Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
"Y Gwjfifedydd Newydd, SCALE OF CHARGES FOR Small" Prepaid Advertisements IN GWYLIEDYDD NEWYDD." Situations Vacant or Wanted. Apart- ments to Let or Wanted, Miscellaneous Wants and Sales, Houses, Shops, Business, etc., to be Sold, Let, or Wanted, Partner- ships Wanted or Offered, GC. One Three Six 13 week. weeks, weeks, weeks s. d. s. d. s. d. s. d. 18 words 1 0 2 0 3 9 7 0 30 „ 1 6 3 0 5 9 11 0 40 „ 2 0 4 0 7 9 15 0 50 „ 2 6 5 0 9 9 18 0 63 „ 2 9 5 6 10 6 20 0 In future all small advts. sent for inser- tion must be prepaid. The inconven- ience of booking small amounts, and the subsequent expense of collecting the same, renders it necessary that this rule should be strictly observed, otherwise insertion cannot be guaranteed. Prices for larger spaces on application. ALL ORDERS, ADVERTISEMENTS, P. ORDERS AND CHEQUES TO BE SENT TO— The Manager, The New Watchman," Qelli, Flint Mountain, Flint, North Wales. AT EIN DOSBARTHWYR. Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy am flaen-ddl p 1/8; dau gopi 3/3 o dri i fyny i 6 copi, Geiniog yr un chwe' copi ac uwchlaw hyny, 10c. y dwsin. Pan anfonir i Wledycftl Tramor, bydd y prisiau uchod yn uwch, yn olfel y byddo y tal am y cludiad. ANFONER POB ARCHEBION F.RBYN BOREU SADWRN YMHQB WYTHNOS (R- Rheolwr, "OWyliedydd Newydd," Y aeiiil Coed-y-Flint, Flint, (logledd Cymru. tRsfNi ellir gwneud gostyngiad ar gyfrif sopiau heb eu gwerthu, ac erfynir am i'r dosbarthwyr ohehu yn ddioedi a'r Rhe- olwr pan y bo'nt yn derbyn mwy o gopiau nag y gellir eu gjwerthu. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter, ac oddigerth mewn amgylchiadau eithriad- 01 iawn, ni ellir rhagllaw anfon y papur am fwy na mis ar ol terfyn y chwarter i uarhyw ddosbarthwr a fo heb dalu ei gyfrif. f. ud_L,. TO OUR AGENTS. U TERMS. One copy of Gwyliedycjld Newydd" for One Quarter with Postage Prepaid—1/8; Two Copies of "Gwyliedydd Newydd" for One Quarter with Postage Prepaid- 3/3 Three, and up to 6 Copies, will be sent at the rate of One Penny.per Copy; Upwards of 6 Copies—lOd. per Dozen. No allowance can be made for returns; and the Agent is earnestly requested to communicate with the Manager when he is in receipt of more copies than he can sell. When copies are sent to Foreign Countries, the above prices will vary according. to postal charges. IfisfNo Parcels will be sent to any Agent whose Account is more than One Month overdue. ALL ORDERS TO BE SENT FOR SATURDAY MORNING EACH WEEK TO- The Manager, "New Watchman," Flint Afountain, Flint, North Wales. AT EIN GOHEBWYR. CYFETRIER POB GOHEBIAETH— V Golygydd, < Qwyliedydd Newydd," Y Gelli, Coed-y-Flint, Flint, Qogledd Cymru. Anfoner Newyddion erbyn boreu Tau neu byddant yn rhy hwyr. Ysgrifener ar tin wynel) i'r ddalen bob am- ser, a phob item ar ddalen wahanol. Rhodder I'vWcisg neu Press News ar yr amien. Os yn anfon gair cyfrinachol rho'J h* stamp ceiniog. Os na wneir hyn mi daltt ynddwbL haid i ■ loaebvdd—hen yn ogystal a newydM -anfon ei enw a'i gvfeiriad bob tro.
