Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GWRTHWYNEBYDD CYD| WYBODOL.…

News
Cite
Share

Y GWRTHWYNEBYDD CYD- | WYBODOL. Mr Golygydd,— ¡ Carwn ychydig o'eh gofod gwerthfawr i ateb llythyr Mr R. Hugh es, Felinheli, ar fater y ) gwrthwynebwyr cydwybodol.  Credaf, pe buasai wedi darllen llythyr yn fanylach, nad ysgrif- jenasai fel y gwnaeth ond gan iddo dybied y gallai setlo fy nhynged unwaith am byth, tybiaf mai gwell i mi gaelgairag ef trwy gyfrwng y Gwyliedydd l Fy mhechod cyntaf yw apelio at Lywydd y Gymanfa am iddo roddi awdhrdod ei swyddo blaid protest Cymru Wesleaidd yn erbyn anghyfiawnder y Senedd. Ym- ddanghosodd fy apel yn y Gwyl- iedydd am Rhag. lleg. Yr wythnos flaenorol yr oedd erthygl arweiniol ddihafal yn y Gwyliedydd yn galw arnom i brotestio, ac yn yr un rhifyn yr oedd ysgrif gref ac argy- hoeddiadol gan y Parch. John Felix, Cyn-Lywydd y Gymanfa, R- Chadeirydd Talaith Gyntaf y Gogledd, yn gal w arnom i wneud ein protest yn hyglyw. A yw y brawd o Felinheli yn honni nad oes gan neb hawl i apelio at Lywydd y Gymanfa ar fater sy'n cyffwrdd mor agos a chyd- wybod a chyfiawnder ? Pa un ai cellwair neu beth y mae eich gohebydd yn ei baragraff nesaf? Dyma gwrs yr ymresymiad. Nid oes neb i apelio at Lywydd y Gymanfa ar ddim heb wybod ymlaen Haw fod y Llywydd ac yntau yn unfarn ar y mater dan sylw. Nid yw'r Llywydd i anfon gair at yr Arolygwr, heb iddo trwy ryw ffordd gyfriniol ddod i wybod fod pob Arolygwr yn unfarn ag ef. A thrachefn rhaid i'r Arolygwr alw heibio ei gydlafwrwyr a chael allan rywfodd eu bod hwythau yn cyd-olygu. Ac ar ben hyn oil, rhaid dod i ddeall fod pob cynrych- iolydd lleygol o'r Cyfarfod Chwar- terol yn cydweled ar y mater. Ac yn goron ar y cwbl rhaid treulio haner awr i aros uwchben mater y mae pa wb yn unfarn arno < A glybu rhywun tu yma i lidiart y mynydd am ffoledd o'r fath o'r blaen ? A yw Mr Hughes yn aeled o Gyfarfod Chwarterol ei gylchdaith ? Os ydyw, ai dyna'r ffordd y dygir y gweithrediadau ^mlaen? Ond hwyrach fod Mr Hughes wedi darganfod rheolau newyddion tua Felinheli, ac nad oes yr un arolygwr o hyn allan i ddcd ag unrhyw fater o flaen Cyfarfod Chwarterol heb sicrwydd ymlaen llaw y bydd pawb o'r brodyr yno'n un, heb vneb yn tynn'n groes. Aiff ymlaen i ddweyd fod dwyn y mater gerbron yn Anghyfundebol, am iddo gael ei benderfynu yn y Senedd ar linellau plaid. Pa fodd y gall hyn fod pan y gadawodd y Llywodraeth y mater yn hollol agored i farn bersonol pob aelod, a phan gofir mai'r araith hyotlaf yn erbyn difreinio ydoedd eiddo Arglwydd Hugh Cecil. Y mae'n wir fod mwy o Geidwadwyr o blaid difreinio nag o Ryddfrydwyr, ond yr oedd saith o Ryddfrydwyr sy'n cynrychioli Cymru o 'blaid difreinio tra y ceid 13 yn erbyn. Felly, ni ellir dadleu yn erbyn dwyn y mater gerbron am i'r Senedd ddelio ag ef ar linellau plaid. [ Ond a chaniatau ei fod on party lines," ai onid yw cwestiwn dirwest telly hefyd? A beth am Ddat- gysylltiad "? Ymladdwyd y cwest- iwn hwnnw yn hollol ar linellau plaid, ac er hynny bu o flaen ami i Gyfarfod Chwarterol, Taleithiol a Chymanfaol. I Os nad oedd yn Anghyfundebol i ymdrin a'r materion yna, ai tybed fod ymdrin a mater mor hanfodol bwysig a ffyddlondeb i argyhoedd- iadau cyd wybod yn anghyfundeb- ol ? A yw yn anghyfundebol con- demnio yr hyn a ystyriwn yn anghyfiawnder ? Os ydyw, aed Cyfundeb i'r wadd a'r ystlumod. Metha eich gohebydd a chanfod unrhyw gysylltiad rhwng pender