Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

GOHEBIAETHAU. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

GOHEBIAETHAU. I [Sid ydym yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr]. ADOLYGIAD Y WINLLAN." I Mri. Golvgwyr, I 1. SYLWEDYDD." I Bydde i hysbys nad ysgrifennais erioed mo hwnw am hwnnw." Nid fy ang- hysondeb i oedd hyn, ond eiddo'r argraff- ydd. Am gwnn," y rheswm dros imi ei arfer oedd er mwyn cysondeb. Arferir tyrr," "gyrr," "mynn," &c' ac os felly dylid dweyd "gwnn." Yn y llyfr Du ceir ton," a tonn," "bron a bronn." Ysgrifenna'r Esgob Morgan pen a penn." A cheir gwnn" gan Goronwy Owen. Fe wel Syledydd nad wyf mewn cwmni gwael wrth ei arfer. Ond gwir yw mai gwn sy'n Adroddiad yr Orgraff, a da gennyf fod "Sylwedydd" wedi sylwi ar y peth. Ni bum erioed yn hoff iawn o gwnn." Nid wyf yn honni bod yn unrhyw fath ar oracl anffaeledig,—dim ond hobi wrth fyned heibio megys yw y dyddordeb a gymeraf yn y Gymraeg—ac efaliai mai'r peth goreu i'w wneud pan fo dwy ystyr i'r un ffurf, yw rhoi acen hir uwchben y llafariad yn y sawl ohonynt a fyddo'n hir. Fel yma.— hyn (this) ond hyn (older); gwen (white), ond gwen (smile) ton (wave), ond ton (tune), gwn (1 know neu gun), ond gwn (gown). 11. GOLYGYDD Y YVINLLAN. I Y mae i'w lythyr bedwar pen. Atebaf I hwy mewn trefn, ac mor weddaidd ag y medraf. J. Gallech farnu oddiwrth lythyr y Gol- ygydd mai am beidio dyblu cydseiniaid yn unig y condemniais yr argraffydd. Ond o'r gwallau a nodais, nid oes ond un ohonynt yn dal dim perthynas a'r mater hwnnw,— dim ond y gair hwnnw." Fel mai nid am nad oedd dwy "n" yn hwnnw," a dim ond hynny, y dvwedais yr hyn a ddywedais. Ac felly nid teg yw fy nghymharu ág adolygydd galluog y Drysorfa," oblegyd son am ddyblu'r cyd- seiniaid yn unig y mae hwnnw. Ac ni ouaswn yn beio cymaint ar Olygydcl y Winllan" ond iddo gadw at reol sefyd- log ynglyn a'r peth, yn yr un ysgrif o leiaf. Da gennyf weld adolygydd galluog yn cydnabod mai dyblu'r cydseiniaid a wneir heddyw yn gyffredin (pan fo angen am hynny), a gresyn na bai'r "Winllan" hithau'n syrthio i mewn i'r drefn gyffredin ymysg y rhai mwyaf cyfarwydd a'r iaith. Ond gwelaf fod y Golygydd yn bwriadu newid cryn dipyn ar ei orgraff cyn bo hir. Da iawn, y mae arwyddion nev/id eisoes, beth bynnag am wella. Nid am roi un n yn hwnnw y gelwais neb yn ddwl neu yn ddiog, nac am fod neb yn gwahan- iaethu mewn barn oddiwrthyf, ond am sillebu'n erchyll eiriau nad oes gwahaniaeth barn o gwbl ynghylch dim ond dau ohonynt. Ac eto gallech dybio fy mod yn galw'r argraffydd yn ddwl neu yn ddiog am ddim ond am beidio rhoi dwy n yn hwnnw 2. Ni welais braidd erioed well engraifft o claflu llwch i lygad y darllenwyr na'r dyfyniad o ysgrif Pedr Hir yn y Genhinen. Gallech feddwl fod Pedr Hir o blaid Gol- ygydd y "Winllan" wedi'r cwblj Ond beth a ddywed ar y pen ? Ebai am or-fyn- ychu cael Y mae hwnnw bron yn wastad yn gymal gwan yn asgwrn cefn y frawddeg." Wrth gwrs, y mae cael yn burion yn ei'le, ond mewn brawddegau tebyg i un Golygydd y Winllan," gwan a gwael ydyw. Brawddegaju tebyg i honno sydd gan Pedr Hir i ddangos gwendid yr arferiad A da gennyf weld nad yw'r Gol- ygydd yn cymeradwyo'r arferiad wantan yma. Da iawn, dyma bwynt arall wedi'i ennill. Gwir yw mai nid mater o orgraff yw hyn. Dywedir mai mater o arddull ydyw. Nag-e, ebraf in,nau, mater o gystrawen ydyw. Ac os nad yw dyn yn dipyn o feistr ar gys- trawen, iaith pwy sy'n mynd i roi pwys mawr ar yr hyn a ddywecl hwnnw am orgraff yr iaith honno ? 