Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
I0 WERSYLL CROESOSWALLT. I
I 0 WERSYLL CROESOSWALLT. I Sul neu ddau yn ol newidiwyd pwl- pud gyda'r Parch J. Roger Jones, B.A. Cafwyd el wasanaeth yn Saesneg ac yn Gymraeg, a mawr f wynhawyd y change. Y mae hyd yn ced son am ddyfodiad pregethwyr adnabyddus i'r Gwersyll yn peri llawer o hyfrydwch i'r milwyr, a siaradant am hynny am ddyddiau wedi'r wyl. Yr ydym yn ddiweddar wedi llwyddo i gael Wesleyan Institute mewn man canolog yn y gwersyll. Gofelir am dani gan staff o bump, ynghyda chynorthwy- on gwirfoddol. Gwerthfawrogwn yn fawr ymweliadau y Parch Evan Eoberts i'n cynorthwyo'n ddeheuig a siriol i estyn i'r, milwyr gwpanaid o de a chacen, cigarettes a matches, &c. Ar ol y gwasanaeth un noson aethum i gyn- orthwyo mewn rhan ;ráll o'r ystafell. Gweled yi ûddwn dyrfa yn llefain am drugareddau, ac medd un milwr bychan o Lancashire, Now, Sir, we just heard abat religion t'other side, let's have a bit o'it in na tê." Yn yr Institute cafwyd dau gyngerdd- rhagorol. Cynhaliwyd y cyntaf bythef- nos yn 0], a gwasanaethwyd gan y W C-L.O- Symphony Orchestra, drwy ganiatad Col. Sir Henry Webb. Daeth Madam Humphreys Lees, o Shrews- bury, i ganu ei ber dros ben, ynghyd ag eraill o'r gwersyll. Hawdd yw gweled fod yn y fyddin heddy* y talentau dis glfeiriaf, a gwneir defnydd rhagorol o lawer ohonynt. Wytbnos yn ol rboddwydd cyngerdd arall gan barti o'r King's Own." Noson wedi'r Nadolig rhoddwyd Social i dros dri chant o'r bechgyn—yn Gymry ac yn Saeson. Pe yn gallu fforddio buasem yn rhoi i ychwaneg. Yr Institute Wesleaidd yw yr unig sef- ydliad Ymneilltuol o'i fath yn y gwer- syll-yn agored foreu, brydnawn a hwyr! i bob milwr. I Y mae'n wir fod y Y.M.C.A. yn deil- wng o glod mawr, ond credaf fod yr enwad Wesleaidd hefyd yn gwneud gwaith da gyda'r Institute ac ystyried na cbyfranwyd ceiniog tuag atynt gan y cyhoedd. Boreu Nadolig cynhaliwyd gwasan- aeth crefyddol yn Gymraeg a Saesneg. Cynorthwywyd yn Saesneg gan fy Dghyfaill, y Parch Evan Roberts. Yr ydym yn ddyledus i Mr J. H. Profit, ac i Sergt. Gwaenys Davies am en cyn- orthwy gyda'r gwaith da yn y gwersyll. E. WYNNE OWEN, Caplan.