[No title]
Yn y Tyst'' y mae Y Wesleaid y Parch. 0. L. Rob- ac Undeb. erts yn son am y Wesleaid a'r Undeb cydrhwng yr enwadau y sonir am dano. AVele ei eiriau ef. Credaf y bydd yn dda gan bawb eu gwel- ed. Beth yw y lol a'r anwybodaeth a bair i rai pobl son am uno y Wesleaid a'r Eglwys. Os am ddod yn nes, rhaid i ni adnabod ein gil- ydd yn llawer gwell, ni goeliwn. Y mae O.L. yn iawn, ond wele ei eiriau Nid ydyw yr uchod ond ychydig allan o nifer o bwyntiau y gall y ddau enwad eu trafod heddyw, a dyfod i gyd- ddsalltwriaeth arnynt; a byddai gwneud hyn yn help sylweddol tuag at ddwyn oddiamgylch y delfrydyr ydych chwi a'm cyfaill, y Parch. John Owen, yn gwelcd eichffordd yn glir tuag ato. Mor belled a hyn, mewn un pwynt yn unigy gwahaniaethafoddiwrthych chwi eich dau, sef, nad wyf yn gweled fod gobaith uniad ffurfiol rhwng y ddau enwad ar hyn o bryd. Ond yr wyf yn gwahaniaethu yn fawr a'm cyfaill Mr. Owen ar bwynt arall. Nid wyf, fel efe, yn gweled ei fod yn amhosibl cael y Bedyddwyr a'r Wesleaid i gylch yr undeb y cyfeiriaf ato. Yn wir, ganbell- ed ag y mae yr undeb sydd eisoes mewn bod rhyngom fel enwadau yn mynd, y maent hwy mor flaerillaw a ninau. Nid wyf yn credu am foment fod cyfeiriad y Wesleaid at Eglwys Loegr. Y ffaith yw, fod corff y Wesleaid Cymreig hedd- yw mor bell o'r Eglwys Esgobaethol a'i defodau ag unrhyw adran ohonom. Dychmygaf weled a chlywed fy nghyfeill- ion, Thomas Hughes a Gwynfryn Jones, yn gwenu, os nad yn gwneud rhywbeth arall uwchben yr awgrym y byddai y W esleaidyn barod i ymuno ag Eglwys Loegr.' A gwelaf fy nghyfaill a'm cymydog hoff, y Parch. David Powell, vn edrych yn syn, mai y gwaith an- hawddaf fyddai cael y Bedyddwyr i'r undeb.' O'm rhan fy hun, buaswn yn dirmygu pob ymgais i gael gan y Bed- yddwyr i ymuno mewn unrhyw undeb fa'i yn golygu iddynt hwy roddi heibio safie sydd iddynt hwy yn fater o egwydd- or. Gwelwch mai y pethau y gwahan- iaethaf a chwi ydynt yn (1) Fy mod, tra yn gwbl ffafriol i undeb agosach a'r Methodistiaid, yn tybied mai anymarfer- ol ydyw son am uniad; ac yi., (2) Fy mod yn awyddus ac yn credu yn y pos- ibilrwydd o ddwyn y ddau enwad arall i gylch yr undeb hwnnw. Y mae y pethau a nodais ar y cychwyn fel rhesym- au posibl undeb rhwng yr Anibynwyr a'r Methodistiaid yn rhesymau posibl hefyd rhwng y pedwar enwad. Galwer y Gynhadledd yn Llandrindod, nid o'r ddau enwad, ond o'r pedwar aphwya wyr na bydd i'r Gynhadledd honno, a dweud y lleiaf, esgor ar undeb ihwng- enwadol Cymreig, ac felly fod yn rhyw- beth mwy byw ac ymarferol na dim sydd gennym eisoes yn y cyfeiriad dymiinol hwnnw." Dyma yn union y peth yr ysgrif- enasom ein hunain yr wythnos o'r blaen. Mae y cyfeillion Ymneill- duol eraill llawn cyn agored i'r Eglwys a'r Wesleaid yn reit siwr. Mae hi yn hen bryd i Ymneilldu- wyr, a honnant fod yn arweinwyr, beidio a ryw hen glebar fel hyn.
