Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

PORTHFR PRAIDD.

News
Cite
Share

PORTHFR PRAIDD. Creu o Newydd yn Nghrist lesu. Y mae dyn, trwy bechod, wedi myned mor ddrwg ei gyflwr, mor andwyol, a llygredigaeth pechod wedi gwreiddio mor ddwfn yn ei gyfansoddiad, fel y ty a'r gwahan glwyf ynddo yn Israel, rhaid ei dynu i lawr, a'i greu o newydd yn Nghist lesu ac nid oes modd cael pechadur i Grist ond trwy farw-niarw gyda Christ, a marw trwy Grist. Nid yw pawb, y mae yn wir, yn gorfocl dyoddef yr un poenau ac arteithiau wrth farw yn naturiol, eto mae marw ynddo ei hun yr un peth i bawb, rhaid marw. Ymddengys mai yn ol grym y cyf- ansoddiad, a'r yni bywydol sydd ynddo yn gwrthsefyll yr ymosodiad y mae poenau a dirdyniadau marwolaeth yn gyffredin. Dyna ddyn iach, cadarn ei gyfansoddiad, yn cael ei gymeryd gan y dwymyn boeth, ac yn marw y mae ei babell yn cael ei thynu i lawr gyda'r fath brysurdeb a thrwst, fel y mae yn amlwg y rhaid fod ei ddyoddefiad au yn fawr. Ond dacw y dyn ieuanc yn y darfodedigaeth, ar ol bod yn gwaelu ac yn nychu am fiynyddoedd, elfenau marwolaeth megys wedi treiddio yn ddystyw trwy ei holl gyfansoddiad, ei nerth wedi ei ostwng ar y ffordd," yn diffodd bron heb yn wybod iddo ei hun, os nad heb wybod hefyd i'w gyfeillion yn yr ystafell. Yr un modd am farw i'r ddeddf ac i bechod. Dyna y pechadur caled, rhyfygus, anystyriol, cadarn i bechu yn erbyn Duw, ac i ddy- wedyd geiriau caledion yn ei er- byn Ef-y mae yn bur debyg, os bydd a wnelo Ysbryd y Gras ag achub y cyfryw ddyn, mai ei ar- wain at Sinai a wna, i beri iddo weled y mynydd yn crynu, ac yn mygu fel ffwrn; i'w syfrdanu gan dwrf y taranau a llewyrchiadau y mellt, nes ofni i uffern agoryd ei safn yn anferth, a'i lyncu yn fyw iddi ei hun. Yno y bydd efe farw. Ond dacw rhyw wr ieuanc a ddyg- wyd i fyny yn Eglwys Dduw, a fagwyd ar hen aelwyd gafodd ei mwydo ganwaith gan ddagrau edifeirwch a chariad tad a mam yn ofni Duw yn fwy na llawer"; ryw ddiwrnod nis gwyr neb o'i gyfeillion nac yntau ei hun pa bryd, bu yntau farw, ond bu farw heb weled "y mynydd teimladwy," bu farw heb glywed yr un daran, na gweled yr un fellten. Yr hyn sydd yn profi ei fod wedi marw, yw ei fod yfl greadur newydd," ac yn ymadnewyddu o ddydd i ddydd ar ddelw yr hwn a'i creodd. PARCH R. ROBERTS. Ysbryd Duw yn y Credadyn. I Y mae Ysbryd Duw yn y credad- yn wedi gosod ei fryd ar fuddugol- iaeth Syniad yr ysbryd bywvd a thangnefedd yw." Yr un Ysbryd Dwyfol, yr hwn yn nhragwyddol- deb diddechreu a gydarfaethodd a'r Tad ac a'r Mab achubiaeth y y troseddwr, efe eto sydd yn eyd arfaethu a'r credadyn bob cam o'r ffordd sydd yn arwain i'r bywyd1 Yr ysbryd tragwyddol, drwy yr hwn yr offrymodd Crist ei hun yn ddifai i Dduvv, efe sydd yn nerthu y rhai a gredant yn Nghrist i roddi eu cyrph yn ebyrth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw. Ac y mae yr un nerth yn Syniad yr Ysbryd, yn eu mynwes ofnus hwy ag oedd yn meddylfryd y Tad i draddodi ei briod Fab, ac yn meddylfryd y Mab I garu hyd y diwedd a bod yn ufudd hyd angeu, ie, angau y groes. Er fod holl weddiau y credadyn wedi eu hamgylchynu a gwendid dyn, y rnaent ar yr un pryd yn gadarn a chadernid Duw. Ochenaid car- charor ydynt; ac eto ocheneidiau dwyfol ydynt: "Y mae yr Ysbryd el hun yn erfyn trosom ni ag ochen- eidiau anrhaethadwy." Pan y eh \vilia Duw galon y credadyn, Efe a ganfydda yn yr un man feddwl yr Ysbryd," yr hwn sydd Yn chwilio calon Duw ei hun yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth ie, clyfnion