Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Colofn y Beirdd.I
Colofn y Beirdd. I Anioned ein cyfeillion barddol eu I cynyrohion i'r Hendre, Pontypridd.
[No title]
Drama Teulu'r Liechwedd.11 Maddeuwch i mi am dalfyru y.pen- nawd. Yr oedd y gwreiddiol yn rhy draethodol. Mae y ddau bennill olaf felly hefyd. Cam a'r awen oedd ceis- io gwthio yr holl gymeriadau iddynt. Rhaid boddloni ar y ddau bennill blaen- af yn unig. Feallai mai tipyn o hyfdra oedd i mi gwtogi y farddas wedi i'r awdures fy nghyfarch fel hyn:— Wele un o'r llestri gwannaf, Gwaelaf hefyd, gredaf fi, Yn dynesu yn grynedig Atat, Brynfab, fardd o fri, Gan gyflwyno i'th "Ysgubor" Gynyrch awen syml iawn. Rho fe'n ddistaw yn dy "fasged" Ps yw'r us yn fwy na'r grawn. Mi a fum yn hir betruso Rhag i'r fflangell ddod yn drwm Ar fy mhen, nes cael fy mriwio, A fy nghalon fel y plwm; Ond mi fentraf, doed a ddelo, Yn hyderus yn dy law Dros y rhiwiau serth nes teimlo Rhwystrau'n araf gilio draw. Anfoned yr awdures yn eofn eto. Gall wneud pethau gwell na'r pennillion a anfonodd y tro hwn. Yr Hen Rodfeydd.—Rhagorol, fel y gellid disgwyl oddiwrth yr awdwr. Dal- ied ein cyfeillion ieuainc sylw ar y delyneg brydferth hon. Dyma batrwm iddynt am eu hoes. Ystorm Cilfynydd.-Addawol ddigon, ag ystyried oedran yr awdwr. Rhaid cripian cyn oerdded. I galonogi y bardd ieuanc y cyhoeddir y gan, ond rhaid gadael y pedwerydd pennill allan. Ail adroddiad ydyw o'r pennill o'i flaen, ac mae yn llai barddonol nag ef. Y Lioer.Can lithrig iawn. Da chwi, gyfaill, odlwch yn well y tro nesaf. Gellwch wneud hynny yn ddigon rhwydd. Diolch i chwi am eich dymun- iadau da. Y Diwygiwr.—Englyn gwych. Crug y Mynydd.—Lied dda. Aeth y gan dipyn yn llipa gyda "ieir y myn- ydd," ond nid aeth oddiar y testyn. Bu rhaid cyfnewid ychydig ar y pennill olaf. Gyfieithiad Lead Kindly Light.—Nid yw hwn agos eystal a llawer cyfieithiad cyhoeddedig eisioes. Felly, afraid iddo wel'd goleu dydd y wasg. Llywelyn.-Lled annghysylltiog yw yr englynion hyn. Mae rhai o'r llinellau fel pe baent wedi eu taflu i fewn a phig- fforch, ar antur. Byddwch yn fwy gofalus yn eich dewisiad o eiriau. Di- ofalwch sydd yn cyfrif am lawer un sydd yma. Ail-luniwch yr englynion. Cofiwch hefyd nad yw yr ail englyn yn .cyrchu yn hollol gywir: i orthrwm Oedd aruthrol elyn." Sylwch fod y cydseiniaid yn un cwlwm yn y cyrch. Cywir fel hyn: -ei orthrwm Oedd warthddrudd, etc. Chwi wyddoch nad yw. yr dd yn gwneud un gwahanaeth yng nghysgod yr th. Pennillion i'r Nadolig.