fwy na neb. Pan yn 18 oed syrthiodd o ben y ty dros risiau'r ysgol, a bu ei heinioes mewn perygl j am ysbaid hir ar ol y ddamwain honno. Buasai wedi profi yn angeu i rai o gyrff eiddilach. Bu yn gorwedd yn ei gwely ac ymlusgo a'r ffyn am yn agos i bedair blynedd cyn y daeth i roi pwys ei throed a'i cham ar lawr. Bu bum gwaith dan law feddygaeth (oper- ation). Bu ddwy waith yn nghlafdai Llundain. Pwy broffwydai wrth ci, gweld yn laethferch wridgoch yn cario ystenau yn ei dwylaw o dy i dy yn Nhwvn-y-Carno fod cymaint o dristwch a chystudd yn ei haros. Mynasai godi allor o dan gyllell ei meddyg, a chanu emyn cyn cau ei llygaid. Heblaw cyfraniad y storm j a'r ddrycin ar lechweddau'r Gnol i harddu ei gwedd ac i ychwanegu ei ncrtfi. Y mynyddoedd safadwy oedd yn gysgod i'w hanedd, ddysgodd iddi ei gwroldeb disigl. Faint o egwyddor- ion moesol fynegodd y bryniau di- gryn i'w meddwl myfyrgar? Yn ngwyddfod y creigiau daneddog y fflachiodd y drychfeddwl am cfdewrdra disyfl yn ei chalon. Y pistyll darddai dan gesail y twyni fu ei drych i gan- fod ac i ddeall diwydrwydd. Deuai craill a'u hystenau i dynnu dwfr, ond deuai hi i dynnu gwers. Nid oedd swn alaw'r gornant redai dan ganu gydag ochrau'r gweunydd namyn dameg ar farddoniaeth Duw iddi hi. Tynnai wers o dlysni'r grug, a chan- fyddai adnod ar fon y ddcrwen. Y derw a'r creigiau oedd ei hathrawon, a chyfranodd yr hen athrofa oesol rhwng clogwynni'r Gnol ddoethineb rhwng c l o diwyrni i'w meddwl a'i chalon, a'r dylanwadau hynny ag oedd gan ei chylchfyd arni i fesur, a'i gwnaeth o ran ei meddwl, ei bywyd, a'i chymer- iad mor gryf, prydferth, a rhagorol. Ond- ANN PHILLIPS, yr hon roddodd fronau iddi i'w sugno a chynghorion gwerthfawrusach nag aur i'w maethu fu'r dylanwad mwyaf jar ei bywyd. Crefydd syml a selog ei mam oedd y rhamant dlysaf welodd erioed yn y cnawd. *Cedvrn oedd yn preswylio yn Nhwyn-y-Carno yr am- ser hwnnw. Hoelion wyth oedd y rhai esgynodd i bwpud ac a fugeiliodd y praidd yn Ebenezer y dyddiau hynny, ac nid y lleiaf o honynt oedd ei thad a thadcu ein gwrthddrych, sef y seraph bregethwr John Bowen, Pontypool (fel y'i gelwir). Cedrwydd Mynydd I)uw oedd y blaenoriaid hcf yd y dwthwn hwnnw, fel nad rhyfedd i Ann Phillips dyfu mor dal mewn ffydd a duwioldeb. Ni chawsai gwyll yr hirnos arwaf ei lluddiais i gario ei Mary yn ei breichiau i'r cyfarfod gweddi. Cawsai'r eira orchuddio ei dillad, a'r rhew wisgo'r llethrau ag ia, a'r cenllysg guro ei gwyneb nes ei gochi fel porphor cyn y rhoddai Ann Phillips anair i'r seiat. Ccrddodd lawer yn llewyrch y lantarn ganwyll o'r Gnol i'r capel a'i phlentyn yn ei chol. Hen addoldy'r Piwritaniaid oedd Ebenezer, Twyn-y-Carno, yn y blynyddoedd hynny, ac crys yn "Babcll y Cyfarfod" i'r Methodistiaid eto, ac yno yr esgyn ei gwenvlyth gyda'r llwythau i addoli hyd y dydd hwn. Parthed ei hallor a'i than nid oedd Ann Phillips o'r Gnol yn ol i eiddo Nansy Jones Crugybar, a serch i lawer blinfyd grocsi ei haelwyd glyd yn fynych, ac i drybestod i fygwth chwalu carnedd ei hallor, cadwodd ei than i losgi. Ni wehvyd hi crioed heb fod ei llaw ar aradr yr achos, a'i hys- gwydd yn dyn o dan yr arch. Ni chafodd pregethwr crioed ddisgyn o'i areithfa gan Ann Phillips heb ei bod wedi mwydo ei bregeth a'i "Hamen" a'i "Diolch Iddo." Coronodd lawer ar ei Gwaredwr yn nghyntcddoedd yr Arglwydd, ac vr oedd hyd yn oed praidd a gwartheg y Gnol yn gwybod am ei chrefydd. Er i orthrymdcr ar orthrymder gerdded ar ol eu gilydd, ac aros weithiau ar garreg ei haelwyd, ni pheidiodd a dilyn y golotn ac i gadw llechau'r cyfamod mam felly; gafodd Mrs Mary Richards i'w magu a'i meithrin ac i'w hyfforddi yn ewvllys a gwybodaeth yr Arglwydd. Ceir golwg arni nesaf yn symud— (I barhau.) *Gwel cyfrol J. S. Jones (Bran Ap Llyr), tud. 114.
