Hide Articles List

3 articles on this Page

CONGL YR AWEN.I

News
Cite
Share

CONGL YR AWEN. I DEIGRYN ATGOF I Am ydiweddar Mr John Hughes, Elwy House, Vale Road, Rhyl, yr hwn a hun- odd yng Nghrist, Tachwedd 5ed, 1915, yn 80 mlwydd oed. 0 angau ymerawdwr pob dychryn, A theyrn ofnadwyaeth pob gwlad, Ni feddi 'run radd o dosturi, Mae'th gleddyf yn wridog gan waed Nid effro un tf-i,nlad a'th fynwes, 'Does dagra a gynhyrfa dy fron, Mewn bar y rhwysg redi d'erch lwybrau, Gylch d'orsedd Ilif gwaeau'n ddu don. Fy nghyfaill, drywenaist yn sydyn,— Cyd-deithiem ar lwybrau hen 6ed, Cymeriad a garai fy nghaloh, A'i berson edmygwn erioed Gwr llawn o wybodaeth a phrofiad, Llawn doniau yng nghrefydd y Groes, Er hael gyfoethogi pawb dynion Yn ddiwyd tra parodd ei oes. 'Roedd iddo graff feddwl ystyrgar, Syniadau oedd eang a chlir, Nid byrbwyll derbyniai 'r un syniad Ond parod anwylai y Gwir; Ei €"nau a'i wenau a roddai Bob amser a chyngor erlles, Ei grefydd a'i foesau addurnol A ddygai bob bywyd a gwres. Hawdd gweled dwfn grefydd gyfoethog Feunyddiol y'mherson ein brawd, 'Doedd achos na chyfleu neb amheu Fod iddo rhyw gredo dylawd Gwr tawel, ac addfwyn, diduchan, Llawn myfyr yn neddfau y Groes, A'r unpeth yn set fawr ei Soar Fu 'i nefol hyawdledd hir oes. Y saint a hael wyliai 'i wefusau Gorseddau'r GWIRIONEDD a'r PUR, Yn eirias y llosgai 'i fawr enaid Mewn gweddi er pechod a chur Doi rhagddb y Cariad Tragwyddol I'r bobl yn ddistaw a swyn, Ai pawb i gyfrinion y nefoedd At Un fedr wrandaw pob cwyn. Bu iddo ddwfn hael argyhoeddiad. Ca'dd wers o ddidwylledd gan Dduw, A cherddodd groes lwybrau rhyw ddyn- ion, Ei fawredd i'r rheiny fu'r. friw Ei wyneb llawn gwir fu agored Oedd weithiau yn dramgwydd i rai, Ni fynai'r rhai hyn y gwirionedd, Eu hoff beth beunyddiol oedd bai. Bu gloewder a nerth ei gymeriad Yn gwario daioni ar lu, Mawr d'wysog yn nawn ei ddefosiwn Hir iawn fu ar loriau ei dy Ei gariad oedd fawr a dylifog, Ni ddettai gwag Ragrith i'w wydd, I Falchdet ni- roddai dderbyniad Na Hunan i'w ysbryd un llwydd. Rhyw orig o hedd a dyddanwch Oedd gwylio 'i fynediad i'r nef, Atgofto wnai a'rcheb ei wyneb m fachedd a'i weddi fu gref 'Roedd dwyster a nerth ei weddiau Ya ffyniant pob gras gyda Duw, Byw ddoniau diail argyfeoeddiad Delweddau ei gariad mewn byw. Pelydrau haelioni ei enaid Wasgarai dywyllwch y glyn, Galeuni ddu gefnffordd marwolaeth A ffydd ei gymeriad oedd wyn Gorffwyso wna heddyw 'rol dydd gwaith Tan golofn rhinweddau ya gam, Pan gyfyd i law y Trag'wyddol Sai'n ddigryn yng ngoleu y Farn. Tach. 1G, 1915. TREBOR MOK. HEN GAPEL BACH Y WLAD. Hen gapel bach y wlad, Fe fu dy rwysg yn fawr A chanwaith gwelwyd Ilu Yn'llanw seddau'th lawr Fel Ilanw'r mor, ond heddyw trai Sydd wedi dod pa Ie mae'r bai ? O'r dwyrain, gogledd, de, Fe welwvd, oni do, Yn dyfod atat ti I acidoli tan dy do, Rhyw luoedd gynt, ond llawer Uai Sydd erbyn hyn, pa le mae'r bai ? Hen gapel bach y wlad, Mae'r hen alawon mwyn, Adseinia'th furiau teg Oil wedi colli ei swyn Llawn blodau fuost megys Mai, Maent heddyw'n wyw, pa le mae'r bai? Hen gapel bach y wlad, Mae'th urddas bron ar ben Er iti unwaith fod Yn orsedd gras y nen Mae rhif dy geraint heddyw'n liai A'th nerth yn colli, p'le mae'r bai. Hen gapel bach y wlad, 'Roedd iti fwy o fri Na holl balasau'r wlad, Pan gyntaf gwelais di; Ond erbyn hyn mae'th fri ya llai Nag ydoedd gynt, pa le mae'r bai ? Ffarwelio raid cyn hir A chapel bach y wlad; Mae'r Cymru bron i gyd Yn cefnu ar eu stad Bob blwyddvn myned maent yn llai, Ai swyn y ddinas ydyw'r bai ? Hen gapel bach y wlad, Cofgolofn wyt er hyn, 1 filoedd gynt a fu Cydrhwng dy furiau gwyn, Yn plygu eu gliniau ar dy lawr Nes tynu sylw'r nefoedd fawr. Hen gapel bach y wlad, Os crymu mae dy ben, Cadd llu trwy gil dy ddor Wel'd pelydr nefoedd wen Daeth afradloniaid at eu Tad Trwy borth hen gapel bach y wad. Rio Wi-s., T. E. WILLIAMS.

BYD CREFYDDOL.I

Advertising