-Mae y rhai hyn wedi ymddangos mewn newydd- iadur arall. Felly nis gellir cymeryd trafferth i'w caboli. Maent erbyn hyn wedi mynd yn anamserol. Gwrhydri'r Gilfach Goch. Nid oes fawr ol gwrhydri ar y darn hwn. Bu- asai iaith rydd yn rhy dda iddo. Llenor a'i hysgrifenodd, ond nid bardd a'i cyfansoddodd. Bugeiliaid Penrhiwllecb. Rhaid gofyn am golofn gyfan i'r taled hon. Nis gall "gwyr Berdar" fforddio bod hebddi. Gwn am bob ysmotyn a enwir ynddi. Ond cofied y bardd mai un- waith yn y flwyddyn y gall ddisgwyl am golofn iddo ei hun. Cibroth Hatafaah. Ail wewch yr englynion hyn, a gwnewch i ffwrdd a'r geiriau "hyfrys" ac "hylys," a pheid- iweh a rhoi cymaint o "flys" ynddynt. "Nid da gormod o ddim." Can y Gwirion, etc.—Nid yw yr ail englyn yn deilwng o'r cyntaf, a rhaid eu gwahanu. Paham na welsech y proest I llafarog yn y cyrch: —" pe yma Pwy amheu, etc. ?" Cymru Fad.—A gaf fi ofyn gennych i ail wneud y gan hon, a gwnewch i ffwrdd a'r ail adroddiadau, Na wna'n wir," etc., etc. Mae yr hen ddull hwn I wedi gwasanaethu ei genedlaeth yn rhy hir. Hoffaf y syniadau, pe gallech gael gwared o'r ymlusgiaid sydd o'u ha-m- gylch. Porth y Colofn.-Mae y bardd wedi gwthio y drws i fewn, er diced a chlo. Doniol dros ben. Cadwed ein cyfeillion y gerdd wrth ochr y bwrdd, pan yn cyfansoddi, ac fe arbeda hynny lawer o j waith i mi, a pheth siom iddynt hwyth- au. Ac yr Oedd Hi Yn Nos. — Darn ¡ barddonol a chynhyrfus. Dylai ddod I yn ddarn adroddiadol poblogaidd. Ond feallai mai mewn cvlchgrawn y bu- asai yn fwyaf defnyddiol. Bydded ein cyfeillion yn amyneddgar. Fe ga pob cyfansoddiad sylw yn ei dro. j I'r Swyddfa: T. R. Johns, Cffwranog- fryn, Murmurydd, Gwynwawr, W. T. it Lloyd, loan Dulais, W. Bassett, Grif- fith D. Williams, Neddferch, Cenech.
' GAN Y GWIRION CEIR Y GWIR."…
GAN Y GWIRION CEIR Y GWIR." Rhy hynod yw rhai anwir-i'w coelio, Mewn celwydd y'i genir; Os am gael prif swm y gwir, Y gwirion yw'r un geirwir. Bronliwyn, Gelli. I DRAMA—"TEULU'R LLECHWEDD." Aed "Helyntion Teulu'r Llechwedd" I' I bob cwr o Gymru Ian, Er dyddoru, adeiladu, A dyrchafu gwlad y gan; Tyned allan y talentau Sy'n segura hyd y dydd, I Efelychu'r goreu grea I Ddaear newydd, Cymru Sydd. ) Rhydd oddiwrth afaelion pechod, i Rhydd yn ystyr lawna'r gair, Gorchymynion mawr y mynydd Roddwyd gan Etifedd Mair, Yn egwyddor fyw ym mywyd Meistriaid, gweithwyr, gweision Duw, Hyn a ddug y cyfnewidia.d, Rhai'n a'n dysga sut i fyw. YR HEN RODFEYDD. I Gwynfyd awen yw cael crwydro Etto'n ol i'r hen rodfeydd, Lie mae atgof yn blodeuo < Yng nghoedlanau'r encilfeydd