Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYTHYRAU Y MILWYRr

I LLITH O'R LLAID. I

News
Cite
Share

LLITH O'R LLAID. I Ffrainc. F'annwyl Gwynfryn,— Ar gais ambell i gyfaill, rhaid bodloni i sgwenu gair i'r Gwylied- ydd Newydd. Y mae'r drafferth o ysgrifennu, hynny yw, yr ochr gorfforol o'r gwaith, cyn gased I gennyf ag ydyw cerdded dug- boards" o fewn cyrraedd cyflegrau'r gelyn. Y mae mynegu fy marn, fy opiniynau a'm rhagfarnau yn bleser digymysg. Pe cawn wneud j hynny ar lafar gallaf ddychmyguj fy hunan yn tanio a mynd i dipyn I o hwyl, ond ysgrifennu, yn enwedig! yn Fflanders, nis gallaf synio am ddim annifyrach heblaw shavio s I h eb ddwr poeth ar fore oer tuallan i'r dug out,' ac yn gwneud stum iau, nid mewn drych, ond ar gauad, rhyw hen foes coffi. i hY mae'n wirionedd mewn medd- yleg fod yn hawdd goglais yr ochr ddigrif i'r natur ddynol mewn safleoedd peryglus a gorddifrifol. l Gwelais bersonau ddigon hunan-I feddiannol ar adegau cyffredin yn dueddol i gellwair mewn wylnos. Y mae syrthio llyfr Hymns mewn pdfa yn y capel yn foddion digrif- wch, ni chynyrcha y grychdon leiaf o wen dan amgylchiadau eraill. Y mae cynefindra a dyehrynfeydd, a cherdded beunydd a beunos ar glawr anwn, yn corddi'r hogiau i weled yr ochr wrthun, chwerthin- llyd a digrif mewn manion: can- euon plantos, troion trwstan, a dy wediadau ysmala.. Yr oedd ysprig- yn bach o swyddog y dydd o'r blaen yn hwyr yn codi, yr ellyn yn I eillio'nsal, y gwaed yn dyferu'n ddefnynri^u trymion oddiar yr en, y dwr wedi oeri, a'r gelyn dipyn yn brysur efo'r shells,' a'r gweddill yn ei brofocio yn dost, ac yntau wedi gwylltio'n gribibion. Disgynnodd I shell' yn ddigon agos i daflu llaid dros ei wyneb a'i ddillad a pharodd I yr olwg fwyafaflan arno welsoch ar ddyn fawr erioed. Gwaethyg- ¡ odd ei dymer ef druan, ond ni phallodd hwyl iach yr edrychwyr hyd yn hyn. Yr oedd mintai o Negroaid yn gweithio rai milltiroedd oddiwrth y line' y dydd o'r felaen, a chan bob un orchudd mewn bag ar ei I gefn rhag ofn i'r gelyn yru cyflegr- ¡ au nwyol trosodd. Rhoddodd un oedd yn cario bwced ei fag ef o'r neilldu, ond ar hyn dyma shell' I yn disgyn gyda thanchwa enbyd dros chwarter milltir oddiwrthynt. Mewn dtnrantiad rhoddodd pob un ei 'respiratgr' ar ei wyneb ond y gwr a'r bwced-rhoddodd ef dro neu ddau mewn braw, a tharodd y bwced ar ei ben, a rhedai ei gyn. nwys dros ei ysgwyddau aci lawr ei gefn. Darfuasai am danom oni- bae am heulwen y galon ddynol sy'n fwy parhaol ria gwreichion y fall fawr. Mewn dau le y gwelir y bechgyn yn ofnadwy ddifrifol—ar y blaen yn cwffio, ac mewn Qdfa'n addoli, gwneud eu dyledswydd ac aberthu dros gartref, ac agoshau at yr Allor Dragwyddol i addoli Duw. Pwy all gymodi'r ddau mewn syniad ? Cymoda'r bechgyn y ddau mewn teimlad. Darganfyddwyd ffynhon- au dyfnion o grefydd wirioneddol -ffydd syml, ddihunan-drwy ys- gytiad y rhyfel hon. Crefydd wan mewn