Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL.

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. W v t h nos neu Yr Annibynwyr ddwy yn ol gal- a'r Methodistiaid. wasom sylw at I lythyr y Parch. John Owen, Criccieth, ynghylch undeb cydrhwng y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr. Mae y mater yn un diddorol a phwysig iawn, gosodwn yma ddifyniadau allan o erthygl y Golygydd yn y Tyst" diweddaf. Dywed y Golygydd Yn teilyngu fod y peth yn teil- sylw. yngu sylw. Dyma ei eiriau Ymddang- hosodd llythyr yn y Goleuad yr wythnos ddiweddaf oddiwrth y Parch. John Owen, M.A., Criccieth, sydd o'r fath bwysigrwydd eith- riadol i holl Ymneilltuwyr Cymru, ac yn arbennig i ni fel Annibyn- wyr, fel na wnawn yr ymddiheurad lleiaf am ei gyhoeddi yn gyfan yn ein colofnau heddyw, gan apelio yn daer ar iddo gael y sylw a'r ystyriaeth ddwys a gweddigar a lawn deilynga oddiar law pawb o'n darllenwyr a gar lwyddiant teyrnas Crist yng Nghymru." E d d y f y Golygydd Dadieuon hefyd fod y dadleuon y rhaid eu yn rliai y mae yn rhaid cydnabod. cydnabod eu pwys. Dywed Mae'r ys. tyriaethau lluosog a difrifol a ddug Mr Owen dros geisio gan enwadau Cymrui ddod i agosach undeb a'u gilydd yn gyfryw ag nas gall neb ystyriol beidio teimlo eu pwys a'u gwerth. Mae anghenion newydd yr oes, a godant yn naturiol o gwrs tyfiant a datblygiad pethau, yn feddyliol, cymdeithasol a chref- yddol, heb son am ereill a greir gan y cyfnewidiad mawr gymer le yn sefyllfa Eglwys Loegr yn Nghymru y foment y bo Datgysylltiad wedi dod yn ffaith, yn galw arnom gau ein rhengoedd a dod i gydweith- rediad agos a'n gilydd fel enwadau, er cyfarfod yn effeithiol a hwynt. Mae problemau o'n blaen eilw am bwyll a doethineb a duwioldeb unol yr holl enwadau os am eu dadrys yn iawn. A chredwn fel Mr Owen nad yw vr anhawsderau yn rhai nas gellir dod drostynt, oseir o'u cwmpas yn ysbryd y Meistr, a chyda'r amcan syml o hyrwyddo Ei Deyrnas ogon- eddus Ef ymysg gweiin Cymru. Mae'r gwahaniaethau athrawiaeth- ol rhyngom fel enwadau bron wedi cwbl ddiflanu, ac nid yw ffurf-lyw- odraeth ymysg pob en wad wedi dianc rhag effai,th gyson profiad ac amser a chynnydd er lleddfu a llyfnhau llawer arnynt, fel ag i'n dwyn yn llawer nes at ein gilydd nag oeddym hyd yn oed ddeugairi mlynedd yn pi. A'r fath fantais aruthrol i grefydd bur fyddai dod yn nes eto, fel ag i wneud i ffwrdd a phob cyd-ymgais enwadol, a lliosgi achosion lie nad oes dim yn galw am danynt, a barnu oddiar lefel uchaf ysbrydolrwydd crefydd y Testament Newydd. Eithr os yw hyn yn amhosibl gyda'r holl enwadau ar hyn o bryd, tybed fod Mr Owenymhell o'i Je pan yn datgan ei farn y gall y Methodistiaid a'r Annibynwyr yn, ddiymdroi ddechreu ystyried y mater o ddifrif." Geilw Golygydd yn y Anogaeih geiriau a, ganlyn sylw o'rAlban. at y peth sydd eisoes yn ffaith yn yr Alban, a,gofyna onid yw hyn yn ysbryd- laeth i geisio credu a gwneud peth tebyg yng Nghymru. Dviiia felyr ysgrifenna "Un o'r pethau mwy- af bendithfawr i ysbryd a grasusau dwy brif Eglwys yr Alban yn ystod IV blynyddoedd diweddaf yw y Pwyllgor Sefydlog sydd wedi ei ffurfio ganddynt i glirio'r ffordd i I¡undeb' A beiddiwn ychwanegu fod y gwahaniaethau rhwng y ,¡If ddwy Eglwys hyn yn llawer mwy na dim all ysgaru rhwng y Meth- odistiaid a ninnau, yn gymaint a'n bod yn rhydd oddiwrth gwestiwn pigog y cysylltiad