Cryn y gwlith dan gyffyrddiadau Awel addfwyn blaen y wawr, A murmuron gloewach oriau, Drwy y dail sy'n dod i lawr. Dawns yr awel ar y twyni, Can aberoedd yn y glyn, Ac mae salmau'r dydd yn torn Yn gyfaredd ar y bryn. Gwena lili swil o'r ddaear Arnaf fendith newydd, tan; Nis gall drycin arwaf galar Ddifa blodau prin fy nghan. Mae peroriaeth yn y glaslwyn,- Nis gall hono fethu byw; Hawdd yw canu'n nglesni'r gwanwyn, Tymhor can ac alaw yw. Ceir addewid all ddyddanu, A cheir son am ddyddiau gwell, Pan fo gobaith yn dysgyblu Llygad ffydd i wel' d ymhell. Beth, er colli amjbell ddurtur 1 Tlws yw'r gwanwyn yn y coed, Ac mae can y delyn segur Mor berorol ag erioed. Pan ddaw gaeaf bywyd heibio, A'i ofidiau yn dorfeydd, Gwynfyd awen fydd cael crwydro Etto'n ol i'r Hen Rodfeydd. CENECH. Cilcenin, Ceredigion. YR ADNOD A DDYSGODD FY MAM. 'Rwy'n cofio 'hoff ddyddiau fy mebyd, 'Rwy'n cofio hen ysgol y lian, 'Rwy'n cofio y capel bach gwledig, A'r afon yn ymyl y fan Ond Ha!, o bob peth wyf yn gotio Sy'n cynneu fy enaid yn fflam, A gwneuthur fy nghalon i wrido Yw'r adnod a ddysgodd my "mam." 'Rwy'n cofio fy hunan yn chwareu A phlant melinydd gerllaw, A rhedeg i'r bwthyn ar brydiau Am gysgod rhag stormydd a'r gwlaw Ond er yr holl fwyniant a gefais Yn nghwmni nghyfoedion di-nam, Mwy anwyl na phobpeth a glywais Yw'r adnod a ddysgodd fy mam. Fe dyfais i fyny yn llencyn Yn caru barddoniaeth a chan, Adroddwyd i'm clyw lawer englyn Wrth eistedd yn ymyl y tan Er hyny er cymaint yw swynion Fy mywyd hyd yma bob cam, Y dyfnaf ar waelod fy nghalon Yw'r adnod a ddysgodd fy mam. Wrth gychwyn o'm cartref yn hogyn Dibrofiad i fordaith y byd, Dywedodd fy mam trwy ei dagrau Am gofio yr adnod o hyd; Ac 0! pan ar gefnfor temtasiwn, A'r tonnau'n fy nghuro bob cam, Fy angor gadarnaf hyd heddyw Yw'r adnod a ddysgodd fy mam. Mae mam. yn y beddrod yr awrhon, A'r tafod a'm dysgodd yn fud, A minau yn glwyfus fy nghalon Ar draethau gerwynaf y byd; Er hyny i gyd mi a lynaf Trwy rhwystrau y croesau a'r cam A'r geiriau diweddaf adroddaf Yw'r adnod a ddysgodd fy mam. Pe teflir fi i donau yr afon, Pe teflir fi'n aberth i dan, Daw'r adnod yn nghwmni adgofion I'm helpu a'i gwisgodd yn Ian; Pe syrthiwn i waelod truenu, Ni losgaf er coched yw'r fflam, Mae gormod o nefoedd o amgylch Yr adnod a ddysgodd fy mam. 