OAKFIELD, LERPWL.I
OAKFIELD, LERPWL. Edrychir ymlaen gyda dyddordeb at Sul olaf y flwyddyn gan gyfeiliion Oak- field,-dyms adeg cynhaliad ein cylch- wyl flynyddol. Eleni cawsom wasan- aeth y Parchn J Vernon Lewis, M.A., B.D., a Hugh- Evans (Cynfor), Rhyl. Traddodwyd pregethau grymus ac am- serol iawn, a'r farn gyffredinol oedd ein bod wedi treulio Sabboth da. Er fod cymaint o'r bechgyn annwyl yn y rhyfel yr oedd y casgliadau yn dangos cyn- L rydd. ♦ Yn ol hen arferiad ein hen wad caf- wyd Wylnos i ganu ffarwel a'r hen flwyddyn. Llywyddwyd gan y Parch T. Isfryn Hughes. Canwyd unawdau gan Miss Agnes Jones, a Mr John James. Nid dyma'r tro cyntaf i Mr James roddi ei wasanaeth yn Oakfield, ond ni fu erioed mor dderbyniol ac yr oedd eleni. Cafwyd hwyl ardderchog gan y gynulleidfa wrth ganu Cwm Rhondda." Cyfeiliwyd gan Miss M. J. Roberts. Traddododd Isfryn anerchiad hynod o bwrpasol, cafodd wrandawiad astud gan y cyfeillion oedd yn lleawi yr addoldy. Yn wir, mae Watchnight Oakfield wedi dod yn sefydliad erbyn hyn, ac mae Gymry y cylcb, o bob enwad, yn edrych ymlaen ati. Credwn yn ddibetrus y gallwn ddweyd fod y cyfarfod wedi troi allan yn foddion o ras i bawb oedd yn bresennol. Dydd Calan, cynhaliwyd cyngerdd mawreddog, Mr E. D. Williams, Daoey Road, yn llywyddu. Datganwyd gan I ,frs Humphrevs-Lees, Rhyl, Mr J. i Halton Morris, Miss Myrtle Jones, a Mr E. Walter Williams chwareuwyd ar y crwth gan Miss Morfudd Hughes, ac adroddwyd yn peaigamp gan Miss Myfanwy Hughes- Gofalwyd am y berdoneg fel arfer gan Miss Nellie Lewis, Bootle. Yr oedd y cynhulliad mor liosog fel yr oedd amryw yn gorfod sefyll. Gwaith go beryglus ydyw dweyd ghir am "y cantorion unrhyw adeg ond yr oedd rhai o'r farn nad oedd cymaint o fynd ar y canu ag mewn ambell i gyngherdd blaenorol. Meddylrych da iawn oedd cynnal "Reception Meeting" awr o fiaen y cyngerdd, i roddi cyfleus tra i ysgwyd Haw a'u gilydd, ac i gael ychydig o ymgom am yr amser a fu. YR HEN ESGOB.
j BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. Nos Iau, Rbaglyr 27, traddodwyd darlith gan y Parch D. Gwynfryn Jones ar Trapoeth wedi'r Rhyfel." Dyddorol ryfeddcl oedd clywed y darlithydd enwog yn gosod y byd yn ei le, h.y., yn dysgu sut y dylai petbau fod o hyn allan. Clywsom lawer o gamol ar y ddarlith cyn ei chlywed, ond ni fynegwyd yr hanner. Darlith benigamp yw hon GOH.
BEAUMARIS.
BEAUMARIS. Y dydd o'rblaen cyrhaeddodd y new ydd yma fod Gwenie Jones Williams (merch y Parch R. Jones Williams) wedi pasio arholiad cerddorol pwysig iddi hi. Deallwn nad yw Gwenie eto ond rhyw ddeng mlwydd oed, ond llwyddodd i basio arholiad yn y Junior Division ynglyn a'r Trinity College of Music, London, a hynny hefyd gydag anrhydedd. Nfd rhyfedd iddi gael ei phenodi yn organyddes yn ein capel. Yr ym yn siwr fod Mr a Mrs James Owen yn falch o honi. GOH.
CYLCHDAITH BANGOR. I
CYLCHDAITH BANGOR. Yng Nghyfarfod Chwarterol Cylch- daith Bangor a gynbaliwyd yn Llanfair- fechan, dydd Sadwrn, Ionawr 5ed, pas- iwyd y penderfyniad a ganlyn:- Pod y cyfarfod chwarterol hwn o Gylchyaith Wesleaidd Bangor, yn cyn- rychioli wyth o eglwysi, yn gwrthdyst, io yn y modd mwyaf pendant yn erbyn yr Adran yn y Mesur Etholiadol, sydd yn awr gerbron y Senedd, a am- eana at ysbeilio Gwrthwynebw r Cyd- wybodol i wasanaeth milwroi o'u breint- iau fel dineswyr. Mae yr adran yn gwneud yn ddirym y ddarpariaeth a Iwnaed yn Neddfau Gwasanaeth Milwrol Gorfodol, 1916, heblaw hyn erlidia I ddosbarth o ddynion a geisiodd fanteis- io ar ddarpariadau y Deddfau a enwyd, ac ymedy oddiwrth egwyddor sylfaepol y Cyfansoddiad.Prydeinig. Fod copi o'r penderfyniad hwn i'w Oknfon i'r Prif Weinidog ac i'r Ysgrifen- I nydd Cartrefol. I GRIFFITH J. OWEN, Ysg.