[No title]
Budirprwyaeth o bobl Dirprwyaeth a alwant eu hunain yn yr Anghydffurfwyr ynym- Eglwys. gomio a'r Prif Weinid- og, ynghylch y peth alwant hwy yn anhegwch Dadwaddol- iad. Wrth gwrs, gwyddom ni yng Nghymru pa fath Ymneillduwyr yw y rhai hyn. Y mae i'r fath fodau alw eu bunain yn Ymneillduwyr, chwedl Wil Bryan, yn fudge, ac yn chwerthinllyd i'r eiithaf Eto, yr oedd parygl i rai pobl yn Lloegr, na wyddont nemawr dim am Gymru, dybio fod y ddirprwy aeth yn un a rhyw gymaint o ddylan- wad a phwysau ynddi ond nicl oes perygl i neb yn Lloegr nae un man arall feddwl hyn byth mwy. Rhoes Mr Asquitb briciad deheuig dros ben yn eu pothell. Y mblithpethau eraill gofyn- odd y Prif Weinidog iddynt paham y danfonasant y ddeiseb iddo ef, ac nid i Dy y Cyffredin fel y dylid, ac fel yr ar- ferir gwneud bob amser ? Eu hateb oedd eu bod yn tybied ddarfod iddynt wneud y peth oedd yn briodol ac arfer- 01. Felly'n wir! &ynnent ymddang- os yn ddiniwaid a didwyll odiaetli; oncl nid ag us y twyllir hen adar." Gwyddai y gwyr hyn yn eithaf da pa fath ddeiseb oedd yr eiddynt, gwyddant y byddai ymchwil arni yn dra marwol iddi, ac felly i osgoi y dadansoddi ag y mae Ty y Cyffredin yn meddu yr hawl a'r gallu i'w wneud, anfonasant hi i'r Prif Weinidog. Yr oedd ei diniweid- wydd yn un pwrpasol ac amcarras iawn. Cawn grochfloeddio, meddant, fod 15,000 o Anghydffuiiwyr yn Esgob- laeth Lla-nelwy yn unig wedi ei hai wyddo, ac wrth ei danfon i'r .Prif Wem- iaeg, ac nid i'r Sene?d, cawn ocheiyd yr ymholiad a allai fod yn hoenus i ni, s'd. pa fath ai, Anghyc?lffui ?wyr ydyw y rhai y cawsom (ac mewn amrywiol ffyrdd) eu henwau. Wel done, John Williams. Pa Urddasolyn Eglwysig neu Dorriaid tybed a roddes iddo y tip hwn. Cwestiwn cyrhaeddgar arall Pd la y a roes y Prif Weinidog idd- maent? ynt oedd-Pa le y maent ? Chwi a ddywedwch, ebai Mr Asquith, fod 29 o weinidogion YmneiH- tuol wedi arwyddo y ddeiseb, a thua cant a haner o flaenoriaid a oes yma rai obonynt heddyw ? Bu raid i'r Nestoriaid mawr anghydffurfiol sy'n beiddio barn eu pobl, ac sydd yn debyg o orfod dioddef yn enbyd oher- wydd eu cydwybodolrwydd (?) gyd- nabod nad oedd gan neb o'r blaenoriaid na'r pregethwyr ddigon o wroldeb i ddod allan o'u cuddfanau ymhlaid y peth y teimlent yn ei gylch. Ffei ar y fath flaenoriaid a'r fath fugeiliaid am lechu yn glyd tu ol i'r gwrychoedd, a gwthio y diniweidiaf o'u praidd fel hyn i'r llif-ddyfroedd a'r ystorm. Gwyddom ni beth i feddwl am y blaenoriaid (?) a'r gweinidogion (?) hyn o'r blaen, ond bellach, trwy gwestiwn Mr Asquith, gwyr pawb trwy'r wlad beth i feddwl am danynt.