'Rwy'n foddlon gwynefcu'r tragwyddol A ymchwydd gerwynaf y don, Mi nofiaf yn dawel a diddig Yn nghwmni yr adnod fach hon Ni fedra yr adnod ffarwelio 'Rol para yn ffyddlon bob cam; Rhyw nefoedd i mi ydyw cofio Yr adnod a ddysgodd fy mam. [ Treharris. T. H. LEWIS. PORTH Y GOLOFN. I Os af i mewn drwy'r porth, Mi af i'r Darian, Ond rhaid i'm fwyta torth, A chosyn cyfan; Mae'r porth yn awr mor gul, A'r beirdd mor egwan, Drwy fyw ar gnoi ei cil- I Ar sdg ac ebran. Mae'n rhaid i'r beirdd yn awr ¡ I ferwi'r cyfan, A berwi'r oil i lawr Gael aur i'r crochan; Mae'n rhaid i'r sothach fyn'd Yn dip o lygredd, j Nid gwiw i fod yn ffrynd I "Brynfab" lanwedd. Rhaid bellach daflu'r got A dechreu berwi, A gwylio rhag gwneyd blot Wrth ysgrifenu A chofio odli'n llawn Heb dwyllo llinell, Rhaid gwneyd yr oil yn iawn, Neu gael y gyllell. Ond chwareu teg i'r "Bryn" Am osod rheol, Rhaid bwrw llu i'r llyn— Neu'r "Ysgol Farddol" Neu aiff y grefft dan draed A'r gwaith i fasged, Ond cyll ein "Bryn" ei waed Wrth geisio'u arbed. Rhaid cael pob Ilinell, rhaid, A'i phen yn gyfan, Nis gellir mwy roi naid- Drwy borth y Darian, Heb fyn'd i mewn trwy ddrws 0 dderw Cymru, A rhaid cael darn go dlws Neu beidio canu. Mae'r pendew'n awr ar ben, A'r Darian newydd, Heb iddo wneuthur Hen A phrofi'n brydydd; Ni chaiff fyn'd mewn tu-cefn Gan "Brynfab" mwyach, Ca'r caeth a'r rhydd 'run drefn A Tharian burach. Mae'n rhaid diwygio i gyd Y beirdd a'u brodyr, Nid rhedeg draws y byd, Ond canu'n bybyr; Nes daw y werin wael I awcuhs ddarllen, A theimlo peth i'w gael- Heb gicio'r bellen. Gwahodder feirdd ein gwlad Ar fwrdd y Darian, A chanu iddi'n rhad Heb unrhyw duchan; Fel daw prophwydi lu At draed ein "Brynfab," Yr athraw enwog, cu, A'r eyfaill arab. Rhigof;. G W P A N- O F R Y I Rhigos. GWRANONFRYN. I
Nodion o Frynamman.
Nodion o Frynamman. GAN WALCH HYDREF. I Nos Fercher, lonawr 21, yn y Neu- add Gyhoeddus, cynhaliwyd cyfarfod o dan nawdd pwyllgor yr adeilad hwn. Llywyddodd Mr Evan Jones Morgans, Glyn Road. Derbyniwyd yr adrodd- iad am y flwyddyn ar ol hir ddadleu parthed gollwng neu rhoi y neuadd allan i bersonau neu y cyhoedd. Deu- wyd i'r penderfyniad i wneud 'bookings' o'r newydd o h.yn allan. Cawd ar- ddeall fod yr ysgrifenydd, Mr David Walters, yn ymddiswyddo am fod gan- ddo ormod o waith. Dewiswyd yn ei le Mr Willie Walters, Llandilo Road. Dewiswyd y rhai canlynol yn bwyllgor am y flwyddyn: David Walters, John Lloyd Thomas, Evan John Morgan*, Lloyd Thomas, Evan John Morgan, Gomer Lloyd, I. George, Dd. Jones, Wm. Thomas* (Bungalow), Glyn Rd.; Enoch Ware*, Griff B. Williams, Moun- tain Road; Charles Isaac, School St. Danny Rees; J. Martin Thomas, cashier, Glynbeudy Cynghorydd Sirol Gwilym Vaughan, Argoed House. Deallwn fod y pwyllgor