Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
RO 8T PIANOS and ORGANS. Absolutely the Best and Cheapest in the Kingdom* ROBERT STATHER'S MULTUM ON PARVO MODEL. The Piano of the Century. Perfect tone and Touch, Height 4ft. I Latest Pattern Iron Improved Soundboard, Full Compass, Check Repeater J Action, in Walnut, -Rose-w > d Lbonised, or Oak Case, as desired (33 guineas), down,, and 15/- per month. Total to pay 28 gumeas. Wholesale Discount rcr Prompt Cash. 58, Shakespeare Cresent, Manor Road, E. 21 1 ,) 10. Dear Mr. Slather,—Many thanks for piano and stool. We are very pleased indeed with them, &c. Yours sincerely, A. BELHAM. ROBERT STATHER'S DIADEM ORGAN (By Bell). 7 ■ Kiight 6 ft. 2 inches. ? ????\ .?? ??Qr???At?   11 A very handsome Organ in Solid Walnut Case with Mirror Tops. Contains 4 Sets of Reeds 11 Stops. List Price, 26 guineas. My Price, Cash net £ 13 15s. Od. Magnificent Tone. Wonderful Value. Write now for Complete Lists to- Robert ?'i-?-§'??? THE PREMIER METHODIST MUSI- R o?,i?ort ?M???S? CAL INSTRUMENT MAKER, 181, Seven Sisters Road, Finsbnirj Park, London, E.C.
INODION GOLYGYDDOL.
NODION GOLYGYDDOL. I. Pwnc Cyfeillach y Bed- Profiad yddwvr yng Nghyman- Crefyddol fa'r Groglith a'r Pasg elcni yn Lerpwl oedd Pro- fiad Crefyddol." Dosranwyd y pwnc: (1) Yr angenrheidrwydd am dano. (2) Ei feithriniad. (3) Ei werth. (4) Y mynegiant o hono. Llifon draethodd ar yr angen- rheidrwydd am Brofiad Crefyddol. Carem alw sylw at y geiriau can- lynol o i eiddo Pe gofynnid i ni am brawf o ddilysrwydd crefydd, seiliwn f yn bennaf ar ein profiad o honi- o i gwirionedd ac o'i bod olaeth. Nis gellir cael y ffynnon heb ei bwrlwm. na haul haf heb ei wres, na'r gwanwyn heb ei bryd- ferthwch. Y mae crefydd a profiad yn anwahanadwy. Y mae angen am y profiad i wireddu crefydd i ni ein hunain ac i ereill. Profiad gwan, crefydd wan. Os heb y naill, yna yn amdclifad o"r llall." Seiat Profiad yw Seiat y Wesley- aid wedi bod- Tybed na byddai yn dra bendithiol pwvsleisio y ffaith hon yn ein holl Eglwysi y dyddiau hyn ? Deilliai llawer o les pe gwnelid Profiad Crefyddol yn bwngc ein Seiadau tnvy'r wlad. CyfivvYRwneiriau cryf a tharaw- iadol Llifon isylw ein holl ddar- lienwN-,r. Byddai pedair Seiat i drafod y pedwar mater uchod yn dra thebyg o brofi yn fendith, ac yn foddion adfywiad mewn ami i fan. --4.
