Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
ALWAYS USE C ALWAYS "f" C? M, ALWAYS FINEST VALUE. T K??z FULL WEIGHT.
Advertising
DWYRYD The mm mam m People's TEAM I Favourite..
Advertising
ROBERT STATHER'S' PIANOS and ORGANS. Absolutely the Best and Cheapest in the Kingdom. ROBERT STATHER'S MULTUM IN PARVO MODEL. The Piano of the Century. Perfect tone and Touch. Height 4ft. Latest Pattern Iron Frame, Improved Soundboard, Full Compass, Check Repeater'? Pil:tc-11 -?-i ii-c)n l?'rai-ne, Improved Soi-ind?)oai-cl, r,till Compass, Checl?, RepeitF-r Action, in Wamut, Rosewood, Ebcnised, or Oak Case, as desired (33 gmneas), Special Terms, 21/- dowsra, and 15/- per month. Total pay 28 guineas. Wholesale Discount for Prompt Cash. 56, Shakespeare Cresent, Manor Road, E. 21/2/1910. Dear Mr. Stather,—Many thanks for piano and stool. We are very pleased indeed with them, &c. Yours sincerely, Bell).  A. BEL HA?. ROBERT STATHER'S DiADEM ORGAN (By leU). Height 6 ft, 2 inches.  ■ ■■ Sets oll A ?ry handsome Organ in Solid Walnut Case with Mirror Tops. Contains 4 Sets of Reeds 11 Stops. List Price, 26 guineas. My Price, Gash net £13 15s. Oc3. Magnificent Tone. Wonderful Value. ^n^e now for Complete Lists to— r H L:r Pt:tEiWIEP. MF- -,F?,ODIST MUSI- R?6???    '??? PRE.M?E'R METHODIST !?USS- ?'t?'?B? | CAL SMSTRUME?T MAKER, 181, Seven Sisters Road, Fmsb?ry Park, London, ECo I
[No title]
0 safle Ryddfrydol, mae 106 pethau er nos Lun diwedd- af, yn edrych yn loewach. Cafwyd 106 o fwyafrif ymhlaid y cynygiad fod Ty y Cyffredin i ym- ffurfio yn Bwyllgor ar bwnc cwtogi awdurdod yr Arglwyddi. Yn sicr y mae hyn yn fwyafrif sylweddol iawn. Chwedl y Canghellydd yn ei araeth feistrolgar wrth gau pen y mwdl,"—ofer ydyw'r sen mai mwyafrif Gwyddelig ydyw; yn ymherodrol, ac ymhob modd o ran hynny, y mae'r Gwyddel ogystled dyn a Sais. Pwy yw'r Sais, gan ei fod fel hyn yn tybied, mae ar ei farn ef y dibynna tynged pawb a phopeth ? Mae'r fath ddadl ar yr un gwynt yn bleraynaidd a thra- haus. Tynner all: n o hanes yr yn- ysoedd hyn bobpeth ond a wnaeth y Sais trostynt, a bydd yn hanes llwm a gwanclyd ddigon. Heblaw hynny hefyd, mal y danghosodd y Canghellydd, ni phetrusodd y Saes- on undebol ? cul, ffroenfalch hyn brisio yn fawr iawn y bleidlais Wvddelig pan y llosgent yn eu hawydd i waddoli ysgolion y pers- oniaid ag arian y bobl. ac ar draul amharchu eu hargyhoeddiadau hefyd. Cystal Hywel a Hwlyn," tybed ?