diweddaf wedi clirio 2100 o'r hen ddyled. (* Dynodi hen aelodau.) Nos Iau, lonawr 22ain, ym Methania, Rhosamman, bu'r Parch. J. Lee Davies, Siloam (B.) yn darlithio ar "Wrthodwr y Goron." Y mae efe yn adnabyddus fel pregethwr trwy Gymru, ac ym- ddengys ei fod yn dringo i fyny fel dar- lithiwr. Y Parch. John Lltwelyn, Bethania, oedd y gwr yn y gadair. Nos Sadwrn, Ionawr 24ain, cynhal- iwyd yn Siloam gwrdd cystadleuol. Cadeiriwyd gan Mr P. H. Cowling, Station Road. Y beirniaid oeddent:— Cerddoriaeth, Mr Evan Maddock, A.C. amrywiaeth, y Parch. J. Lee Davies. Rhanwyd y wobr flaenaf am adrodd i rai dan 10 oed rhwng Annie M. Jenkins a Lizzie Llewelyn, a rhoddwyd yr ail i Bryn Maddock. Aeth Mary Thomas a'r wobr flaenaf am unawd i blant dan 10 oed, a Nellie Davies a'r ail. Rhannwyd y wojbr gyntaf am adrodd unrhyw ddarn i rai dan 16 oed rhwng Bessie Roderick ac Elizabeth A. Lewis, a rhoddwyd yr ail i D. T. Grif- fiths, Glyn Road. Aeth Bronwen Mo see a'r cyntaf am unawd i blant dan 16 oed, a Maggie Daviee a'r ail. Y carwyr goreu mewn llythyr oedd Miss A. Phillips, Station Road, a Miss Gwen- ny Hopkins, Park Street. Darllen cerddoriaeth, goreu, Miss Maggie Davies. Unawd tenor, goreu Garfield Roberts. Penhillion i Allor Carmel, Gwilym Phillips, Station Road, a Dl. Thomas, Gwaen-cae-gurwen, yn gyd- fuddugol. Unawd soprano, Miss Han- nah Thomas. Unawd bass, Llewelyn Roberts a Robert Parry. Adroddiad agored, Bessie Roderick. Prif ddarn, Yr Alarch" Cyfeillion (T. B. Evans) 67 o farciau; West End (G. Roberts) 67; Music Lovers (W. Llewelyn) 69. Y cyfeilwyr oeddent Mri. Morgan Lewis, SAmuel Moses, ac Arthur Williams.
Jiwbil y Tariannydd. I
Jiwbil y Tariannydd. I Detholiad o'r 1eiihillioit a Ganwyd. Mae ambell un cyn mynd yn hen I A'i heulwen yn troi'n welw, A chymhell mae y dyddiau blin' Yn silin ac yn salw; Ond mae'r Tarianwr megis llanc, Yn ieuanc ac yn hoyw. Mewn gwneyd daioni, doed a ddel, Gwas tawel yw'n gwestywr; A chynes yw ei dyner fron 0 galon gwir foneddwr I A chwmwl gwg ni welodd neb Ar wyneb y Tarianwr. Datganwn ddiolchiadau gant 1 Ar hwylus dant y delyn I'n gwron hygar sydd o'i fodd Yn rhoddi gwledd bob blwyddyn I goffa fod Rhagluniaeth rad Yn wastad iddo'n estyn. Yn nghanol rhiniau moethau Mills A frills y boneddesau, Mae'r ddau hen lane o dre' Caerdydd Bron torri'n rhydd o'u rhwymau, A brysio i geisio pob o ferch I doddi serch eu c'lonau. 