[No title]
Gofidus genym weled y I Ysbryd London Quarterly Re- Rhyfelgar view yn rhoi benthyg ei dudalenau i anxldiffyn a phleidio yr yspryd rhyfelgar sydd mor uchel ei ben yn ein gwlad. Gwir y rhoddir nodiad i hysbysu mai yr ysgrifenydd yn unig sydd gyfrifol am y syniadau goleddir ac a argynihellir. Apel at wladgar- wch Anghydffurfwyr y geilw Coul- son Kernahan ei erthygl ar How to Defend England, yn y rhifyn am Ebrill o'r hen gyhoeddiad enwog hwn. Drwg genym fod awdwr mor alluog a rhagorol ar lawer cyfrif yn troi ei alluoedd disglair i gyf- eiriad mor anghydnaws a gwrth- wynebol i yspryd ac a me an Crist ionogaeth. Ac nis gall y nodyn eglurhaol ryddhau y Golygydd oddiwrth gyfrifoldeb yn nglyn a lledaeniad yr yspryd rhyfelgar dreiddia yr erthygl. Gwneir gwladgarwch yn gyfystyr a milwr iaeth. Yr yspryd milwrol yn benaf os nad yn unig yn ol Coulson Ker nahan sy'n cynyrchu gwladgar- wyi Nis gwyddom am ddim mwy croes i egwyddor ac yspiyd Crist- ionogaeth na'r apel hon gan un hona dalu gwarogaeth i Grist ac a geisia seilio ei ddadleuon ar ddysg- geidiaeth Iesu. Nid yw yn debyg y gwrend3- AnghydffurÍwyr arno, ac er iddo lusgo Wesley fel amddi- ffymrdd i'w olygiadau (yn gwbl anheg) nidydym yn tybio y bydd i ddilynwyr y Cristion rhagorol hwnw gydymffurfio a'i gais. Gwrthdystiwn yn y modd croewaf yn erbyn darostwng Chwarterolyn ein Heglwys trwy ei droi yn udgorn rhyfelgwn. ilffi <^0—
[No title]
PASIWYD y pender- Yn Erbyn fyniad canlynol yng Arfau Nghynadledd y Rhyfel. Social Democrats yr wythnos ddiweddaf: Datgana y Gynhadledd hon gyfan- rwydd gweithwyr pob cenedl a gwrthdystia yn erbyn amlhau ar- fau rhyfel, gan eu hystyried yn ber- 3 gliad cynyddol i heddwch y byd ac yn elyniaethol i fuddianau y dosbarth gweithiol; a phwysa ar y Llywodraeth sefydliad cyd- ddealltwriaeth a Germany, ac I apelia at weitHiyvyr pob gwlad i wrthwynebu hyd yr eithaf unryw bolici o eiddo Llywodraeth debyg- ol o gymell rhyfel." Chwareu teg i'r Social Democrats. Mae gan- ddynt lawer mwy o Yspryd Crist na Coulson Kernahan. Mae'r apel hon at weithwyr yn fil mwy Crist- ionogol nag apel y London Quar- terly Review at Anghydffurwyr Prydain. Anghytunwn ar Social Democrats ar lawer pwynt ond llawenychwn yn eu penderfyniad Cristionogol yn Mhlaid Heddwch a gwir Frawdgarwch. ————— —————
[No title]
Onid rhai o arwyddion I Y Ddrama yr arnserau ydyw y a'r Ddrama. a'r Ddawns Ddawns yng Nghymru heddyw ? Ofnwn fod bryd llaw- eroedd o athrawon ac athrawesau ein Hysgolion Sirol wedi ei osod yn anad dim ar fagu chwareuwvr a dawnswyr yn mhlith. ein cenedl. Credwn fod yr amser ddylai gael ei roddi i wersi rheolaidd a gwir angenrheidiolvn cael ei ddefnyddio i fesur helaeth iawn i barotoi ar gyfer Dramas. Gallesid tybio mai pnf waith rhai athrawon ydyw magu rhai i'r Stage, ac nid eu par- otoi ar gyfer brwydr bywyd. Nid bai rhai o'r athrawon hyn fydd os na lenwir Cymru a Chwareudai ar fyrder, ac os na ddisodlir