a'r Wladwriaeth a gwaddoliadau gwladol. Yn wir, erbyn heddyw, ychydig iawn yw'r gwahaniaethau mawr sydd rhyng- om a'n gilydd. Teimlwn ni fel Annibynwyr fwy-fwy o angen cyf- lumaeth achydweithrediadenwadol I nag a feddwn er cwrdd a gofynion cyfiawn gwerin byd oddiar ein llaw, yn arbennig yn yr ardaloedd poblog a gweithfaol, yn ogystal a mwy o gyd-ddealltwriaeth a chyd- ymdeimlad i ddibenion eglwysig a disgyblaethol. O'r ochr arall. y mae'r Methodistiaid wedi dod i gydnabod cynulleidfaoJia^th eu heglwysi mewn materion mor bwysig a'r weinidogaeth a swydd- ogaeth, yn ogystal a democrataeth a chydraddoldeb eu haelodau a'u hawl i'w llais a'u Haw ar bopeth hanfodol i fuddiant eu heglwys a'u hen wad. Tybed fod y ddau enwad mor brin o statesmen eglwysig,' chwedl Mr Owen, fel nas gellid troi y sefyllfa bresennol yn y ddau wersyll i fantais uchaf a pharhaol y ddau enwad a'r Efengyl ? F el y dywedasom o'r Yr Enwadau blaen, gweddiwn am ereill i ryw dda ddod o a'r Undeb. hyn yma. Credwn lei eGolygydd y Typt y byddai cynal cynhadledd yn Llandrindod i ystyried y pwnc ynddo'i hun yn foddion bendith anrhaethol i'r ddau Gyfundeb. Pe na ddeuai dim pellach ohonno, byddai trafod a gweddio gyda'n gilydd am ddiwrnod neu ddau yn sicr o wneud llawer o les. Ond paham y cyfyngir y gynhadledd i ddau enwad,—paham nad elwir y ddau enwad arall hefvd? HWQ oedd y cwestiwn a ofynwyd o'r blaen gennym, a da gennym weled fod y Prif Athraw Thos. Rees, Bangor, mewn llythyr yn y new- yddiaduron dyddiol yn datgan- yr un golvgiad. Dywedai y Prif Athraw ei fod yn credu na byddai i ni, y Wesleaid, ymuno a'r Eglwys, ond y gallai ein perthynas a'renwad yn Lloegr fod yn dipyn o rwystr. Wel, am yr olaf, y mae yna nid ychydig o drefniadau arianol a ofynent am lawer iawn oystyriaeth a chynllunio, ond byddai undeb yn werth llawer o ymdrech ac aberth. Yr ydym yn dra sicr o un peth, sef fod y Wesleaid yn Nghymru erbyn hyn mor Gymreig a gwladgarol a neb o'u brodyr. Hwyrach y bu amser pan oedd ein diddordeb yn fwy dros y clawdd" nag yng Nghymru. Ond heddyw yr ym mor awyddus a'r un eglwys am wneud a allom i yru yr Hen Wlad yn ei blaen. Am yr ail fater, sef y posiblrwydd i ni ymuno ag Eglwys Loegr, mae y peth mor anamgyffred- adwy ag a fyddai y syniad o uno yr Annibynwyr a hi. Y mae y Wesleaid yn y Dywysogaeth mor angnydffurfiol a neb pwy bynag. Gwir y golygir i Eglwys Loegr yng Nghymru fod yn rhydd oddi wrth y Wladwriaeth-gobeithiwn hynny,—gobeithiwn ef er mwyn yr Eglwys ei hun. Ond serch datod y llyffethair a'i rhwyma wrth y Wladwriaeth, onid oes yna bethau pwysfawr, ereill y mae yn rhaid ymholi yn eu cylch cyn son am uno yr un enwad Ymneilltuol a hi ? Beth am bwnc mawr Urddau a Sacramentariaeth ? Hyd y deallwn nid yw Datgysylltiad na Dadwadd- oliad, ynddo ei hun, yn newild dim ar y pethau hyn. Yr yrn fel Wes- leaid yn gymaint o Ymneillduwyr ag ydym o wladgarwyr nid allwn feddwl. ar hyn o bryd am undeb cydrhyngom ag Eglwys Loegr: ond byddai, ni gredwn, yn llawen gen- nym fod yn gyfranog yn mhob ymdrech a wneir i ddwyn yr Eglwysi Ymneillduol yn nes. Nid ym yn enwad mawr, ond yr ym serch hvnny yn ddefnyn yn y mor. Cydolygwn yn hollol a'r Prif Athraw Rhys y dylid galw i'r gynhadledd y pedwar enwad. Onid oes modd i ryw hanner dwsin ym- gyfarfod i drefnu cynhadledd ar linellau felly ?

[No title]

.I DETHOLION GWLEIDYDDOL.