I GLYNDYFRDWY.
I GLYNDYFRDWY. Llawenydd digymysg i ni yma ydoedd cael gair o Germani bore Llun diweddaf oddiwrth Private WiHiam Hughes, yn dweyd ei fod yn iach, ond yn garcharor. Yr oedd y Caplan a dau o swyddogion y fyddin wedi smfon at ei fam yn dweyd iddo gael ei ladd Hydref 20fed, a mawr y galar o'r herwydd. Haws dychmygu na disgrifio ei llawenydd pan ddaeth y cerdyn oddiwrthofef ei bun yn dweyd mai carcharor ydoedd. Gweddiwn am J gysgod yr Arglwydd dros ein brawd, ac y caiff ei gadw nes delo'r amser iddo ddychwelyd i fynwes ei deulu. GOH.
I GORFFWYSFA, TREGARTH.
GORFFWYSFA, TREGARTH. Mae'n debyg bod yr amgylchiadau presennol wedi effeithio'n ddifrifol ar yr ardal hon mewn Uawer modd. Chwith yw gweled cyn lleied o'r dynion yn yr Eglwysi, er hynny, nodweddir yr ychydig 'adawyd adref a sel angerddol tuag at yr Acbos Mawr. Cafwyd prawf o hynny yn eglwys Gorffwysfa nos Dydd Calan. Penderfynodd y cyfeillion ar gynnal cyngerdd, gan cymeryd rhan hel- aeth o'r gwaith arnynt eu hunain, Ym- ifurfiodd cyfeillion cerddgar yr eglwys yn Gor o dan arweiniad medrus Mr. G. Williams, a datganodd amryw ddarnau ynyystod y cyfarfod. Melus odiaetb oedd gwrando unwaith eto ar leisiau fu'n swyno'r cylch am lawer blwyddyn. Greeyn na fa'i gofod i roddi enw pob un ond rhaid ymatal. Daeth cynhorthwy oddialian gyda'r unawdau gan Mrs Roberts a Parry a Misses Hughes a Thomas, befyd Mri 0. R. Thomas,, Eddio Owens ag eraill. Gwnaeth yr oil eu gwaith yn rhagorol. Cadeirydd y cyfar- fod oedd Mr 0. N. Roberts, B.A., Abei- tillery, ac arweiniwyd gan y Gweinidog. Haedda Mr Richie Pritchard, Bethesda, ein diolch gwresocaf am gyfeilio mor feistrolgar er nad yw ond prin 16 mlwydd oed. Gofalwyd am y trefn- iadau gan Mr. W. Roberts fel ysgrifen- nydd, a Mr. Lloyd fel trysorydd-a chlywsom bod y naill a'r Hall yn bynod foddhaol ar yr elw. GOH.
ITON PENTRE I
TON PENTRE Dydd Sul, Rhagfyr 23ain, cynhaliwyd cyfarfod chwarter yr Ysgol Sul yn yr eglwys uchod o dan lywyddiaeth Mr. William Owen. Holwyd yr ysgol yn y boreu yn y 4ydd benod o'r Philipiaid gan E L. Morgan, a cbafwyd amser da iawn,—dechreu da i waith y dydd. Cyfarfod y plant oedd yn y prydnawn. Gofalwyd am danynt gan Mri Evan Lewis, a Dd. Jones, a chymerwyd rhan gan y rhai canlynol:—Adroddiadau gan Blodwen Meredith, Gwyneth Lewis, Minnie Maud Lewis, 'Reggie a Freddie Jones, Danny Mason, Johnny Owen, a Teddy Mason, a chawsom gan gan T. Mason. Yn yr hwyr cawsom gyfarfod areithio. Cymerwyd rhan mewn areithio gan Miss Katie Morgan, John Glyndwr Lewis, a William Owen, ac mewn canu gan Mr. Dd. Jones, a Chor yr Aelwyd. Terfynwyd y cyfarfod mown ysbryd, a theimlem ein bod wedi cael Sabbath da ar ei hyd. CYMRO. I
I I'MANCHESTER.