[No title]
—— iVV Y Mesur Dyma brif fanylion Trwyddedol Mesur Trwyddedol Syr Cymreig, J. Herbert Roberts, A.S., gyflwynwyd ganddo i'r Senedd yr wythnos ddiwedd. af-darlleniad cyntaf pa un a garlwyd trwy 246 o bleidleisiau yn erbyn 96:- Aracan y mesur ydyw hyrwyddr dirwest yh Nghymru trwy roddi i'r etholwyr yn y rhanbarthau pennodol reolaeth dros ganiatad ac adnewyddiad y trwyddedau, a thrwy wella y ddeddf o berthynas i gau ar y Sul, a chlybiau. l-Yr adeg pan y daw adranau dewisiad lieol o'r mesur i rym fydd o 1920, y flwyddyn pan y bydd pobl Ys- gotland yn sicrhau rbeolaeth. y trwy- ddedau yn eu rhanbarthau hwy. 2—Y cwestiwn i gael ei gyflwyno i'r etholwyr fyddont:—(a) Penderfyniad i beidio newid; (b) Penderfyniad i gyf yngu; (c) Penderfyniad o ddim trwy- dded. (a) Os ceir mwyafrif o bleidleisiau yn ffafr y penderfyniad i beidio newid, bydd y cyfryw benderfyniad yn cael ei ystyried wedi ei gario. (b) Os ceir mwyafrif o bleidleisiau yn ffafr penderfyniad i gyfyngu (dim llai na 35 y cant o'r etbolwyr wedi pleid- lelsio), ystyrir y cyfryw benderfyniad fel pe wedi ei gario, a lleiheir an rhan o bedair yn nifer y trwyddedau. (c) Os bydd 55 y cant o'r pleidleisiau yn ffafr penderfyniad o ddim trwydded (dim llaina 35 y cant o'r etholwyr yn y rhanbarth wedi pleidleisio), bydd y cyfryw benderfyniad yn cael ei ystyried wedi ei gario. 3-Bydd y rhanbarthau fel y canlyn (a) Mewn achos o fwrdeisdref neu ranbarth dinesig a renir yn wards, gyda phoblogaeth o ddim llai na 25,000, un- rhyw ward o'r cyfryw fwrdeisdrefi neu ran barth dinesig. (b) Mewn achos o fwrdeisdrefi neu ranbarthau dinesig eraill, yr oil o'r fwrdeisdrefi neu ranbarth dinesig. (c) Mewn achos o ranbarth gwledig, pob plwyf yn y rhanbarth gwledig. Y personau cymmhwys i bleidleisio fyddont y rhai ar restr yr etholwyr bwrdeisiol a phlwyfol. Bydd y penderfyniad" y deuir iddo mewn grym am dair blynedd. Pan fyddo penderfyniad o gyfyngu wedi ei basio, bydd yn ddyledswydd ar yr ynadon trwyddedol, mor fuan ag y gellir ar ol pasiad y penderfyniad, i gyf- arfocl i'r pwrpas o benderfynu sut y mae'r penderfyniad i gael ei gario allan. 4—Deddf Cau y Tafarnau ar y Sul yn Nghymru i gael ei estyn i sir Fynwy. 5-Cymhwyso i Gymru a sir Fynwy ddarpariaethau y Gyfraith yn Ysgotland o berthynas i allu yr awdurdod trwydd edol, arolygiad gan yr heddgeidwail, ac amgyicbiadau yn dwyn cysylHiad a cnofrestriad.
I ABERMAW.
I ABERMAW. MARWOLAETH MISS ELLIS. Y mae ein heglwys wedi cael colled ddirfawr ym marwolaeth Miss Ellis, Staffordshire House, un o aelodau hynaf a ffyddlonaf yr eglwys, Ychydig welwyd ar hyd y blynvddau ynt fwy cyson yn odfa bore Sul ac yn yr Ysgol Sabothol. Yr oedd yn aelod selog o'i Rhestr, ac yn haelionus yn ei chyfraniadau. Cafodd pob symudiad ynglyn a'r Achos a symudiadau da y dref ei chefnogaeth bel-- aethaf, a'i chynorthwy gwastadol. Meddai galon dyner a buchedd sanctaidd. Nid oes ond ychydig er pan gollodd ei dwy chwaer Mrs William Owen (y pregethwr), a Mrs Warren. Bellach nid oes ond un, ei brawd Mr Ellis W. Ellis, yn arob o'r teulu. Cafodd oes led faith. Hunodd yn yr Iesu yn 77 mlwydd oed, Chwefror ISfed, a dodwyd ei gweddillion materol i orffwys yn hen fynwent gysegredig Llan- aber y Sadwrn dilynol. Cydymdeimlir yxt fawr a'i brawd a'i nith Mrs Ellis G. Owen, Staffordshire House. Penderfynodd ael- odau ei dosbarth yn yr Ysgol Sul gyflwyno. Llyfr Emynau hardd yn anrheg i'r Ysgol Sul i fod yn arwydd o'u serch ati a'u parch i'w choffawdwriaeth fel un o aelodau ffyddlonaf yr Ysgol Sul. Cyfiwynir yr anrheg y Saboth nesaf.