3. Dywedir nad yw tri o'r rheiny a ar wycldodd Adroddiad yr Orgraff yn gyson yn eu harfer o'r ffurf "cerryg." Cydnab- yddaf hynny, ond y mae cryn wahaniaeth -rhwng dwyn Adroddiad manwl ystyrbwyll allan, ac ysgrifennu erthygl ddamweiniol. Gwaith yw'r Adroddiad wedi i'r cwbl ohon- ynt fod yn ymgynghori'n hir, yn bwyllog, ac yn ofalus gyda'u gilydd uwch ei ben,- i benderfynu ar ffurf oreu geiriau, a dim ond hynny. Dywedyd yr ydys fod mwy o bwys i'w roddi ar Adroddiad a ddygwyd allan o bwrpas i fod yn safon ac yn ar- weinydd, nag ar ambell i ffurf mewn ysgrif yma ac acw, er i'r ffurf honno fod wedi'i hysgrifennu gan rai o awduron yr Adrodd- iad eu hunain. Os vw dau ben yn well nag un, diau fod un ar ddeg o bennau grymus a disglair gyda'u gilydd yn well nag un. Beth debygai'ch darllenwyr ? A sylwn ar hyn,—ni buaswn wedi enwi cerryg o gwbl, oni bai fy mod yn gwy- bod fod rhywun wedi'i ne-wid; a'i newid, yn ol fy marn i, o ffurf sydd at ei gilydd yn well a chysonach na'r llall. A dyma hefyd farn Pwyllgor yr Orgraff. Ffurf hynaf y gair yw cerryg." ac er mwyn unffurfiaeth gyda geiriau megys "tebyg," "meddyg," dychymyg, gwell yw'r ffurf hynaf lion arco, 4. Beiir fi am y gwahaniaeth a wneuth- um rhwng yr Eurgrawn a'r Winllan a'r ddau. gyhoeddiad yn yr un camwedd." Fy ateb yw hyn,—nid yw'r ddau yn yr un camwedd i'r un graddau o lawer (hynny yw wrth gwrs, rhifynnau Mawrth.) Y mae iliaws o wallau mewn un ysgrif fer yn y Winllan,"—llawer mwy yn ol yr herwydd nag sy'n yr Eurgrawn i gyd 'Onid yw peth fel hyn i'w gondemnio'n ddiarbed ? Ni roddais glod i wallau'r Eurgrawn." Nodais rai ohonynt (fel y nodais rai o wallau'r Winllan.") Prawf o bynnj^ yw "Cell y Golygydd" yn "Eurgrawn" Ebrill. Fe wel pawb y dylid condemnio :mvy ar liaws o wallau erchyll mewn un ysgrif fer, nag ar ychydig o'r un gwallau mewn nifer o ysgrifau llawer hirach. A dyna'r cwbl a wneuthum. Pe bawn wedi dv, evd fod clod yn ddyledus i orgraff yr ■ hurgrawn at ei gilydd, hynny fuasai'r hyn oedd yn union yn fy meddwl ond nid yw'n hawdd i un sydd rhwng popeth yn bur brysur hollti blew mor fan a hyn. Ond prawf mai dyna a feddyliwn yw ddarfod imi nodi rhai o wallau'r Eur- grawn"; a phe bawn wedi chwanegu'r geiriau at ei gilydd at y clod," diau na ffromasai Golygydd y Winllan" mor aruthr. Ynglyn a'r ymddiddan a fu rhwng Gol- ygydd y Winllan" a minnau, fy unig amcan yn cyfeirio ati oedd dangos fod hyd yn oed y Golygydd ei hunan yn coleddu'r un syniadau am yr argraffydd a minnau. Os gwneuthum rywbeth yn anfoneddig- aidd, y mae'n wir ofidus gennyf am hynny, —dyma'r peth pellaf o fy meddwL Yr wyf yn awyddus iawn i'r Wesleaid Cymreig fod ar yr un lefel a gweddill y genedl ar ei goreu