Capel ac Eglwys gan y Theatre a'r Ddawns. Ychydig ddyddiau yn ol bu raid i Gyngor Sir ynwryd ag awdurdod- au un Ysgol Sirol a gwahardd cyn- 1 al Classes Dawnsio yn yr Ysgol. Yn ddiddadi rhaid i arweinwyr crefydd a'r rhai sydd yn cam budd- ianau uwchaf bywyd y genedl sydd yn codi i wylio Ysgolion Sirol Cymru a mynu rheolaeth ar- nynt. Ai codi'r hen wlad fydd rhoi ei bryd ar chwareu ? Ai y Stage yw ein delfrvd i fod, Beth vw hanes y Ddawns ym mhob oes a gwlad ? Ai puro ynte llygru ? Na ato Duw i'r genedl fwyaf crefyddol heddyw gael ei tharfu a'i throi yn genedl o chwareuwyr a dawnswyr "0
[No title]
D AETH yr Eur- Yr Eugrawn grawn" ar Win a'rWmUan. llan" i law yn brydlon fel arfer. Dyma ddau rifyn rhagorol eto. Pregethwr y Mis hwn yn yr Eur- grawn yw y Parch. Thomas Row- lands a cheir darlun campus o'r pregethwr a phregeth gref loew. Hyderwn nad oes neb o'n darllen- wyr heb dderbyn yn fisol y cy- hoeddiadau cyfoethog hyn. ————— —————
[No title]
TREULIWYD yr wythnos i Y ddadleu Y Veto. Yng Veto. ngeiriau Mr. Winston Churchill y mae amser siaracl wedi myn'd heibio ac amser gweithredu wedi dod. Dyma ym- afael codwm rhwng y ddau dv, Ty y Bendefigaeth a Thy y Bobl-a'r Bobl a orfu fydd y diweddglo. Ym mlaen, dan arweiniad grymus y Prif Weinidog yr a y Llywodraeth i ddirymLi awdurclocl yr Arglwydcli, ac erbyn y bydd y Gwyliedydd Newvdd yn nwylaw ei darllenwyr bydd y rhan gyntaf o Benderfyn- iadau y Prif Weinidog yn cldiau wedi pasio gvda mwyafrif mawr. Gwelwch yr Erthygl Brwydr y Brwydrau tud. 4. ————— —————
[No title]
Er nad oes. obaith 1 r Un Bleidlais Arglwvddi newid yn Un Dydd. anrhaethadwy, da genym weled Mesur gerbron y Ty ym mhlaid dim ond un bleidlais i bob dyn, ac Etholiad Cyffredinol ar yr un dydd trwy'r Deyrnas. I hyn y rhaid iddi ddod. Pe buasai eisoes felly ni*fuasem vn yr anhawsder yr ydym ynddo hedd- yw ar ol Etholiad. Y dyn ac nid eiddo sydd i gyfrif, ac arbedid llu o bethau anymunol pe ceid yr holl etholiadau ar yr un dydd ym mhob man. Mor fuan ag y llyffetheirir Ty yr Arglwvddi daw y Mesur hwn yn Ddeddf.
AR Y FUNUD OLAF.
AR Y FUNUD OLAF. Y Rhyddfryclwr Gibbins gyda mwyafrif o 2710 etholwyd dros Ganolbarth.Morgan- wg yn lie Sir S. T. Evans. Mae Mr William Jones, A.S., wedi ei benodi yn Ysgrifenydd (private Secretary) i Brif Chwip y Llywodraeth ac efe fydd y Chwip Gymreig bellach. Dengys ffigyrau awdurdodedig ddarfod L 29,230 ymfudo o'r Iwerddon y llynedd. Dydd Gwener wedi 84 mlynedd o dalu toll gwnaed Pont Conwy yn rhydd hollol i wyr traed. Dywedir fod 42 o ymgeiswvr i lanw 15 sedd ar Gyngor Plwyf Ltysfaen yn yr Eth- oliad dydd Sadwrn diweddaf! Rhaid fod. yno ardal ddiogel os mai amlder Cynghor- wyr bar ddiogelwch. Yr oedd 21,390 o lowyr y De yn segur di- wecld yr wythnos. Disgwylir terfyniad boddhaol i'r anghydfod, a dywedir i'r rhai 'I al? a ?, l ?7 11 hyn ail afael yn eu gwaith ddoe. CladdwydCanon Drew, mab yng nghyf- raith Gladstone yn Mhenarlag