I MANCHESTER. Dewi Sant,  Dewi Sant, Hardman St.—Y mae y aelodau yr Eglwys uchod wedi bod yn weddol brysur gyda gwahanol symud- iadau yn ystod y gaeaf hwn, Cyferfu y Gymdeithas mewn undeb a Chymdeithas Weaste yn rheolaidd bob wythnos, a chafwyd adegau buddiol ac adeiliadol Tawn. Yr ydym eisiodfe wedi cael tair darlith penigamp-un gan y Llywydd, y Parch J. Ellis Williams, ar y Deffroad Cenedlaethol yn y Ddeunawfed Ganrif," y llall gan yr Arolygwr, y Parch J. Felix, ar "Williams, Pantycelyn," a'r drydedd gan y Parch H. Monfa Parry (A.) ar "Gipsy Smith. Buasem yn hoffi pe buasai y eynhulliadau yn llawer mwyliiosog a mwy o arwyddion fod ein pobl yn sychedig am gasglu gwybodaeth o radd uehel. Cawsom befyd gyfleustra iddadlu a Chymdeithasau Pendleton, a Gore Street, yr oedd y dadleuon yn ddyddorol a brwdfrydig. Nos Sabboth, Rhag. 30, cawsom was anaeth gerddorol, pan y canwyd darnau neilltuol o'r Messiah'' gan Gor yr Eglwys, o dan arweiniad Mr. R. M. Williams, a'r Organyddes, Miss D, E. Jones, yn cael eu cynorthwyo gan I Misses Enid Williams, a Dilys Hughes, Mri. J. R. Davies, a J. Aneurin Roberts, a theimlem fod y wasanaeth o'r dechroa i'r diwedd yn un effeithiol iawn. Ni buom yn llwyddiannus i gael y Te arferol ar ddydd Calan torwyd yr arferiad sydd wedi bod mewn grym am gan' mlynedd, ond cawsom gyngherdd rhagorol yn yr hwyr. Yn ychwaegol at cartrefol a Chor Merched Gwalia, sydd yn aelodau o'r Eglwys, cawsom wasanaeth Miss Berthwen Jones, o Moriah, Helygain, a chanodd amryw weithiau yn swynol dros ben, a chaiff groesaw calonnog pan y daw yma eto. Llawenydd i ni oil oedd gweled un o ddynion ieuanc yr Eglwys wedi cyrraedd gartref o faes y gyflafan, set Lance Corporal Owen Jones, a gwnaeth ei ran yn deilwng fel datganwr, er mawr fodd- had i ni oil a chynyrchwyc1 ynom hiraeth am weled yr holl fecbgyn wedi dychwelyd i'n gwasanaethu yn yr un- rhyw fodd. J. M. W.
ICOLWYN BAY.