42anaf finnau bennill lion I wron y cyfarfod, Am de, a bara brith, a llwyth 0 ffrwythau gore'r eyfnod, Afalau, orange, ffigys neis, Bananas breision hynod. GOH. ADGOFION MEBYD. I Mae Mills mor fyw a bu erioed, A'i oed bron Jbedwar ugain; II A chredu'r wyf y gwel y dydd I Y bydd yn gant a deugain. Dymunaf iddo nawnddydd bras, A Duw o'i ras a'i gwylia; I A phan gyrhaedda ben ei daith Ceir hiraeth yn Bethania. Caerdydd. JAMES REES. I Clod i arwr y cyfarfod Am ei roddion gwerthfawr hael; Pan yn dathlu ei benblwyddiant, Groesaw cynes sydd i'w gael. 'Nawr yn nghwmni can a thelyn, Cerdd ac awen sydd yn 'stor, Ac mae doniau'r Parchedigion Yn eu debar fel y mor. Dal mae Mills fel hoew lencyn, Ac yn chware'i dyner dant; Para wnelo'r w.yl ramantus I Nes bo'r rhoddwr dros ei gant. 10AN EITHRIN. I
I Margred Davies, I
Margred Davies, I Genedigol o Lanymddyfri, ac a ymfud- odd i Gastell Newydd, "Gwlad yr Aur," o Dredegar, oddeutu deugain mlynedd yn ol. Darllenwyd yr isod yn un o'r cyrddau gweddi misol a gynhelir yn ei hannedd, a ddigwyddodd disgyn ar ei I hail benblwydd wedi'r cant namyn deg. Deuddeg wedi'r pedwar ugain o flynyddau diwyd glan; Myn yr awen iddynt heddyw nyddu pennill bach o gan; Dyma oedran Margred Davies, ac mae swyn ei hanes gwyn Yn hud-ddenu dros fy nhelyn ganig fechan sydd fel hyn. 0 dan gur gauafau gerwin, chwalu mae y "ty o glai," Ond mae'r enaid drwy'r ffenestri'n son am fywyd i barhau; Os yw barug hwyrnos bywyd wedi llwydo'r anwyl wedd, Y mae blodeu'r "anian newydd" arni'n ) herio gwyll y bedd. Pie mae'r honwr hunan-dybus sydd yn gwadu'r bod o Dduw, Chwelir gan ei Margred Davies ei ddadleuon cryfa'u rhyw; Nid o'r ddaear daw'r tlysineb gwelir ar ei thyner fryd, Nid o'r llawr daw'r fath sirioldeb- blodeu'r nef yw rhain i gyd. "Gwlad yr Aur" yw'r enw roddir ar y dalaeth heulog hon, Ond daw'r dydd pryd yr amlygir faint o sorod sy'n ei bron, Cloddiodd hi i lawr yn ddyfnach am yr aur o well barhad, Ac hi weodd goron loewach—coron aur y nefol wlad. Dan ei chroesau bu'n ymgrymu lawer dydd ar hyd y daith, Ond bu cwmni Croes yr lesu yn melysu'r caled waith Mae ei hwyrddydd yn ddianaf, nid oes arni groes na chlwy', Ac yngwydd y gelyn olaf, can yn ber heb ofni mwy. Daw'r emynau yn finteioedd, hwyr a bore dros ei min, Dyma gariad fel y moroedd," ac i'r hen yn felus win; Hen darianau brwydrau bywyd, gad- wodd saethau'r gelyn draw, Troisant heddyw'n aur gerbydau i'w hebryngu'r byd a ddaw. Daw y Sel i'r Saint ymgasglu yn ei phreswyl yn ei dro, Ac mor hir ar ol gwahanu mae'r hyfrydwch yn ein co'; Gwagder deimlir wedi'i symud i'w thragwyddol gartref fry, Ond yn uwch fydd inoliant gwynfyd— etifeddes nef yw hi. I OSWAL.