,DETHOLION GWLEIDYDDOL
DETHOLION GWLEIDYDDOL Deddf yr Yswiriant. Mr Bonar Law (C.), a ofynodd i Mr Lloyd George pa un a allai y Prif Arch- wilydd ddweyd yn awr a fyddai nifer liosog o gymdeithasau cymeradwy dan yr Yswiriant, pan wneid prisiad arnynt, yn analluog i dalu isafradd y tmddion dan Ddeddf yr Yswiriant ? Mr Lloyd George a ddywedai nas gellid ar hyn o bryd roddi unrhyw btisiad ym- ddiriedol, gan nad oedd y profiad o fudd- iant afiechyd a buddiant o analluogiad ond bvr. Modd bynag, gyda'r eithriad o rai galwedigaethau peryglus yr oedd cf aid(,itha.au N. cyn!on yn hollol o lewa yr amcangyfrif. Yr oedd y gorhawlion yn effeithio ar gymdeithasau y merched priod. Yr oedd pwyllgor swyddogol ya edrych i mewn i'r holl fater. Cododd Mr Bonar Law unwaith neu ddwy etto i herrio yr attebiad, a dywed- odd Mr Lloyd George ei fod ef yn atteb ar ol bod mewn ymgynghoriad a'r Prif Arch- wilydd. Mr Bonar Law a ofynai oni wnai y cy- hoedd dynu'r casgliad fod y ddeddf ya fethiant ? Mr Lloyd George: Y mae'r boneddwr gwir anrhydeddus yn rhoddi y casgiiad y buasai efe ei hun yn ddymuno i'r cyhoedd ei dynu. Fel llawer o gasgliadau dynir gafitldo, y mae ar yr hysbysrwydd mwyat amherffaith.' Amcangyfrifon y Llynges. Ymffurfiodd y Ty yn Bwyllgor ar Am- cangyfrifon chwanegol i'r Llynges, a chymerwyd y gadair gan Mr Whitley. Yr oedd y bleidlais yn golygu chwanegiad o I.,500,0,00p. Gwnaed mynegiad maith ac eglur gan Mr Winston Churchill (Prif Arglwydd y Morlys). a: nododd bedwar nea bump o resymau dros y chwanegiad hwn yn yr amcangyfrifon--cynnydd yn y gost ar olew, program newydd o ddyfeisiadau awyrenol, cynnydd cyflogau yn y dociau, penderfyniad y Weinyddiaeth i adeiladv yn gynt dair rhyfel-long o brogram 1913- 1914, oherwydd methiant Mesur Cynortfe- wyo Llynges Canada i basio yn ddeddf, ac yn olaf gor-enillion y contractor.' Mr D. Mason (R.), a gynnygiodd ostyng- iad yn y bleidlais. Caed trafodaeth faith, acoattebwyd i'r ddadl gan Dr. Macnamara (Ysgrifenydd y Morlvs). Ymranodd y Ty Dros y gostyniad 34 Yn erbyn 231 M wyafrif yn erbyn 203 Gohiriwyd trafodaeth bellach ar y bleid- lais hyd dranoetli. Trethiant y Fasnach FeddwoL Mr E. T. John (R.), a alwodd sylw Cang- hellydd y Trysorlys, yn y Senedd, at y ffaith fod Ysgotland yn cyfranu 22s. 10c. y pen i'r Cyllxd, a Lloegr a Chymru ddim ond 16s. 9c. y pen a gofynai a allai efe weled ei ffordd yn glir i chwanegu y treth- iant ar y gwirod yn Lloegr a Chymru fel ag i sicrhau cyfraniad cyfartal i'r hyn del- id dros ben gan Ysgotland ac oni fuasai y cyfryw drethiant chwanegol yn galluogi y Canghellor i ddileu y doll ar de a siwgr. A fuasai efe yn ystyried hyn wrth barotoi ei Gyllideb nesaf? Mr Lloyd George a ddywedai ei fod yn ofni nas gallai feibwysiadu yr awgrym. Yswiriant y Di-waith. Cynnygiwyd penderfyniad yn y Senedd3 gan Mr Arthur Henderson (Llafur), yn galw am eangiad yr yswiriant i r tli-waith. < symud cwvnion neillduol, ac ymchwiliad i anghymtehwysderau aliant fod yn ddyied- 'us i anghydwelediad masnachol. Attebwyd gan Mr. John Burns (Llywydd BYVJdd Masnach), gan addaw mesur o welliant y flwyddyn hon fuasai yn cliric>- i fyny amryw o'r pwvntiau godwyd.