Advertising
A RTIFICIAL LIMBS, Crutches, Eyes, Deformity Boots, Flat-Foot Supports, Steelless Easifit Trusses, etc. lady attendant; Belts, Belt- Corsets, Elastic Stockings, Trusses, etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-2. List free. Tel 1282.-Allen Pearce, Charles Street, Cardiff.
- - -..-.- -.-Cymanfa Bedyddwyr…
Cymanfa Bedyddwyr Dwy- rain Morganwg. Cynhaliwyd y cyfarfod hanner- blynvddol yn Nazareth, Blaenllechau, Ionawr 2iain a'r 22a'n. Cadeiriwyd gan yr is-adeirydd, Mr Richard Jones, Dowlais, yn absenoldeb yr Athro J. M. Davies, M.A., y cad- eirydd. Cymerodd Mr Richard Jones Ys- grifennydd Egl wys" yn destyn. Y mae ef ei hun wedi gwasanaethu ei eglwys fel ysgrifennydd am 34eg o flynyddoedd, ac am hynny dadleuai fod ganddo hawl i draethu ar y mater. Ymhlith pethau ereill dywedodd fod llawer o gysur a llwyddiant cglwys yn dibynnu ar ysgrifennydd da a galluog. Gellid olrhain anghydfod ami i cglwys i annoethineb ysgrifennyddion, ynghyd ag annealltwriaeth ymhlith y swyddog- ion i'r un achos. Yr oedd yn bwysig cael dynion goncst, doeth, amynedd- gar, a gras yn eu calonnau i'r swydd yn anad yr un swydd. Rhocs amryw awgrymiadau gwerthfawr ynghylch cadw cyfrifon, yn Qgystal a chyfar- wyddiadau i weithredu yn wyneb an- hawsterau. Barnai Dr. Edwards fod yr anerchiad yn un o'r rhai mwyaf ymarferol a wrandawsai erioed, ac awgrymodd y dylid ei argraffu, a rhoddi copi o hono i bob ysgrifennydd eglwys yng Nghymru. Cynhygiodd y Parch. E. W. Davies, Ton, bendcrfyniad yn erbvn yr ar- ddangosiadau dyrnol sydd mor gyffre- din yn bresennol. Tystiai nad oeddynt ond ymladdfeydd gwaedlyd ac ani- feilaidd oedd yn ddarostyngiad i war- eiddiad. Dywedai y Parch. C. Davies i foneddwr a fu yn gweled ymladdfa yng Nghaerdydd ddweud wrtho mai "gwlcdd o waed" ydoedd i borthi yr anifeilaidd mewn dynion. Dr. Edwards, Caerdydd, a dywed- ai fod y papurau dyddiol yn gyfrifol i fcsur helaeth am boblogrwydd yr ymladdfeydd hyn. Rhoddant fwy o amlygrwydd i'r pethau hyn nag i'r pur a'r crefyddol, ac ymcsgusodant yn enw'r cyhoedd dros eu hymddygiad. Ni dywedant pa ran o'r cyhoedd chwaith, ond gwna pob ymladdfa fwy o ddrwg nag ugain tafarn. Cynhygiwyd penderfyniad gan y Parch. T. T. Jones, Blaenclydach, yn annog yr eglwysi i wneud popeth yn eu gallu o blaid cadwraeth y Sul, a'r Parch. D. C. Jones i longyfarch eg- lwysi Caerdydd ar eu safiad pendcr- j fynnol presennol ac i ddymuno eu llwyddiant. Cyflwynwyd mater cynhaliad y weindogaeth gan Dr. Edwards, a dywedai fod y gweinidogion yn gwneud eu rhan yn galonnog er cynorthwyo yr achosion gweiniaid. I Di;;gwylir y bydd yr eglwysi yn dilyn eu hesiampl, ac y sylweddolir y ,£25,000 bwriadedig. Adroddai am engreifftiau o galedi mewn eglwysi gwlcdig. Derbyniasai lythyr oddiwrth un gweinidog a dderbyniai £ 1 yr wythnos. Talai 6s am rent. Yr oedd ganddo wraig a phedwar o blant i'w cynnal ar y i?s gweddill, ac ym- ffrostiai nad ocdd yn nyled neb ol ddim. Nid oedd peth felly ond hanes am law er o weinidogion yng Nghymruel heddyw. Siaradwyd gan y Parch. W. A. Wil- liams, yr ysgrifenydd cyffredinol, a'r cadeirydd, Mr R. Jones, ac amlygwyd cydsyniad calonnog y gynhadledd i gydweithio. Cyflwynwyd adroddiad y Genhad- aeth Gartrefol i sylw gan Mr T. Ed- munds, Llwydd Undeb Bedyddwyr Cymru, a'r Parch. C. Davies. Yr oedd hwn yn adroddiad calonogol. Cynhaliwyd oedfaon pregethu nos Fcrcher a thrwy'r dydd ddydd Iau.