mewn iaith yn ogystal a phopeth arall. Rhaid cyfaddef ein bod wedi bod ar ol i raddau go helaeth yn y mater hwn, a bu hynny'n anfantais inni mewn ystyron pwysicach. Dywedai gwr cyfarwydd wrthyf yn ddiweddar iawn yr edrychir ar ein Cymraeg ni fel Wesleaid i raddau helaeth fel yn dramoraidd hyd yn oed eto gan y rhai sydd o'rtu allan i'n henwad. Ond yr wyf i fel un yn benderfynol o wneud fy rhan i beri inni wella oddiwrth yr anaf hwn, a da iawn gan fy nghalon ddeall fod mwyafrif mawr yr enwad mewn cydymdeimlad a'r amcan da. D. TECWYN EVANS. ADOLYGIAD Y "WINLLAN." I Mri. Golygwyr, Gair bach ynghylch yr helynt caregog diweddar. Gelwais neithiwr gyda'r Athro J. Morris Jones er mwyn cael ei farn ef ar y mater, a dyma ddywed efe Ffurf wreiddiol y gair yw "cerryg." Dyna fel yr ysgrifennid ef hyd y ddeuddeg- fed ganrif. Wele engraifft o waith Cyn ddelw: Lluyt usuyd nyt plyd nyt plyc Clot gyhoed caeroed cerryg ac felly yr ysgrifennid geiriau o'r un sain megis dychymyg, tebyg, llewyg, rhyfyg, ond erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, new- idiodd llafar gwlad gryn lawer ar bethau, a sillebid hwy erbyn hynny yn cerrig, dvch ymig, tebig, &c. Wele engraifft o'r Mabin- ogion ym Mreuddwyd Macsen Wledig,— diffvvys a eherrie," Gesyd yr Athro adegysgrifennu'r Mabinog- ion tua diwedcl y drydedd ganrif ar ddeg. Fel hyn yr ysgrifennid y geiriau dan syhv, (cerrig, tebig, dychymig, &c.,) hyd yr ail ganrif ar bymtheg. Yna daeth y gramad- egwyr, Dr. John Davies ac eraill, ar y tir, a sylwasant ar beth hynod yn yr iaith. Gwelent eiriau wedi eu sillebu fel hyn,— tebig, meddig, pendefig, cerrig, dychymig, &c., ond wrth ychwanegu sillaf atynt, gwelent eu bod yn gwahaniaethu fel hyn, -teb-tebygol; dychymig,dychmyg ion ;-ond pendefig,-p.endefigion, nidpen- defygion; a gwelsant drwy'r darganfydd- iad damweiniol yma, mai tebyg, a dychym- yg oedd ffurnau gwreiddiol y geiriau hyn, tra mai ffurf wreiddiol y gair arall oeddpen- defig. Yr oedd safie'r gair 'cerrig' yn wa- hanol i eiddo'r lleill. Nis gellid ychwan- egu sillaf ato, i'w wneyd yn cerygon neu rywbeth cyffelyb, felly nis gellid dod at ei wreidclyn, a gadawsant ef yn y ffurf y cawsant ef, eerrig," heb olrhain ei darddiad. Barn mwyafrif pwyllgor yr or- graff, y cyfeiriwyd ato, oedd y elylid adfer y gair i'w ffurf wreiddiol a dyna'r pam ei fod yn cerryg yn Adroddiad y Pwyll- gor, ond barn breifat yr Athro ydyw, y dylid bellach ei adael yn y ffurf a fu iddo yn yr iaith er y drydedd-ganrif ar ddeg, a dyna'r pam y mae yn cerrig yn ei Gan- iadau ef. Felly y mae golygydd ac adol- yg3, dd y Winllan," a minnau, yn cam- gymeryd, ac y maegolygydd ac adolyg- ydd y Winllan," a minnau, o'r ochr arall yn iawji. Ond os nad yw'n bwysig pa un ai cerryg ynte cerrig sy'n iawn, y mae'n dra phwysig pa un ai un r" ynte dwy a roddir yn y gair, oherwydd ffurf wreiddiol geiriau gyda dwy r ynddynt yw rs megis cars—carr, ac y mae'r ail r iTn y ffurf ddiweddarach yn .cynrychioli'r "s" yn y flurf wreiddiol. Y mae felly gyda geiriau fel hynny, a tonnau, y mae'n dra phwysig dyblu'r Eu ffurfiau gwreidd- iol oedd hynd