Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

0 Deifi i'r Mor. I

News
Cite
Share

0 Deifi i'r Mor. I HWNT AC YMA YNG NGHER- I EDIGION. Llawenydd i ni yw gwelcd y I "Darian" yn dal mor ffyddlon i'r Gym- areg, ac yn parhau mor llydan iach ag erioed, heb gulni plaid na thawch sectyddiaeth yn andwyo y colofnau. Cofia rhai o honom am y rnifyn cyn- taf yn dyfod allan, a naturiol myned tu ol i hwnw i faes y Gwladgarwr lenyddol, dalentog, a chyfyd lleng o feib athrylith yn fyw i'r cot. ac onid yw yr anwyldeb a deimlir tuag atynt yn profi iddynt suddo yn ddwfn I galon y lienor ieuanc? Wel, bendith ar y Golygydd yn ei gadair, a llwydd fyddo ar y Darian i. hau goleuni ac i arwain yn mrwydrau egwyddorion mewn ysbryd gwerinol grefyddol iach. I Mewn cyfnod pryd y mae haint y I Saesneg fel pla yn cerdded drwy ddalenau newyddiaduron Cymru, mel- us yw gweled y Darian yn cadw mor ffyddlon i'n iaith. Mewn darn o Gymru mor Ymneillduol ac mor llawn o'r Gymraeg a Cheredigion, onid yw yn syndod torcalonus ein bod mor dlawd mewn newyddiaduron Cym- raeg. Gwir fod y "Faner" yn disgyn yma a thraw o Ogledd Cymru, ac wedi profi yn fendith o ddyddiau Hir- aethog i lawr, ac wedi arwain yn '68 ac yn mrwydrau y degwm, ond nid yw y derbyniad o honi yn gyffredinol o gwbl. Un o wroniaid penaf Cymru Fu ydoedd Thomas Gee. Taflodd ys- brydiaeth i rengoedd Rhyddfrydiaeth am lawer o flynyddoedd, a gadawodd fwlch mawr ar ei ol. Aeth y ddwy Faner yn un, a bydded bendith ar yr uniad. Ceidw y newyddiadur yma y iaith ac egwyddorion goreu y genedl yn fyw ar aelwydydd lawer. Ond beth sydd yn cyfrif fod wvth- nosolion Aberteifi ei hun mor Saes- yddol? Meddylier am wythnosolion Aberystwyth—dau newyddiadur yn perthyn i Ryddfrydiaeth ac i Ymneill- duaeth, a'r ddau i raddau helaeth yn nhafodiaeth y Saeson Paham ? Onid oes mwy o Gymry uniaith yng Ngheredigion nag yn unrhyw sir arall yn y De? Ac eto fe wthir iaith y Saeson drwy lenyddiaeth newvdd- iadurol i aelwydvdd y Cymry egwyddorol hyn Ai teg a'r hen Gym- ro ydyw ei orfodi i dalu ceiniog am ddarn bychan o newyddiadur, tra y mwyafrif mawr y colofnau mewn iaith nad yw ef yn gwybod ond ychydig am dani? Nid ydym yn cwyno ar lenydd- iaeth y ddau hyn, ond ar eu Dic Shon Dafyddiaeth. Gwyddom fod yr hynaf o'r ddau mor nerthol iach a'r un newyddiadur yn Mhrydain Fawr, a'r llaw gyfarwydd sydd wrth y llyw mor fedrus ac mor alluog a'r penaf a feddwn yng Nghymru. Hen arwr brwydrau lawer ydyw, a bendith anio; eto ambell i fflachiad o Gymraeg a geir ynddo lawer tro. Ai teg hyn a Sir Aberteifi ? Dylasai y Darian" gael drws agored yn mhob pentref, a thref, a'r holl gyichol-dd mwyaf gwledig drwy holl Geredigion, o Deifi i'r mor. Pa- ham? Yn un peth, o holl newydd- iaduron anenwadol y De, dyma'r Cymro mwyaf trwyadl, mae'r Gym- raeg mor eglur iach yn ei golofnau. Peth arall, nid oes ei ffyddlonach i egwyddorion Rhyddfrydiaeth ac Ym- neillduaeth. Eto, y mae yn gyfaill y gweithiwr, dyna ei "Darian," a bell- ach, y mae Brynfab, yr amaethwr a'r nenor profiadol, ac eraill, yn gofalu fod y wybodaeth ddiweddaraf yn myd amaethwyr yn cael y sylw manylaf. Nid dyna'r oll-onid oes perthynas neillduol b agos rhwng Sir Aberteifi a Morganwg a Mynwy? Beth pe dych- welal melblon a merched Aberteifi yn 01 gartref o Morganwg a Mynwy cyn dechreu Mawrth, 1914, dyna lie byddai "special trains" Er mwyn ymresymu'n athronyddol gyson mewn oes mor llawn o athron- iae .naturiol disgwyl fod symudiad- au y ?ardis yn Morganwg a Mynwy vn cael ,i Tfn yn ardaloedd Sir Abertelfi. Ac o r ochr arall onid budd- iol gan y "Cardis," fel y Deg Llwyth ar wasgar, yw hanes yr hen Sir, yr hen gartref, ie, hanes cyffredinol fudd- iol o bob cyfeiriad ? Pe yn disgyn yn y Maerdy, gwelsom ddegau o fechgyn glanau y Teifi, yn arbenig o Dregaron drwy Llanddewi-brefi, i fryniau Llan- fairclydogau. Disgyner yn y Rhon- I dda Fawr, pwy fedr enwi glofa heb I rywun o Sir Aberteifi ? Sawl Ueng o'r I bechgyn goreu ddisgynodd yn Nanty- moel o ardaloedd Llandyssul? pVVy anghofia y Cardi mawr, y Cardi Coch, Evan Lewis a Rhys ei frawd, etc., etc Yr un yiv'r hanes o'r afon i'r mor ac j o'r mor i'r mynydd. A gawn ni apelio at y "Cardis" ar wasgar am bostio y Darian gartref (i Sir Aber- tcin) ? wythnos i wythnos; dyna • r\ r *'r hen bobl! Hanes y lie y mae ?tydd a Tomos, etc., yn byw ar hyn j o bryd, a rhwng y Beibl a'r "Darian" | fe basia ami i hwyrnos gauaf wrth v   law.r }n ??"had digymysg, a? ar ddyddiau tyner y gwanwyn, a hwyrnos wresog yr haf, fe welir llawer hen bererin yn eistedd o flaen ei fwthyn, a'i wydrau ar ei lygaid, yn cael gwledd lond v galon. Apeliwn at--h am gofio yn drug,r- amdch^>ff c"1 1^° dru £ ar" hy" yn taflu "v d. S bydd "D Y n\ y Pe" I' r Darian" i gael mynediad helaeth i fewn, a'r canlyniad fydd enill derbyn- wyr a dosbarthwyr iddi yn mhob cyfeiriad, a daw Aberteifi a Morgan- wg a Mynwy yn nes at eu gilydd. Cawn ni eich hanes chwi, cewch chwithau lawer tamed o'n hanes ni yma, a byddwn oil ar ein henill. Y tro nesaf dechreuwn sylwi ar rai pethau o Deifi i'r Mor. LLENORYN. I

I r=====a=r Oddiar Lechweddau…

Briton Ferry.

I I I Ein Cyfeillion ynMertbyr.1

Ar Lannau'r Tawe. I

Nodion Min y Ffordd. I

I Llwynbrwydrau. I

Eisteddfod Gadeiriol Minny…

ARGRAFFWAITH. I

Advertising