Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

BWM Y BOBL. I I

I TIPYN 0 BOPETH. I I- 1"

News
Cite
Share

TIPYN 0 BOPETH. I 1" Dyma fei y dywed y Genedl ar bwnc y papur: Y mae'n rhaid i'r melinau papur gadw cyfrif eu cwsmeriaid fei y cedwir cyfrif mewn banc. Os caiff cwsmer fwy o bapur nag a ddylai gael, y mae Goruchwyliwr y Papur yn ymyryd ac yn. atal. Gwelir felly fod cael ychwaneg o bapur yn amhosibl. Cynllun rhai papurau o ddyfod tros yr anhawster ydyw codi eu pris er mwyn gostwng eu cylchrediad. Gwell gan y "Genedl" lynu wrth yr hen bris a chadw ei chysylltiad a'i llu darllenwyr. Mae cyfrif ariannol Eiste.,Odfod Genedlaethol Birkenhead newydd gael ei gyhoeddi. Cyfans-wm elw yr Eisteddfod ydoedd Slip, a'r Gymanfa Ganu, 188p. Mae hanner elw yr Eisteddfod yn myned i Gymdeithas yr Eisteddfod, a rhen- nir y gweddill rhwng gwahanol achosion. Yn eu' mysg rhoddir 70p i Gronfa Mrs Lloyd George ar gyfer y Milwyr Cymreig 70p i'r Ysbyty Cymreig yn Netley Cofeb Dewr- ion Gogledd Cymru, 50p. Cofeb Hedd Wyn, lOp. Mae'r Brenin wedi cymeradwyo penodiad Syr Arthur Walsh, K.C., V.C., yn Arglwydd Rhaglaw dros Sir Faesyfed. Bu'n Aelod Senedd- ol dros y sir honno o 1885 hyd 1892. Mae Pwyllgor Addysg Sir Ddin- bych wedi pasio nad yw gweinid- ogion mewn oed milwrol i gael eu cymr d i fod yn athrawon Mae afgraffiad newydd o Eirlyfr Spurrell, dan olygiaeth y Parch Bodfan Anwyl, yn awr yn llaw'r rhwymwyr. Mae wedi ei ddiwyg- io yn drwyadl, ac yn cynnwys 44 o dudalennau ychwanegol. Y mae Mrs Vaughan t)avies, Caernarfon, wedi ei phenodi yn drefnydd Merched Rhyddfrydig y De. Yn "Nharian y Gweithiwr" y mae y Parch D. Basset, Aberdare, yn dadleu'n dyn dros wneud tysteb i'r hen lenor Beriah Evans. Dyw- ed Pwy fel efe a wasanaethodd y werin gyda'r fath afiaeth, ac a roddodd gymaint golud i'w.llena'i barddas? Cofiaf yn dda am ei ysgrifau byw, oedd a'u dylanwad mor iach ar feddwl ifanc ein gwer- in, yng Nghyfaill yr Aelwyd" gynt. Gwir mai hogyn oeddwn yr adeg honno, ond bu ei erthyglau uwchraddol, a'i don foesol bur, yn symbyliad i mi ac i lawer eraill at y pur a'r dyrchafol ym rnyd lien a I' barddas. Erys eu dylanwad hyd heddyw, a sieryd rhai ohonynt gryfed ag erioed yn llyfrgelloedd amryw o blant yr Hen Gwm garw ei den, ond byw ei ergyd. Deil o hyd i ysgrifennu yn ei afiaith arferol. Wrth adolygu eiwaith a meddwl am ei ddylanwad ar len ei wlad, synnaf na fuasai ei enw ar lechres y rhai a anrhydeddwyd dro yn ol gan y Brenin. Dylasai ei enw ef o bawb fod ym mysg y rhai a urddwyd, nid fel mater o anrhyd- edd, ond o deilyngdod, i un a i wnaeth ac a wna gymainf dros ei j wlad a'i genedL Gan na chydnab- yddwyd ef yn ol ei safle a'i deil- yngdod gan y Prif Weinidog a'i Gyfrin Gyngor, onid yw yn fater o bwys i'w gyd-genedl ei gofio a'i gydnabod. Dywedir fod Swyddfa Iechyd i'w sefydlu gan y Llywodraeth ar gyn- ilun Arglwydd Rhondda cyn iddo adael, Bwrdd y Llywodraeth Leol. Dywedir fod y Swyddfa newydd i gymryd i mewd waith y Diprwy wyr Yswirio, a bod y Ddirprwyaeth Gymraeg i'wfdifodi. y

Advertising