I Glais. ! 1
I Glais. Dydd lati diweddaf claddwyd John Lewis, Balaclava, un o blant y cystudd mawr, ym Mynwent Seion. Bu yn di- hoeni er's tair blynedd. Gedy weddw a dau fachgen, wedi tyfu i'w llawn faint, i alaru ar ei ol. Tystiai y dyrfa luosog ddaeth ynghyd i hebrwng marwol ran John Lewis i'r fynwent mor fawr oedd parch yr ardal i'r teulu bychan. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch. T. E. Xicholas.
Oddiar Lechwedd Penrhys.
Oddiar Lechwedd Penrhys. Mae llawer o bryder a dychryn wedi bod ar rai o drigolion yr ardal hon yn ddiweddar, drwy fod y "tip" sydd yn perthyn i Gwmni y Combine wedi gor- bwyso ar ddarn o'r mynydd, a hwnw wedi agor, ac mewn perygl o syrthio, a gwneud difrod ofnadwy. Y maent yn ochelgar iawn drwy gadw gwylwyr arno. Gwnaeth peth o'r fath yma ddifrod mawr yn y Pentre Rhondda flvnvddau vn ol. » Mae cwyno mawr gan rai yn yr ardal hon a manau ereill o herwydd gwerthiant newyddiaduron Llundeinig ar y Sabbath. Credwn na fyddai o un niwed pe gellid rhoddi atalfa ar hyn. Tybia rhai fod y Gymraeg yn dad- feilio; na, y mae ein hiaith mor bur a chadarn yn awr ag y bu erioed. Yr ymarferiad o honi sydd ar adfail. Dylid siarad mwy o Gymraeg ar ein haelwydvdd. Gofynwyd i Napolean beth oedd yn angenrheidiol er cael byddin gref yn Ffrainc. Atebodd yn- tau, "Mamau." Eisieu mamau sydd yng Nghymru hefyd i ddysgu mwy o Gymraeg i'r plant, a dylai pob Cymro hefyd wneud ei oreu i eangu cylch- rediad y newyddiaduron Cymreig. Yr ydym yn ddiolchgar i rai o'r ysgolion dyddiol am eu hymdrech yn y cyfeiriad hwn. Gellir enwi Ysgol Pontyrhondda. Ymarferir cryn dipyn o'r Gymraeg yn yr ysgol hon, a dylai ysgolfeistri ein gwlad ddilyn yr un eisampl. Mac yr haint a elwir y Frech Goch wedi creu gofid i lawer o'r trigolion yma yn dd:weddar, a llawer o blant yn dioddef yn drwm, a rhai yn cael eu symud i- "Hedd y bcdd sy'n newid byd, Y dioddef yn ddedwyddyd." WILLIAM BASSETT.
Advertising
Stewarts yn Clirio. Y Gwerthu wedi Dechreu SUITS FOR "No Fit,, No Pay." Dros 20,000 o ddefnyddiau gwisgoedd a'u pris wedi gostwng o 34/ 30/ 25/- a 20/ i 13/3. "Pris isel," meddwch. Ie! ond hysbysiad da. Dug i ni gwsmeriaid newydd-baddlona'r hen—ceidw'r lle'n glir-ceidw ein gweithdai i fynd, a'r dwylaw'n ddiwyd ar adeg sydd fel rheol y tawelaf yn y flwyddyn. Wele i chwi rai llythyrrau o gymeradwyaeth heb eu ceisio. Credwn y cytunwch a ni eu bod yn siarad drostynt eu hunain gyda golwg ar werth y nwyddau. Ein hunig anogaeth i chwi yw, gelwch yn gynar. Yr ydym am eich boddloni, ac fel y gwyddoch, yr hydiau goreu a'n gyntaf. 2 Years' Wear. Grimsby. Dear Sirs, I have just discarded the Suit which you made me during your January Sale two years ago for 13/3. I have worn it continually for 23 months, and being a joiner it has had some rough wear. Yours truly, C.H. 3 Years' Wear. Middlesbrough. Dear Sirs,—I have pleasure in letting you know that I am still wearing the suit I purchased in January, 1910. This is wonderful wear for any price, let alone your price at la/3. If anybody wants to know tne value you give reter them to Yours truly, J. T. W. 4 Years' Wear. Preston. Gentlemen,—I bought a Suit (13/3) from you four years ago, and am still wearing it. It's the best suit I ever had at such a price, and believe me, [ am perfectly satisfied with it. Yours sincerely, G.N. On! fydd y Wisg yn gweddu ni fydd rhaid i chwithau datu Dyna'n ffordd ni, ac felly y mae llawn foddlonrwydd i chwithau yn sicr. Os na e lwch alw, bydd yn dda gennym anfon patrynau i chwi, ynghyda chynllun syml o hunanfesuriad, a llinyn mesur yn rhad trwy'r post i'ch cartre. The ina Tailors, 6 Canon Street, Aberdare; Oxford Street, Mountain Ash. (Branches in most principal towns between London and Aberdeen).