fynu amddiffyn y Deyrnas fach a difreinio bechgyn y gydwybod. Y mae hen air yn dweyd nad oes neb mor ddall a'r hwn na fynn weled, a diau mai dyna'r cyfrif am anallu Mr Hughes i weled y cys- ylltiad. Rhoddasom ein gair i amddiffyn Belgium pe'r ymosodid arni, a'r un modd y gwnaeth Ger- mani. Torrodd Germani ei gair, a dianrhydeddodd ei chytundeb; cadwasom ninnau ein gair a l pharchasom gysegredigrwydd cyt undeb Dadl Germani dros y camwri a wnaeth ydoedd, "diogel- wch y wladwriaeth," "necessity knows no law." Os yw yr athraw- iaeth yna'n wir, pa fodd y gellir condemnio Germani am ddelio a'i chytundeb a Belgium fel "scrap of paper''? Yn awr y mae yn rhan o ddeddf filwrol y wlad hon fod hawl gan Dribunlysoedd y wlad i Iwyr ryddhau oddiwrth wasanaeth filwrol unrhyw un a brofai i fodd- lonrwydd, ei wrthwynebiad cyd- wybodol i wasanaeth o'r fath. Ni soniwyd gair am eu difreinio a'u gosod yn is yng ngolwg y gyfraith na lladron a Sinn Feiners. Eto, er i'r Llywodraeth gydnabod sane y gwrthwynebwyr cydwybodol a threfnu ar eu cyfer, dyma hwy yn awr yn mynnu eu cosbi trwy eu difreinlo. Mewn egwyddor gwnaeth y Senedd yr un peth a'r gwrth wynebwyr cydwybodol ag a wnaeth Germani a Belgium. Os felly y mae cysylltiad agos rhwng amddiffyn Belgium a difreinio'r bechgyn hyn. Os oedd yn anghyf- iawn i Germani dorri ei gair a Belgium, y mae yr un mor anghyf- iawn i'n Senedd ninnau dorri ei air a'r gwrthwynebwyr cydwybod- ol. Gr.esynnabae Mr Hughes wedi cadw at y testun, sef gwaith y Senedd yn difreinio bechgyn y gydwybod. Yn lIe hynny crwydra yma a thraw i ymdrin a gwaith y Tribunlysoe [d. Gofyna p-tham y mae cynnifer o'm brodyr yn y weinidogaeth yn gwahaniaethu a mi mewn barn? Gofynnaf innau, gwahaniaethu mewn barn ar beth ? Ai ar waith y wlad hon yn sefyll dros ei gair yn Awst 1914 ? Os ie, yna ni pherthyn y mater hwnnw i'r ddadl. Cydnabyddaf fod lliaws o frodyr teilwng yn methu cyfiawn- hau ein gwlad yn mynd i ryfel p dan unrhyw amgylchiad, ac yn credu y dylasem fod wedi cadw'n glir a'r helynt yn gyfangwbl. Ond os golyga anghytuno a mi ar gwestiwn condemnio'r Senedd am ddifieinio'r gwrthwynebwyr cyd- wybodol, carwii innau wybod ganddo yntau pa nifer ohonynt sydd yn credu fod hyn yn iawn ? Athrod ar ein Caplaniaid yw dweyd eu bod yn cefnogi erledig- aeth grefyddol Barn Pwyllgor Gweithiol Eg- lwysi Rhyddion Gogledd Cymru yw y dylid condemnio gwaith y Senedd, ac anfonodd benderfyniad cryf i'r gwahanol gynghorau i'w osod gerbron yr Eglwysi yn datgan hynny. A feiddia Mr Hughes ddod a phenderfyniad ymlaen i gymer- adwyo gwaith y Senedd ? Os gwna, meiddiaf innau a dweyd na chaiff un allan o bob dwsin o'n Cyfarfodydd Chwarterol i'w'basio. Nid oes a wnelo rhan olaf ei lythyr ddim a mi nac a'r mater dan sylw. Nid oes neb yn parchu mwy ar y bechgyn dewr sydd allan na mi, ac nid wyf yn credu fod Bechgyn y GydwybodL sydd yn y carchar ac allan ohono yn rhagori arnynt mewn unrhyw fodd. Ar alwad cydwybod yr aeth miliynau o'n bechgyn annwyl i faes y gwaed, ac ar alwad cydwybod yr aeth cannoedd eraill i garchar, Parchaf Iv rhai sydd allan ar y maes, ond parchaf hefyd y rhai sydd o gyd- wybod yn methu mynd allan, a rhyfedd gennyf fod neb sy'n enwi enw Crist yn gallu eu galw yn "llwfriaid fel y gwna eich goheb- ydd. Dylai blygu pen mewn cyw. ilydd am ysgrifennu'r fath air am rai o fechgyn mireiniaf ein gwlad. Eich cywir. I RHYS JONES.

Advertising

Safle Gweiaidogion Wesleaidd…