Dosbarthwyr y 'Darian.' *
Dosbarthwyr y 'Darian.' Wele restr o "newsagents" ydynt yn gwertbu y "Darian" yn rheolaidd Aberdare Valley. Mr. Ed. Parr, Canon Street, Aberdare. Mr. T. W. Thomas, Cardiff Street, Aberdare. Mr. W. Cable, Canon Street, Aberdare. Messrs. W. H. Smith & Son, Duke St., I' Aberdare. Mr. T. Phillis, Pembroke St. Mr. Gwyddonwy Evans, Gadlys. Mr. Evan Hopkins, Trecynon. j Mr. Peter Davies, Cwmdare. Mr. David Evans, Llwydcoed. Mr. E. M. Evans, Abernant. Mrs. Norman, Aberaman. Mrs. Williams, Aberaman. Mr. M. Lewis, Aberaman. Mr. Joseph Griffiths, Cwmaman. Mr. W. R. Griffiths, 38 Bronallt, Aber- I cwmboi. -0 Mr. W. Peters, Mountain Ash. Mrs. Grier, Mountain Ash. Mrs. Davies, Mountain. Ash. Mr. W. Badham, Mountain Ash. Mr. Chris. Evans, Mountain Alia. Mr. W Magor, Penrhiwcelber. Mr. J. Powell, Penrhiwceiber. Mr. Ed. James, Penrhiwceiber. Mrs. Davies, Ynysboeth, Penrhiwceiber Mrs. Field, Abercynon. Mr E. R. James, Abercynon. Mr. D. Edmunds, Abercynon. Mr. D., T. Theophilus. Abercynon. Aberafon-Mr. J. H. Willsher. Abercrave—Mr. Daniel Jones, Grove House. Abertillery-Mr. D. Phillips, 7 Church Street. Amlllanford-Mr. J. John. Barry Dock-Mr. D. Jones, Pyke Street Post Office. Bedlinog-Mr. S. Williams. Birohgrove, Llansamlet- Mrs. M. A. Richards. Blaengarw-Mrs. Clements. Blaengwynfi-Mr. W. Edwards. Bonymaen—Mr. W. Dacey. Bridgend—Messrs. Wyman & Sons, G. W.R. Bookstall. Messrs. W. H. Smith & Son. Brynamman-Mr. D. W. Lewre. Burry Port-Mr. C. Snook, Station Rd. Caerau-Mr. G. Thomas. Caorphilly-Mr. R. J. Price. t;ardift- Messrs. W. H. Smith & Son, Penarth Road. Messrs. Joyce & Co., The Hayes. Mr. Dyer, 95 Queen Street. Messrs. Wyman and Sons, St. Mary Street. Cardigan: Messrs. T. C. Roberts and Son, 10 High Street. Carmarthen- Mr. W. G. Lewis, Jackson's Lane. Mr. W. Picton Davies, King Street. Messrs. Wyman and .Sons, G. W.R. Bookstall. Cockett-Mr. D. Mainwaring, Fforest- fach Mr. W. Davies, Fforestfach, Cilfynydd-Mrs. Lewis, Richard Street. Clydach- Mr. J. David. Clydach on Tawe—Mr. W. J. Davies. Clydach Vale—Mr. T. C. Davies. Cross Hands-Mr. Joshua James. Mr. Richard Jones. Mr. D. Roderick. Crynant-Mr. Thomas Jeffreys. Cwmbwria-Mrs. Griffiths. Cwmllynfell-Mr. D. Williams, Goleu- fryn House. Cwmparc—Mr. Evan Evans. Deri-Mr. W. Jones. Dowlail- Mr. Howells. Mr. T. Jones, Gellifaelog. Mr. M. Jones, Burry Square. Mr. James, Victoria Street. Ebbw Vale-Mr. W. H. Prole. Ferndale- Mr. D. Davies. Mr. Burrell. Garnant-Mr. Dl. Williams. Gilfachgoch-Mr. W. Rosser. Glais-Mr. G. Jenkins. Glyn.Neath- Mr. A. G. Price, High Street. Mr. T. Hazell, Cwmgwrach. Gorseinon—Mr. W. Llewelyn. Gwaencaegurwen—Mr. M. ThoinAB. Hirwain- Mr. H. Jones, High Street. Mr John Davies, Bethel Place. Mrs. Tweeny Mrs. Davies, High Street. Kidwelly-.Nlr. Jack Davies, Crwbin. Lianelly- Mr. lirmiey B, Jones Mr. Meudwy Davies. Mr. T. Eurwedd Williams. Messrs. Wyman and Sons, G. W.R. Bookstafl. Mr. J. Thomas, 38 Thomas Street. Maesteg Mr. 1. J. Davies. Mardy-Mr. E. E. Jeremiah. Merthyr- Mr. LJ. Davies, High Street. Mr. D. Bowen, High Street. Morriston- Mr. R. Roberts. Mr. Hughes. Mr. D. Thomas. Nantyftyllon-Mr. J. C. Jones. Neath— Mr. w. Rosser Messrs. Wyman and Sons, G. W.