dcloe. Saethwyd gwraig ganol-oed o'r enw Mrs. Smith yn Crumlin, Mynwy, nos Wenev yn farw. Ceisiodd ei llofrudcl saethu ei hun. Llosgwyd Melin Victoria, Caernarfon, i'r llawr nos Wener. Safai yn v Porthladd ger glanfa yr Harbwr newvdd. Cafwyd vstormydd enbyd o eira yn yr Eidal ddydd Gwener. Parha Etna i losgi yn frawychus gan fwrvv" lava yn afonydd. Da genym ddeall fod Mr. Eloyd George wedi ei Iwyr adfer o'i vaeledxL Yn Brighton y treuliodd y Pasc. ^EERMAW. Etholwyd Mr. John Price Jones, gor- awchwyliwr Eghvys Weslej-aidcl yr Aber- maw, y Sadwrn diweddaf ar Gynghor y iref. y D. Nos Sadwrn, r»-30. • Mae pethau heno yn y gweithfeydd yn gwisgo gwell agwedd, ac Aberdare yn dechreu gweithio foreu Llun i aros can- lyniad y pleidleisio dydd Mercher nesaf. Credaf y bydd y mwyafrif mawr dros weithio, ac y bydd heddweh yn y De am bum' mlynedd etc. Aeth y Rhyddfrydwr i mewn yn Mor- ganwg gyda mwyafrif o yn agos i 3,000. Mwyafrif mawr ag ystvrièclfod 5,000 heb fotio. c.. ABERCYNON"- Yn nghyfarfod Chwarter- ol Pontypridd, pasiwyclyn unfrydo! i roddi gwahoddiad i'r Parch. J. E. Thomas, Merthyr, 1 ddcd yn olynydd i'r Parch Rice Owen, i Abercynon.
Pin y Gol. alli Siswrn.
Pin y Gol. alli Siswrn. Pob Gohebiaeth i'w chyfeirio— Y GOLYGWYR, Gwyliedydd Newvdd," Epworth Villa, Barmouth. MERTHYR.—Gofidus gennym nas gallwn, am fod ein hamser yn brin, gyfieithu y newyddion a anfonasoch. Da fuasai gennym. glywed yn a wr ac eilwaith Ferthyr hefyd. Y GWYLIEDYDD A SODOM.—Do, gwelsoni y sylw, ond ni fynnwn groesi cleddyfau ar v mater gyda Gol. yr Eurgrawn. Credwn mai ryw sylw diofal o du y Gol. ydoedd, ac na fwriadai ein brifo. Tipyn o arabedcl ddyliwn. Sut bynag yr ym yn gwiieyd ein goreu glas, a phe buasai llawer Gol. a adwaenom tan orfod ymhel a thrin, o wythnos i wythnos, y fath swp o ohebiaethau a llawysgrifau anmherfiaith ag a drin- iwn ni, credwn y buasai yn ddiolchgar am ryw eiliw gwan, hyd yn oed o berffeithrwydd. Heblaw Mr Tecwyn Evans ceir ami i enaid cyfiawn yn ymboeni yn v Gwyliedydd Nevirvdèl" gan wneyd ein goreu. Ie, wythnosol ac nid misol ydyw y Gwyliedydd Newydd. Pe na byddai ond misol, er ein holl ofalon eraill hwyrach y cae'HI ef yn berffaith cldigon. Ond gwnawn. em goreu, ac ni faliwn am ambell gynghor perffeithgwbl a phwt o arab- edd. Nid y'm groen deneu gan nad pwy sydd felly. Diolch am eich cyd- ymdeimlad serch hyny. Y GWOBRWYON.—Ceir yr enwau, a'r 111an- ylion ynghylch y rhai a gawsant fwyaf o dderbynwyr i'r Gwyliedydd Newydd yr wythnos nesaf. Y CYFARFODYDD CHWARTEROL.—Carem gael yr adroddiadau yn gynar yn yr wythnos. GA-IR AT Y GWEINIDOGION.—Mae ein llafur a'n cyfrifoldeb arianol yn fawr, da chwi frodyr soniweh am y GwyliedjTdd yn eich gwahanol Gylchoedd ddech- reu'r chwarter yma. Bydd hyny yn gymwynas nid yn unig a ni ond a'r enw ad. JOHN BULL.—Gofod a dim arall, barodd i ni gwtogi; rhaid cwtogi er mwyn L bawb gael odfa. PeidiiNcl-L bocl. vii gas John! UOL.