[No title]
Gwyr llawer o ddar- Yr Eglwysi llenwyr y Gwylied- a Phurdeb. ydd fod Pwyllgor Canolog Ymneilltu- wyr Cymru wedi penderfynu ar ffurf o wasanaeth unol a phwysig i'r Eglwysi Rhyddion i ymgymeryd a'i gyflawni yn y dyfodol agos. Am ddegau o flynyddau, bellach y mae yr eglwysi hyn wedi bod yn canolbwyntio eu hegnion, mewn cydymgyrch i sicrhau rhyddid a chydraddoldeb crefyddol i'r genedl, i gael iddi fanteision addysgol gwell, ac i'w sobreiddio a'i chref- yddoli. Ac, yn ffodus, nid ydynt wedi eu gadael i lafurio yn ofer. Yn wir, ymae eu llwyddiant wedi bod gymaint fel yr ymddengys na fydd galwad am eu cefnogaeth i rai o'r cwestiynau hyn ond am ychydig amser ymhellach. Y mae cydraddoldeb crefyddol i Gymru tyn y golwg, ac y mae ei chyfun drefn addysgol vwedi ei pherffeithio yn eithriadol o gy?ym a boddhaus. Ond nid ?w cenhadaeth gymdeith- ?asol a chrefyddol Ymneulituaeth? Gymreig yn myned yn llai angen- rheidiol a phwysig gyda phender- fyniad y materion hyn. Yn wir, ymddengys fod iddi orchestion moesol a chymdeithasol mwy han- fodol i ffyniant y genedl eto i ym- gymeryd a hwy. Ac y mae ei buddugoliaethau ysblenydd yn y gorffennol yn rhoddi ysbrydiaeth a hyder digonol iddi i wynebu arn- ynt yn ddiofn. Ac un o orchwylion mawr yr Eglwysi Rhyddiono hyn allan yn ddiau fydd codi safon foesol y gen- edl. Ac at hwn y geilw y Pwyll- gor crybwylledig eu sylw a'u hym- roddiad, yn enwedig yn yr ardal oedd poblog. Mae eisoes gyfar- fodydd i agor yr ymgyrch bwysig wedi eu cynnal mewn rhai ardal- oedd o'r fath, ac y mae y gefnog aeth gref a brwdfrydig a roddwyd iddynt yn argoeli yn dda. Ac ymysg y lleoedd yr ymwelwyd a hwynt yn ddiweddsr v mae Merth yr Tydfil, ac anhawdd gennym feddwl fod eglwysi unrhyw gylch wedi dangos awydd cryfach a mwy unol i wneud eu rhan gyda'r mud- iad nag eglwysi y dref hon. Eglurodd yr Ysgrifenydd- y Parch. James Evans-amcan yr ymgyrch, a'r modd y bwriedid ceisio ei sylweddoli. Wrth wneud hyn, crybwyllodd nifer o'r drygau yr amcenir ymosod arnynt fel rhai y mae eu tuedd uniongyrchol i ddarostwng safoxi foesol ein cenedl, megis Hapchware, Anfoesoldeb, Ymladdau, Iai'.I' A'^wed'Jus, Esgeu- lusdod o r Ysgol Sul, a Halogiad y Sabboth. Yna nododd fel achosion o'r pethau hyn, Ariangarwch, Mas- nach Isel, yr Awydd am Ddifyrwch a'i Foddhad Niweidiol, a Llen- yddiaeth Ddichwaeth a Llygredig. Barnai y gellid atal llawer ar y drygau hyn trwy ffurfio Cymdeith- asau Addas i'r Ieuainc, Addysg yr Eglwys a'r Pulpud, Llenyddiaeth Bur, a thrwy Gydweithrediad Rhiehi. Cafodd Mr Evans wran- dawiad as.tud a gwerthfawr. Dyma fudiad a gwir angen am dano. Mawr obeithiwn yr el yn ei fiaen. Tybed nad allwn rwystro rhwysg y llanw paganaidd sydd yn y tir. »» »