COLWYN BAY. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol yma y Sabboth olaf yn y fiwyddyn, a chafwyd Cyfarfod Ysgol teilwng o'r enw. Yr oedd ernes ddigon bod ol llafur ac ymdreoh mewn addysgu rhannau o'r Ysgrythyr a'r Holwyddorydd, &c. Llywyddwyd cyfarfod y bore gan Miss Davies, Glasmor, a rhoddodd anerchiad bwrpasol ac amserol ar y Pwysig- rwydd o drysori gair Duw yn y cof pan yn ieuanc." Ymysg adrannau eraill o'r cyfarfod y bore, adroddwyd xi. x beapod oMarc gan Miss Jennie Jones o'r Holwyddorydd Am Obaith Efeng- ylaidd gan Miss Nora Williams holi Maes Llafur IV, gan Mr Thomas Roberts. Yoghyfarfod y prydnawn llywyddwyd gan Mrs Jones, Heathfield. Adroddwyd Salm xli. Miss Jane Roberts, 98 Salm, Master Wilfred Brooks Jones, 9fed Salm, Miss Kate Rowlands, 2ted bennod o'r Philipiaid gan Restr Mr Fred Williams. Holi y plant, Mr Enoch Jones, 3 benndd o'r Holwyddorydd Ar Frenhiniaeth Crist'' gan Miss Phoebe Williams; canwyd yr anthem amserol 1111 Teyrnasa lesu Mawr Llywydd cyfarfed yr hwyr oedd Mr R. T. Jones, Arolygwr yr Ysgol Holi Maes Llafur iii. gan Mr D. Williams; 27 Salm gan Miss Annie Jones; 2fed o 'r Philipiaid gan MissfMaggie Roberts; vi bennod o'r Heb. gan Miss Williams. Darllenwyd y Roll of Honour gan Mr Fred Williams, a meddianwyd y gynulleidfa gyda dwyster a hiraeth pan y dymunwyd arnynt godi ar eu traed (fel arwydd o'r parch dyfnaf) i wrandaw darllen enwau y bechgyn a syrthiodd ar faes y frwydr, sef y rhai canlynol: David O. Rowlands, Edward Edwards, a David William Davies. Eiliadau trwm iawn oedd y cyfryw. Gweddiwn am i'r aflwydd hwn sydd yn ddychryn i'r byd gael ei symud ymaith ac i Dywysog Tangnefedd gael ei le priodol ym mywyd y cenhedloedd dirywiedig, ac i heddwch buan fod yn ffaith led, led y ddaear.
I GROES, LLANASA...
GROES, LLANASA. Ein pregethwr dieithr Sul Nadolig y tro yma ydoedd y Parch R. T. Roberts, Llanarmon. Dyma'r tro cyntaf i ni yn y Groes gael y fiaint o glywed Mr Roberts. Pregethodd yn rymus a dylanwadbl iawn. Edrychwn ymlaen at ei glywed yn fuan eto. Bu ein cyngerdd eleni eto yn llwydd- iant mawr. Y cantorion y tro hwn oeddynt Mr a Mrs Evan Lewis, a Miss Nancy Hughes, yr oil o Fangor, a MrR. Halcyn Roberts, o Halcyn. Cawsom wledd o'r radd oreu. i Da gennyni! weled y brawd Wilfred Nicolson adref dros y Nadolig, ac yn edrych yn dda. Mae ef gyda'r Flying Corps yn Surrey. 'V Da gennym ddeall fod y brawd W m. D. Jones, o'r eglwys hon, wedi troi ar wella ar ol ei glwyfo yn Ffrainc- Mae ef ers amser bellach mewn ysbyty yn Lloegr. UN WR GROES.
IMostYN I
MostYN I Sul Nadolig, Rhagfyr 23ain, breint- iwyd eglwys Bryn Seion a t-wasanaeth werthfawr Mr. D. D. Jones, T > ffynnon. Cafwyd bregeth, wedi eu sylfaenu ar egwyddorion pur yr Efengyl,-hoddweh a chariad brawdol yn cael y lie blaenaf, a phiofodd fod rhyfel yn bollol groes i ddysgeidiaeth Crist a'r bregeth ar y mynydd Cafwyd gwledd mewn gwir ionedd, a swn canmol ar bod Ilaw. Nos Lun, Bhagfyr 24ain, cynhaliwyd cyngherdd o dan nawdd y Gymdeithas Lenyddol. Llywyddwyd y cyfarfod yn hynod o fedrus gan y Parch W. 0. Luke, yr hwn sydd ar ymweliad a'i gartref. Cymerwyd rhan gan Misses Winnie Lloyd, a M. E. Jones, Ffynnongroyw, Rowena Hughes, Mostyn, Mri J. Haydn Jones, Ffynnongroyw a D. Hughes, Mostyn. Adroddwyr, Mri Ivor Ellis, a George Breeze, Ffynnongroyw. Offerynwr, Mr Ben Parry. Cafwyd cyfarfod da ac elw sylweddol. Diolch- wyd i bawb gan y llywydd- I W.R.