[No title]
— v le, dyma 106 o fwyaf- Tuhwilt rif ymhlaid cynhygiad i'r lien, y Prif Weinidog, ond atolwg beth a ddig- wydd ar ol hyn ? Sicr ydyw yr a cynhygion y Wleidyddiaeth drw- odd yn Nhy y Cyffredin yn rhwydd. ac mal y cyfieir hwy, ac v mae cyn sicred eilwaith, y teifl yr Arglwyddi hwynt allan, ben a chrwper. Beth wedi'n ? A geir etholiad ? Paratoi yn ddygn y mae y pleidiau, fel y gwyr pawb, ond nos Iau diweddaf daeth oddiar fin yr Ysgrifenydd Cartrefol, air pwysfawr a'i duedcl at ddangos y torrir yr ymryson heb etholiad. Yn ogymaint," ebai Mr. Churchill, ag i'r Arglwyddi arfer eu gallu i amharchu y freninfraint, ac i dreisio hawliau Ty y Cyffied- in, y mae yn rhaid yn awr i'r Goron a Thy y Cyffredin gydweithredu fel y gallont adfer cydbwysedd y cyf- ansoddiad a chwtogi am byth aw- durdod Ty yr Arglwyddi." A oes yn y geiriau hyn awgrym fod y gwarantau oddiwrth y Brenin," y buom unwaith yn ein diniweid- rwydd a'n clallineb ? yn cyfrif ar- nynt, bellach yn nwylaw y gwein- idogion ? Ryw swn felly sydd yn- ddynt. Ond rhaid i ni y gwyr lleyg" ymgadw rhag tynnu casg- liadau, oblegyd y mae geiriau y gwyr llên, neu y Meistriad Politic- aidd, yn rhai amwys a destlaidd od.
[No title]
Os ar ol i'r Ar- Pwy glwyddi luchio allan a ben a chrwper" Gura? gynhygion Ty y Cyff- redin, y gwrthyd y Penadur greu Arglwyddi newydd i drechu yr hen, a oes gobaith yr ennillwn ni yn y wlad ? Credaf y gwnawn. Mae dau beth yn peri i ni dybio hynny Yn gyntaf yr oedd holl allu y tywyllwch yn ein, herbyn y tro diweddaf, yn ail mae polisi y Doll, wrth yr hon y mae plaid yr Arglwyddi yn rhwym yn beth anghymeradwy yn rhanau llafurol y wlad. lVlae sicrhau yr Arglwyddi yn eu traha, a dwyn yn ol y "dorthfach" yn anmhosibl. Peth arall i'n cysuro ydyw hynyma, os rhaid cael Etholiad, er i'r mwy- afrif fod yn llai ac yn fwy Gwydd- ig nag ydyw, hyd yn oed heddyw, rhaid torri yr ymryson oblegid bydd llywodraeth heb hynny yn amhosibl. Heb ddatod y .cwlwm ymdaga'r wladwriaeth.
[No title]
Y mae arwyddion gwell George heddyw y pesir y Gyllid- yn eb. Unwaith eto mae ben. Lloyd George wedi tynu trwy'r drain. Mwyaf yr anhawsterau sicraf oil rywsut yw'r Canghellydd o fod yn ben. Os gellir cael y Gyllideb i lawr ar y llyfrau bydd cynhaeaf Rhyddfryd- iaeth cyn hir o'i phlegid hi yn dra gwych, ac yn dra thoreithiog. Gwaeddodd Awstin a'i gyngh- rheiriaid yn groch am dani gan obeithio y gallent trwy y bleidlais Wyddelig, sydd mor ddibris yn eu golwg, ei gwrthod, ac felly gyf- reithloni gwaith yr Arglwyddi, a throi y llywodraeth dros y drws. Y mae argoelion y siomir hwynt. Y mae tact y Canghellydd yn ogym- aint a'i ddoethineb.