bethau Duw hefyd." A'r hwn sydd yn chwilio y calon- 9-U a vvyr beth yw meddwl yr Ys- bryd." Pan y sylla Duw ar y weddi a offrymir yn yr Ysbryd," Efe a "Wel ynddi ddelw berffaith yn lighanol. anmherffeithrwydd o'i fwriadati tragwyddol; oblegid y mae genyni ni feddwl Crist," ac eto pethau Duw nid edwvrÍ neb ond Ysbryd Duw." Y mae nerth  ?weithredu yn y credadvn y tu bob peth y gall efe o hono  hun, ?, ei ddymuno neu ei feddwd;" rlunior ^awr fel y mae yn rhaid i V"??? ?wr fel v mae yn rhaid ¿ Sbryd Duw oleuo llygaid ei fed i 1" ?w? trefn iddo ei wybod; ner}th' ?dd vn rhagori cymaint aT. ■ b 6 sy yn rnagon cymalnt bob gallu creedig, fel nad oes '-tIlî} ?'w gystadlu ag ef ond gweithrediad nerth cadernid I Duw, yr hon a weithredodd efe yn Nghrist, pan y cyfododd ef o feirw, ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd." Y mae syniadau yn meddwl credadyn na ddaethent i galon y dyn anianol eu dychmygu, Duw a'u heglurodd iddo trwy ei Ysbrvd." Y mae ynddo deimladau uwch a dyfnach nag a brofodd y dyn anianol erioed. Dyn dau ddyblyg ei feddwl, anwastad yn ei ffyrdd, a chyffelyb i don y mor, a defiir ac a chwelir gan y gwynt" ydyw anghredadyn, ei holl wroldeb a'i ymffrost; a phan y dynesa at farw ac y dechreua glywed lleisiau dyeithr y byd a ddaw, buan yr ym- ollynga ei holl wroldeb ac y di ffodda llusern ei obaith. Ond y mae yn y credadyn, yn nghanol ei wendidau a'i anghysonderau, nerth penderfyniad goruwch-naturiol, ac ni fyn edrych drach ei gefn, er fod lleisiau swynol o'i ol yn ceisio ei ddenu, a chynddaredd gelynion o'i flaen yn sychedu am ei waed. Y mae yn wir ei fod yntau yn ofni yn fynych. Ond nid yw ei ofnau a'i amheuon ond cyffelvb i'r dvmhestl ar wyneb y mor; yn eigion dwfr ei enaid y mae tawelwch mawr. Mor dawel ac ansigledig ydyw ei ben- derfyniad i fyned i mewn i'r bywyd fel nad oes un eglurhad i'w roddi ar hyn ond fod Ysbryd Duw yn trigo ynddo ac vn ei gadarnhau mewn nerth yn y dyn' oddimewn." Pa ddyn clifrifol a feiddia ddywed- yd wrth Dduw mewn gweddi, Ni'th ollyngaf oni'm bendithi ? Pwy hefyd, ond y neb a gafodd nerth gyda Duw ac a ymaflodd yn hollalluogrwydd y Gwr a'r Hwn yr ymdrecha? Y mae "syniad yr Ysbryd yn ddelw yn enaid y cred- adyn o anghyfnewidioldeb ewyllys Duw ei hunan. Ymestyna meddwl dyn yn naturiol at yr anghyfnewid- iol, ac y mae ei ddymuniadau an- herfynol yn eiliw gwanaidd o'r an- feidrol. Nid oes yn yr holl gread- igaeth ddim yn ymgodi mor agos at yr anghyfnewidiol a meddyliau a theimladau enaid dyn. Ond o bob anghyfnewidioldeb, yr uwchaf ei natur a'r gogoneddusaf ydyw anghyfnewidioldeb ewyllys. Er fod Duw yn ogoneddus yn ei han- fod digyfnewid, perthyna gogon- iant arbenigol i anghyfnewidiol- deb ei ewyllys a'i ras. Ac yn hyn y mae gwendid dyn yn dyfod i'r golwg oblegyd o holl gynheddfau ei enaid nid oes un mor llesg a'i ewyllys. Ond pan y daw Ysbryd Duw i breswylio ynddi hithau, ym- gryfa y gorsen ysig hono fel nas gall na byd, na chnawd, na diafol ei dryllio, ac a y llin oedd yn mygu yn fflam na ddiffydd byth. Fel y mae cyflawnder y dyfroedd dyfn ion a lechant mewn Ogofeydd cuddiedig dan y ddaear yn nerthu i ffynon fechani ymwthio i'r golwg drwy y cruglwyth o gerryg a llaid sydd yn gorwedd ami, felly y mae preswyliad yr Ysbryd Glan yn cyflawni y credadyn a holl gyflawn- der Duw, ac yn gwneyd ei weddiau gweiniaid yn orchfygol gan nerth ewyllys ddwyfol yr Ysbryd. DR. T. C. EDWARDS. I

CADVAN ETO. I

PENRI YN Y LLYFRGELL GEN-I…

Y LLADRON TUR A'R BARDD CWSC.

Advertising

SHON GORFF A SHON WESLA. I