Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

4,1'4i V?kl .I A-, BY? L,

! Ebenezer, Blaenau Ffestinlog.…

MORIAH, PENRHYNSIDE, LLANDUDNO.

ST. PAUL'S, LLANDEILO.I

News
Cite
Share

ST. PAUL'S, LLANDEILO. I Cynhaliwyd Wesley Guild yr eglwys uchod nos Fawrth, Chwefror 17eg, o dan lywyddiaeth ein parchus weinidog, pryd y cawsom ddau bapur gan Mr D. Gorley Thomas a Miss Sannah Davies. Cawsom bapur diddorol ac adeiladol iawn gan Miss Sannah Davies, ar Y Tafod," a'r un modd gan Mr Gorley Thomas, ar "The Song that God missed." Diolchwyd yn gynes mewn ychydig eiriau pwrpasol i'r ddau gan Mrs R. J. Evans, ac eiliwyd gan J. T. 5 Lewis, ac arwyddwyd drwy y drefn arfer- ol. Gwasanaethwyd wrth yr Organ gan Ma Hugh Hopkins. ( Cynhaliwyd Wesley Guild yr eglwys uchod nos Fawrth, Chwefror 24ain, o dan lywyddiaeth y Parch D. Corris Davies. Yr oedd y noson yma eto wedi neillduo i < ddarllen papurau, a chafwyd papur gan Mrs Corris Davies, ar Canllawiau diogel- I wch," ac un arall gan Mr R. T. Evans ar Dewi Sant." Cafwyd unawd gan Lizzie Howells. Diolchwyd i'r ddau am eu pap- urau gan W. Thomas, Ysw., U.H., mewn araeth fer bwrpasol, ac eiliwyd gan Mr Thomas Thomas, Jeweller, ac arwyddodd pawb yn y drefn arferol. Y mae'r d jidd- ordeb a ddangosir at bapurau gan aelodau y Wesley Guild yn arwydd dda o chwaeth ein pobl ieuainc mewn llenyddiaeth er lledaenu eu gwybodaeth yn gyffredinol. Gwasanaethwyd wrth yr Organ gan Mrs Hugh Hopkins. J. T. LEWIS. I

ILANDUDNO. I I

Advertising