[No title]
Y N ei anerclraci. peni- Y Wesla gamp yng Nghynad- a lead yr Eglwysi Pholitics. Rhyddion, Bethesda, prydnawn Mercher di- weddaf, soniodd y Llywydd;—y Parch. Stanley Jones, am ryw bre- gethwr Wesleyaidd mawr, ddio/ch ai am na wyddai efe ond am ddau weinidog Wesleyaidd a gymeras- ant ran, hyd y deallaf, yn y frwyclr etholiadol ddiweddaf ar y naill ochr na'r llall. Yn awr, gan fod araith y Llywydd yn papurau ben bwy-gilydd y wrlad, rhag i neb gam-farnu y Wesla, carwn ddy- wedyd dau beth,—Yn gyntaf yr wvf yn barod i wvstlo fy hoedl. nad un Cymreig oedd y Pregeth wr mawr hwn yr ym ni y preg- ethwyr Wesleyaidd yn Nghymru yn Rhyddfrydwyr bod ag un bron, ac at y earn hefyd. Yn ol yr er- wydd ni fu pregethwyr yr un en- wad yn amlach nac yn bybyrach ar y llwyfannau na'r pregethwyr Wesleyaidd. Clywsom fwy nag un aelod seneddol yn eu canmol. Yn ail, serch i'r pregethwr mawr yma fod yn Sais, yr oedd yn ofnat- sen o anvybodus am ei frodyr oedd ar yr un ochr i'r clawdd ag ef. Dau! Pa ddallineb oedd ar y dyn dewydweh ? Rhaid mai mwg- wd rhagfarn oedd ar ei lygad. ————— < 1$0 —————
[No title]
Gwelaf fod peth Yr Egflwys siarad wedi bod a Parti ynghylch yr Eg- Politscs, 1 w v saP art i Politics. 'Rwyf o dro i dro wedi clywed llawer o siarad gwyneb-drist, cwynfanus, a santweddog, ynghylch y peth hwn. Clywais Doriaid yn son am dano er mwyn difrio rhai o'u brodyr, a cheisio cau eu cegau clywais eraill yn son am dano, er mwyn cael eu cyfrif yn fwy efengyl- aidd na rhai o'u cyfeillion, neu eu cyf-ymgeiswyr fel y cyfrif ant hwynt. Clywais eraill yn son am dano er mwyn bod yn y ifashiwn ond er yr holl glywed ni chefais neb a eglurodd i mi beth a ol- ygant. Platitudes noethlymnn yw'r holl ystori. Pan y pleidia un dos- barth y tafarnwr a'r darllawr, yr offeiriad a'r sweater, a'r landgrab- ber,mi a garwn wwbod sut y gall un rhyw un a gar degweh, a sobrwydd beidio a bod yn wr plaid. Ac am fod yn Efengylaidd" ys dyweclir, hyd y sylwasom, mae yr rhai a ym- roddant i ymladd brwydr Crist, ar y Cemmaes Gwleidyddol pan fyddo angen am hynny a dweyd y lleiaf yn llawn mor efengylaidd a'u brodyr tawedog. Da chwi rhowch i ni lai o yspryd yr hwn a ddiolch- ai nad oedd efe fel dynion ereill. ————— <9.0
[No title]
Colled fawr i Gyngrhair Thomas yr Eglwysi Rhyddion Law. fydd colli cynghor a gwaith y gwr hwn. Ofnwn mai mynd yn ddarnau a wnaeth tan bwysau, pryder, beirn- iadaeth a gwaith. Llawen gennym I
[No title]
weled ei gladdu mor dywysogol. O'r braidd na ddywedwn fod rhai tua'r cwest fel pe'n awyddus i'w bardduo ? ——————————— Svdyn od y collwyd Thomas o'm mysg y brawd Manuel, rhadlawn, a'r swyddog craff Thomas Manuel. Givel Ysgrif Goffhaol, a hanes y claddu mewn rhan arall o'r papur.
Pin y Gole al-a Siswrn.
Pin y Gole al-a Siswrn. Pob Gohebiaeth i'w chyfeirio- Y GOLYC.WYR, '• Gwvliedj'dd Newydd," Epworth Villa, Barmouth. EGWEST- Y tro nesaf. Y DAITE (IX AMERICA.—Y tro nesaf. Y BLEIDLAIS I FERCH.—Yn ei thro. MINXEOPOLIS—Y tro nesaf. LLAXDUDXO—Y tro nesaf. PURO'R GYMRAEG—Cyntecl y bydd gofod. RHESTR o EXWAU—Pe cvhoeddem restr o enwau i un gohebydd, tynem nyth y cacwn yn ein pen. Prinheid y gofod hefyd, ac y mae genym wmbreth heb le iddynt y tro yma. CV.MRO—Oes, gellwch gael llyfryn bychan yn dysgu y pethau a ddysga Tecwyn am y Gymraeg. Ei bris yw Swlk. Gelwir ef," Welsh Orthograph. Anfonwch at y Welsh Publishing Co. Limited, Carnar- fon. Y SEXEDD—Bu raid gadael y Senedd allan yr wythnos hon oblegid prinder gofod. Mae torraeth o Ohebiaethan allan yr wythnos hon am fod eu gofod yn brin. Y cyntaf i'r felin gaiff falu.