&. Bookstall. Newcastle Emlyn-Mr. Joshua Eynon. Newport-Messrs. E. Joyce and Co. New Tredegar—Mr. Maurice Jones. Patagonia-Campania Mercantile, Tre- lew, Chubut. Pantyffynon-D. Lewis, Fron Haul, Tycroes. Penclawdd-Mr. D. Davies, Gwalia Warehouse. Penrhiwoeibr- Mr Ed. James. Mr. O. Treharne. Pentrebach-Mr. B. Jenkins. Penygraig— Mrs. Williams, Tylacelyn Shop. Miss L. M. Evans. Pontardaws- Mr. J. L. Williams, Gw&lia House, Mr. D. J. Phillips, Alltwen. Mr. W. Jones, Alltwen. Mr. Owen Jenkins, Herbert Street. Mr. Emlyn Thomas, Trebanos. Pontardulais- Mr. J. Thomas. Mr. D. Thomas. Pontlottyn-Mrs. Jordan. Pontypridd-Messrs. Morgan Bros. Mr. E. Williams, Post Office, Maes-y- coed. Pontycymmer—Mr. J. Fox. Pontyeats—Mr. D. D. Davies. Porth- Mr. W. Thomas. Mr. W. Fudge. Port Talbot-Messrs. Wyman & Sons, G.W.R. Bookstall. Resolven-Mr. Trevor Davies, 4 Cory Street. Rhymney-Mr. W. W. Davies. Senghenydd—Mr. D. Williams. Seven Sisters: Miss E. Harris. Skewen- Mr. E. Evans. Mr. Lloyd* Sirhowy-Mr. Cartwright. St. Clears: Mr T. H. Thomas, Pleasant View. Swansea- Messrs. W. H. Smith and Son. Messrs. Wyman and Sons, G.W.R Bookstall. Mr. G. Williams, High Street. Tonypandy- Mr. J. Howells. Mr. Richards, The Square. Mrs. W illiams, Post Office. Treboeth, Landore: D. Roberts, Post Office. Tredegar-Mr. E. G. Bowen Treforest-Mr. Hill. Trehafod-Mrs. Edwards. Treharris- Mr. James Jones. Miss Jones. Treherbert— Mr. David Evans. Mr. Ed. Lewis. Treorchy— Mr. Prothero, High Street. Mr. L. Morgan, Bute Street. Mr. M. Williams, High Street Miss Davies, High Street. Tyloratown- Mr. T. Thomas. Mr. C. Powell Mr. David Thomas. Tumble-Mr. Lewis Treharne. Ynyshir—Mr. D. B. Davies. Ynysywl-Mr. D. Rogers. Ystalyfera—Mr. VS. Baker. Yatrad Rhomd&a- Mr. David Jones. William Street. Mr. Ll. Phillips, Ton. Mr. T. Thomas. Mr. W. Davies. Os oes rhyw ddosbarthwr o'r Dar- ian heb f< d yn y rhestr uchod, bydded cystal a'n hysbysu, er mwyn dodi ei enw i mewn. Prepaid Small Advertisements Inserted at the following specially low rates: One. week 4 wks. 18 wks. a. d. s. d. e s. d. 2Q words 0 6 1 6 < 28 0 9 51 3 a 4 36 1 0 3 0 7 0 These charges apply only to the follow- ing classes of advertisements :-Apart- ments, Situations (Vacant or Wanted), To be Let or Sold, Lost or Found, aid Miscellaneous Wants. Remittances may be made by Postal Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will b. charged. Advertising and Publishing Officee. Cardiff Street, Aberdare. Printed and Published for the Proprietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street.. Aberdare. in the County of Glamorgan.