a tond.' Dyma'r treig- liad, tond tondi tonni tonnau." Dyblwyd yr n er mwyn dangos lie y d a ddiflanodd, felly y daeth y geiriau yn 'hynny' a tonnau.' Y mae'n dra phwysig felly dyblu 'n' ac r' pan y mae ffurf wreiddiol y gair yn galw am hynny. Gyda llaw gwelaf i rywun roddi hyny a hynny i chware bob yn ail yn fy nhipyn ysgrif i. Y mae'n debyg ei bod yn rheol euraidd, pan nad ydych yn siwr o rywbeth, i roi'r gwahanol batrymau ohono Nid oes eisieu dyblu yr un lythyren ond n ac r.' Cymerer m er engraifft, pan oedd clwy ''in' yn yr hen Gymraeg, erys yn m yn y gair heddyw, megis yn y gair tramor, o trammor neu tranmor, ond lie nad oedd ond un rn mewn gair yn ei ffurf wreiddiol try yn yn ei ffurf ddiweddaraf, megis 'nnm,er-nifer.' Y mae fel hyn ebe'r Athro gyda'r geiriau y dyblir yr n a'r r' ynddynt; petai arnoch eisieu tynnu llun pen dyn, ni byddai eisieu tynnu llun ei gorff o anghenrheidrwydd, ond petai ar- noch eisiau tynnu llun ei draed hefyd, byddai'n rhaid tynnu llun ei gorff ermwyn dangos y cysylltiad .rhyngthynt. Felly gellir ysgrifennu hyn a ton, ond pan yn ychwanegu sillaf, traed at y pen, dylid dyblu'r n er mwyn dod a chorff y gair i mewn, a dangos y d a gollwvd. Dyma'r rheol ebe fe ymhob iaith. Ynglyn a gwn ynte gwnn ton neu tonn yn yr unigol. Ysgrifenna ef tonn (wave) yn y mannau y gall yr ystyr fod yn amwys pan y gellid camgymeryd y gair am ton (tune) ond ysgrifenna y gair yn ton, mewn mannau nad oes modd camgymeryd yr ystyr felly hefyd gyda'r gair gwn. Gwelir felly fod Mr Tecwyn Evans yn iawn ymhob engraifft. Mewn mater a opinvwn yn unig y gwahaniaetha'r Athro ag yntan. Gob- eithiaf y cliria gair fel hyn yr awyr. Yr eiddoch yn gywir. E. TEGLA DAVIES. Ebrill 7, 1910. ADVERTEISIO. At Olygwyr y Gwyliedydd Newydd. Anwvl S\- rs— Caniatewch i mi eich llongvfarch ar eich gwaith yn ymgymeryd a dwyn allan y papur rhagorol hwn. Yn ol fy m-arn i y mae yn myned yn well bob wy-thnos ac y mae yn awr yn blentyn tri mis oed, a phob golwg y bycld pan y cyrhaedda ei ben blwydd yn fachgen braf, ynmedru cer- dded ei hun ac i'r dyben hwn yr wyf yn taer ddymuno ar i bob Wesleyad roddi pob cynorthwy iddo mewn pob modd, trwy ei gymeryd ac annog pawb i'w dderbyn, gan fod yr anturiaeth mor bwysig, a'r cyf- rifoldeb mor fawr ar y Manager a'r Golyg- wyr. Y mae arnaf ofn nad ydym ni yn realeisio y gost fawr sydd yn gvsylltiol asef- ydlu papur newydd; a chymerais yr hyfdra gan fy mod yn adnabod y manager er pan oedd yn hogyn ieuanc iawn, i'w hysbysu mae y moddion mwyaf effeithiol er llwydd- iant arianol y scheme oedd cael cymaint o advertisments ac oedd bosibl. Dyma y modd mwyaf direct i ddwyn grist to the mill,"—" adverteisio," yn wir nid oes neb yn yr oes oleu hon, yn credu y gallant lwy- ddo ymethau y bywyd hwn, heb adael i'r Werin wybod mae yn eu shop hwy ydylai pawb fasnachu. Yn awr chwi Siopwyr, Crefftwyr, &c., yn y Gogledd a'r De, brys- iwch anfon hanes eich nwyddau i'r Man- ager i Aberdovey, a gadewch i'r byd wybod eich bod yn barod, ac yn disgwyl am eu support; y mae yn ddyledswydd ar bob Wesleyaid roi pob cynorthwy a chefnog- aeth .i'r "Gwyliedydd Newydd." JOHN THOMAS, Birkenhead. Diolch lawer am eich gair caredig, pe buasai y cyfeillion Wesleyaidd yn cofio am danom yn y ffordd hon, ysgafnheid ein baich yn fawr, ond dyma hi, gwell gan rai eglwysi, Cylchdelthiau a phersonau Wes- leyaidd helpu pob papur yn y ffyrdd a nodwch, na helpu eu newyddiadur eu hunain. GOL. YR EMYN M). -1 Yn ddiweddar rhoddwyd yr emyn uchod allan i'w chanu yn un o Eglwysi y Gylch- daith hon. Pan yn canu yr ail linell yn y penillion, cafwyd fod rhai o flaen ac eraill ar ol eu gilydd cyn gorffen yr ail benill yn y penillion. Canai rhai y geiriau fel y ceir hwynt yn y Llyfr Tonau, ac eraill fel y ceir hwynt yn y Llyfr Emynau. Os syl- wir nid yw hyd yr ail linell yr un fath yn y ddau lyfr. Yn y Llyfr Tonau ceir yr ail linell fel y canlyn G3^da'r wawr blygeiniol dyrchafwn i Ti gan." Yn y Llyfr Emynau ceir un sill yn fwy: Gyda'r wawr blygeiniol, bur, dyrchafwn i Ti gan. Er mwyn cvfarfod ar don Nicer, gadewir sill allan yn y geiriau fel y maent yn y Llyfr Tonau. Gan fod yr Emyn a'r Don yn Rhaglen Undeb Cerddorol y De am y fivvyddyn hon, carem alw sylw y cerdd- orion ac eraill at yr hyn a nodwyd uchod. A.B.C. CREFYDD MERCFIED. I Daeth 37 Gwyiiech7cld Newydd i'm llaw ac y mae yn bleser mawr. genyf ei gael am fy mod yn credu ei fod yn lies i'r achos yn gyfiredinol. \Vel os gwelwch yn dda rhoddi rhan o'r papyr i mi ddatgan fy mhrofiad heddyw, ar ol i mi ddarllen 37 sylw o bregeth y Parch. Silvester Florae, pan yn dweud mae crefydd y teimlad sydd genym ni y Merched. Mi gredaf mae hen lane ydyw, ac hefyd fe allai ei fod wedi colli ei fam pan yn ieuanc, felly ei fod yn amddifad o'i hanes yn nghylch ei dyled- swyddau. Y peth cyntaf wyf yn cofio pan yn blentyn am fy mam yw ei bod yn dar- llen gair Duw bob dydd, ac yn ein-cyflwyno i'w ofal ef, ie diolch am famau yn dwyn y plant i fyny trwy ddarllen a dysgu gair Duw icldynt. Heddwch i lwch yr hen famau a welwyd yn gwneuthur ei goreu. j Na nid crefydd y teimlad ydyw ein crefydd ni; faint o honom ni y chwiorydd sydd yn gallu myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. Os ydym ni y chwiorydd yn fwy parod i wylo ar adegau, wylo a wnaeth Iesu Grist hefyd pan yma ar y ddaear. Ond gallaf ddweud profiad fy hunan eto. Mi rwyf yn sicr y gallaf ddweud fod ynof wreiddyn y mater, nid,ryw fioclyn bach yn agor yn yr haul yn unig, a pan ddaw storm yn gwywo. Na diolch mae crefydd wedi gwreiddio ynof fel yr hen goeclen dderw fawr ar ochr y graig, pan fydd y storm yn curo mae yn gwreiddio yn ddyfn- ach. Mi rydym wedi gwraiddio yn y graig, a'r graig yw Crist .Mae Paul yn son am ffydd Timotheus, gan gyfeirio at ei nain Lois, a'i fam Eunice, ac mae Iesu Grist yn dweud wrth ryw wraig, dy ffydd a'th gadwodd. Nid oes le i ni gredu mae teimlad oedd yn Mary Jones y Gymraes fechan aeth o Llanfiengel i'r Bala i chwilio am feibl. Yn sicr mae teimlad yn rhy wan i bwyso arno. Nid oes eisiau i ni chwior- ydd anwyl dori ein calon tra bydd yn aros ffydd, gobaith, cariad, a'r mwyaf o'r rhai hyn 37w cariad. CYMRAES. I I

PREGETHURES. I

TEYRNGED 1 WESLA. I

Advertising