AR _Y FUNUD _OLAF.
AR Y FUNUD OLAF. Dychwelwyd Mr. Peter Luke Jones a Mr. Morgan Price i Gynghor Dosbarth Llan- beclr, Ardudwy y ddau yn Wesleyaid. Enillodd Mrs David Robeits, Marine, Abermaw, y brif v;obr am goginio yn nghystadleuaeth Brown & Poisons. I Deailwn fod tebygolrwydd mae Mr. T. W. Griffith fydd cadeirydd nesaf Cynghor Dinesig Tref Llandudno, Yn ffodus, mae annealltwriaeth y glo- wvr, yn y De, wedi ei derfynu heb streic. Yr oedd mwyafrif o dros dri ugain mil ymhlaid derbyn cytundeb y Bwrdd Cvfla- fareddol. Gorchfygodd pobl Llandudno y cais beiddgar wnaed y Sadwrn i redeg y Trams yno ar y Sul. Rhagorol yn wir. Rhoisant gurfa iawn i'r Cwmni ariangar hwn. Llongyfarchwn Mr. Griffith Jones, Llan- rwst, ar ei etholiad ar ben y pol eto. Nid oes neb mwy poblogaidd yn y dref nac ef. Etholwyd Mr. O. Tudor Jones yn agosaf i'r uwchaf ar v rhestr yn Warcheidwad Birkenhead. |Gwnaeth waith rhagorol a meddylia'r Cymru y bvd ohono. Da genym ddeall fod sicrwydd yr agorir Cyfnewidfa Lafur yn Mlaenau Ffestiniog. Rhaid diolch i Mr. Haydn Jones yn benaf am hyn. Yn Efengyl loan y Llafuria Dosbarth III, ac nid yn Efengvl Mathew. Gwnaed cam gymeriad yn yr Hysbysiad.
MARWOLAETH.
MARWOLAETH. JONES --Dydd Mercher, Ebrill Ged. uno, John Gwiiym. mab Edward a Fanny Jones. 30, Hemans Street, Liverpool, yn 22ain mlwydd oed.
Advertising
~TANTED an experienced Nurse. Good T references necessarv.-Repl v, E. Gwyliedycld, Epworth Villa, Barmouth. Y Genhadaeth Gymreig yn Lancashire. Cynhelir Bazaar Fawreddog yn ffurf PEXTREF CYMREIG yn ASHTON-IN-MAKERFIELD, Ebrill 20, 21, 22, a 23, 1910, I'r amcan o godi Li,000 er symud y baich o ddyled sydd ar Gapekiu y Genhadaeth. Teimlir fod y baich hwn yn llesteirio yr Eglwysi yn ddifrifo' yn eu hymdrechion er iachawdwriaeth eu cyd-genedl sydd ar goll yn y rhanbarthau hyn ac apelir yn daer am gydymdeimlad a chynorthwy darllenwyr y Gwyliedyddf Newydd yn yr ymdrech fawr i symud y baich hwn. Derbynir arian neu nwyddau gyda diolchgarwch. Na phetruser anfon y rhodd leiaf. Llywydd y Pwyllgor—Parch. A. Lloyd Hughes, 4. Osborne Road, Ashton-fn- Makerfield. Trysorydd—Mr. Edmund Evans. 429, Bryn Road. Ashton-in-Makerfield. Ysgrifenyddion—Mr Hugh Roberts, 180a, Bolton Road, a Mr. E. A. Rawson. 202, Bolton Road, Ashton-in-Makerfield.