syniadau, a rhai o'r syniad- au yn gyfeiliornus. Y mae dynion Pryden yn sicr iawn o un peth—ei bod yn llawer pwysicach beth yw dyn na beth feddylio. Y mae cref- ydd Pryden yn ddofn a goludog, ond y mae yn nodweddiadol ddyfnach a chyfoethocach yn yr hyn yw nag yn yr hyn y gwyr ei bod. Y mae yn noeth a gresynus o eisieu argyhoeddiad cryf ac effeith. iol. 0 na feddiennid ni a Gwir xonedd Efengyl Duw yng Nghrist. Ar fore oer, gethin, a'r gwynt yn torri drwy'r cnawd fel durfin, cych- wynais am bont ddieriw daflwyd dros gamlas ag ylbydd hanes ei drylliojyn fwy parhaol na hane^JJof ei drafnidiaeth yn y blwyddi fu. Costiodd gwneud y gamlas yn ddrud i'r oesau gynt, mewn arian a llafur, ond costiodd gwneud y bont daflwyd drosti ychydig fisoedd yn ol waed hogia dewraf Pryden,— llawer o Gymru annwy], bechgyn glan, glew, di wedwst, a di=droi yn ol. Y rnae'r nifer laddwyd cyn llwyddo i gwblhau'r bont yn ddychryn—ac fe erys yr hanes i syfrdannu cenedlaethau y dyfodol. Dros hon yr aeth fy nghyfaill Hedd Wyn gyda'i gatrawd ddiwedd Gorffennaf. Rhyw chwech wyth- nos cyn hyn, a mi yn dychwelyd o Drawsfynydd, cyfarfum ag ef ar noson hir ddydd haf ger Cynfal, hen gartref Morgan Llwyd. Tes- tun yr ymgom oedd Eisteddfod Birkenhead-ac arwriaeth-caw- som amlinelliad, ac ambell i ddarn o'r bryddest. Ymgomiwyd yn hir a diddan, nes i farug oer yr hwyr- nos ein-hatgofi-o fod ffordd faith eto cyn cyrraedd adref. Yr wyf yn mynd yn fy ol yfory am ryw hyd:" Dymunais ei lwydd i ddychviel yn ddianaf yn ol. Ymhen llai na deu- fis daeth y newydd ei fod wedi ei ladd yn Ffrainc. Mewn pabell oer, yng nghwmni swyddogion Seisnig oerach, y darllehais hanes y Gadair Ddu yn Birkenhead. Gofynais i'r Cyrnol faddeu imi am adael y bwrdd cinia -nis gallwn roi rhes- wm, am nad oedd yno un ddeallai yr amgylchiadau. Ond torrodd prufld der dros wyneb rai pagen- iaid pan ddarllenasant stori'r Daily Mail. Heno dyma fi mewn 'dug-out,' yng ngoleu cannwyll geiniog, yn cychwyn dweyd stori'r ymweliad a'i fedd. Y mae pawb a berthyn i'n haelwyd leidiog ni yn ei wely ers meityn, ond y llygoi a minnau. Y mae'r un awel glyw- odd Hedd Wyn, ac y cyfeiriodd ati mor dyner yn ei lythyr i'r Rhed- egydd," yn suo yn ddwysach heno, mi goeliaf, nag y gwnaeth erioed, hyd yn oed dros Fflanders, gwlad y gwaeau, gwlad dioddef a dinistr, gwlad y llaid diderfyn a'r llygod afrifed, gwlad y danchwa a'nlych- ryn, y llaid a'r Hid, gwlad waeth na dim ddychmygais am V lyn yn llosgi o dan a brwnstan." Palla iaith, y mae ochenaid yn ddigrif- wch, y mae gruddfan yn ysgafnder, y mae pob ystwriau mewn mynwes yn blentynaidd, ond—ond—y trach- want am Dduw. Fel y brefa'r hydd," ie, yn arw-yr iaith yn fler -weithiau'n rhea; ar dro yn gabl- edd dan y fref y mae'r syched. Fy ngwaith, i, a'IIl brodyr teilyng-, ach, ydyw dweyd "Deuwch i'r Dyfroedd bob un, y mae syched arno." "0 frodyr, gweddiwch drosom. Cofion puraf, TGWYS,

[No title]