Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BWM Y BOBL. I I

News
Cite
Share

BWM Y BOBL. I Ateb CwesUynau Pwysig, A yw y Rations bellach yn gyff redinol ?—Gan ddechreu ar ddydd Llun, y seithfed o Ebrill, bydd cynllun y Rations am gig mewn gweithrediad yn gyffredinol drwy'r deyrnas. Yn y rhan amlaf o ardal- oedd bydd ymenyn a margarin hefyd yn dod o dan gynilun y Nations—ond gall Pwyllgor Bwyd unrhyw ardal beidio, os dewisa hynny, osod ymenyn a margarin o dan reol y Rations. Mewn rhai mannau tra na ellir cael cig ond o dan gynllun y Rations, gellir cael ymenyn fel o'r blaen. A oes reol newydd ynglyn a phrynu cig moch ?—Oes mewn rhai mannau, a bydd yn debyg o ddod yn gyffredinol. Daw cig moch yn orfodol o dan gynllun y Rations ymhobman, hynny yw ni ellir prynu cig moch yn unman ar ol Ebrill y seithfed heb coupon.' Ond gyda hynny bydd rhaid, mewn mannau, registro mewn shop i brynu cig moch yr un iriodd ag a wneir eisoes i brynu cig fires. Lie bo y cyfryw reol ni ellir prynu cig moch ond yn unig yn y shop lie byddir wedi registro. Beth yw y rheol newydd ynglyn a phrynu ffowl, neu gwnhingen ?- 0 dan yr hen reol ni allesid prynu mwy na thri chwarter pwys o ffowl neu hanner pwyso gwnhingen am bob coupon cig. 0 dan y rheol newydd gellir prynu fel y canlyn Am un coupon Ffowl cyfan heb fod dros ddau bwys; Chwyad heb fod dros dri phwys cwn- hingen heb fod dros bwys a hanner un petrisen o unrhyw bwysau. Am ddau choupon: Ffowl heb fod dros dri phwys; chwyad neu wydd heb fod dros 41-, pwys; cwnhingen unrhyw bwysau dros bwys a hanner; I un pheasant. Am dri coupon Ffowl heb fod dros bedwar pwys; chwyad neu wydd heb fod dros ch we' phwys. ,I Am bedwar coupon: Ffowl o unrhyw bwysau dros bedwar pwys chwyad neu wydd heb fod dros 7J pwys twrci cyfan heb fod dros chwe' phwys. A oes mwy o.angen nag o'r blaen i godi bwyd gartref ?-Oes. Mae Byddinoedd Germani yn y brwydr- au yr wythnos ddiweddaf yn Ffrainc wedii difetha egin cropiau ar hanner can' mil o aceri o dir. Mae y cropiau hyn wedi eu llwyr ddimstrio. Bwriedid y cropiau hynny i fod yn fwyd i'n milwyr jii yn Ffrainc. Bellach rhaid i bawb yu y wlad hon geisio gwneud ei ran i wneud y golled i fyny. Y ffordd i wneud hynny yw i bob un a fedr wneuthur hynny, dyfu mwy o ddefnyddiau bwyd yn yr ardd, yn yr alotment, ac ar y fferm. A yw Cymru yn cynhyrchu digon o datws?— Mae pob Sir yng Nghymru, ag eithrio Sir Forgan nwg, yn cynhyrchu digon o datws at anghenion cartrefol ei.phoblog- aeth. Rhaid i Sir Forgannwg brynu 91,000 tunell o datws eleni i wneud diffyg llynedd i fyny. Ond nid yw bod Sir neu ardal yn codi digon at angen ei phoblogaeth ei hun yn ddigon. Yn y mater hwn, mater y bwyd, mae pob rhan o'r deyrnas fel yn gyd aelodau o'r un teulu mawr. Os bydd prinder mewn un rhan rhaid ei wneud i fyny o weddill rhanbarth arall. Dylai pob plwyf, pob pentref, pob ardal, gynhyrchu gymaint byth ag a fo yn bosibl o datws, neu o ryw ddefnydd byw arall, Cyn dechreu y frwydr fawr bresennol yn Ffrainc a chyn i'r Germaniaid ddinistrio y crop am eleni, dywedai Arglwydd Rhondda mai y rhych tatws, efall- aiyri fwy n" a'r rhychddryll (rifle) a enilla y rhyfel yn y pen draw.

I TIPYN 0 BOPETH. I I- 1"

Advertising